Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd D H Jenkins gysylltiad personol â Chofnod 61 "Recriwtio Cynghorydd Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau".

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, N L Matthews, K M Roberts ac A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 61 "Recriwtio Cynghorydd Cymuned/Tref i'r Pwyllgor Safonau" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

3)              Datganodd y Cynghorydd C A Holley gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 63 "Cwestiynau Cynghorwyr – Cwestiwn 3" a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

4)              Datganodd y Cynghorydd A Pugh gysylltiad personol â Chofnod 64, sef "Hysbysiad o Gynnig - Cymru Ddi-niwclear".

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 457 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Medi 2022 yn amodol ar ddangos bod y Cynghorwyr C Anderson a P M Black yn bresennol ynddo.

50.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

51.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)              Menter Masnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau yng Ngwobrau Gwasanaeth Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2022

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y cyngor am ennill y Fenter Masnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau yng Ngwobrau APSE 2022 gyda'r fenter "Marchnad Abertawe: Yn greiddiol i ganol y ddinas a'r economi leol'.

52.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)              Gêm Ail Gyfle Cwpan y Byd Merched Cymru 2022

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Tîm Pêl-droed Merched Cymru 90 munud i ffwrdd yn unig o gyrraedd rownd derfynol gêm ail gyfle Cwpan y Byd. Byddent yn croesawu Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yng Nghaerdydd y noson honno. Roedd yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar ran y cyngor.

 

b)              Addasiad Cyllidol/Cyllideb Fach

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr Addasiad Cyllidol/y Gyllideb Fach ddiweddar gan ddweud ei fod wedi effeithio'n sylweddol ar werth y Bunt (£) yn erbyn Doler yr UD ($). Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu'r pwysau ar fil ynni'r cyngor.

 

Galwodd ar y rheini â dylanwad i lobïo Llywodraeth y DU i ymestyn y cap Ynni tu hwnt i 1 Mawrth 2023.

 

c)              Ailgychwyn Calon

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Diwrnod Ailgychwyn Calon yn cynyddu ymwybyddiaeth o ataliad y galon ac yn helpu pobl i ddysgu sut i adfywio'r galon a'r ysgyfaint (CPR), gan roi sgiliau achub bywyd a'r hyder iddyn nhw eu defnyddio. Bydd y diwrnod Ailgychwyn Calon nesaf yn digwydd ar 16 Hydref 2022.

 

Mae tua 30,000 o ataliadau'r galon y tu allan i'r ysbyty yn digwydd bob blwyddyn ym Mhrydain. Yn anffodus, mae llai nag 1 o bob 10 o bobl yn goroesi'r ataliadau y galon hyn. Gall perfformio CPR fwy na dyblu'r siawns o oroesi mewn rhai achosion.

 

Fel y nodwyd eisoes, rydym yn awyddus i sicrhau mai Abertawe yw’r ddinas gyntaf yn y DU i groesawu diffibrilwyr ac fel rhan o'r daith honno a'i chysylltu ag Ailgychwyn Calon, rwyf wedi trefnu hyfforddiant CPR a defnyddio diffibrilwyr i'w ddarparu gan Heartbeat Trust UK, yn rhad ac am ddim i'r holl Gynghorwyr. Bydd hyfforddiant yn cymryd oddeutu awr a bydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn anfon y dyddiadau'n fuan.

53.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnodd Mary Jones o CND Abertawe/CND Cymru gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 64 "Hysbysiad o Gynnig – Cymru Ddi-niwclear".

 

Ymatebodd y Cynghorydd L S Gibbard.

54.

Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru -Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tânr.

Cofnodion:

Cafodd yr eitem ei thynnu'n ôl ar gais y Prif Swyddog Tân.

55.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio 2021/22. pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2021-2022 er gwybodaeth.

56.

Adrodiad Blynnyddol 2021/22 - Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn darparu ei hanes ef o daith wella'r cyngor i 2021-2022, a pha mor dda y mae'r cyngor yn bodloni'i ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad yn adolygu meysydd i'w gwella'r llynedd ac yn nodi blaenoriaethau newydd ar gyfer 2017-2018. Roedd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau sydd wedi digwydd o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau lles cenedlaethol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/2022.

57.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 824 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn ac yn ceisio cytundeb ar unrhyw ailddosbarthiad o gronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r argymhellion a wnaed ym Mharagraffau 3.10 a 3.10 o'r adroddiad.

58.

Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol Gorllewin Morgannwg. pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y  Gwasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol, sy'n offeryn i gynorthwyo'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gynllunio a chomisiynu gofal a chefnogaeth o ansawdd ar gyfer ei boblogaethau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r ffaith bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cymeradwyo'r yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol ar 7 Gorffennaf 2022.

 

2)              Cymeradwyo'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ranbarthol a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad

 

Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd S J Rice at Dudalen 212 o'r adroddiad, yn benodol 7.9 "Gofal Cartref - Oedolion Hŷn" gan fynegi'i syndod bod nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi gostwng 37% yn Abertawe. Gofynnodd am esboniad."

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

59.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 400 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio diwygio Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr i gyd-fynd yn well â'r taliadau TGCh i'r Aelodau Cyfetholedig Statudol er mwyn eu galluogi i gyflawni'u dyletswyddau. Roedd yr adroddiad yn cynnig talu 50% o'r hyn y mae Cynghorydd yn ei dderbyn mewn perthynas â'r taliad TGCh i'r Aelodau Cyfetholedig Statudol. Bydd y Lwfans Data a Ffôn yn aros heb ei newid ar 20%.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r diwygiadau i Baragraffau 3.2 a 4.3 a'r newidiadau canlyniadol i Baragraff 6.8 ac Atodiad 1 i Bolisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt ynghyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol eraill.

 

2)               Cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig ar wefan y cyngor a'i rhannu â'r holl Gynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig Statudol.

60.

Election of Chair Pro-Tem

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai angen ethol  Cadeirydd Dros Dro ar gyfer yr eitem hon yn absenoldeb yr Aelod Llywyddol a'r Dirprwy  Aelod Llywyddol.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P Lloyd yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Y Cynghorydd P Lloyd yn Llywyddu

61.

Recriwtio Cynghorydd Cymuned / Tref i'r Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Safonau wedi cyfarfod ar 5 Hydref 2022 ac wedi cyfweld â'r ymgeisydd i fod yn gynrychiolydd y Cynghorydd Cymuned/Tref ar y Pwyllgor Safonau. Roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylai'r cyngor benodi'r ymgeisydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi'r Cynghorydd Tref, Carlo Rabaiotti o Gyngor Tref Gorseinon, yn gynrychiolydd Cynghorydd Cymuned/Tref y Pwyllgor Safonau.

 

2)              Daw ei gyfnod yn y swydd i ben yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027; fodd bynnag, gall y cyngor ei ailbenodi ar gyfer un tymor arall yn y swydd.

 

Y Cynghorydd J P Curtice (Aelod Llywyddol a fu'n llywyddu)

62.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad  adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhestri newid i'r Cyrff a wnaed gan Arweinydd y Cyngor.

 

Comisiwn Gwirionedd Tlodi

Ychwanegu'r Cynghorwyr A S Lewis ac A Pugh.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Datblygu Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu'r Cynghorydd H Lawson.

 

2)              Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Tynnu enw'r Cynghorydd E J King.

Ychwanegu'r Cynghorydd H J Gwilliam.

 

3)              Pwyllgorau Trwyddedu Statudol/Cyffredinol ac Is-Bwyllgorau

Tynnu enw'r Cynghorydd S Bennett.

Ychwanegu'r Cynghorydd M W Locke.

63.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 324 KB

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 7

 

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald am leoliadau'r 12 cynllun peilot lle'r oedd paneli solar yn mynd i gael eu gosod a chost ddangosol ar gyfer pob cynllun.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 8

 

Dywedodd y Cynghorydd C A Holley nad oedd y rhestr o'r holl safleoedd ac adeiladau a drosglwyddwyd drwy ddulliau rheoli asedau i grwpiau cymunedol wedi cael ei chylchredeg.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu cyfer.

64.

Rhybudd o Gynnig - Cymru Ddi-Niwclear pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae Cyngor Abertawe yn nodi bod 2022 yn nodi 40 mlynedd ers i Gymru gael ei datgan yn 'ddi-niwclear' pan basiwyd penderfyniadau gan yr holl Gynghorau Sir ar y pryd, gan gynnwys Gorllewin Morgannwg, yn datgan eu hunain yn "barthau di-niwclear".

 

Mae Cyngor Abertawe yn datgan ei gefnogaeth i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW), cytundeb hanesyddol sy'n gwahardd ei lofnodwyr rhag datblygu, profi, a defnyddio arfau niwclear.

 

Mae Cyngor Abertawe yn cydnabod rheidrwydd creu byd heb arfau niwclear ac o'r herwydd mae'n beirniadu gwrthodiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwyddo neu gadarnhau'r cytundeb nodedig hwn.

 

Mae Cyngor Abertawe yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio ar gyfer cael gwared ar arfau niwclear ar draws y byd drwy:

 

                  Arwyddo a chadarnhau'r TPNW, a thrwy hynny ymuno â'r mwyafrif byd-eang o wledydd sy'n gwrthwynebu arfau niwclear, a

                  Defnyddio pob llwybr diplomyddol posib i weithio tuag at fyd di-niwclear."

 

Cynigiodd y Cynghorydd C A Holley ddiwygiad i'r Hysbysiad o Gynnig. Mae'r diwygiad i newid y teitl i gynnwys y gair "arfau" yn benodol. "Hysbysiad o Gynnig - Cymru Heb Arfau Niwclear" fyddai'r teitl felly.

 

Nododd y Cynghorydd L S Gibbard ei bod yn cefnogi'r diwygiad Yr Hysbysiad o Gynnig Diwygiedig bellach yw:

 

"Hysbysiad o Gynnig – Cymru Heb Arfau Niwclear.

 

"Mae Cyngor Abertawe yn nodi bod 2022 yn nodi 40 mlynedd ers i Gymru gael ei datgan yn 'ddi-niwclear' pan basiwyd penderfyniadau gan yr holl Gynghorau Sir ar y pryd, gan gynnwys Gorllewin Morgannwg, yn datgan eu hunain yn "barthau di-niwclear".

 

Mae Cyngor Abertawe yn datgan ei gefnogaeth i Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW), cytundeb hanesyddol sy'n gwahardd ei lofnodwyr rhag datblygu, profi, a defnyddio arfau niwclear.

 

Mae Cyngor Abertawe yn cydnabod rheidrwydd creu byd heb arfau niwclear ac o'r herwydd mae'n beirniadu gwrthodiad llywodraeth y Deyrnas Unedig i arwyddo neu gadarnhau'r cytundeb nodedig hwn.

 

Mae Cyngor Abertawe yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithio dros gael gwared ar arfau niwclear ar draws y byd drwy:

 

                  Arwyddo a chadarnhau'r TPNW, a thrwy hynny ymuno â'r mwyafrif byd-eang o wledydd sy'n gwrthwynebu arfau niwclear, a

                  Defnyddio pob llwybr diplomyddol posib i weithio tuag at fyd di-niwclear."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (56 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

J A Hale

P Lloyd

M Bailey

V A Holland

M W Locke

S Bennett

C A Holley

N L Matthews

P N Bentu

B Hopkins

J D McGettrick

P M Black

D H Hopkins

C L Philpott

J P Curtice

L James

J E Pritchard

A Davis

O G James

S Pritchard

P Downing

Y V Jardine

A Pugh

C R Doyle

A J Jeffery

S J Rice

M Durke

D H Jenkins

K M Roberts

V M Evans

J W Jones

R V Smith

E W Fitzgerald

M Jones

A H Stevens

R A Fogarty

S M Jones

R C Stewart

R Francis-Davies

S A Joy

L G Thomas

N Furlong

S E Keeton

G D Walker

L S Gibbard

H Lawson

L V Walton

F M Gordon

A S Lewis

T M White

K M Griffiths

M B Lewis

R Andrew Williams

H J Gwilliam

W G Lewis

-

 

Yn erbyn (4 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

L R Jones

B J Rowlands

W G Thomas

A J O’Connor

-

-

 

Ymwrthod (0 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

 

Sylwer: Ni wnaeth y Cynghorydd D Phillips bleidleisio gan nad oedd wedi bod yn bresennol ar gyfer yr holl drafodaeth.