Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

38.

Cofnodion. pdf eicon PDF 383 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

i)                 Cofnod 32 "Aelodaeth o Bwyllgorau". Penderfyniad 3 yn cael ei ddiwygio i ddarllen "Ychwanegu'r Cynghorydd S A Joy".

 

ii)               Cofnod 33 "Cwestiynau i Gynghorwyr – Cwestiwn 7" yn cael ei ddiwygio ychydig i adlewyrchu bod y Cynghorydd L R Jones wedi gofyn am osod sgipiau pren yng Ngorseinon yn ogystal â Chlun. Dylai'r cofnod ddarllen:

 

“Gofynnodd y Cynghorydd L R Jones a ellid gosod sgipiau pren ar Safle Amwynderau Dinesig Clun a Safle Amwynderau Dinesig Gorseinon cyn mynd â nhw i safle byrnu Llansamlet. Byddai'r ymagwedd hon yn lleihau'r angen i gerbydau deithio i Lansamlet ac felly'n lleihau'r nwyon tŷ gwydr.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.”

 

2)              Cyfarfod Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022.

39.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

40.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)              Cydymdeimladau

 

i)                Anna Holland, merch y Cynghorydd Victoria Holland

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth annisgwyl ddiweddar Anna Holland, merch y Cynghorydd Victoria Holland.

 

ii)              Yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Gynghorydd a'r Cyn-Arglwydd Faer, June Stanton

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-Gynghorydd June Stanton. Bu June yn cynrychioli Ward Sgeti am tua 29 o flynyddoedd gan wasanaethu:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe - 5 Mai 1988 i 31 Mawrth 1996.

Ø    Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg – 4 Mai 1989 – 31 Mawrth 1996.

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017.

 

Roedd June yn Arglwydd Faer o 2013 i 2014 a daeth yn Henadur Anrhydeddus ar 24 Awst 2017.

 

iii)             Y Cyn-gynghorydd Ron Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-Gynghorydd Ron Thomas. Bu Ron yn cynrychioli Ward Tre-gŵyr am oddeutu 13 o flynyddoedd gan wasanaethu:

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 i 1 Mai 2008.

 

iv)             Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe, Andrew Boatswain

 

Cyfeiriodd y Llywydd gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe, Andrew Boatswain.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)              Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyfeillion Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Mayhill wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd unwaith eto. Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol iddynt ei hennill.

 

Talodd deyrnged hefyd a diolchodd i'r holl wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r 14 o barciau/gerddi cymunedol gwyrdd a mannau gwyrdd llai yn Abertawe. Dyma'r ardaloedd hynny:

 

i)                Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle.

ii)               Gardd Gymunedol Clydach.

iii)             Parc Coed Bach, Pontarddulais.

iv)             Coetir Cymunedol y Crwys.

v)              GRAFT: Maes Llafur y Pridd.

vi)             Llys Nini.

vii)           Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Mayhill.

viii)          Gardd Lles Cymdeithas Gerddi Pennard.

ix)             Parc Polly.

x)              Parc Chwarel Rosehill.

xi)             Canolfan Madog Sant.

xii)           Camlas Tawe.

xiii)          Fferm Gymunedol Abertawe.

xiv)          Gwarchodfa Natur Bro Tawe.

 

Mae gwaith y gwirfoddolwyr hyn yn amhrisiadwy i Abertawe a'i dinasyddion.

 

c)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor.

 

i)                Cofnod 47 "Hysbysiad o Gynnig – Fformiwlâu Ariannu"

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid ychwanegu'r Cynghorwyr J P Curtice, M B Lewis, W G Lewis, N L Matthews, K M Roberts ac L V Walton at y rhestr o'r sawl sy'n cyflwyno'r Hysbysiad o Gynnig.

41.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)              Portffolios y Cabinet – Mân Ddiwygiadau

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi gwneud rhai mân ddiwygiadau i Bortffolios y Cabinet er mwyn egluro rhai cyfrifoldebau. Gofynnodd i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor ac anfon dolen at yr holl Gynghorwyr.

 

b)              Cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cyngor y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwasanaeth Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus  (APSE) 2022

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Cyngor y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwasanaeth Blynyddol APSE 2022. Mae'r Wobr yn cydnabod yr Awdurdod Lleol gorau a mwyaf arloesol yn y DU. Dywed APSE, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen, fod y Wobr yn ceisio dathlu'r cynghorau hynny sy'n cyflawni canlyniadau rhagorol mewn ystod eang o wahanol feysydd gwasanaeth.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau yn y meysydd canlynol:

 

Ø    Menter y Gweithlu Gorau.

Ø    Y Fenter Tai, Adfywio neu Adeiladau Newydd Gorau.

Ø    Y Fenter Fasnacheiddio ac Entrepreneuriaeth Orau.

·                 Cyngor Abertawe - Mae sbwriel un person yn drysor i berson arall.

·                 Cyngor Abertawe - Marchnad Abertawe: Yn greiddiol i ganol y ddinas a'r economi leol.

Ø    Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Tai, Adeiladu a'r Gwasanaeth Adeiladau.

Ø    Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Y Gwasanaeth Glanhau Strydoedd a'r Strydlun (Mannau Cyhoeddus).

Ø    Y Tîm Gwasanaethau Gorau: Y Gwasanaeth Mynwentydd a'r Amlosgfa.

 

Cynhelir y gwobrau yn Arena Abertawe lle caiff enillydd Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn 2022 ei gyhoeddi mewn Cinio Elusennol nos Iau 15 Medi 2022.

 

c)              Cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas y Flwyddyn yng ngwobrau'r Estates Gazette (EG) 2022

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Dinas y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Estates Gazette 2022. Nod y Wobr yw dathlu dinasoedd y DU a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud i greu lleoedd anheddol a llwyddiannus.

 

Bydd y seremoni wobrwyo'n cael ei chynnal ar 2 Tachwedd 2022.

 

d)              Digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Volvo 2022 – 6 Awst 2022 ac Ironman 70.3 Abertawe – 7 Awst 2022

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd Volvo 2022 ac Ironman 70.3 Abertawe a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi denu miloedd o athletwyr a gwylwyr. Rhoddodd y digwyddiadau hwb sylweddol i'r economi leol. Llongyfarchodd bawb a gymerodd ran a diolchodd iddynt.

 

e)              Morlyn Llanw Ynys Ynni'r Ddraig

 

Rhoddwyd diweddariad ar hyn gan Arweinydd y Cyngor.

42.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

43.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio 2021/22. pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr adroddiad ei ohirio i Gyfarfod Cyffredin nesaf y cyngor.

44.

Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2021-2022. pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2021-2022 er gwybodaeth.

45.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2021-22. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol Craffu 2021-2022 er gwybodaeth.

46.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 587 KB

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd deuddeng (12) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 1

 

Dywedodd y Cynghorydd J W Jones fod ymgynghoriad annibynnol ar lendid wedi cael ei gynnal yn flaenorol. Gofynnodd a ellir ailddechrau ymgynghoriadau o'r fath.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un ar ddeg (11) ‘cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’.

47.

Hysbysiad o Gynnig - Fformiwlâu Cyllido. pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

"Mae'r cyngor hwn yn gresynu wrth y datganiad gan y cyn-ganghellor Rishi Sunak ei fod wedi newid fformiwlâu ariannu yn fwriadol i dynnu cyllid o ardaloedd trefol difreintiedig fel Abertawe a'u dargyfeirio i etholaethau deiliog a ddelir gan y Torïaid fel Tunbridge Wells.

 

Dylid condemnio'i gyfaddefiad cyhoeddus ei fod wedi ailgyfeirio cyllid i ffwrdd o gymunedau difreintiedig.

 

Rydym eisoes yn ymwybodol bod newidiadau i'r fformiwlâu ariannu eisoes wedi'u gwneud i gyllid a ddaeth yn flaenorol drwy'r UE ac sydd bellach yn dod drwy'r gronfa ffyniant gyffredin.

 

Mae'r fformiwla wedi cael ei newid, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gyngor Abertawe a CLlLC i eithrio 'angen' o'r cyfrifiad.

 

Mae'r fformiwla newydd wedi arwain at ostyngiad o £35 y pen i bob person yn rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae'r arian wedi'i ddargyfeirio i gymunedau yng nghanolbarth Cymru.

 

Bydd hyn yn golygu y bydd cymunedau yn Abertawe a rhanbarth De-orllewin Cymru yn colli £4.2m eleni a £21m dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Credwn fod hyn yn annheg, yn anfoesol ac yn groes i'r ymrwymiadau codi'r gwastad a wnaed gan lywodraeth y DU. Mae hefyd yn golygu y bydd cymunedau lleol yn Ne-orllewin Cymru ar eu colled o ganlyniad i drefniadau cyllido yn dilyn Brexit er gwaethaf sawl sicrhad i'r gwrthwyneb.

 

Galwn ar yr Arweinydd i ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd i ofyn iddi wyrdroi'r newidiadau fformiwla, a chomisiynu ymchwiliad annibynnol i'r honiadau a wnaed gan Mr Sunak."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (57 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

T J Hennegan

P Lloyd

S Bennett

V A Holland

M W Locke

P N Bentu

C A Holley

N L Matthews

P M Black

B Hopkins

P M Matthews

J P Curtice

D H Hopkins

J D McGettrick

A Davis

L James

H M Morris

P Downing

Y V Jardine

D Phillips

C R Doyle

A J Jeffery

C L Philpott

M Durke

D H Jenkins

J E Pritchard

C R Evans

J W Jones

S Pritchard

C M J Evans

M H Jones

A Pugh

V M Evans

S M Jones

S J Rice

R A Fogarty

S A Joy

R V Smith

R Francis-Davies

E J King

R C Stewart

N Furlong

E T Kirchner

M S Tribe

L S Gibbard

H Lawson

G D Walker

F M Gordon

A S Lewis

L V Walton

K M Griffiths

M B Lewis

T M White

H J Gwilliam

W G Lewis

R Andrew Williams

 

Yn erbyn (0 Cynghorydd(wyr))

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Ymwrthod (5 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

M Bailey

F D O’Brien

B J Rowlands

L R Jones

A J O’Connor

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.