Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, H J Gwilliam, C A Holley, J W Jones, M H Jones, A S Lewis, M B Lewis, J E Pritchard ac S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 11, "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - mis Mai a thu hwnt."

 

2)              Datganodd y Cynghorydd F D O'Brien gysylltiad personol â Chofnod 18, "Cwestiynau gan y Cynghorwyr" - Cwestiwn 4.

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr S Bennet, P M Black, C M J Evans a J D McGettrick gysylltiad personol â Chofnod 18, "Cwestiynau gan y Cynghorwyr" - Cwestiwn 8.

 

4)              Datganodd y Cynghorydd C R Doyle gysylltiad personol â Chofnod 18 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr" - Cwestiwn 16.

 

Swyddogion

 

1)              Datganodd Martin Nicholls gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 14, "Cynigion ar gyfer Recriwtio i rôl y Prif Weithredwr", a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

2)              Datganodd Helen Morgan-Rees, Martin Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol â Chofnod 15, "Cynigion ar gyfer Recriwtio i rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol."

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 211 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2022.

 

2)              Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022.

18.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

19.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)              Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2022

 

Llongyfarchodd y Llywydd Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

a)              Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE)

 

i)                Yr Athro Uzomaka Linda Iwobi. Gwasanaethau i gydraddoldeb hiliol a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiad.

 

b)             Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)                 Rocio Cifuentes - Prif Weithredwr, Tîm Cymorth Ieuenctid Cymru. Gwasanaethau i'r gymuned yng Nghymru.

 

ii)               Dr Umakant Ramchandra Dave. Meddyg Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gwasanaethau i'r GIG.

 

iii)             Emma Jayne Lewis. Cadeirydd, Sefydliad Roots Cymru. Gwasanaethau gwirfoddol i bobl ifanc yn Abertawe.

 

iv)             Lynette Margaret Sanders. Prif Weithredwr, Cymorth i Fenywod Abertawe. Gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig yn Abertawe.

 

v)               Gaynor Sullivan (Bonnie Tyler). Gwasanaeth i gerddoriaeth.

 

c)              Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)                Gerald Gabb. Gwasanaethau i ymchwil hanesyddol yn Abertawe. 

 

b)              Gwobr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ar gyfer Integreiddio a Chydweithio

 

Nododd yr Aelod Lywyddol fod prosiect YGG Tan-y-lan wedi ennill y wobr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ar gyfer Integreiddio a Chydweithio yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i'r rheini a fu’n rhan o'r prosiect, yn enwedig Claire Lewis (Addysg), Alex Harries a Jeff Pope (Gwasanaethau Adeiladau), yr ysgol, Kier a Stride Treglown. Y canlyniad yw adeilad gwch i ddisgyblion a staff.

 

c)              Adam Hill, Cyfarwyddwr Adnoddau / Dirprwy Brif Weithredwr - Ymddiswyddiad

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol gyfarfod y cyngor am ymddiswyddiad Adam Hill, Cyfarwyddwr Adnoddau / Dirprwy Brif Weithredwr. Ei ddiwrnod olaf gyda'r awdurdod fydd 18 Gorffennaf 2022. Galwodd ar Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i arwain y deyrnged a’r diolchiadau am ei wasanaeth.

 

Arweiniwyd y deyrnged i Adam Hill gan bedwar arweinydd y Grwpiau Gwleidyddol, a ddiolchwyd iddo am ei ymroddiad a'i wasanaeth yn y rôl.

 

ch)     Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor.

 

a)              Eitem 14 - Cyflwyno Teitl Henadur Anrhydeddus

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd, Lawrence D Bailey, yn falch iawn o fwriad y cyngor i gyflwyno Teitl Henadur Anrhydeddus iddo; fodd bynnag, mae'n gwrthod y teitl ar hyn o bryd.

 

Caiff yr adroddiad ei ddiwygio felly er mwyn dileu enwebiad y Cyn-Arglwydd Faer a'r Cyn-gynghorydd, Lawrence D Bailey, o'r argymhelliad.

 

b)                Eitem 18 - Aelodaeth Pwyllgorau

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Grŵp Gwleidyddol Uplands wedi gofyn am ragor o ddiwygiadau i'r adroddiad.

 

i)                Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw'r Cynghorydd Sandra Joy.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Peter May.

 

ii)              Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Trawsnewid Sefydliadau

Tynnu enw'r Cynghorydd Peter May.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd Sandra Joy.

20.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

21.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk  erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

22.

Maniffesto Llais y Disgybl Abertawe.

Cofnodion:

Rhoddodd 32 o gynrychiolwyr disgyblion o ysgolion uwchradd ar draws Abertawe gyflwyniad a oedd yn amlinellu "Maniffesto Llais y Disgybl Abertawe 2022 - Yr Hyn Sy'n Bwysig i Ni!"

 

Gwnaethant amlinellu amrywiaeth o syniadau blaengar a chadarnhaol y dylai Cyngor Abertawe eu hystyried fel ffordd o helpu i wella cymunedau Abertawe. Roedd y syniadau hyn yn ffurfio’u "Maniffesto Llais y Disgybl." Roedd y maniffesto'n cwmpasu’r meysydd canlynol:

 

Diogelwch a Theimlo'n Ddiogel yn ein Cymuned.

Gwelliannau o ran chwaraeon, cydraddoldeb a chyfleusterau.

Iechyd meddwl.

Newid yn yr Hinsawdd ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol.

Du, Asiaidd, Lleiafrif, Ethnig - Cydraddoldeb.

LHDTC+

Camddefnyddio Sylweddau a defnyddio e-sigaréts

Ymwybyddiaeth o anableddau gweladwy a rhai nad ydynt yn weladwy, a chydraddoldeb.

 

Diolchodd Aelodau'r Grwpiau Gwleidyddol ac Aelodau'r Cabinet y disgyblion am eu cyflwyniad.

23.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021-2022. pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jill Burgess, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2021-2022 er gwybodaeth. Amlinellodd y gwaith a wnaed gan y pwyllgor dros y cyfnod.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf i Jill Burgess am yr adroddiad a hefyd am ei gwaith ar y Pwyllgor yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan nodi y byddai ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Hydref 2022.

24.

Datganiad Ymrwymiadau Polisi. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn amlinellu Ymrwymiadau Polisi'r cyngor ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Byddai'r Ymrwymiadau yn helpu i gyflawni gweledigaeth gyffredinol y cyngor a'r blaenoriaethau allweddol yn ei Gynllun Corfforaethol.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Datganiad Ymrwymiadau Polisi a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

25.

Cynllun Corfforaethol 2022/23. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn gofyn am gyhoeddi Cynllun Corfforaethol adnewyddedig ar gyfer 2022-23 yn dilyn yr adolygiad blynyddol, fel a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac arweiniad statudol mewn perthynas â chyrff cyhoeddus.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2022-23.

26.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 398 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am ddiwygio'r polisi mewn perthynas â'r Lwfans Ffôn Symudol a'r Lwfans Data a Ffonau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Dileu paragraff 4.5 o Bolisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2022 a thu hwnt, fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad:

 

"4.5  Dylid talu elfen ffonau y Lwfans Data a Ffonau Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig unwaith yn unig fesul aelwyd Cynghorydd/Aelod Cyfetholedig (h.y. os oes 2 Gynghorydd/Aelod Cyfetholedig neu fwy yn byw yn yr un cyfeiriad, un person yn unig fydd yn derbyn elfen ffonau y lwfans)."

 

2)              Penderfynwyd diwygio Paragraff 5.3 o Bolisi Lwfans TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt fel a amlinellir isod:

 

"5.3 Mae 12o Y Cynghorwyr Cymwys yw: Aelodau'r Cabinet, yr Aelod Llywyddol ac Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf. Lwfans ffôn symudol y Cynghorwyr ar hyn o bryd yw £25 fesul Cynghorydd cymwys y mis. Sylwer: Bydd Aelodau'r Cabinet sy'n rhannu swydd yn derbyn y taliad yn llawn ac nid pro-rata."

 

3)              Dylid ailrifo'r polisi'n unol â hynny.

27.

Cyfrannu at Gostau Gofal a Chymorth Personol (GChP) i Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig Statudol. pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn hyrwyddo penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â chyfrannu tuag at gostau gofal a chymorth personol, ac yn annog pobl i fanteisio ar y cyfraniad.

28.

Rhoddi teitl Henadur Anrhydeddus/Henadures Anrhydeddus. pdf eicon PDF 360 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig a oedd yn gofyn am gytuno mewn egwyddor i gyflwyno'r teitl "Henadur Anrhydeddus" i'r Cyn-gynghorwyr a nodir isod, yn unol â meini prawf y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Bod y cyngor yn cytuno mewn egwyddor i gyflwyno teitl 'Henadur Anrhydeddus' i'r Cyn-gynghorwyr Jane E Burtonshaw, Mark C Child, D Gareth Sullivan a Des W W Thomas, i gydnabod eu gwasanaeth blaenllaw i Ddinas a Sir Abertawe a'i hawdurdod blaenorol.

 

Trefnir Cyfarfod Seremonïol y Cyngor i gyflwyno'r teitlau i'r Cynghorwyr hynny a enwir uchod.

29.

Cynigion i Recriwtio Prif Weithredwr. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i benodi rhywun i rôl y Prif Weithredwr.

 

Penderfynwyd dechrau ar y broses o recriwtio Prif Weithredwr parhaol a fydd yn derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf tâl ar y raddfa bresennol erbyn mis Medi 2022.

30.

Cynigion i Recriwtio Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i benodi rhywun i rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ystyried yr opsiynau a gynhwysir ym Mharagraff 2 yr adroddiad mewn perthynas â'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

2)              Cymeradwyo opsiwn 2, fel y’i hamlinellir yn yr adroddiad, i ddileu swydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a chreu swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gyda Phroffil y Rôl yn Atodiad A yr adroddiad a chyda graddfa gyflog o £107,257 i £121,756.

 

3)              Penodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol dros dro drwy gontract ar gyfer gwasanaethau, wrth i’r ymarfer recriwtio gael ei gynnal, yn unol â pharagraff 2 yr adroddiad.

 

4)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr Dros Dro a'r Prif Swyddog Cyfreithiol gymryd unrhyw gamau gweithredu pellach er mwyn rhoi cynnwys yr adroddiad ar waith.

31.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fewn Cyfansoddiad y Cyngor, yn dilyn newid deddfwriaethol.

32.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad  adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhestri newid i'r Cyrff a wnaed gan Arweinydd y Cyngor.

 

Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Tynnu enw'r Cynghorydd P Downing.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd V A Holland.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd

Tynnu enw'r Cynghorydd L V Walton.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd O G James.

 

2)              Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw'r Cynghorydd S A Joy.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd P N May.

 

3)              Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Trawsnewid Sefydliadau

Tynnu enw'r Cynghorydd P N May.

Tynnu enw'r Cynghorydd S A Joy.

33.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

1)               ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 1

 

Gofynnodd y Cynghorydd P M Black am gylch gorchwyl y Tîm Prosiectau a oedd newydd gael ei ffurfio, ynghyd â chanllawiau ynghylch sut y gallai'r Cynghorwyr ofyn iddynt wneud gwaith. 

 

Nododd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai'r wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at yr holl Gynghorwyr maes o law.

 

Cwestiwn 3

 

a)              Dywedodd y Cynghorydd P N May ei fod yn deall bod ffrwd fyw’n gweithredu ar golofnau goleuadau stryd yn ystod oriau’r tywyllwch yn unig. Gofynnodd nifer o gwestiynau ynghylch hyn:

 

i)                 A yw hyn yn digwydd ar draws y ddinas gyfan?

ii)               Beth yw canran y colofnau goleuadau stryd sy'n derbyn ffrwd fyw yn ystod oriau’r tywyllwch yn unig?

iii)              A fydd hyn yn atal colofnau goleuadau stryd rhag cael eu defnyddio fel pwyntiau gwefru?

iv)             Pa gamau gweithredu bydd y cyngor yn eu cymryd i liniaru'r broblem bosib hon?

 

b)              Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice am gylch gwaith ac amserlen yr ymgynghorwyr, a'u cost.

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yn darparu ymateb ysgrifenedig.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 7

 

Gofynnodd y Cynghorydd L R Jones a oes modd gosod sgip pren ar safle amwynderau dinesig Clun ac yna’i symud i safle amwynderau dinesig Gorseinon cyn mynd ag ef i'r safle byrnu yn Llansamlet. Byddai'r ymagwedd hon yn lleihau'r angen i gerbydau deithio i Lansamlet ac felly'n lleihau'r nwyon tŷ gwydr.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd saith (7) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

34.

Hysbysiad o Gynnig - Polisi Allgludo i Rwanda. pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae'r cyngor hwn yn gresynu wrth bolisi anfoesol ac anegwyddorol Llywodraeth Torïaidd y DU i allgludo dynion, menywod a phlant a all fod yn ffoi rhag gwrthdaro neu erledigaeth, i Rwanda.

 

Gwelwyd o’r blaen bod polisïau tebyg yn anymarferol ac yn aneffeithiol pan gawsant eu gweithredu gan Lywodraethau Israel a Denmarc.

 

Mae'n rhaid i'r DU anrhydeddu’i rhwymedigaethau o dan y gyfraith ryngwladol a chefnogi ffoaduriaid a'r rheini sy'n ceisio lloches.

 

Yn ogystal ag anfoesoldeb  allgludo ffoaduriaid a cheiswyr lloches, rydym yn ystyried bod y penderfyniad i ddewis Rwanda, gwlad â chanddi hanes gwael o ran hawliau dynol, ac sy'n cadw polisïau llym a didostur ynghylch hawliau menywod a hawl menywod i ddewis, a hawliau pobl hoyw, yn gwbl annerbyniol a gresynus. Nid yw hon yn wlad lle mae llawer o ddeddfwriaethau modern a blaengar y DU a'r EU yn berthnasol, a bydd yn rhoi llawer o unigolion mewn perygl sylweddol.

 

Mae'r awgrym a wnaed gan Uwch-weinidogion Llywodraeth y DU y gallai'r DU dynnu'n ôl o Lys Hawliau Dynol Ewrop (LlHDE), a sefydlwyd yn dilyn erchyllterau'r Ail Ryfel Byd, yn enghraifft arall sy'n peri pryder o ddiystyriaeth y Llywodraeth hon o reolau cyfraith ryngwladol, ac mae'n edrych fel ymgais i danseilio egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb.

 

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi

 

·                 pen ar y polisi anfoesol ac anegwyddorol hwn ar unwaith ac archwilio ffyrdd effeithiol o atal masnachu pobl.

 

·                 Ymgysylltu â phartneriaid Ewropeaidd a sefydliadau atal troseddu rhyngwladol i weithio ar y cyd a thorri'r rhwydweithiau masnachu pobl ac ecsbloetio.

 

·                 Gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, i adeiladu system lloches decach a mwy effeithiol.

 

·                 Buddsoddi mewn gwasanaethau mewnfudo ac ariannu'r system fewnfudo’n iawn.

 

·                 Ailddatgan ymrwymiad y DU i aros yn aelod o Siarter Hawliau Dynol Ewrop.

 

·                 Gofyn i'r Arweinydd (ac Arweinwyr y Grwpiau cefnogol) ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cartref i amlinellu’n barn mewn perthynas â'r polisi hwn, a gofyn iddo gael ei atal ar unwaith."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (55 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

V A Holland

P M Matthews

M Bailey

CA Holley

P N May

S Bennett

L James

J D McGettrick

P N Bentu

A J Jeffery

H M Morris

P M Black

J D McGettrick

D Phillips

J P Curtice

J W Jones

C L Philpott

A Davis

M H Jones

J E Pritchard

P Downing

M Jones

S Pritchard

C R Doyle

S M Jones

A Pugh

M Durke

S A Joy

S J Rice

C R Evans

S E Keeton

K M Roberts

C M J Evans

E J King

R V Smith

V M Evans

E T Kirchner

R C Stewart

R A Fogarty

H Lawson

L G Thomas

N Furlong

A S Lewis

L V Walton

L S Gibbard

M B Lewis

T M White

K M Griffiths

W G Lewis

R Andrew Williams

H J Gwilliam

M W Locke

-

T J Hennegan

N L Matthews

-

 

Yn erbyn (0 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Ymwrthod (6 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

L R Jones

A J O’Connor

W G Thomas

F D O’Brien

B J Rowlands

M S Tribe

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.