Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch cysylltiadau personol a
rhagfarnol posib cynghorwyr a swyddogion ag eitemau
ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd
y Cynghorydd C A Holley gysylltiad personol â Chofnod 149 "Ethol Arglwydd
Faer ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023" a Chofnod 150 "Ethol
Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023". |
|
Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2022-2023. Cofnodion: Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C L Philpott, wedi'i eilio gan y
Cynghorydd C A Holley, y dylid ethol y Cynghorydd A Mike Day yn Arglwydd Faer
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. Bu'r Cynghorydd A M Day (Arglwydd Faer) yn llywyddu |
|
Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2022-2023. Cofnodion: Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i eilio gan y Cynghorydd
P M Black, y dylid ethol y Cynghorydd L Graham Thomas yn Ddirprwy Arglwydd Faer
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd. |