Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

145.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

146.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

147.

Penodi Cyfarwyddwr Lle Dros Dro.

Penderfyniad:

 

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro.

 

Datganodd enwau Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol a chynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

1)    I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor.

2)    I gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

Penderfynwyd:   

1) Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad: i) I'r ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei gyfweld gan y cyngor. ii) I gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

Yna rhoddodd y Prif Weithredwr Dros Dro, Martin Nicholls, adborth o'r broses benodi a oedd yn ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro.

 

Penderfynwyd:   

 

2) Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu.

 

3) Y byddai Mark Wade yn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Lleoedd Dros Dro.

 

Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd Mark Wade i'r cyfarfod a chynigiwyd y swydd iddo.

 

Derbyniodd Mark Wade y swydd.