Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

130.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)        Datganodd y Cynghorydd S J Gallagher fudd personol a rhagfarnol â chofnod 132 “Penodi Prif Weithredwr Dros Dro.” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd S J Gallagher gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 132 “Penodi Prif Weithredwr Dros Dro” a gadawsant y cyfarfod cyn yr ystyriwyd yr eitem.

131.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

132.

Penodi Prif Weithredwr Dros Dro.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swydd Prif Weithredwr Dros Dro. Cynigiodd y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

 

i)                I'r Ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor.

ii)               I gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

Darparodd y Prif Weithredwr, Phil Roberts, adborth o'r Broses Benodi sy'n ymwneud â phenodi Prif Weithredwr Dros Dro.

 

Rhoddodd Martin Nicholls gyflwyniad 10 munud i'r cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad:

 

i)                 I'r ymgeisydd gael ei gyfweld gan y cyngor.

ii)               I gynnal pleidlais ysgrifenedig.

 

2)              Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu.

 

3)              Penodi Martin Nicholls yn Brif Weithredwr Dros Dro am gyfnod o hyd at 12 mis ar yr un cyflog â'r Prif Weithredwr presennol.

 

Sylwer: Yn dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd Martin Nicholls yn ôl i'r cyfarfod a chynigiwyd y swydd iddo. Derbyniodd Martin Nicholls y swydd.