Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a
rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Penodi Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai dim ond
un ymgeisydd oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Pwyllgor Penodiadau ar gyfer
swydd Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151. Dywedodd bod Arweinwyr y grwpiau
Gwleidyddol ac yntau’n cynnig y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y cyngor
"Atal Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad: i)
I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei
gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais ysgrifenedig. I'r Prif Weithredwr, Phil Roberts, roi
adborth o'r Broses Benodi sy'n ymwneud â phenodi Cyfarwyddwr Addysg. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal
Rheolau Gweithdrefnau" ar waith er mwyn hepgor y gofyniad: i)
I'r Ymgeisydd roi cyflwyniad a chael ei
gyfweld gan y cyngor. ii)
I gynnal pleidlais ysgrifenedig. 2)
Nodi'r diweddariad llafar ar y broses asesu. 3)
Penodi Ben Smith yn Gyfarwyddwr
Cyllid/Swyddog Adran 151. Sylwer: Yn
dilyn y penderfyniad hwn, gwahoddwyd Ben Smith i'r cyfarfod a chynigiwyd y
swydd iddo. Derbyniodd Ben Smith y swydd. |