Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor
ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y
gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y
cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel
cofnod cywir: 1)
Cyfarfod cyffredin o'r cyngor
a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: a)
Gwobrau Tai Cymru 2021 Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwobrau Tai
Cymru'n cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd
sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. Roedd yn bleser
ganddo gyhoeddi bod Cyngor Abertawe wedi ennill mewn 2 gategori yng Ngwobrau
Tai Cymru 2021. i)
Categori Gweithio mewn
Partneriaeth. Tŷ Tom Jones. ii)
Categori Arloesedd mewn Tai. Cyngor Abertawe mewn partneriaeth ag
Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Llongyfarchiadau i Matt's House Abertawe sydd wedi
ennill gwobr hefyd: i)
Categori Cefnogi Cymunedau. Prosiect Bwyd Swansea Together b)
Gwobr y Faner Werdd
Gymunedol – Llyn golchi a gardd gymunedol Cyfeillion Mayhill
Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dyfarnwyd Gwobr y
Faner Werdd Gymunedol i lyn golchi a gardd gymunedol Cyfeillion Mayhill am y drydedd flwyddyn yn olynol. Llongyfarchodd
bawb a fu'n rhan o hyn. c)
Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor i)
Eitem 10 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor” Yn yr argymhelliad,
rhaid dileu'r cyfeiriad at Baragraff 1.6" a rhoi "Paragraff 3"
yn ei le. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Abertawe - Dinas Hawliau Dynol Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n dod ag adroddiad
cyn bo hir sy'n datgan Abertawe fel Dinas Hawliau Dynol. Hwn fyddai'r cyntaf
yng Nghymru. b)
Partner Datblygu Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Urban
Slash wedi'i gyhoeddi fel Partner Datblygu'r
Awdurdod. c)
Croen yr Arena Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd llawer wedi
gweld profion diweddar ar groen yr Arena a bod y profion yn mynd rhagddynt yn
dda. Dywedodd hefyd fod y gwaith ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn ystod yr
wythnosau nesaf cyn i ATG wneud y gwaith mewnol. d)
Cronfa Adfer Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb am y ceisiadau
a gyflwynwyd i gael cyllid o'r gronfa. Dywedodd eu bod yn cael eu hystyried ac
y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud maes o law. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael
eu cyflwyno’n ysgrifenedig, erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Cyflwynodd Nortridge Perrott
3 chwestiwn mewn perthynas â Chofnod 52 "Adolygiad o Gronfeydd Refeniw
Wrth Gefn". Ymatebodd y Swyddog Adran 151. |
|
Adroddiad Blynyddol 2020/21 Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. PDF 304 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad sef ei
esboniad ef o daith wella'r cyngor i 2020-21, a pha mor dda yr oedd y cyngor yn
bodloni'i ofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014. Roedd yr adroddiad yn edrych yn ôl ar feysydd i'w gwella'r
llynedd; yr heriau a wynebwyd a'r blaenoriaethau newydd a nodwyd ar gyfer
2021/22. Tynnodd sylw at newidiadau a oedd wedi digwydd o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol i gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau llesiant cenedlaethol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Penderfynwyd derbyn a
chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
2020-21. |
|
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 817 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys adolygiad canol
blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn ac roedd yn ceisio cytundeb ar gyfer
unrhyw awgrym i ailddosbarthu'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion
presennol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Caiff yr argymhellion a wnaed yn Adrannau 3.10 a 3.11 o'r
adroddiad eu cymeradwyo. |
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro, y Pennaeth Eiddo a Phennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan Weithgor y Cyfansoddiad.
Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i Reolau'r Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu
Tir a'r Cynllun Dirprwyo. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a
mabwysiadu'r gwelliannau fel yr amlinellir ym Mharagraff 3 ac Atodiad A yr
adroddiad. |
|
Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 261 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a argymhellwyd i'r cyngor gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd yr adroddiad yn ceisio cydymffurfio â
Rhan 6, Pennod 2 "Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio: Aelodaeth a
Thrafodion" Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drwy sicrhau
bod aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'n cynnwys traean o aelodau
Lleyg. Penderfynwyd: 1)
Y
caiff argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sef bod y Pwyllgor yn
cynnwys 15 Aelod (10 Cynghorydd a 5 Aelod Lleyg) ei gymeradwyo. 2)
Y
bydd y broses o recriwtio'r Aelodau Lleyg ychwanegol yn dechrau'n unol â
gweithdrefnau'r cyngor. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley am gyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn trafod cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n trefnu'r cyfarfod. |
|
Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2019-2020 & 2020-2021. PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a argymhellwyd i'r
cyngor gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yr adroddiad yn darparu
Adroddiadau Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2019-2020 a
2020-2021. Roedd yr adroddiadau'n amlinellu gwaith y Pwyllgor yn ystod y
cyfnodau hynny. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth, a oedd yn cyflwyno
adroddiad diweddaraf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar effaith Craffu. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 342 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd chwech (6)
'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B. |
|
Rhybudd o Gynnig - Tan Gwyllt. PDF 281 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd L V Walton a'i eilio gan y Cynghorydd D H
Hopkins. “Defnyddir tân gwyllt gan bobl trwy gydol y flwyddyn i
nodi digwyddiadau gwahanol. Er y gallant ddod â
llawer o fwynhad i rai pobl, gallant achosi pryder ac
ofn sylweddol i rai unigolion a hefyd anifeiliaid, anifeiliaid anwes a da byw. Felly, rydym yn galw ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe i: 1.
Ofyn i'r holl Arddangosfeydd Cyhoeddus a drefnir o
fewn ffiniau'r awdurdod lleol gael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gan ganiatáu
i breswylwyr gymryd y rhagofalon angenrheidiol ar gyfer eu hanifeiliaid a phobl
sy'n agored i niwed. 2.
Hyrwyddo Ymgyrch Ymwybyddiaeth y Cyhoedd ynghylch
effaith tân gwyllt ar anifeiliaid a phobl sy'n agored i niwed, gan fanylu ar y
rheoliadau presennol, a chan gynnwys rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i
liniaru'r risgiau. 3.
Annog Cyflenwyr Tân Gwyllt Lleol i gadw
"fersiwn dawelach" o dân gwyllt na'r hyn a
ddefnyddir ar gyfer Arddangosfeydd Cyhoeddus. 4.
Ysgrifennu at Lywodraethau'r DU a Chymru, gan eu
hannog i adolygu ac ystyried y ddeddfwriaeth bresennol a chyfyngu ar uchafswm
lefelau sŵn y tân gwyllt y gellir ei werthu i aelodau'r cyhoedd at
ddefnydd preifat i 90 dB." Penderfynwyd mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig a amlinellir uchod. |