Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib a allai fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid cwblhau'r daflen "Datgeliadau o Ddiddordebau Personol a
Rhagfarnol" os oedd gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid
oes angen dychwelyd taflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, C A Holley, C E Lloyd, P Lloyd, L R Jones, R V Smith, D G Sullivan a
T M White gysylltiad personol â chofnod 64 "Goblygiadau Cytundeb Gadael yr
UE i Abertawe". 2)
Datganodd y Cynghorwyr D W
Helliwell, K M Griffiths, L James ac A Pugh gysylltiad personol â chofnod 66
"Trefniadau Derbyn 2022-2023". 3)
Datganodd y Cynghorwyr A M
Day, J W Jones a M H Jones gysylltiad personol â chofnod 69 "Enwebu Darpar
Arglwydd Faer a Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2021-2022" a
gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 4)
Datganodd y Cynghorwyr E W
Fitzgerald, K M Griffiths, C A Holley, L James, S M Jones, C L Philpott a D G
Sullivan gysylltiad personol â chofnod 69 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a
Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2021-2022". 5)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, S J Gallagher, L S Gibbard, K M
Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, C A Holley, B Hopkins D H Hopkins, L James,
J W Jones, M H Jones, S M Jones, E J King, M A Langstone, A S Lewis, W G Lewis,
C E Lloyd , P N Mai, A Pugh, K M Roberts, M Sherwood, A H Stevens, R C Stewart,
G J Tanner a T M White gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 74
"Rhybudd o Gynnig - Dyfarniad Tâl y Sector Cyhoeddus" a dywedwyd eu bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor
Safonau i aros, siarad a phleidleisio ar y mater. Swyddogion 6)
Datganodd H Evans, A Hill, T
Meredith, P Roberts a B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 74
"Rhybudd o Gynnig - Dyfarniad Tâl y Sector Cyhoeddus". |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimlad a)
Thelma Child,
Mam yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Mark Child Cyfeiriodd yr
Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Thelma Child, mam yr
Arglwydd Faer, y Cynghorydd Mark Child. b)
Y
Cyn-gynghorydd Vernon Davies Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Vernon
Davies. Cynrychiolodd Vernon Wardiau Bryn Lliw, Llwchwr a Phenyrheol am bron i
36 mlynedd, gan wasanaethu: Ø Cyngor Dosbarth Trefol Llwchwr 1968 – 1974 (Ward Bryn
Lliw). Ø Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg 1973 – 31 Mawrth 1996
(Ward Llwchwr). Ø Dinas a Sir Abertawe 4 Mai 1995 - 10 Mehefin 2004 (Ward
Penyrheol). Roedd Vernon yn
gyn-Gadeirydd Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg 1988-1989 ac yn gyn-Gadeirydd y
Pwyllgor Addysg. Eisteddodd
pawb yn dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Diwrnod Rhyngwladol y
Menywod, 8 Mawrth 2021 Gofynnodd
yr Aelod Llywyddol i bawb gefnogi a dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8
Mawrth 2021. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dathlu cyflawniadau
cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Brechiadau COVID-19 Darparodd Arweinydd y Cyngor yr ystadegau diweddaraf sy'n ymwneud â
chyflwyno'r brechiadau yn lleol. 2)
"Ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru" Cyngor Hil Cymru Nododd Arweinydd y Cyngor fod Dirprwy Arweinwyr y cyngor
ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol eraill, ynghyd â'r Cynghorydd L S Gibbard
wedi llofnodi Addewid Cyngor Hil Cymru fel rhan o'i "Ymgyrch Dim Hiliaeth
Cymru". Anogodd bob cynghorydd i wneud yr un peth. 3)
Cyllid Carlam ar gyfer Bargen
Ddinesig Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y bydd cyllid ar gyfer prosiectau'r Fargen Ddinesig yn cael ei gyflymu
yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth. Byddai hyn yn caniatáu i'r
partneriaid yn y Ddinas-ranbarth fenthyca llai am gyfnodau byrrach a chaniatáu
i gyllid lifo'n gynt. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i
gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cytundeb Gadael yr UE. PDF 670 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad gwybodaeth a oedd yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth
o Gytundeb Gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a sut y bydd yn effeithio ar
Abertawe. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i'r Datganiad Technegol Rhanbarthol o Agregau, ail Adolygiad.
Roedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu’r Datganiad o Gydweithredu
Is-ranbarthol rhwng Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot a Chyngor Sir Gâr ar ddarparu adnoddau mwynau craig mathredig. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r Datganiad Technegol Rhanbarthol, ail adolygiad
yn ffurfiol er mwyn bodloni gofynion y Polisi Cynllunio Cenedlaethol ac i'w
ddefnyddio fel: i)
Fframwaith strategol i'w ystyried yn adolygiad y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl); ac ii)
Ystyriaeth bwysig yn y broses rheoli datblygu ar ôl i Lywodraeth
Cynulliad Cymru gytuno arni. 2)
Cytuno
ar y Datganiad o Gydweithrediad Is-ranbarthol rhwng Cynghorau Abertawe,
Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr fel y'i hatodir yn Atodiad B yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau Derbyn 2022-2023. PDF 337 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio
penderfyniad ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer Ysgolion a gynhelir ar gyfer y
flwyddyn academaidd 2022-2023. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2022-2023 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr
adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2022-2023 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad. 3)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2022-2023 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad. 4)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer
2022-2023 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad
Ch yr adroddiad. 5)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf derbyn
arfaethedig ar gyfer 2022-2023 ar gyfer dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D
yr adroddiad. 6)
Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion
cynradd ac uwchradd yn Atodiad Dd yr adroddiad. 7) Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad E yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Cynnydd y Strategaeth Digartrefedd. PDF 612 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad
gwybodaeth, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Strategaeth Digartrefedd Abertawe
2018-22. Yr adroddiad oedd yr adolygiad pwynt canolog y Strategaeth, a oedd yn
esbonio'r cyflawniadau hyd yma, effaith ac ymateb y Gwasanaeth Digartrefedd a'i
bartneriaid i bandemig COVID-19, a'r heriau a
ragwelwyd yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cytuno y dylai Cyngor Abertawe ddod yn llofnodwr i'r Siarter Creu Lleoedd. PDF 558 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad, a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i Gyngor Abertawe ddod yn llofnodwr y Siarter Creu Lleoedd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo Siarter Creu Lleoedd Cymru a daeth Cyngor
Abertawe yn llofnodwr y Siarter. Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley i seminar
hyfforddi cynghorwyr gael ei drefnu i amlinellu rhagor o wybodaeth am y Siarter
Creu Lleoedd. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau y byddai'n trefnu
seminar o'r fath. Gellir cynnig seminarau tebyg ar gyfer Canllawiau Cynllunio
Atodol eraill. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd br Faer ar gyfer 2020-2021. PDF 371 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio enwebiadau ar
gyfer yr Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer er mwyn caniatáu i
drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn
eu blaen. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Enwebu'r Cynghorydd Mary H Jones yn Ddarpar Arglwydd Faer
ar gyfer 2021-2022. 2)
Enwebu'r Cynghorydd Mike Day yn Ddarpar Ddirprwy Arglwydd
Faer ar gyfer 2021-2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break" Cofnodion: Yn unol â Rheol 4
Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso
egwyl o 10 munud. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Estyn cyfnod swydd ar gyfer Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) y Pwyllgor Safonau. PDF 31 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i
ailbenodi Margaret Williams yn Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) o'r Pwyllgor
Safonau am gyfnod pellach o 4 blynedd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ailbenodi Margaret Williams yn Aelod Annibynnol
(Cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am un cyfnod olynol arall yn y swydd a ddaw
i ben ar 31 Mawrth 2025. 2)
Diolch i Gareth Evans am ei gyfnod o 6 blynedd fel Aelod
Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2020-2021. PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, a gyflwynodd Ddyddiadur Cyrff y
Cyngor drafft 2021-2022. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r
Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2021-2022 drafft yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol
yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 20 Mai 2021. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Craffu 2019-20. PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a amlinellodd
Adroddiad Blynyddol Craffu 2019-2020 yn nodi gwaith y tîm craffu dros y cyfnod
hwnnw. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig - Dyfarniad Cyflog y Sector Cyhoeddus. PDF 283 KB Cofnodion: Rhybudd o Gynnig gan Gynghorwyr R C Stewart, D H
Hopkins, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Thomas, E J King, L S Gibbard, A
Pugh, R Francis-Davies, A H Stevens, P M Matthews, P Lloyd, V M Evans, R V Smith,
M Sherwood, C R Evans a C Anderson. Cynigiwyd
gan y Cynghorydd C E Lloyd a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart. "Mae'r
Cyngor hwn yn condemnio'r cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak, a Llywodraeth y DU i
rewi cyflogau 2 filiwn o weithwyr allweddol yn y sector cyhoeddus ond yn
enwedig y rheini a gyflogir gan y cyngor lleol fel y cyhoeddwyd yn adolygiad
gwariant y DU ar 25 Tachwedd 2020. Mae
pandemig Coronafeirws yr 11
mis diwethaf wedi gweld gweithwyr y cyngor ar flaen y gad yn yr ymateb i Coronafeirws, gan ddiogelu ein cymunedau a chymryd risgiau
yn ddyddiol. Mae'r
cyhoeddiad hwn, sy'n dilyn dros 10 mlynedd o galedi, ac sydd eisoes wedi gweld
gostyngiad mewn cyflogau mewn termau go iawn, yn warthus. Mae is-adrannau
gweithlu'r cyngor gan gynnwys Athrawon, Gweithwyr Sbwriel, Swyddogion Iechyd y
Cyhoedd a llawer mwy, i gyd wedi chwarae eu rhan yn yr ymateb i COVID-19. Mae’r
lefelu a addawyd i'r rheini sy'n gweithio yn ein Sector Gofal Cymdeithasol, gan
gynnwys gweithwyr cartrefi gofal, gweithwyr gofal cartref a gweithwyr
cymdeithasol, y mae llawer ohonynt wedi peryglu eu bywydau wrth dderbyn y
cyflog a'r amodau isaf, wedi'u hanghofio hyd yn oed cyn i'r pandemig
ddod i ben ac mae hynny'n warth cenedlaethol. Nid
yw rhoi clap yn talu biliau. Mae
angen cyfraddau cyflog teilwng ar bobl ac maen nhw'n eu haeddu, nid gostyngiad
mewn cyflog ar ôl i lawer ohonynt beryglu eu bywydau yn ystod y pandemig i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Mae'r penderfyniad hwn
hyd yn oed yn fwy gwarthus o gofio bod y gwariant ar y gyllideb amddiffyn yn
cynyddu ar yr un pryd â'r gostyngiad mewn cyflogau gweithwyr. Unwaith
eto, mae'n ymddangos mai gwasanaethau rheng flaen y sector cyhoeddus fydd yn
dwyn llawer o faich polisi economaidd aflwyddiannus sy'n ymosod ar gyflogau a'r
gallu i wario yn hytrach nag annog ysgogi twf a buddsoddiad y mae mawr ei angen
a fydd yn hanfodol i wella economi'r DU yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Dylai'r adferiad economaidd fod ar gyfer y lliaws ac nid yr ychydig yn unig. Dymuna'r
cyngor fod: Arweinydd
Cyngor Abertawe yn ysgrifennu llythyr at Ganghellor y Trysorlys yn gofyn iddo
ailystyried y cynnig hwn gan sicrhau bod gweithwyr allweddol y sector cyhoeddus
yn cael eu cydnabod yn briodol gyda dyfarniad tâl teilwng yn 2021/22. Bod
Arweinydd Cyngor Abertawe yn gwahodd Arweinwyr Grwpiau i lofnodi'r llythyr a
dangos eu cefnogaeth i weithwyr allweddol." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor
"Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais
ar y newid fel a ganlyn:
Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. |