Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, , J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, G J Tanner, D W W Thomas, M Thomas, W G Thomas, L Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod 21 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021-2022 - Ymgynghoriad".

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 450 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod blynyddol y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020.

14.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Spencer Davis

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Spencer Davis. Ef oedd aelod sefydlol Spencer Davis Group, y band a fwynhaodd lwyddiant yn y 1960au gyda chaneuon poblogaidd megis Keep on Running a Somebody Help Me. Ganed Spencer Davis yn Abertawe a mynychodd Ysgol Ramadeg Dinefwr.

 

b)              Donald Thomas, tad Karen Thomas (Y Gwasanaethau Democrataidd)

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Donald Thomas. Roedd Donald yn dad i Karen Thomas, neu Zippy yn y Tîm Gwasanaethau Democrataidd. Roedd Donald hefyd yn gyn-weithiwr y cyngor.

 

Eisteddodd pawb yn dawel i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

 

Llongyfarchodd y Llywydd Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

a)              Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)               Alun Wyn Jones. Gwasanaethau i Undeb Rygbi Cymru

 

ii)              Yr Athro Paul Meredith. Athro Sêr Cymru mewn Deunyddiau Uwch Cynaliadwy, Prifysgol Abertawe. Gwasanaethau i ymchwil ac arloesedd lled-ddargludyddion.

 

b)              Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)               Glenys Irene Court. Gwasanaethau i'r Celfyddydau Gweledol yng Nghymru.

 

ii)               Ellen Kerry Davis. Gwasanaethau i Addysg yr Holocost.

 

iii)             David James Adams Hughes. Gwasanaethau i'r GIG a’r sawl sy’n galaru yn ystod COVID-19.

 

iv)            Colin Raymond Jones. Hyfforddwr Cenedlaethol, Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru. Gwasanaethau Bocsio yng Nghymru.

 

v)              Mark Thomas McKenna. Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Prosiect Down to Earth a Down to Earth Construction. Gwasanaethau i Bobl Ifanc a'r Amgylchedd.

 

vi)            Fiona Edwina Morgan. Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd, yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gwasanaethau i Iechyd Meddwl.

 

vii)           Jean Saunders. Uwch Nyrs, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gwasanaethau i Nyrsio.

 

viii)         Carolyn Joy Smith. Rheolwr Diogelwch Ffyrdd a Pherfformiad Busnes, Castell-nedd Port Talbot. Gwasanaethau i Ddiogelwch Ffyrdd.

 

c)              Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)               Margaret Ann Baker. Nyrs Glinigol, Oncoleg y Fron Eilaidd Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gwasanaethau i Gleifion â Chanser Eilaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

ii)              Dr. Mahaboob Basha Rheolwr Cysylltiadau Allanol ac Ymgysylltu. Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, Prifysgol Abertawe. Gwasanaethau i gymuned Sgeti yn ystod COVID-19.

 

iii)             Rita Chohan. Gwasanaethau i'r GIG yn ystod COVID-19.

 

iv)            Stephen Robert Davies. Gwasanaethau i pobl ag anableddau.

 

v)              Mayameen Meftahi. Gwasanaethau i ddioddefwyr Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yng Nghymru.

 

vi)            Christopher David Singletary. Gwasanaethau i Gyn-filwyr, eu teuluoedd a'r Lluoedd Arfog.

 

vii)           Geraint Andrew Thomas. Gwasanaethau i'r Samariaid, Tîm Achub Mynydd a phobl ddifreintiedig yn ne-orllewin Cymru.

 

viii)         Nigel Williams. Gwasanaethau i Lywodraeth Leol yn Abertawe yn ystod COVID-19. Cyngor Abertawe.

 

3)              Yr Arglwydd Faer - Taith Gerdded Noddedig ar gyfer y Memory Choir

 

Nododd yr Aelod Llywyddol mai’r Memory Choir oedd un o elusennau'r Arglwydd Faer eleni. Mae'n darparu cerddoriaeth a chanu i bobl sy'n byw â dementia ac mae nhw a'u gofalwyr yn ei fwynhau'n fawr. Mae wedi parhau i weithredu drwy gydol y pandemig drwy berfformio ar-lein ac addasu rhywfaint.

 

Mae’r Arglwydd Faer, y Cynghorydd Mark Child, yn anelu at godi arian ar gyfer y Memory Choir drwy wneud taith gerdded noddedig o Rosili i'r Mwmbwls, tua 20 milltir, ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020. Byddai wir yn gwerthfawrogi'ch cefnogaeth. Gallwch noddi'r Arglwydd Faer ar wefan GoFundMe yn https://www.gofundme.com/f/walk-for-musical-memories-dementia-choir

 

4)              Alun Wyn Jones (OBE) – y chwaraewr rygbi sydd â’r nifer mwyaf o gapiau yn y byd

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Alun Wyn Jones ar ennill y nifer mwyaf o gapiau rygbi yn y byd. Enillodd ei 149fed cap yn erbyn yr Alban ar 30 Hydref 2020. Mae ganddo 140 o gapiau ar gyfer Cymru a 9 cap ar gyfer y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

 

5)              Cyfeillion a Gardd Fwyd Gymunedol Llyn Golchi Mayhill

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Cadw Cymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni gyda Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Cyfeillion Mayhill yn cael eu henwi fel un o fannau gwyrdd gorau’r wlad. Marc rhyngwladol sy'n nodi parc neu fan gwyrdd o safon yw Gwobr y Faner Werdd.

 

Mae Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Cyfeillion Mayhill  wedi ennill Gwobr Gymunedol fawreddog y Faner Werdd i gydnabod cyfranogiad ei wirfoddolwyr ymroddgar, safonau amgylcheddol uchel a'u hymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o safon.

 

Mae'r grŵp yn gyfrifol am ddau brosiect - gofalu am ardal bicnic a pharhau i ddatblygu gardd fwyd.

 

6)              Gwasanaeth Dylan Thomas y cyngor yn ennill gwobr y DU

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod y prosiect a gynhelir gan Wasanaeth Dylan Thomas wedi ennill un o wobrau cenedlaethol y DU. Mae'r fenter Llenyddiaeth a Thrawma wedi ennill gwobr yng ngwobrau Mae Amgueddfeydd yn Newid Bywydau y Sefydliad Amgueddfeydd. Enwyd y cynllun ysgrifennu creadigol fel y prosiect amgueddfa fach orau sy'n cyflawni effaith gymdeithasol.

 

Mae'r gweithdai'n galluogi'r rheini sy'n cymryd rhan i deimlo fel rhan o'r gymuned ehangach, er mwyn manteisio ar leoliadau diwylliannol a chanfod eu ffordd mewn dinas newydd. Mae'r gweithdai wedi dod yn ganolbwynt ac yn fan diogel i grŵp ymroddedig a dawnus o'r gymuned hon sy'n aml yn cael ei hesgeuluso.

 

7)              Cywiriadau / Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol ychwanegiad at Wŷs y Cyngor.

 

a)              Eitem 13, "Aelodaeth Pwyllgorau” - 

 

Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

15.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Y diweddaraf am COVID-19

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am bandemig COVID-19. Diolchodd i'r mwyafrif oedd yn dilyn rheolau Llywodraeth Cymru a mynegodd ei bryderon o ran y rheini nad oeddent yn gwneud hynny.

 

2)              Timau Ariannol yn gwneud Taliadau Grant i fusnesau Abertawe

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor y Prif Swyddog Cyllid, Ben Smith a'i swyddogion am eu gwaith gwych wrth ddyrannu grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau Abertawe.

 

3)              Digwyddiadau Dydd y Cofio

 

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor holl ddigwyddiadau Dydd y Cofio'r cyngor ac anogodd bawb i ddilyn canllawiau COVID-19.

 

4)              Cyllid Llenwi Bwlch ar gyfer Cyfleuster Pob Tywydd ym Mhontarddulais a Chyfleusterau Chwarae Pellach ar draws Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, oherwydd gwaith caled y Cynghorydd Phil Downing, a'r defnydd o Grantiau Cymunedol gan y Cynghorwyr Phil Downing a Kevin Griffiths, y byddai gan Pontarddulais Gyfleuster Chwaraeon Pob Tywydd cyn bo hir. Amlinellodd hefyd gyfleusterau chwarae pellach ar draws Abertawe.

 

5)              Croesewir ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prydau ysgol am ddim

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd at a chan gynnwys y Pasg 2021.

 

6)              Diwygiadau i Bortffolios y Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi diwygio Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn. Gofynnodd i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gylchredeg fersiwn gyflawn yn dilyn y cyfarfod. Bydd y newidiadau’n dechrau ar unwaith.

 

Cyflawni a Gweithrediadau (Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor)

Ychwanegu

Mynwentydd, Amlosgfeydd, Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau

Materion Niwsans Statudol (gan gynnwys sŵn, anifeiliaid anwes, gerddi llawn tyfiant)

 

Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor)

Ychwanegu

Cynllunio ar gyfer argyfyngau

 

Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Ychwanegu

Ansawdd aer ac achosion o lygredd

 

Cartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor)

Dileu

Aelod o Bartneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) - Cynrychiolydd yr Arweinydd

Ychwanegu

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) - Cynrychiolydd yr Arweinydd

 

 

16.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

17.

Polisi Trwyddedu HMO 2020. pdf eicon PDF 279 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y polisi Trwyddedu HMO newydd  arfaethedig a oedd yn cynnwys Cynllun Trwyddedu HMO Gorfodol Abertawe gyfan a'r Cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol newydd ar gyfer wardiau etholiadol Y Castell, Uplands a St Thomas.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi'r polisi.

18.

Cynnig i dderbyn penderfyniad newydd i beidio â chyflwyno trwyddedau casino a diwygiadau arfaethedig i Bolisi Gamblo'r cyngor pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio:

 

i)                Ystyriaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino; a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad o Egwyddorion (Polisi Gamblo) Dinas a Sir Abertawe.

 

ii)              Gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Ystyried a nodi canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe (Polisi Gamblo).

 

2)              Ystyried a nodi'r materion a nodwyd ym Mharagraff 4 yr adroddiad a chytuno i gymeradwyo penderfyniad newydd i beidio â rhoi trwyddedau mangre casino.

 

3)              Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo i'w gyhoeddi a nodi 6 Rhagfyr 2020 fel y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

19.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 819 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r argymhellion a wnaed yn adrannau 3.11 a 3.12 yr adroddiad.

20.

Datganiad cyllideb canol blwyddyn 2020/21. (Llafur)

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2020-2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r diweddariad.

21.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2021-2022 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 340 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2021-2022 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 14 Hydref 2020.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW.

22.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn y newidiadau dros dro mewn perthynas â strwythur y Gyfarwyddiaeth Adnoddau.

23.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Nododd fod ychwanegiad at yr adroddiad argraffedig.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr

Tynnu enw'r Cynghorydd C E Lloyd.

Ychwanegu'r Cynghorydd D H Hopkins.

 

2)              Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw.

24.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 1

 

i)               Gofynnodd y Cynghorydd A Day gwestiwn:

 

"A ellir darparu rhestr o’r 40,000 o gylïau yn Abertawe i Gynghorwyr ynghyd ag amserlen o ba mor aml y cânt eu glanhau?”

 

ii)              Gofynnodd y Cynghorydd P N May y cwestiwn canlynol:

 

“A ellir darparu rhestr o’r 40,000 o gylïau yn Abertawe i Gynghorwyr, gan amlinellu eu lleoliad a’r moddau o adnabod pob un, a thrwy hynny ei gwneud yn haws i Gynghorydd roi gwybod am ba gyli y mae angen ei lanhau?”

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd saith (7) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

25.

Rhybudd o Gynnig - Ymgyrch Hawlio Credyd Pensiwn. pdf eicon PDF 499 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr A Pugh, M Sherwood, L S Gibbard, R C Stewart, A Lewis, D H Hopkins, J P Curtice, D W W Thomas, S Pritchard, M B Lewis, W G Lewis, L V Walton, M C Child a R Francis-Davies

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y Cynghorydd M Sherwood.

 

“Mae Trechu Tlodi yn flaenoriaeth gorfforaethol i Gyngor Abertawe, fel y gall pawb yn Abertawe gyflawni ei botensial.

 

Mae Gweledigaeth y cyngor ar gyfer Abertawe yn datgan: “Mae'r cyngor yn anelu at ... gyflawni Abertawe lle mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwm ac yn cael y gorau o'r arian sydd ganddyn nhw”.

 

Nodwn fod:

 

1.              Peidio â hawlio budd-daliadau lles a chredydau treth yn cadw symiau enfawr o arian dan glo, ac nid yw’r arian hyn yn cyrraedd pocedi pobl leol na'n heconomi leol. Adroddodd yr elusen EntitledTo ym mis Chwefror eleni fod cyfanswm tybiedig o £16bn heb ei hawlio yn y DU bob blwyddyn. (www.entitledto.co.uk).

 

2.              Y budd-dal nas hawlir fwyaf yw cymorth Treth y Cyngor, gyda dros 2.7m o bobl ledled y DU yn dewis peidio â hawlio, neu nad ydynt yn ymwybodol y ygallant ei hawlio. Fel cyngor rydym eisoes yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r gefnogaeth hon.

 

3.              Y budd-dal nas hawlir fwyaf nesaf yw Credyd Pensiwn, gyda 2 o bob 5 sy'n gymwys ddim yn ei hawlio, sy'n golygu eu bod yn colli dros £2,000 y flwyddyn fesul aelwyd ar gyfartaledd.

 

4.              Mae nifer y pensiynwyr mewn tlodi yn cynyddu ledled y DU (Adroddiad Blynyddol Sefydliad Joseph Rowntree 2019/20).

 

5.        Mae'r diffyg incwm sy'n deillio o dan-hawlio Credyd Pensiwn yn golygu bod pobl hŷn yn aberthu bwyd iach, gwres a chyfleoedd i gysylltu â ffrindiau a theulu. Yn aml, daw tan-hawlio Credyd Pensiwn i’r amlwg pan ddaw person hŷn yn gymwys ar gyfer cymorth personol dwys, ar ôl bod â hawl am nifer o flynyddoedd.

 

6.        Ers 1 Awst, mae'n rhaid i bobl dros 75 oed wynebu tâl blynyddol o £157 am drwydded deledu, oni bai eu bod yn derbyn credyd pensiwn.

 

7.        Mae argyfwng Coronafeirws yn rhoi straen ariannol ar aelwydydd o bob math, ac mae sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn yr holl incwm y gallant yn strategaeth bwysig ar gyfer cefnogi’n holl gymuned breswyl.

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn cytuno i wneud y canlynol:

 

1.              Ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid allweddol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar Gredyd Pensiwn yn Abertawe, sef Cyngor ar Bopeth, Canolfannau Gofalwyr a Gofal ac Atgyweirio.

 

2.              Ystyried datblygu adnoddau i godi lefel y niferoedd sy'n hawlio Credyd Pensiwn drwy ymgyrch gyda'n partneriaid allweddol dros gyfnod o 6-9 mis.

 

3.              Annog gweithredu ar draws holl wasanaethau'r cyngor i gefnogi Ymgyrch Hawlio Credyd Pensiwn a chynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y rheini a fyddai'n elwa ohono. Gallai hyn gynnwys defnyddio post uniongyrchol i garfannau y gellir eu hadnabod e.e. Refeniw a Budd -daliadau gellir ailadrodd hyn trwy gydol yr ymgyrch. Byddwn yn ymgysylltu â gwasanaethau ehangach y cyngor drwy Fforwm Tlodi Cyngor Abertawe i gynyddu effaith yr ymgyrch i'r eithaf. Marchnata a Chyfathrebu gan gynnwys posteri, taflenni, baneri pontydd a chyfathrebiadau marchnata digidol i gyrraedd cynulleidfa eang.”

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.