Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch
y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai
fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" os oes gan y
cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni
os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y
dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, M C Child, J P Curtice, R Francis-Davies, J A Hale, T J Hennegan, A S
Lewis, C E Lloyd, M Sherwood, R V Smith a G D Walker gysylltiad personol â
Chofnod 169 "Datganiad o Gyfrifon 2019/20". |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod Cyffredin o'r Cyngor
a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2020. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Cyn-gynghorydd W Gethin
Evans Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd W Gethin Evans. Bu'r
Cynghorydd Gethin Evans yn gwasanaethu ward Pontybrenin ar y Cynghorau canlynol
am tua 17 o flynyddoedd: Ø Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw - 2 Mai 1991 tan 31 Mawrth 1996 Ø Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg – 6 Mai
1993 i 31 Mawrth 1996 Ø Dinas a Sir Abertawe - 4 Mai 1995 i Mai
2008. Bu'r Cynghorydd Gethin Evans hefyd yn Gadeirydd y
Pwyllgor Cynllunio. b)
Cyn-Ddirprwy Reolwr Digwyddiadau Arbennig, John
Birmingham Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth
ddiweddar John Birmingham, cyn-Ddirprwy Reolwr Digwyddiadau Arbennig.
Ymddeolodd John ym mis Mawrth 2018 ac roedd yn ffigwr allweddol wrth helpu i
gyflwyno'r Eisteddfod Genedlaethol i Abertawe yn 2006. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Lucy Moore - Cyrraedd y
rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Cymdeithas y Gyfraith Cyhoeddodd y Llywydd fod Lucy Moore, Rheolwr
Cyfreithiol Gofal Plant, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth
Cymdeithas y Gyfraith, yr anrhydedd uchaf i gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae Lucy wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y
categori Cyfreithwyr Mewnol a hi yw'r unig gyfreithiwr awdurdod lleol ar y
rhestr fer. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer am y gwaith rhagorol y mae wedi'i
wneud ar lefel genedlaethol gyda'r Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus dan
gadeiryddiaeth yr Anrhydeddus Mr Ustus Keehan a fydd
yn y pen draw yn arwain at welliannau yn y ffordd o ddiogelu plant. Bydd
enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o seremonïau ar-lein o 13 Hydref 2020. 3)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor Dywedodd yr Aelod
Llywyddol y dylai’r ymateb i “Cwestiwn 4 - Eitem 15, Cwestiynau i
Gynghorwyr" fod yn enw
"Arweinydd y Cyngor". |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theulu -
Ymddeol Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai Julie Thomas,
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn
ymddeol yn fuan. Diolchodd iddi am ei
chyfraniad enfawr i Gyngor Abertawe ac am ei chyflawniadau yn ystod y cyfnod
hwnnw. Rhoddodd ddymuniadau gorau'r
cyngor iddi ar gyfer y dyfodol. Adleisiodd y Cynghorwyr E J King a P R
Hood-Williams eiriau Arweinydd y Cyngor, gan dalu teyrnged hefyd i Julie
Thomas. 2)
COVID-19 Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cynnydd
diweddar yn nifer yr achosion COVID-19 a dywedodd fod Cyngor Abertawe ynghyd â
Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar fin rhyddhau taflen gyngor i'r holl
breswylwyr er mwyn rhoi cyngor am y pandemig a
gobeithio atal neu leihau effaith yr ail don. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019/20. PDF 618 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio (Paula O’Connor),
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019-2020 . Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y
pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1) Dylid nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019-2020. |
|
Penodi Aelod Lleyg Ychwanegol o'r Pwyllgor Archwilio. PDF 433 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau adroddiad a oedd yn amlinellu
argymhelliad y Pwyllgor Archwilio ar 30 Mehefin 2020 ynghylch penodi Aelod
Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Dylid
recriwtio Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Archwilio. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe. PDF 646 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru “Adroddiad Archwilio Cyfrifon 2019-2020
ar gyfer Dinas a Sir Abertawe". Ymatebodd Geraint Norman (SAC) i gwestiynau technegol eu
natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â
sefyllfa Dinas a Sir Abertawe. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol. 2) Cymeradwyo'r datganiad. |
|
Datganiad o Gyfrifon 2019/20. PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon
2019-2020 ar 15 Medi 2020 neu cyn hynny. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2019-2020 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros
Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am ystyried rhoi Rhyddid er
Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y Llynges
Fasnachol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Rhoi
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gangen Abertawe o Gymdeithas y
Llynges Fasnachol. 2) Trefnir Cyfarfod Seremonïol o'r Cyngor ar ddyddiad i'w gadarnhau. |
|
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor. PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad gwybodaeth ar y cyd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog
Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn newidiadau rheoli a staffio i
strwythur yr Adran Addysg. |
|
Dynodi Cyfarwyddwr Addysg Statudol Dros Dro. PDF 212 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn ceisio penodi Pennaeth Cyflawniad a
Phartneriaeth yn Gyfarwyddwr Addysg Statudol dros dro. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Penodi
Helen Morgan-Rees, Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth yn Gyfarwyddwr
Addysg Statudol y cyngor dros dro. Bydd hyn am gyfnod o dri mis i ddechrau a
bydd yn dod i rym tra bo'r Cyfarwyddwr Addysg Statudol presennol Nick Williams
ar absenoldeb oherwydd salwch. 2)
Rhoddir
awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau i ymestyn y cyfnod o dri mis os bydd Nick
Williams yn parhau i fod ar absenoldeb oherwydd salwch. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 320 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Ni chyflwynwyd unrhyw
'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |
|
Rhybudd o Gynnig: Cwricwlwm Newydd. PDF 498 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysiad o Gynnig
gan y Cynghorwyr R C Stewart, D H Hopkins, J A Raynor, C A Holley, L R Jones a
P N May "Y
Cwricwlwm Newydd a 'Chymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau BAME a
gweithgor newydd y cwricwlwm Mae'r cyngor
hwn yn croesawu cwricwlwm newydd Cymru ac mae wedi ymrwymo i'w weithredu'n
llwyddiannus a'r gwelliant mewn addysgu a dysgu a fydd yn ei gynnig. Rydym yn cydnabod bod ymgorffori'r cwricwlwm newydd yn
gofyn am adnoddau priodol i sicrhau bod ein hamrywiaeth gyfoethog yn cael ei
hadlewyrchu ar draws pob elfen o'r cwricwlwm ac ym mhob un o'n hysgolion. Mae'r cyngor hwn yn cefnogi penodiad Llywodraeth Cymru
o'r Athro Charlotte Williams i gadeirio'r gweithgor cwricwlwm newydd, i weithio
gydag Estyn, wrth adolygu a datblygu'r adnoddau dysgu i gefnogi addysgu themâu
sy'n ymwneud â chymunedau BAME. Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu: 1.
Gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at yr Athro Williams
i addo cefnogaeth y cyngor hwn i'r gweithgor. 2.
Cyfarwyddo'r adran Addysg i weithio gydag ysgolion,
colegau a'r gymuned leol i gyfrannu at ymchwil a datblygu adnoddau gyda'r
gweithgor. 3.
Defnyddio Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg i
rannu ei adnodd gwych o ddogfennau a recordiadau i gefnogi'r gweithgor." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir
uchod. |