Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

148.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd M C Child gysylltiad personol â Chofnod 154 "Newidiadau Dros Dro i Drefniadau Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion"; 

 

2)              Datganodd y Cynghorydd L James gysylltiad personol â Chofnod Rhif 156 "Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ".

149.

Cofnodion. pdf eicon PDF 426 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mis Mehefin 2020.

150.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

151.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Sefydliad Roots Cymru

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Sefydliad Roots Cymru'n elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y Cocyd.  Ei nod yw cefnogi pobl ifanc mewn gofal, y rheini sy'n gadael gofal, plant mewn angen ac oedolion sydd wedi gadael gofal gyda'r trawsnewidiad i fyw'n annibynnol.

 

Roedd yn falch iawn o gyhoeddi bod y Sefydliad Roots wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaethau Gwirfoddol yn ddiweddar.

 

2)              Cymdeithas Camlas Tawe'n derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

 

Nododd yr Aelod Llywyddol mai grŵp o wirfoddolwyr o amgylch Camlas Tawe yng Nghwm Tawe isaf yw Cymdeithas Camlas Tawe.  Maent yn ymroddedig i adfywio Camlas Tawe fel ased cymunedol ar gyfer chwaraeon actif ac fel cyrchfan treftadaeth i ymwelwyr.Maent yn gymdeithas actif sy'n gweithio tuag at y nod hwnnw bob dydd Mawrth.

 

Mae'r gwaith adfywio a gweithgareddau amrywiol yn cynnwys:

Ø    Atgyweirio glan y camlas mewn sawl safle rhwng Clydach a Threbannws;

Ø    Casglu Sbwriel;

Ø    Gweithredu rhaglen fywiog o wasanaeth llogi canwôd a chaiacau er budd y gymuned ehangach; a

Ø    cheisio arian grant i gefnogi ei waith.

 

Ni fyddai unrhyw un o weithgareddau'r gymdeithas yn bosib heb gydweithrediad agos â Glandŵr Cymru. - "Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru".  Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi caniatâd i waith gael ei wneud ar y gamlas, mae'n helpu i ddylunio a goruchwylio prosiectau, yn darparu llawer o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adfer ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol barhaus.

 

Roedd yn falch iawn o nodi bod Cymdeithas Camlas Tawe wedi'i hanrhydeddu â Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei derbyn yn y DU.  Nod Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw cydnabod gwaith rhagorol grwpiau gwirfoddol er budd eu cymunedau lleol.

 

Bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Camlas Tawe'n derbyn gwobr gan Louise Fleet, Arglwydd Raglaw EM Gorllewin Morgannwg yn ddiweddarach yr haf hwn, a bydd dau wirfoddolwr o'r gymdeithas yn mynd i arddwest ym Mhalas Buckingham ym mis Mai 2021, gydag eraill sydd wedi derbyn gwobr eleni.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cynghorydd Gordon Walker (Cadeirydd Cymdeithas Camlas Tawe) neu e-bostiwch funding.swanseacanalsociety@talktalk.net

152.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Cefnogi busnes

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i swyddogion a phawb a oedd yn rhan o'r gwaith i gynorthwyo busnesau drwy eu helpu i ailagor, a hefyd am y grantiau a gynigiwyd.

 

2)              Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Heddlu a Swyddogion y cyngor am eu gwaith wrth fynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwyd yn ddiweddar ym Mae Langland a SA1.

 

3)     Prosiect Morol Doc Penfro - Prosiect y Fargen Ddinesig

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod Prosiect Morol Doc Penfro - Prosiect y Fargen Ddinesig wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Byddai hyn yn ychwanegu at ryddhau rhagor o arian maes o law.

 

4)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor sicrwydd i bawb y bydd yr awdurdod yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu morlyn llanw ym Mae Abertawe a thechnoleg llanw ledled Cymru.

153.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

154.

Newidiadau Dros Dro i Drefniadau Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r trefniadau dros dro ar gyfer cryfhau uwch arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Dywedodd y byddai swydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn cael ei rhannu rhwng dwy rôl uwch arweinyddiaeth hyd at fis Tachwedd 2020, gan greu dau Bennaeth Gwasanaeth dros dro:

 

i)                Pennaeth y Gwasanaethau Integredig;

ii)               Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion (Anabledd Dysgu/Iechyd Meddwl/Darpariaeth Gwasanaethau a Diogelu).

 

Swydd ar y cyd rhwng y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw swydd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig ac mae'n atebol i'r ddau sefydliad. Bydd y rôl yn gyfrifol am yr holl swyddogaethau a gyflawnir drwy'r canolfannau integredig presennol ar gyfer pobl hŷn ac oedolion ag anabledd corfforol neu'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig â nhw.

 

Bydd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion (Anabledd Dysgu/Iechyd Meddwl/Darpariaeth Gwasanaethau a Diogelu) yn gyfrifol am ddiogelu, iechyd meddwl ac anableddau dysgu, darparu gwasanaethau mewnol a chomisiynu rhai allanol.

155.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn nodi'r diwygiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y Cyngor yn dilyn y newidiadau dros dro i strwythur y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

156.

Cadeirydd Gwasanaethau Democrataidd. pdf eicon PDF 29 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn ceisio ethol Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn datgan bod rhaid i'r cyngor benodi Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chadeirydd.  Rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn aelod o'r wrthblaid.  Ni ddylai Arweinydd y Cyngor fod yn y pwyllgor hwn.  Ni ddylai mwy nag un Aelod y Cabinet fod yn y pwyllgor hwn.  Ni chaniateir aelodau cyfetholedig i fod yn y pwyllgor hwn.

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd L James fel Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

157.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 331 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 1

 

i)                Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones gwestiwn ar ran y Cynghorydd K M Griffiths:

 

"Faint o arian a wariwyd gan Gyngor Abertawe ar dipio'n anghyfreithlon eleni?  A fyddai'n rhatach caniatáu i fusnesau gael gwared ar sbwriel am ddim?

 

ii)              Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones gwestiwn:

 

"Rwy'n tybio bod 'mannau o bryder' o ran tipio anghyfreithlon.  Beth rydyn ni’n ei wneud i atal tipio anghyfreithlon yn yr ardaloedd hyn, a beth yw'r ardaloedd hyn?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 4

 

Gofynnodd y Cynghorydd P M Black gwestiwn:

 

"Oes modd darparu cynllun gwariant ar gyfer y cyllid gwerth £95,000 a £112,000?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 5

 

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones gwestiwn:

 

"Faint mae'r awdurdod yn ei dderbyn i ddarparu darpariaeth lleoliad brys mewn Cartrefi Seibiant?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

'Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.

158.

Rhybudd o Gynnig: Mae Bywydau Du o Bwys. pdf eicon PDF 276 KB

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr L S Gibbard, R C Stewart, A S Lewis, D H Hopkins, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, S Pritchard, M B Lewis, L V Walton, W G Lewis, M C Child, R Francis-Davies, A Pugh, E J King, E T Kirchner ac Y V Jardine

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae Cyngor Abertawe’n sefyll mewn undod â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Abertawe a gweddill y byd yn eu brwydr dros gyfiawnder yn wyneb hiliaeth yn ei holl ffurfiau.

 

Rydym yn cydnabod bod symbolau o orffennol trefedigol Prydain yn parhau i fod o'n cwmpas, ar ffurf cerfluniau, enwau strydoedd, adeiladau a'r celfyddydau. Mae gan rai o'r rhain gysylltiadau clir ag unigolion  a oedd yn ymwneud â masnach caethweision ac ecsbloetio pobl o liw, ac maent yn atgof poenus i bobl BAME o'u gorchfygiad hanesyddol a'u hanghydraddoldeb parhaus.

 

Drwy weithio gyda'n cymunedau BAME, rydym yn ymrwymedig i archwilio daearyddiaeth a sefydliadau Abertawe i asesu a oes angen tynnu, diwygio neu newid y ffordd rydym yn arddangos unrhyw enwau neu ddelweddau. Nid er mwyn dileu ein hanes, ond i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn ymwneud â dysgu o hanes a'i gyfleu mewn modd sensitif a pharchus. Rhaid gwneud gwaith i gyd-fynd â’r ymdrechion hyn i addysgu dinasyddion yn well ar hanes Abertawe, gan gynnwys ei rôl yn y fasnach caethweision, a’i le o fewn chwyldro diwydiannol y DU a gorffennol ymerodrol.

 

Rydym hefyd yn cydnabod bod caethwasiaeth fodern a mathau eraill o ecsbloetio yn dal i fod ledled y byd heddiw ac ar garreg ein drws ac mae angen i ni atgyfnerthu'n hymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem ffiaidd hon sy'n effeithio ar bobl o bob cymuned.

 

Rydym hefyd yn ymrwymo ymhellach i ddathlu a nodi ystod ehangach o ddinasyddion Abertawe o'r gorffennol ar ffurf placiau glas, cerfluniau neu gofebau parhaol eraill, i gynnwys rhagor o fenywod, BAME, pobl anabl, LGBT a phobl dosbarth gweithiol.

 

Rydym yn falch o'n statws fel Dinas Noddfa ac yn cydnabod bod hon yn broses barhaus i sicrhau bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir, yn teimlo fel eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu a'u cynnwys yn Abertawe. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau BAME i fynd i'r afael â'r materion ehangach sy'n ymwneud â chydraddoldeb, tegwch a chydlyniad cymdeithasol, a herio hiliaeth, ecsbloetio ac anoddefgarwch.

 

Felly, gofynnwn i'r cyngor gytuno i wneud y canlynol:

 

i)                Gweithredu, lle y bo'n bosib, i gael gwared ar enwau neu eitemau cyhoeddus sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;

 

ii)               Comisiynu adolygiad dyfnach o enwau lleoedd ac eitemau cyhoeddus a allai fod â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;

 

iii)             Datblygu adnoddau a gwybodaeth gywir am ein cysylltiadau â'r fasnach caethwasiaeth ac ecsbloetio fel rhan o stori hanes Abertawe i hysbysu ac addysgu preswylwyr ac ymwelwyr y ddinas yn well."

 

Cynigiodd y Cynghorydd P M Black ddiwygiad i'r cynnig a chafodd ei dderbyn gan y Cynghorwyr L S Gibbard a R C Stewart.  Daeth y cynnig diwygiedig canlynol yn gynnig annibynnol

 

"Mae Cyngor Abertawe’n sefyll mewn undod â chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Abertawe a gweddill y byd yn eu brwydr dros gyfiawnder yn wyneb hiliaeth yn ei holl ffurfiau.

 

Rydym yn cydnabod bod symbolau o orffennol trefedigol Prydain yn parhau i fod o'n cwmpas, ar ffurf cerfluniau, enwau strydoedd, adeiladau a'r celfyddydau. Mae gan rai o'r rhain gysylltiadau clir ag unigolion  a oedd yn ymwneud â masnach caethweision ac ecsbloetio pobl o liw, ac maent yn atgof poenus i bobl BAME o'u gorchfygiad hanesyddol a'u hanghydraddoldeb parhaus.

 

Drwy weithio gyda'n cymunedau BAME, rydym yn ymrwymedig i archwilio daearyddiaeth a sefydliadau Abertawe i asesu a oes angen tynnu, diwygio neu newid y ffordd rydym yn arddangos unrhyw enwau neu ddelweddau. Nid er mwyn dileu ein hanes, ond i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn ymwneud â dysgu o hanes a'i gyfleu mewn modd sensitif a pharchus. Rhaid gwneud gwaith i gyd-fynd â’r ymdrechion hyn i addysgu dinasyddion yn well ar hanes Abertawe, gan gynnwys ei rôl yn y fasnach caethweision, a’i le o fewn chwyldro diwydiannol y DU a gorffennol ymerodrol.

 

Rydym hefyd yn cydnabod bod caethwasiaeth fodern a mathau eraill o ecsbloetio yn dal i fod ledled y byd heddiw ac ar ein carreg ein drws ac mae angen i ni atgyfnerthu'n hymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem ffiaidd hon sy'n effeithio ar bobl o bob cymuned.

 

Rydym hefyd yn ymrwymo ymhellach i ddathlu a nodi ystod ehangach o ddinasyddion Abertawe o'r gorffennol ar ffurf placiau glas, cerfluniau neu gofebau parhaol eraill, i gynnwys rhagor o fenywod, BAME, pobl anabl, LGBT a phobl dosbarth gweithiol.

 

Rydym yn falch o'n statws fel Dinas Noddfa ac yn cydnabod bod hon yn broses barhaus i sicrhau bod pawb, ni waeth beth yw eu cefndir, yn teimlo fel eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu a'u cynnwys yn Abertawe. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau BAME i fynd i'r afael â'r materion ehangach sy'n ymwneud â chydraddoldeb, tegwch a chydlyniad cymdeithasol, a herio hiliaeth, ecsbloetio ac anoddefgarwch.

 

Felly, gofynnwn i'r cyngor gytuno i wneud y canlynol:

 

i)                Comisiynu adolygiad dyfnach o enwau lleoedd ac eitemau cyhoeddus a allai fod â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;

 

ii)              Datblygu adnoddau a gwybodaeth gywir am ein cysylltiadau â'r fasnach caethwasiaeth ac ecsbloetio fel rhan o stori hanes Abertawe i hysbysu ac addysgu preswylwyr ac ymwelwyr y ddinas yn well;”

 

iii)             Yn amodol ar yr adolygiad y cyfeirir ato yn y cynnig hwn, gweithredu, lle y bo'n bosib, i gael gwared ar enwau neu eitemau cyhoeddus sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth neu ecsploetiaeth;"

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

159.

Rhybudd o Gynnig:Masnachu ar y Sul. pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr C A Holley, S M Jones, M H Jones, E W Fitzgerald, P M Black, J W Jones, D G Sullivan, A M Day, L James, C L Philpott, K M Griffiths, L G Thomas, G D Walker, P N May ac I E Mann

 

"Mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn edrych ar ddadreoleiddio Cyfreithiau Masnachu ar y Sul ymhellach i ganiatáu i siopau mwy agor yn hirach ar ddydd Sul. Rydym yn galw ar y cyngor i gefnogi gweithwyr y sector manwerthu yn eu gwrthwynebiad i'r syniad hwn am y bydd yn effeithio ar eu hamser rhydd ac yn effeithio ar eu hiechyd a'u lles."

 

Cynigiodd y Cynghorydd M H Jones dynnu'r cynnig yn ôl am fod Llywodraeth y Ceidwadwyr wedi rhoi'r gorau i'w chynlluniau i orfodi newid deddfwriaethol.  Eiliwyd y cynnig i dynnu'r cynnig yn ôl gan y Cynghorydd C A Holley.

 

Penderfynwyd tynnu'r Rhybudd o Gynnig yn ôl.