Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

138.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

139.

Cofnodion. pdf eicon PDF 596 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020;

 

2)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2020.

140.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

141.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gwobr Genedlaethol StreetGames - Mai 2020

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod ganddo bleser cyhoeddi bod y Tîm Chwaraeon ac Iechyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer dau gategori Gwobrau Cenedlaethol StreetGames y DU.  Mae StreetGames yn annog pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli fel arweinwyr a hyfforddwyr yn eu cymunedau lleol.  Mae StreetGames Cymru'n ystyried Cyngor Abertawe fel un o'r awdurdodau arweiniol ar gyfer cyflwyno'r agenda hwn.

 

Enillodd prosiect Us Girls y categori "Ennyn diddordeb menywod a merched", gydag enillydd y Gemau Olympaidd, Beth Tweddle, yn cyhoeddi'r wobr yn fyw ar-lein.  Daeth Prosiect Ieuenctid Trefanseol yn ail yn y categori Hyrwyddo Cynaladwyedd.

 

Crëwyd prosiect Us Girls i dargedu merched mewn ardaloedd tlawd sy’n cymryd rhan mewn ychydig iawn o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn draddodiadol.Fe’i datblygwyd fel cysyniad gan StreetGames UK a’i gyflwyno'n lleol gan y Tîm Chwaraeon ac Iechyd, ac mae bellach yn cael ei ystyried fel yr enghraifft orau o frand Us Girls yn y DU a'r prosiect cyffredinol gorau ar gyfer ennyn diddordeb menywod a merched mewn gweithgareddau cadarnhaol drwy chwaraeon.

 

Cyflwynir prosiect Ieuenctid Trefansel mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr sydd bellach yn rhedeg y clwb yn annibynnol yn dilyn cefnogaeth gychwynnol y cyngor, ac mae'n cynnwys paratoi a bwyta bwyd iach yn ogystal â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.  Enillodd prosiect Ieuenctid Trefansel yr ail safle yn y Gwobrau Cenedlaethol.

 

Diolchodd i Jenna Thomas ac Yasmin Davies am eu gwaith gwych ar y prosiectau hyn a arweiniodd at y gwobrau hyn.

142.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Diwygiadau i Bortffolios y Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi gwneud diwygiadau i Bortffolios y Cabinet a ddaeth i rym o 28 Mai 2020.  Cylchredwyd taflen a oedd yn amlinellu'r newidiadau a chaiff y Portffolios newydd eu gosod yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Cylchredwyd y rhestr ddiwygiedig hon ar 2 Mehefin 2020 a chaiff Cyfansoddiad y Cyngor ei ddiweddaru'n unol â hyn.  Mae'r rhestr wedi'i diwygio ychydig fel a ganlyn:

 

Cymunedau Gwell

Ø    Ychwanegu "Cyflogadwyedd";

Ø    Ychwanegu "Abertawe'n Gweithio";

Ø    Ychwanegu "Dysgu Gydol Oes".

 

Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Ø    Ychwanegu “Cymuned/Cludiant Cyhoeddus

Ø    Ychwanegu "Cynnal a chadw parciau".

 

Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

Ø    Ychwanegu "Parciau a Datblygu Chwarae".

 

Mae Portffolios diwygiedig y Cabinet wedi'u hamlinellu isod:

 

Cynghorydd

Portffolio'r Cabinet

Rob C Stewart

Ø Arweinydd y Cyngor

Ø Economi, Cyllid a Strategaeth

Clive E Lloyd

Ø Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol

Alyson Pugh

Ø Cymunedau Gwell

Andrew H Stevens

Ø Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Sam Pritchard

Elliott J King

Ø Gwasanaethau Plant (Pobl Ifanc - Arweinydd)

Ø Gwasanaethau Plant (Y Blynyddoedd Cynnar - Arweinydd)

David H Hopkins

Ø Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor

Ø Cyflawni a Gweithrediadau

Jennifer A Raynor

Ø Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau

Mark Thomas

Ø Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Andrea S. Lewis

Ø Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor

Ø Cartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau

Robert Francis-Davies

Ø Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth

 

2)              Rhybudd o Gynnig ar gyfer Mentrau sy'n Seiliedig ar Garbon

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor wedi cytuno ar rybudd o gynnig mewn perthynas â Mentrau sy'n Seiliedig ar Garbon ar 24 Hydref 2019.  Fel rhan o'r cynnig, penderfynodd y cyngor y bydd adroddiad yn cael ei lunio o fewn 6 mis; fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19, nid yw hyn wedi bod yn bosib.

 

Nododd ei fod wedi codi'r mater gyda'r Cynghorydd C E Lloyd a'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid a chytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 4 Medi 2020.  Ymddiheurodd am yr oedi.

 

3)              Gwaith yn ystod pandemig COVID-19

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y gwaith wedi parhau yn ystod pandemig COVID-19.  Amlinellodd nifer o enghreifftiau o weithio gan gynnwys:

 

Ø    Yr arena;

Ø    Prosiectau adeiladu mawr yn datblygu;

Ø    Cannoedd o goed, llwyni a phlanhigion wedi'u plannu;

1)              Distyllfa wisgi Penderyn ar safle Gwaith Copr yr Hafod;

2)              Penseiri'n dylunio dyluniad/cynllun adeilad Theatr y Palas;

3)              Dod i gytundeb ar gyfer y gwaith o adfer Neuadd Albert;

4)              Mae'r gwaith ar Ffordd y Brenin bron wedi'i gwblhau a bydd yn dychwelyd i draffig dwyffordd yn fuan;

5)              Cyhoeddir rhagor o fanylion am Gam 2 Abertawe Ganolog yn fuan gyda chyhoeddiad mawr ynghylch miloedd o swyddi ar gyfer Abertawe;

6)              Cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer 71-72 Ffordd y Brenin.

 

4)              Diolch i staff/wirfoddolwyr am eu hymateb i COVID-19

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i staff, gwirfoddolwyr a gweithwyr Abertawe am eu gwaith diflino mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad yn deyrnged i breswylwyr Abertawe.

 

5)              Ailddechrau ysgolion

 

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor y broses ar gyfer ailddechrau ysgolion ar ddiwedd Mehefin 2020.

 

6)              Tracio ac olrhain

 

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor y gwaith a wnaed eisoes mewn perthynas â thracio ac olrhain.  Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

7)              George Floyd - Mewn undod ag ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys (BLM)

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei gydymdeimladau ar ran yr awdurdod mewn perthynas â marwolaeth ddiweddar George Floyd a mynegodd ein hundod ag ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys.  Nododd fod Abertawe'n Ddinas Noddfa ac y byddai Neuadd y Ddinas yn goleuo'n borffor nos Sadwrn i ddangos cefnogaeth.

143.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

144.

Penodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r broses o benodi a manylion rôl Cadet yr Arglwydd Faer a fydd yn dechrau yn mlwyddyn ddinesig 2020-2021.

145.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.  Ychwanegodd hefyd ddiwygiad pellach.

 

Dywedodd fod Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y newidiadau canlynol i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod:

 

i)                Panel Heddlu a Throseddu De Cymru

 

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu'r Cynghorydd W Evans.

 

ii)              Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin gynt)

 

Tynnu enw'r Cynghorydd M C Child.

Ychwanegu'r Cynghorydd C E Lloyd.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Tynnu enw'r Cynghorydd P M Black.

Ychwanegu'r Cynghorydd L James.

 

2)              Pwyllgor y Gronfa Bensiwn

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

Ychwanegu lle Llafur gwag.

 

3)              Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enwau'r Cynghorwyr M Durke ac M H Jones.

Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr P M Black a T M White.

 

4)              Bwrdd Pensiwn Lleol

Tynnu enw'r Cynghorydd T M White.

Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis.

 

Sylwer: yn dilyn y bleidlais, diolchodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i'r Cynghorydd M H Jones am ei gwaith fel Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu.

 

Diolchodd y Cynghorydd M H Jones iddynt am eu geiriau caredig.  Talodd deyrnged i'r gefnogaeth a gafwyd gan swyddogion a chynghorwyr yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd.

146.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 297 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

a)              Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - "Cylch gorchwyl" - "Panel Ariannu Allanol".

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dileu a thynnu "Panel Ariannu Allanol" o gylch gorchwyl Cyfansoddiad y Cyngor;

 

2)              Cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau canlyniadol.

147.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

1)        ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd dau (2) 'Gwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i'r Aelod Cabinet perthnasol:

 

"Oes modd darparu nodyn briffio i Gynghorwyr sy'n amlinellu'r trefniadau presennol ar gyfer edrych ar ôl y bobl ifanc hyn yn Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a amlinellwyd yn yr ymateb i bandemig COVID-19?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.