Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

120.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Rhoddwyd cyngor hefyd ynghylch  rhagderfyniad a rhagdueddiad.

 

Atgoffodd Gynghorwyr a Swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, M Durke, K M Griffiths, W G Lewis, P N May, A Pugh a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 127 “Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2021/22 - 2023/24”;

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr M Durke, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, K M Griffiths, M B Lewis, R D Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P N May, R V Smith a G D Walker gysylltiad personol â Chofnod Rhif 128 “Cyllideb Refeniw 2020/2021”;

 

Sylwer: Roedd y cynghorydd Chris Holley wedi derbyn goddefeb i aros, siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr P M Black, M Durke, K M Griffiths, W G Lewis, P N May a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 129 “Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20- 2024/25”;

 

4)              Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 130 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2020/21”;

 

5)              Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 131 "Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2023/24”;

 

6)              Datganodd y Cynghorwyr P N May ac C Richards gysylltiad personol â Chofnod Rhif 132 "Penderfyniadau i'w Gwneud yn Unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2020/2021"; 

 

7)              Datganodd y Cynghorwyr C A Holley a P N May gysylltiad personol â Chofnod Rhif 133 “Strategaeth Gyfalaf 2019/20- 2024/25”;

 

8)              Datganodd y Cynghorydd P N May gysylltiad personol â Chofnod Rhif 134 "Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus/Y Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2020/21";

 

9)              Datganodd y Cynghorwyr A M Day, C A Holley, K M Griffiths a P N May gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 135 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2020-2021";

 

10)          Datganodd y Cynghorwyr M C Child, J W Jones ac M H Jones gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 135 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2020-2021” a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

121.

Cofnodion. pdf eicon PDF 434 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020.

122.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

123.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

i)               Y Cyn-gynghorydd John Miles

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd John Miles. Bu'r Cyn-gynghorydd yn gwasanaethu wardiau etholiadol Tal-y-Bont a Phontarddulais am 17 o flynyddoedd. Bu'r Cyn-gynghorydd yn gwasanaethu

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe o 4 Mai 1995 tan 3 Mai 2012.

 

ii)              Haydn Tanner, gŵr y Cynghorydd Gloria Tanner

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Haydn Tanner, gŵr y Cynghorydd Gloria Tanner.  Bydd yr angladd am 12.30pm ar 11 Mawrth 2020 yn Amlosgfa Abertawe.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor

 

Dywedodd yr aelod, Llywyddol, o dan Bolisi "Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor" yr awdurdod (a fabwysiadwyd ar 24 Tachwedd 2011), ei fod wedi caniatáu criw ffilmio o Amazon News Media i ffilmio Cyfarfod y Cyngor.

 

 

 

3)              Y Cynghorydd Paulette B Smith

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol ddymuniadau gorau i'r Cynghorydd P B Smith ar gyfer ei llawdriniaeth heddiw ac am wellhad buan.

 

4)              Billy Evans, gŵr y Cynghorydd V Mandy Evans

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol ddymuniadau gorau i Billy Evans, gŵr y Cynghorydd V M Evans, yn ystod ei gyfnod o salwch.

 

5)              Great British Market Awards 2020

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Marchnad Dan Do Abertawe wedi derbyn gwobr y Marchnad Dan Do Orau yn y 'Great British Market Awards' 2020.  Mae'r gwobrau a gynhelir gan y Gymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnad (NAMBA) yn helpu i ddathlu a hyrwyddo'r marchnadoedd rhagorol ar hyd ac ar led Prydain.

 

Diolchodd i Lisa Wells a Thîm Rheoli Canol y Ddinas am eu hymdrechion gyda Marchnad Dan Do Abertawe.

 

6)              Diwrnod Rhyngwladol y Merched, 8 Mawrth 2020

 

Croesawodd yr Aelod Llywyddol y ffaith bod cynifer o Gynghorwyr yn gwisgo rhywbeth porffor heddiw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, sef 8 Mawrth 2020. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn d i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

 

7)              Adolygiad o'r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad argymhellion terfynol mewn perthynas â'i adolygiad o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ar 3 Mawrth 2020. Mae cyfnod o 6 wythnos bellach unrhyw un gyflwyno sylwadau. Dylid e-bostio sylwadau i'r Tîm Democratiaeth Llywodraeth Lleol yn lgdtmailbox@gov.wales

 

Mae'r argymhellion terfynol ar gael yn www.ldbc.gov.wales

 

Dywedodd, os bydd gan gynghorwyr unrhyw gwestiynau am yr argymhellion terfynol, y dylent gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

8)              Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i Byron Lewis, a'i longyfarch. am ei waith fel Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, 2008-2020. Ymddeolodd Byron Lewis o rôl Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ar 14 Chwefror 2020.

 

Bydd Louise Fleet, Cyn-uchel Siryf ar gyfer Gorllewin Morgannwg (2017-2018) a chyn-weithiwr yr awdurdod hwn yn ymgymryd â rôl Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ar 16 Mawrth 2020.  Mae Louise yn Ynad Heddwch, ac fe'i penodwyd i fainc Abertawe ym 1993.  Mae gan Louise gefndir ehagach sylweddol, gan gynnwys nifer o rolau arweinyddiaeth ac mae hi wedi ymddeol yn ddiweddar o'i huwch-rôl yn Swyddfa Archwilio Cymru fel Arbenigwr Perfformiad.

 

Llongyfarchodd Louise ar ei rôl sydd ar ddod fel Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg.

 

9)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)               Eitem 9 "Cyllideb Refeniw 2020-21”

Tudalen 40, Argymhellion 1 a 2  Dileu'r cyfeiriad i “2019/20” yn y ddau argymhelliad a rhoi “2020/21” yn eu lle.

 

ii)             Eitem 13 "Penderfyniad Statudol - Penderfyniadau i'w Gwneud yn Unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2020/2021”

Tudalen 152, Argymhelliad (5)  Dileu'r cyfeiriad i "Pengelli a Waugron" a rhoi "Pengelli a Waungron" yn ei le.

124.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Cefnogaeth ariannol i breswylwyr/fusnesau Abertawe y difrodwyd eu heiddo gan lifogydd

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor swyddogion yr awdurdod a'r Cynghorydd Mark Thomas (Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd) am eu gwaith rhagorol yn ystod y llifogydd diweddar a gafwyd yn Abertawe.

 

Dywedodd fod y cyngor eisoes wedi darparu cymorth i oddeutu 35 o breswylwyr yr oedd angen cymorth arnynt i gyflwyno ceisiadau am daliadau cymorth mewn argyfwng Llywodraeth Cymru i bobl y difrodwyd eu cartrefi gan stormydd diweddar.

 

Roedd wedi penderfynu dyfarnu cymorth ariannol ychwanegol drwy ddefnyddio disgresiwn y cyngor o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i leihau Treth y Cyngor net sy'n daladwy ar gyfer cartrefi a ddioddefodd lifogydd o ganlyniad i stormydd diweddar i ddim, am gyfnod o chwe mis o ddyddiad y llifogydd. Mae'n bosib y bydd gan breswylwyr a ddioddefodd cymaint o lifogydd yn eu cartrefi y bu'n rhaid iddynt symud oddi yno hawl i gael eithriad llwyr o Dreth y Cyngor nes iddynt symud yn ôl am gyfnod o hyd at 12 mis.  Dylai pobl yn y sefyllfa honno gysylltu ag Is-adran Treth y Cyngor neu eu cynghorydd lleol.

 

Mae darpariaeth debyg yn bodoli ar gyfer eiddo busnes i helpu'r rheini yr oedd y llifogydd wedi effeithio arnynt. O dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae gan awdurdodau bwerau i roi cymorth grant o hyd at 100% i drethdalwr sy'n profi caledi os byddai'r trethdalwr hwnnw'n dioddef caledi pe na bai'r awdurdod yn dyfarnu cymorth, ac y mae'n rhesymol i'r awdurdod wneud hynny, gan ystyried buddion trethdalwyr lleol.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald i'r holl wybodaeth berthnasol am arian sydd ar gael i'r rheini y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt gael ei dosbarthu i bob cynghorydd.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai'n dosbarthu gwybodaeth i bob Cynghorydd.

 

2)              Coronafeirws

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad am coronafeirws gan dawelu meddyliau cynghorwyr drwy ddweud bod yr awdurdod yn gweithio'n agos gyda phob asiantaeth berthnasol.

 

3)              Lansio Adfywio Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd digwyddiad lansio Adfywio Abertawe ar 4 Mawrth 2020.  Roedd y digwyddiad yn gyfle i'r awdurdod amlinellu ei syniadau i fuddsoddwyr a datblygwyr.  Roedd yn ceisio ailddatblygu saith safle, gwaith gwerth £1 biliwn, ar ben prosiectau sydd eisoes yn bod, er mwyn gwneud Abertawe'n fwy o ddinas ar gyfer yr 21ain ganrif.

 

4)               Cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, AS, ac wedi amlygu prosiectau allweddol Abertawe.

125.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.  Rhestrir y cwestiynau y mae angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Gofynnwyd cwestiwn gan Susie Jewell mewn perthynas â Chofnod 37 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 12:

 

a)              "Faint o'r gyllideb gwerth £55miliwn o bunnoedd ar gyfer y ganolfan ragoriaeth mewn technoleg ddigidol yn Abertawe sydd wedi'i glustnodi ar gyfer casglu, coladu ac archwilio data diogelwch amgylcheddol dynol? Sut mae'r cyngor yn cael mynediad at yr wybodaeth hon?

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Sylwer: Atgoffodd Arweinydd y Cyngor Ms Jewell o'r cynnig i gwrdd a wnaed ganddo yng nghyfarfod y cyngor ar 26 Tachwedd 2019 er mwyn trafod 5G.  Ailadroddodd y cynnig gan ddweud y byddai e-bost atgoffa yn dilyn hyn.

126.

Technical Budget Presentation

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyflwyniad technegol am yr adroddiadau cyllidebol canlynol:

 

i)          Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2021/22 i 2023/24;

ii)         Cyllideb Refeniw 2020-2021;

iii)        Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20-2024/25;

iv)       Cyllideb Refeniw Cyfrif Refeniw Tai 2020/21;

v)        Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 - 2023/24;

vi)       Strategaeth Gyfalaf 2019/20 - 2024/25;

iv)       Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus/Dangosyddion y Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2020/21.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i'r Swyddog Adran 151.  Ymatebodd y Swyddog Adran 151 yn unol â hyn.

 

Yn dilyn cwestiynau technegol, rhoddodd yr Arweinydd drosolwg gwleidyddol cyffredinol o'r sefyllfa gyllidebol ac yna cafwyd cyflwyniad gwleidyddol am yr adroddiadau cyllidebol y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau i Arweinydd y Cyngor.  Ymatebodd yr Arweinydd ac Aelodau Cabinet perthnasol yn unol â hyn.

127.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2021/22 - 2023/24. pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021/22 i 2023/24 fel sail am gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd  C A Holley i’r Swyddog Adran 151 am ragor o wybodaeth ynghylch y Model Buddsoddi Cydfuddiannol y cyfeiriwyd ato ym Mharagraff 2.11 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

128.

Cyllideb Refeniw 2020/2021. pdf eicon PDF 941 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Adran 151 fod y Cynghorwyr C A Holley, E W Fitzgerald, J W Jones ac M H Jones wedi cyflwyno diwygiad i'r gyllideb.

 

Addasiad

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd C A Holley.  Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd E W Fitzgerald.  Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

“1)       Bydd £1m o weddill y gronfa wrth gefn a ragwelir fel alldro ei gadw'n ôl ar ddiwedd blwyddyn 2019-20 a'i drosglwyddo i'r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol ar yr alldro diwedd blwyddyn ac yn y Datganiad o Gyfrifol; gan sicrhau felly bod yr effaith gyffredinol ar weddill y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol yn cael ei gwrthbwyso dros y ddwy flynedd;

 

2)              O ganlyniad, bydd gofyniad y gyllideb yn cael  ei leihau £1m o ganlyniad i dynnu £1m o'r i Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol a chaiff y cynigion cyllidebol sylfaen ar gyfer 2020-21, sef cyfanswm o £260,000 eu tynnu hefyd:

 

Ø  

Arian ar gyfer Hawliau Dynol

£50,000

Ø  

Cronfa Cynnwys y Gymuned

£60,000

Ø  

Wi-Fi am ddim mewn ardaloedd masnachol

£50,000

Ø  

Arian ychwanegol ar gyfer Trawsnewidiad Digidol

£100,000

 

3)              Lleihau'r cyfanswm angenrheidiol ar gyfer yr gofyniad y gyllideb ar gyfer 2020-21 £1,260,000;

 

4)              Bydd y cyfanswm ariannu sy'n ofynnol ar gyfer 2020-21 yn cael ei leihau gan £1,260,000 cyfatebol drwy leihau'r cyfanswm a godwyd gan Dreth y Cyngor gan swm cyfatebol;

 

5)              Diwygio Treth y Cyngor Band D ar gyfer 2020-21 a'r holl gyfrifiadau Treth y Cyngor dilynol ar gyfer y Penderfyniad Statudol er mwyn cael Treth y Cyngor o £1,392.62 ar gyfer Band D yn lle hynny, sy'n cynrychioli cynnydd o 3.56%.”

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd pleidleisio ar y mater. Ni chefnogwyd y diwygiad ac ni ddaeth yn rhan o'r brif argymhelliad.

 

Dechreuodd y ddadl ar y gyllideb wreiddiol fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo Cyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 fel y nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

129.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20- 2024/25. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2020/21 - 2024/25.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              1) Cymeradwyo'r Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019/20 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2020/21 - 2024/25 fel a fanylir yn Atodiadau A, B, C, D, E ac F yr adroddiad.

130.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2020/21. pdf eicon PDF 574 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cynyddu rhenti'n unol â pholisi rhent dros dro Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r ffioedd, y taliadau a'r lwfansau fel yr amlinellwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

 

3)              Cymeradwyo'r cynigion cyllideb refeniw fel y nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

131.

Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20 - 2023/24. pdf eicon PDF 731 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019/20 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21 a 2023/24.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2019/20;

 

2)              Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2020/21 - 2023/24;

 

3)              Lle caiff cynlluniau unigol yn Atodiad B eu rhaglenni dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, caiff y rhain eu neilltuo a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald am ddadansoddiad llawn o gostau uned a safle sy'n gysylltiedig â'r strategaeth Rhagor o Gartrefi. Nododd y Cynghorydd A S Lewis y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

132.

Penderfyniad statudol - dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r rheoliadau wrth bennu Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21. pdf eicon PDF 322 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu nifer o benderfyniadau statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)  Nodi a mabwysiadu'r penderfyniadau statudol fel y'u hamlinellwyd;

 

2)        Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2019, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2020-2021 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)    91,923 oedd y swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn;

 

b)    Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,986

Clydach

2,661

Gorseinon

3,319

Tre-gŵyr

1,972

Pengelli a Waungron

426

Llanilltud Gŵyr

327

Cilâ

2,148

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

508

Llangyfelach

947

Llanrhidian Uchaf

1,626

Llanrhidian Isaf

341

Llwchwr

3,446

Mawr

762

Y Mwmbwls

9,822

Penllergaer

1,437

Pennard

1,482

Pen-rhys

426

Pontarddulais

2,340

Pontlliw and Thircoed

1,039

Porth Einon

433

Reynoldston

300

Rhosili

190

Y Crwys

715

Cilâ Uchaf

589

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

3)        Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo bellach gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2020-2021 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)           £754,648,943 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) y Ddeddf;

 

(b)           £284,811,933 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) y Ddeddf;

 

(c)            £469,837,010 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn;

 

(ch)     £338,980,555 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol;

 

(d)           £1,423.54 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn;

 

(dd)        £1,582,010 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf;

 

(e)           £1,406.33 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

(f)             Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,432.51

Clydach

1,449.74

Gorseinon

1,444.33

Tre-gŵyr

1,423.50

Pengelli a Waungron

1,423.94

Llanilltud Gŵyr

1,421.33

Cilâ

1,415.64

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,421.88

Llangyfelach

1,431.67

Llanrhidian Uchaf

1,487.88

Llanrhidian Isaf

1,414.13

Llwchwr

1,431.83

Mawr

1,492.94

Y Mwmbwls

1,464.32

Penllergaer

1,414.68

Pennard

1,461.74

Pen-rhys

1,433.85

Pontarddulais

1,455.94

Pontlliw and Thircoed

1,433.07

Porth Einon

1,420.19

Reynoldston

1,448.00

Rhosili

1,423.70

Y Crwys

1,448.57

Cilâ Uchaf

1,438.59

 

dyma'r symiau a roddwyd trwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a nodwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34 (3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(ff)     Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

955.00

1,114.17

1,273.34

1,432.51

1,750.85

2,069.19

2,387.51

2,865.02

3,342.53

Clydach

966.49

1,127.57

1,288.66

1,449.74

1,771.91

2,094.07

2,416.23

2,899.48

3,382.73

Gorseinon

962.88

1,123.37

1,283.85

1,444.33

1,765.29

2,086.26

2,407.21

2,888.66

3,370.11

Tre-gŵyr

949.00

1,107.16

1,265.33

1,423.50

1,739.84

2,056.17

2,372.50

2,847.00

3,321.50

Pengelli a Waungron

949.29

1,107.51

1,265.72

1,423.94

1,740.37

2,056.81

2,373.23

2,847.88

3,322.53

Llanilltud Gŵyr

947.55

1,105.48

1,263.40

1,421.33

1,737.18

2,053.04

2,368.88

2,842.66

3,316.44

Cilâ

943.76

1,101.05

1,258.35

1,415.64

1,730.23

2,044.82

2,359.40

2,831.28

3,303.16

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

947.92

1,105.90

1,263.89

1,421.88

1,737.86

2,053.83

2,369.80

2,843.76

3,317.72

Llangyfelach

954.44

1,113.52

1,272.59

1,431.67

1,749.82

2,067.97

2,386.11

2,863.34

3,340.57

Llanrhidian Uchaf

991.92

1,157.24

1,322.56

1,487.88

1,818.52

2,149.16

2,479.80

2,975.76

3,471.72

Llanrhidian Isaf

943.42

1,100.65

1,257.89

1,415.13

1,729.61

2,044.08

2,358.55

2,830.26

3,301.97

Llwchwr

954.55

1,113.64

1,272.74

1,431.83

1,750.02

2,068.20

2,386.38

2,863.66

3,340.94

Mawr

995.29

1,161.17

1,327.06

1,492.94

1,824.71

2,156.47

2,488.23

2,985.88

3,483.53

Y Mwmbwls

976.21

1,138.91

1,301.62

1,464.32

1,789.73

2,115.13

2,440.53

2,928.64

3,416.75

Penllergaer

943.12

1,100.30

1,257.49

1,414.68

1,729.06

2,043.43

2,357.80

2,829.36

3,300.92

Pennard

974.49

1,136.91

1,299.32

1,461.74

1,786.57

2,111.41

2,436.23

2,923.48

3,410.73

Pen-rhys

955.90

1,115.21

1,274.53

1,433.85

1,752.49

2,071.12

2,389.75

2,867.70

3,345.65

Pontarddulais

970.62

1,132.40

1,294.17

1,455.94

1,779.48

2,103.03

2,426.56

2,911.88

3,397.20

Pontlliw and Thircoed

962.04

1,122.39

1,282.73

1,443.07

1,763.75

2,084.44

2,405.11

2,886.14

3,367.17

Porth Einon

946.79

1,104.59

1,262.39

1,420.19

1,735.79

2,051.39

2,366.98

2,840.38

3,313.78

Reynoldston

965.33

1,126.22

1,287.11

1,448.00

1,769.78

2,091.56

2,413.33

2,896.00

3,378.67

Rhosili

949.13

1,107.32

1,265.51

1,423.70

1,740.08

2,056.46

2,372.83

2,847.40

3,321.97

Y Crwys

965.71

1,126.66

1,287.62

1,448.57

1,770.48

2,092.38

2,414.28

2,897.14

3,380.00

Cilâ Uchaf

959.06

1,118.90

1,278.75

1,438.59

1,758.28

2,077.97

2,397.65

2,877.18

3,356.71

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

937.55

1,093.81

1,250.07

1,406.33

1,718.85

2,031.37

2,343.88

2,812.66

3,281.44

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(e) a (3)(f) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand CH a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)        Dylid nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2020-2021 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

181.81

212.11

242.41

272.72

333.32

393.92

454.53

545.43

636.34

 

5)        Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(I) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2020-21 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,136.81

1,326.28

1,515.75

1,705.23

2,084.17

2,463.11

2,842.04

3,410.45

3,978.87

Clydach

1,148.30

1,339.68

1,531.07

1,722.46

2,105.23

2,487.99

2,870.76

3,444.91

4,019.07

Gorseinon

1,144.69

1,335.48

1,526.26

1,717.05

2,098.61

2,480.18

2,861.74

3,434.09

4,006.45

Tre-gŵyr

1,130.81

1,319.27

1,507.74

1,696.22

2,073.16

2,450.09

2,827.03

3,392.43

3,957.84

Pengelli a Waungron

1,131.10

1,319.62

1,508.13

1,696.66

2,073.69

2,450.73

2,827.76

3,393.31

3,958.87

Llanilltud Gŵyr

1,129.36

1,317.59

1,505.81

1,694.05

2,070.50

2,446.96

2,823.41

3,388.09

3,952.78

Cilâ

1,125.57

1,313.16

1,500.76

1,688.36

2,063.55

2,438.74

2,813.93

3,376.71

3,939.50

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,129.73

1,318.01

1,506.30

1,694.60

2,071.18

2,447.75

2,824.33

3,389.19

3,954.06

Llangyfelach

1,136.25

1,325.63

1,515.00

1,704.39

2,083.14

2,461.89

2,840.64

3,408.77

3,976.91

Llanrhidian Uchaf

1,173.73

 

1,369.35

 

1,564.97

 

1,760.60

 

2,151.84

 

2,543.08

 

2,934.33

 

3,521.19

 

4,108.06

 

Llanrhidian Isaf

1,125.23

1,312.76

1,500.30

1,687.85

2,062.93

2,438.00

2,813.08

3,375.69

3,938.31

Llwchwr

1,136.36

1,325.75

1,515.15

1,704.55

2,083.34

2,462.12

2,840.91

3,409.09

3,977.28

Mawr

1,177.10

1,373.28

1,569.47

1,765.66

2,158.03

2,550.39

2,942.76

3,531.31

4,119.87

Y Mwmbwls

1,158.02

1,351.02

1,544.03

1,737.04

2,123.05

2,509.05

2,895.06

3,474.07

4,053.09

Penllergaer

1,124.93

1,312.41

1,499.90

1,687.40

2,062.38

2,437.35

2,812.33

3,374.79

3,937.26

Pennard

1,156.30

1,349.02

1,541.73

1,734.46

2,119.89

2,505.33

2,890.76

3,468.91

4,047.07

Pen-rhys

1,137.71

1,327.32

1,516.94

1,706.57

2,085.81

2,465.04

2,844.28

3,413.13

3,981.99

Pontarddulais

1,152.43

1,344.51

1,536.58

1,728.66

2,112.80

2,496.95

2,881.09

3,457.31

4,033.54

Pontlliw

1,143.85

1,334.50

1,525.14

1,715.79

2,097.07

2,478.36

2,859.64

3,431.57

4,003.51

Porth Einon

1,128.60

1,316.70

1,504.80

1,692.91

2,069.11

2,445.31

2,821.51

3,385.81

3,950.12

Reynoldston

1,147.14

1,338.33

1,529.52

1,720.72

2,103.10

2,485.48

2,867.86

3,441.43

4,015.01

Rhosili

1,130.94

1,319.43

1,507.92

1,696.42

2,073.40

2,450.38

2,827.36

3,392.83

3,958.31

Y Crwys

1,147.52

1,338.77

1,530.03

1,721.29

2,103.80

2,486.30

2,868.81

3,442.57

4,016.34

Cilâ Uchaf

1,140.87

1,331.01

1,521.16

1,711.31

2,091.60

2,471.89

2,852.18

3,422.61

3,993.05

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,119.36

1,305.92

1,492.48

1,679.05

2,052.17

2,425.29

2,798.41

3,358.09

3,917.78

 

133.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21- 2025/26. pdf eicon PDF 845 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio'r Rhaglen Gyfalaf bedair blynedd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf.

134.

Datganiad strategaeth rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion darbodus/Trysorlys, strategaeth fuddsoddi Datganiad polisi ar y ddarpariaeth isafswm refeniw 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn argymell Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2020-21.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad);

 

2)              Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad);

 

3)              Cymeradwyo Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) (Adran 9 yr adroddiad).

135.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2020-2021. pdf eicon PDF 447 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2020-2021 er mwyn caniatáu i drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaen.

 

Atgoffodd y Cynghorwyr fod gan nifer o Gynghorwyr yr un hyd gwasanaeth yn union, ac yn unol â phrotocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi bwrw coelbren ar 20 Medi 2018 er mwyn sefydlu trefn Cyfnod y Swydd ar gyfer y pedwar Cynghorydd.  O ganlyniad i fwrw coelbren, ystyriwyd y Cynghorwyr yn y drefn ganlynol; Y Cynghorwyr M C Child, M H Jones, A M Day ac L G Thomas.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)        Enwebu'r Cynghorydd Mark C Child yn Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2020-2021;

 

2)        Enwebu'r Cynghorydd Mary H Jones yn Ddarpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2020-2021.

136.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

137.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 355 KB

Cofnodion:

1)        ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd tair ar ddeg o (13) 'Gwestiynau Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.