Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol.

32.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Catherine Zeta-Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019 lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.

 

Ganed Catherine Zeta-Jones yn Abertawe a dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May'.

 

Enillodd Catherine Wobr yr Academi am ei phortread o Velma Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau  cerdd Broadway, Chicago.  Fe'i henwebwyd hefyd am wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid, Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei pherfformiad.

 

Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau.  Yn 2010, dyfarnwyd Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i'r diwydiant ffilm ac elusennau.

 

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Catherine Zeta-Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddi.

 

Ymatebodd Catherine Zeta-Jones drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.