Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

110.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog cyfreithiol gyngor ar y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan y Cynghorwyr/Swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y Cynghorydd/Swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni gwag. Hysbyswyd Cynghorwyr a Swyddogion hefyd fod yn rhaid i unrhyw fudd i'w ddatgan gael ei wneud ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Datganwyd y buddiannau canlynol, yn unol â ’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr H M Morris a B J Rowlands gysylltiad personol â Chofnod Rhif 117 “Mabwysiadu Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor”.

111.

Cofnodion. pdf eicon PDF 375 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi'r cofnodion canlynol fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2019.

 

112.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

113.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

i)               Y Cynghorydd Sybil Crouch

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch. Bu'r Cynghorydd Crouch yn gwasanaethu Ward Etholiadol y Castell am bron wyth mlynedd.  Roedd y Cynghorydd Crouch yn Arglwydd Faeres pan roedd ei gŵr, y Cynghorydd David Phillips, yn Arglwydd Faer 2018-2019.  Roedd hi hefyd yn gyn-aelod o'r Cabinet ac yn Gadeirydd Pwyllgor.  Bu'r Cynghorydd Crouch yn gwasanaethu:

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe o 3 Mai 2012 i 5 Ionawr 2020.

 

Roedd y Cynghorydd Crouch yn adnabyddus ledled cymru am ei rôl fel cyn-Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â'i gwaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, sydd wedi dod yn brif ganolfan perfformiad  ar gyfer cerddoriaeth, theatr a dawns.

 

Yn 2008, cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Merch Gymreig y Flwyddyn y Western Mail i ferched sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol wrth hyrwyddo democratiaeth.

 

ii)              Y cyn-Gynghorydd Derek James

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Derek James. Bu'r Cynghorydd James yn gwasanaethu Ward Etholiadol Uplands am 5 mlynedd ac roedd yn dad i Julie James, AC. Bu'r Cynghorydd James yn gwasanaethu

 

Ø    Dinas a Sir Abertawe o 6 Mai i 10 Mehefin 2004.

 

iii)            Y cyn-Gynghorydd Ioan Stock

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-Gynghorydd Sirol Gorllewin Morgannwg, Ioan Stock. Bu'r cyn-gynghorydd yn gwasanaethu bro Gŵyr ac mae'n dad yn nghyfraith i'r Cynghorydd Mark Thomas.

 

iv)            Y cyn-Gynghorydd Tom Hilton

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-Gynghorydd Dinas Abertawe,Tom Hilton. Bu'r Cynghorydd Hilton yn gwasanaethu wardiau'r Castell a Glandŵr

 

v)              Ann Evans, chwaer y Cynghorydd Chris Holley

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Ann Evans, chwaer y Cynghorydd Chris Holley. Roedd Ann Evans hefyd yn swyddog y cyngor gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

vi)            Hazel Morgan, Gwraig y cyn-Gynghorydd Keith Morgan

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Hazel Morgan, gwraig y Cynghorydd Keith Morgan.

 

vii)      Y cyn-Gynghorydd John Bushell

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Dinas Abertawe a chyn-Gynghorydd Dinas a Sir Abertawe, John Bushell. Bu'r cyn-Gynghorydd yn gwasanaethu Ward Etholiadol Fairwood.

 

viii)     Margaret Hill, mam Sarah Lackenby

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Margaret Hil, mam Sarah Lackenby.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol i ddangos eu cydymdeimlad a'u parch.

 

2)              Tîm Cyllid Cleientiaid y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei fod wrth ei fodd i ddatgan bod yr archwiliad gan Swyddfa'r Gwarchodwr Cyhoeddus yn nodi bod 'Tîm Cyllid Cleientiaid y Gwasanaethau Cymdeithasol' "yn dîm sy'n creu argraff; roedd y gwasanaeth a ddarparwyd yn rhagorol; maen nhw'n rhoi lles pennaf eu cleientiaid yn gyntaf ac roedd ganddynt systemau a gweithwyr achos gwych".

 

Mae hwn yn archwiliad rhagorol o'r modd y mae'r awdurdod yn ymdrin â chyfrifoldebau Gwarchodaeth nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

 

3)              Arwyr y Faner Werdd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y cyflwynir cynllun Gwobr y Faner Werdd gan Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r wobr yn ymwneud â chysylltu pobl â'i gilydd gyda'r parciau a mannau gwyrdd gorau.  Mae'n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y DU a'r tu hwnt.  Lle bynnag y gwelwch chi Faner Werdd, rydych chi'n gwybod eich bod yn ymweld â lle eithriadol â'r safonau gorau.  Gall amgylchedd o safon gael effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a'n lles a'r economi.

 

Roedd wrth ei fodd i gyhoeddi bod Jeff Walton o Ardd Fwyd Gymunedol Llyn Golchi Cyfeillion Mayhill (a Hillside) yn un o'r ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn.

 

4)              50 mlwyddiant Abertawe fel dinas – Beiblau Sefydliad The Gideons International

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i Jeff Bowen o sefydliad ‘The Gideons Internationa’ am ddarparu copïau o'r Testament Newydd a'r Salmau i bob Cynghorydd ac eraill yng nghyfarfod y cyngor i gofio am 50 mlwyddiant Abertawe fel dinas.

 

5)        Santes Dwynwen

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol ei bod hi'n Ddydd Santes Dwynwen ddydd Sadwrn (25-01-2019)  Santes Dwynwen yw nawddsant Celtaidd cyfeillgarwch a chariad Cymru. Mae poblogrwydd Dydd Santes Dwynwen a'r nifer sy'n ei ddathlu wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar. Cofiwch ddweud wrth eich partner eich bod yn ei garu/charu.

 

6)        Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

 

Dinasyddion Abertawe a wobrwywyd yn rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

a) Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)                Andrew James Falvey.  Cyfarwyddwr Masnachol, Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Am wasanaethau i drafnidiaeth (Gorllewin Morgannwg).

 

b)        Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)                Susan Ann Croall.  Am wasanaethau i gerddoriaeth yn Abertawe.

 

c)        Medal Heddlu'r Frenhines (QPM)

 

i)                Richard John Lewis. Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu De Cymru

 

ii)              Cwnstable Bharat Kumar Narbad. Heddlu De Cymru.

 

7)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â Chofnod Rhif 118 "Aelodaeth o Bwyllgorau" a bod Atodiad A o Wŷs y Cyngor a welir ar dudalennau 35 i 61, yn cyfeirio at Gwestiwn 2 Cwestiynau'r Cynghorwyr.

114.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

i)               Cydymdeimladau

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch a thalodd deyrnged i'w gwaith fel cynghorydd.

 

Adleisiodd y teimladau a rannwyd yn flaenorol gan yr Aelod Llywyddol mewn perthynas â'r holl gydymdeimladau a dderbyniwyd yng nghyfarfod y cyngor.

 

ii)              Etholiad Seneddol - 12 Rhagfyr 2019

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Tonia Antoniazzi (Etholaeth Gŵyr), Carolyn Harris (Etholaeth Dwyrain Abertawe) a Geraint Davies (Etholaeth Gorllewin Abertawe) am lwydo i ddychwelyd fel Aelodau Seneddol yn dilyn yr Etholiad Seneddol ar 12 Rhagfyr 2019.

 

iii)            Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi cael ei benodi. Dywedodd hefyd fod y £18miliwn cyntaf wedi cael ei dderbyn.

 

iv)            Menter y Sied Dynion

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ei gyhoeddiad yng nghyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2019 mewn perthynas â Menter y Sied Dynion a'r ffaith bod cronfa o £25,000 wedi'i sefydlu â'r nod o gefnogi'r fenter.

 

Dywedodd fod cais wedi'i dderbyn oddi wrth Ward Etholiadol Penderi a'r gobaith oedd mai'r ward hon fyddai'r cyntaf i elwa o grant o'r gronfa.

115.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnodd David Davies gwestiwn mewn perthynas 6 Chofnod Rhif 119 "Cwestiynau Cynghorwyr" - Cwestiwn 5:

 

i)                "A fyddai cystadleuaeth ar draws Abertawe yn briodol lle gallai pob ysgol enwebu ei Darllenwr y Flwyddyn, bachgen a merch, ac ymddangos gerbron panel a drefnir gan y cyngor a fyddai'n beirniadu'r enillwyr ac yn cyflwyno cwpan iddyn nhw a'r ysgol. Efallai gallai ein Gweinidog Addysg ddewis llyfr arbennig i'r cystadleuwyr ei ddarllen ac yna asesu eu gwerthfawrogiad beirniadol ohono a'u dychymyg.

 

Cymru yw gwlad y beirdd ac efallai bydd y gystadleuaeth hon yn ysbrydoli ysgrifenwyr posib y dyfodol. Mae gan Gaerdydd gystadleuaeth Canwr y Byd, gadewch i Abertawe gael Darllenwr y Flwyddyn."

 

Croesawyd yr awgrym gan Aelod y Cabinet dros Wella, Dysgu a Sgiliau gan ddweud y darperir ymateb ysgrifenedig.

116.

Cyflwyniad - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau.

117.

Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth Y Cyngor. pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2019.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ('Rheoliadau'r Gofynion Rhagnodedig') a luniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd;

 

2)              Nodi'r diwygiadau i "Reoliadau'r Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018, a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan CCC ar 7 Ionawr 2020;

 

3)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a ymgymerwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd disgresiynol y cynllun cyfredol;

 

4)              Y bydd y cynllun presennol (2019/2020) mewn perthynas â'r meysydd disgresiynol (fel y'u nodir yn Adran 3 yr adroddiad) yn aros yn ddigyfnewid 2020/2021;

 

5)              Y bydd y cynllun fel y'i nodir yn Adran 3 yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu ac yr adlewyrchir unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wnaed gan CCC yn y cynllun.

118.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth Cyrff y Cyngor. Dywedodd fod adroddiad diweddaredig wedi'i ddosbarthu.

 

Dywedodd fod Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y newidiadau canlynol i Gyrff Allanol yr awdurdod:

 

i)                Cyrff Allanol - Cymdeithas Cominwyr Gŵyr

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd hawl gan y cyngor mwyach i gael cynrychiolydd ar Gymdeithas Cominwyr Gŵyr. Tynnwyd enw'r Cynghorydd A H Stevens felly a dileodd y Gymdeithas ei enw o'r rhestr o gyrff allanol.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth o Gyrff y Cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enw'r Cynghorydd H M Morris.

Ychwanegu'r Cynghorydd L V Walton.

 

2)              Panel Derbyniadau

Lleihau maint y panel o 5 i 3 aelod.

Yr aelodau newydd fydd y Cynghorydd J P Curtice, A M Day ac R V Smith.

119.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd yr Aelod perthnasol o'r Cabinet trwy gyfrwng ymatebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs yn Cyngor.

 

Rhestrir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet;

 

"Dangosir 574 o sefydliadau yn yr Atodiad sy'n gysylltiedig â'r cwestiwn hwn.

 

i)                A yw'r sefydliadau o fewn Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor yn rhannu'r wybodaeth a gesglir?

 

ii)              Caiff £6,243.93 ei gasglu oddi wrth Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor ar gyfer 2019-2020. A yw Aelod y Cabinet yn credu bod y cyngor yn cael gwerth ei arian ac yn derbyn ei gyfran deg?

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 10

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai yn y dyfodol yn dod ag adroddiad ar ymgysylltu â'r sawl sy'n cysgu allan, ac effaith Tai'n Gyntaf.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'Cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar ei gyfer' Rhan B.