Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd
y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion
ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r
daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol"
os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen
dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a
swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y
daflen. Yn
unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J A Hale, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, R
V Smith a T M White gysylltiad personol â Chofnod 104 “Cyfrifo Sylfaen Treth y
Cyngor 2020/2021"; 2) Datganodd y
Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw, M C Child, N J Davies, A M Day, C R
Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J
Hennegan, C A Holley, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J
W Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, C E
Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, C L Philpott, S Pritchard, A
Pugh, J A Raynor, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, M Sykes, D W W
Thomas, M
Thomas, W G Thomas, L Tyler-Lloyd, L V Walton, G D Walker a T M White
gysylltiad personol â Chofnod 106 “Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol Adroddiad Blynyddol Drafft 2020-2021 - Ymgynghoriad". 3) Datganodd y Cynghorydd N J Davies
gysylltiad personol â Chofnod 108 “Ad-dalu Costau Gofal”; 4) Datganodd y Cynghorydd W G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â
Chofnod 99 “Cwestiynau gan y Cyhoedd” a gadawodd y cyfarfod
cyn y drafodaeth ar Cwestiynau gan
y Cynghorwyr, cwestiwn 4. Swyddogion 1) Datganodd A Hill gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod 102 “Newidiadau i
Gyfansoddiad y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 24 Mis Hydref 2019. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau i)
Y cyn-Gynghorydd Bill Hughes Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Bill Hughes. Bu Bill yn gwasanaethu Cymuned y Mwmbwls fel
rhan o hen Gyngor Dinas Abertawe a hen Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg. ii)
Y cyn-Gynghorydd Jean Taverner Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth
gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Jean Taverner. Bu Jean yn gwasanaethu Cymuned Uplands fel rhan o hen Gyngor Dinas Abertawe. Safodd pawb
i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Ffilmio, Recordio a Thynnu
Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor. Datganodd yr Aelod Llywyddol,
yn ôl polisi "Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y
Cyngor" yr awdurdod (a fabwysiadwyd ar 24 Tachwedd 2011), ei fod wedi
caniatáu i griw ffilmio o Amazon News Media recordio ei gyfarfod y cyngor. 3)
Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn
Awdurdodau Lleol (CPALl) 2019 Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill y Wobr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n
Gynaliadwy yn ystod digwyddiad Gwobrau Buddsoddiadau CPALl
2019. Sefydlwyd Gwobrau Buddsoddiadau CPALl yn 2015 er mwyn dathlu cyflawniad eithriadol yng
Nghynlluniau Pensiwn Llywodraethau Lleol (LGPS). Dros y blynyddoedd, ystyriwyd bod gwobr gan
Wobrau Buddsoddiadau CPALl yn nodi rhagoriaeth ym
maes darpariaeth pensiynau yn yr LGPS. Roedd Karen
Cobb o'r Tîm Pensiwn a'r Cynghorydd C E Lloyd yn bresennol i gyflwyno'r wobr. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Menter Sied Dynion Nododd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi neilltuo
cronfa gwerth £25,000 ar gyfer cefnogi’r Fenter Sied Dynion. 2)
Gorymdaith y Nadolig Abertawe 2019 Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Dîm Digwyddiadau
Arbennig Abertawe a'r Cynghorydd Robert Francis-Davies am eu gwaith wrth
sicrhau llwyddiant Gorymdaith y Nadolig 2019. Roedd yr orymdaith yn rhan o ddathliadau hanner
canmlwyddiant ers derbyn statws fel dinas ac roedd cannoedd o bobl leol yn rhan
o'r dathliad. Roedd miloedd o bobl yn
bresennol i fwynhau'r digwyddiad gwych. 3)
Y Nadolig Gyda'n
Gilydd 2018 Datganodd Arweinydd y
Cyngor fod JR Events & Catering yn gweithio
gyda'r awdurdod i gyflwyno digwyddiad Y Nadolig gyda'n Gilydd 2019 ar 19
Rhagfyr 2019. Darperir pryd o fwyd
dau gwrs am ddim yn Neuadd Brangwyn rhwng 12.00pm a
3.00pm ar gyfer pobl ddigartref, ddiamddiffyn a'r rheini sydd mewn angen. Diolchodd i bawb am gynorthwyo yn ystod y
digwyddiad. 4)
Cam 1 Abertawe Ganolog
"Yr Arena" Datganodd Arweinydd y
Cyngor fod y gwaith wedi'i ddechrau ar gyfer prosiect yr Arena yn gynharach yn
yr wythnos. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd aelod(au)
perthnasol y Cabinet. Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am
ymateb ysgrifenedig isod: a)
Cyflwynodd Janet Lovell a Shey Edlington
Douglas y cwestiynau canlynol yn ôl eu trefn; mewn
perthynas â Chofnod 109 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiynau 5 a
10, 5G; i)
"Gan
ystyried y dystiolaeth fynych am nythfeydd gwenyn yn
marw yn dilyn cysylltiad â symiau bach o ymbelydredd Wi-Fi,
pa gamau sy'n cael eu cymryd gan y cyngor i ddiogelu parciau lleol, bywyd
gwyllt a nythfeydd gwenyn rhag effeithiau niweidiol
profedig ymbelydredd 5G pan gaiff ei gyflwyno yn Abertawe?" ii)
"Mae Cyngor Abertawe wedi datgan yn swyddogol bod
argyfwng yn yr hinsawdd felly sut gall y cynghorwyr sefyll a gwylio wrth i'r
diwydiant technoleg osod yr isadeiledd ar gyfer 5G o ystyried y bydd yr ôl
troed carbon a ragwelir ar gyfer 4G sy’n gyfwerth â diwydiant awyrennu'r byd cyfan, yn dyblu erbyn
2020 ond bydd yn cynyddu'n gynt gyda 5G?" Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. Sylwer: Cynigiodd Arweinydd y Cyngor hefyd i gwrdd â Susie Jewell, Janet Lovell a Shey Edlingto
Douglas er mwyn trafod y cwestiynau. b)
Cyflwynodd Nortridge Perrott y cwestiynau
canlynol, mewn perthynas â Chofnod 109 "Cwestiynau 'r Cynghorwyr"
(Cwestiwn 7 ac 11, Tai Amlfeddiannaeth (HMO)): i)
"A yw'r cyngor
yn gallu dweud a yw penderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio yn agored i
Her/Adolygiad Statudol a288 tebyg gan
nad ystyriwyd y polisi rhyngosod o fewn H9 Yn yr ymresymiad a roddwyd? ii)
O ran yr Egwyddor
Datblygu Cynaliadwy, yr amcanion lles a Deddf LlCD -
Nod Cymunedau Cydlynus - barn pwy sy'n gryfach, barn
pwy y dylid ei ffafrio? iii)
Pa gamau gweithredu
penodol a gymerir gan y cyngor i unioni, gwella neu gywiro her yr Arolygiaeth
Gynllunio o ran polisi H9 a sut a phryd yn ystod y broses Adroddiad Monitro
Blynyddol fydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn mynd i'r afael ag unrhyw
ddiffygion gweithrediadol a gwirioneddol o ran gweithrediad yr Awdurdod
Cynllunio Lleol neu bolisi H9? iv)
Pa arweiniad statudol
a/neu gyfeiriadau gweinidogaethol at Arolygwyr yr Arolygiaeth Gynllunio y
gellid eu lliniaru er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder ac a yw Cyngor Dinas a
Sir Abertawe o'r farn bod Comisiynydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
[Gweithredu ar gyfer gweithredwyr cynllunio] yn ddefnyddiol/fuddiol? v)
Ydy hyn yn gywir ar
gyfer y cyngor [DASA] a beth yw'r sail ar gyfer ffigur y buddsoddiad sef £2.4m
a pha ddarpariaeth a13A a ddefnyddiwyd? vi)
Oes gan y cyngor
unrhyw gynlluniau i hyrwyddo, annog neu hwyluso'r dull gweithio uchod yn ardal Dinas
a Sir Abertawe a disgrifio defnydd canlynol darpariaethau a13A?" Dywedodd Aelod y
Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad y darperir ymateb ysgrifenedig. Sylwer: Cynigodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad hefyd i
gwrdd â Nortridge Perrott i
drafod y cwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2018-2019. PDF 275 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jill Burgess, Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018-2019, er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad ar waith y Pwyllgor
Safonau yn ystod y cyfnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor PDF 323 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a
Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i
Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn
perthynas â'r meysydd canlynol: a)
Rhan
3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - "Cylch Gorchwyl Pwyllgor
Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr" a gynhaliwyd ar 11
Ebrill 2017 fel cofnod cywir; b)
Rhan
4 "Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu
Tir". Penderfynwyd: 1)
Diwygio Cylch Gorchwyl
Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr i ddarllen; "Mae'r Pwyllgor hwn wedi'i eithrio o Reolau Cydbwysedd y Cyngor er mwyn
caniatáu'r aelodaeth ganlynol: ·
Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Grŵp
Llywodraethol; ·
Arweinydd a Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid
Fwyaf; ·
Arweinydd y grwpiau gwleidyddol eraill; ·
3 chynghorydd arall o'r Grŵp Dyfarniad. a)
Cyfrifoldeb dros yr Arfarniad Perfformiad a
phennu amcanion y Prif Weithredwr. b) Cynorthwyo'r Prif Weithredwr wrth
gwblhau arfarniad blynyddol y Dirprwy Brif Weithredwr a chefnogi'r amcanion a
amlinellir ar gyfer y Dirprwy Brif Weithredwr a chytuno ar fand cyflog y
Dirprwy Brif Weithredwr ar gyfer tâl sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Sylwer: Lle mae'r Awdurdod yn cynnig
penodi Prif Swyddog neu Ddirprwy Brif Swyddog, ac mae'r tâl y cynigir ei dalu
i'r prif swyddog yn £100,000 neu'n uwch fesul blwyddyn, mae'n rhaid: i)
Llunio
datganiad sy'n nodi: ·
Dyletswyddau'r swyddog dan sylw, ac ·
Unrhyw
gymwysterau neu rinweddau a geisir yn y person sydd i'w benodi. ii)
Trefnu
i hysbysebu'r swydd mewn modd a fydd yn debygol o dynnu sylw'r bobl sy'n gymwys
i gyflwyno cais ar ei chyfer; a iii)
Threfnu i anfon copi o'r datganiad a
grybwyllir ym mharagraff (a) at unrhyw berson ar gais. Nid oes rhaid i'r Awdurdod
hysbysebu'n gyhoeddus a yw'n bwriadu penodi Prif Swyddog am gyfnod o ddim mwy
na 12 mis." 2)
Diwygio paragraffau 3 a 4 Atodiad 1 "Polisi Gosod
Consesiynol" Rheolau Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu Tir i ddarllen; “3 Daeth
Gorchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol
(Cymru) 2003 i rym ar 31 Rhagfyr 2003. Roedd y Gorchymyn hwn yn dileu’r gofyniad
blaenorol ar y cyngor i geisio caniatâd penodol ar gyfer tanbrisio lle mae'r
cyngor o'r farn bod y gwarediad er budd lles economaidd, cymdeithasol neu
amgylcheddol ei ardal gyfan neu ran ohoni, neu unrhyw un neu bob person sy'n
preswylio neu'n bresennol yn ei ardal ac mae'r tanbrisio hyd at, ac yn
cynnwys £2,000,000 neu lai. 4 Dan
gyfansoddiad y cyngor, mae gan swyddog cyfrifol awdurdod dirprwyedig i gyflawni
swyddogaethau y mae ganddo ef neu hi awdurdod cyllidebol, rheolaethol,
gweithredol neu statudol ar eu cyfer, ar yr amod nad yw'r Cabinet yn gwneud ei
benderfyniad ei hun ynghylch achos penodol. Ar hyn o bryd, bydd cyflawni swyddogaethau
gweithredol gan Swyddog mewn perthynas â rheoli ystadau wrth ddefnyddio
buddiant rhydd-ddaliad neu brydles yn gyfyngedig i, ac yn cynnwys,
£500,000." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i
Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn
perthynas â'r meysydd canlynol: a)
Rhan
4 "Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Contract". Penderfynwyd: 1)
Disodli'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau gyda'r fersiwn
a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2020/2021. PDF 280 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y
Cyngor adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer
Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd
Bae Abertawe ar gyfer 2020-2021. Mae'n
ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021 erbyn 31
Rhagfyr 2019. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar
gyfer 2020-2021; 1) Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen
Treth y Cyngor) (Cymru) 2, fel y'u diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi
cyfrifo'r canlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2019/20. PDF 713 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Adran 151 adroddiad gwybodaeth i dderbyn a nodi Adroddiad Adolygu Blynyddol
Rheoli'r Trysorlys 2019/2020. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn
hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2020-2021 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 6 Tachwedd
2019. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd hefyd at benderfyniad
arfaethedig yr IPW mewn perthynas â chyhoeddi costau Ad-dalu Costau Gofal. Nododd "y dylai'r awdurdodau
perthnasol gyhoeddi cyfanswm y gwariant a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn yn
unig." Gan fod cyhoeddi Ad-dalu
Costau Gofal yn erbyn yr unigolyn yn rhwystr ar gyfer y rheini â chyfrifoldebau
gofalu wrth hawlio, cynigodd y gellir rhoi'r elfen hon o adroddiad yr IRPW ar
waith ar unwaith. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad
fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW; 2) Bydd yr awdurdod yn rhoi'r gorau i gyhoeddi'r symiau a hawlir gan Gynghorwyr unigol mewn perthynas ag Ad-dalu Costau Gofal ac y bydd swm blynyddol y cyfanswm a hawlir gan Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn cael ei gyhoeddi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ad-dalu Costau Gofal. PDF 338 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd
yn hyrwyddo defnyddio’r Ad-daliad Costau Gofal. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb
ysgrifenedig arno(arnynt) isod: Cwestiwn 1 Gofynnodd y Cynghorydd CA Holley i Aelod perthnasol y Cabinet: "Oes modd i chi amlinellu'n union sut y gwariwyd arian dros ben y
meysydd parcio?" Dywedodd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai
ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd SM Jones i Aelod perthnasol y Cabinet: "Oes modd i Aelod y Cabinet edrych ar y posibilrwydd o osod sgip
amnest mewn Safleoedd Amwynderau Dinesig ar adegau penodol yn y flwyddyn?" Nododd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n
edrych ar y posibilrwydd o ddarparu sgip amnest yn achlysurol. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'. |