Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

94.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)        Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J A Hale, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, R V Smith a T M White gysylltiad personol â Chofnod 104 “Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor 2020/2021";

 

2)        Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw, M C Child, N J Davies, A M Day, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J W Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, M Sykes, D W W Thomas, M Thomas, W G Thomas, L Tyler-Lloyd, L V Walton, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod 106 “Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Adroddiad Blynyddol Drafft 2020-2021 - Ymgynghoriad".

 

3)        Datganodd y Cynghorydd N J Davies gysylltiad personol â Chofnod 108 “Ad-dalu Costau Gofal”;

 

4)        Datganodd y Cynghorydd W G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol  â Chofnod 99 Cwestiynau gan y Cyhoedd a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth ar Cwestiynau gan y Cynghorwyr, cwestiwn 4.

 

Swyddogion

 

1)        Datganodd A Hill gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 102 “Newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor” a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

95.

Cofnodion. pdf eicon PDF 346 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 24 Mis Hydref 2019.

 

96.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

97.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

i)               Y cyn-Gynghorydd Bill Hughes

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Bill Hughes.  Bu Bill yn gwasanaethu Cymuned y Mwmbwls fel rhan o hen Gyngor Dinas Abertawe a hen Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg.

 

ii)              Y cyn-Gynghorydd Jean Taverner

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Jean Taverner.  Bu Jean yn gwasanaethu Cymuned Uplands fel rhan o hen Gyngor Dinas Abertawe.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor.

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol, yn ôl polisi "Ffilmio, Recordio a Thynnu Lluniau yn ystod Cyfarfodydd y Cyngor" yr awdurdod (a fabwysiadwyd ar 24 Tachwedd 2011), ei fod wedi caniatáu i griw ffilmio o Amazon News Media recordio ei gyfarfod y cyngor.

 

3)              Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) 2019

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill y Wobr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy yn ystod digwyddiad Gwobrau Buddsoddiadau CPALl 2019.

 

Sefydlwyd Gwobrau Buddsoddiadau CPALl yn 2015 er mwyn dathlu cyflawniad eithriadol yng Nghynlluniau Pensiwn Llywodraethau Lleol (LGPS).  Dros y blynyddoedd, ystyriwyd bod gwobr gan Wobrau Buddsoddiadau CPALl yn nodi rhagoriaeth ym maes darpariaeth pensiynau yn yr LGPS.

 

Roedd Karen Cobb o'r Tîm Pensiwn a'r Cynghorydd C E Lloyd yn bresennol i gyflwyno'r wobr.

98.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Menter Sied Dynion

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi neilltuo cronfa gwerth £25,000 ar gyfer cefnogi’r Fenter Sied Dynion.

 

2)              Gorymdaith y Nadolig Abertawe 2019

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Dîm Digwyddiadau Arbennig Abertawe a'r Cynghorydd Robert Francis-Davies am eu gwaith wrth sicrhau llwyddiant Gorymdaith y Nadolig 2019.

 

Roedd yr orymdaith yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant ers derbyn statws fel dinas ac roedd cannoedd o bobl leol yn rhan o'r dathliad.  Roedd miloedd o bobl yn bresennol i fwynhau'r digwyddiad gwych.

 

3)              Y Nadolig Gyda'n Gilydd 2018

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor fod JR Events & Catering yn gweithio gyda'r awdurdod i gyflwyno digwyddiad Y Nadolig gyda'n Gilydd 2019 ar 19 Rhagfyr 2019.

 

Darperir pryd o fwyd dau gwrs am ddim yn Neuadd Brangwyn rhwng 12.00pm a 3.00pm ar gyfer pobl ddigartref, ddiamddiffyn a'r rheini sydd mewn angen.  Diolchodd i bawb am gynorthwyo yn ystod y digwyddiad.

 

4)              Cam 1 Abertawe Ganolog "Yr Arena"

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor fod y gwaith wedi'i ddechrau ar gyfer prosiect yr Arena yn gynharach yn yr wythnos.

99.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.

 

Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

 

Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

a)              Cyflwynodd Janet Lovell a Shey Edlington Douglas y cwestiynau canlynol yn ôl eu trefn; mewn perthynas â Chofnod 109 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiynau 5 a 10, 5G;

 

i)                "Gan ystyried y dystiolaeth fynych am nythfeydd gwenyn yn marw yn dilyn cysylltiad â symiau bach o ymbelydredd Wi-Fi, pa gamau sy'n cael eu cymryd gan y cyngor i ddiogelu parciau lleol, bywyd gwyllt a nythfeydd gwenyn rhag effeithiau niweidiol profedig ymbelydredd 5G pan gaiff ei gyflwyno yn Abertawe?"

 

ii)              "Mae Cyngor Abertawe wedi datgan yn swyddogol bod argyfwng yn yr hinsawdd felly sut gall y cynghorwyr sefyll a gwylio wrth i'r diwydiant technoleg osod yr isadeiledd ar gyfer 5G o ystyried y bydd yr ôl troed carbon a ragwelir ar gyfer 4G sy’n gyfwerth â diwydiant awyrennu'r byd cyfan, yn dyblu erbyn 2020 ond bydd yn cynyddu'n gynt gyda 5G?"

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Sylwer: Cynigiodd Arweinydd y Cyngor hefyd i gwrdd â Susie Jewell, Janet Lovell a Shey Edlingto Douglas er mwyn trafod y cwestiynau.

 

b)              Cyflwynodd Nortridge Perrott y cwestiynau canlynol, mewn perthynas â Chofnod 109 "Cwestiynau 'r Cynghorwyr" (Cwestiwn 7 ac 11, Tai Amlfeddiannaeth (HMO)):

 

i)               "A yw'r cyngor yn gallu dweud a yw penderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio yn agored i Her/Adolygiad Statudol a288 tebyg  gan nad ystyriwyd y polisi rhyngosod o fewn H9 Yn yr ymresymiad a roddwyd?

 

ii)              O ran yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy, yr amcanion lles a Deddf LlCD - Nod Cymunedau Cydlynus - barn pwy sy'n gryfach, barn pwy y dylid ei ffafrio?

 

iii)             Pa gamau gweithredu penodol a gymerir gan y cyngor i unioni, gwella neu gywiro her yr Arolygiaeth Gynllunio o ran polisi H9 a sut a phryd yn ystod y broses Adroddiad Monitro Blynyddol fydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion gweithrediadol a gwirioneddol o ran gweithrediad yr Awdurdod Cynllunio Lleol neu bolisi H9?

 

iv)            Pa arweiniad statudol a/neu gyfeiriadau gweinidogaethol at Arolygwyr yr Arolygiaeth Gynllunio y gellid eu lliniaru er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder ac a yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe o'r farn bod Comisiynydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol [Gweithredu ar gyfer gweithredwyr cynllunio] yn ddefnyddiol/fuddiol?

 

v)              Ydy hyn yn gywir ar gyfer y cyngor [DASA] a beth yw'r sail ar gyfer ffigur y buddsoddiad sef £2.4m a pha ddarpariaeth a13A a ddefnyddiwyd?

 

vi)            Oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau i hyrwyddo, annog neu hwyluso'r dull gweithio uchod yn ardal Dinas a Sir Abertawe a disgrifio defnydd canlynol darpariaethau a13A?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Sylwer: Cynigodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad hefyd i gwrdd â Nortridge Perrott i drafod y cwestiynau.

100.

Cyflwyniad - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau.

101.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2018-2019. pdf eicon PDF 275 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jill Burgess, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018-2019, er gwybodaeth.  Amlinellodd yr adroddiad ar waith y Pwyllgor Safonau yn ystod y cyfnod hwnnw.

102.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

a)              Rhan 3 "Cyfrifoldeb am Swyddogaethau" - "Cylch Gorchwyl Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr" a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2017 fel cofnod cywir;

 

b)              Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu Tir".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio Cylch Gorchwyl Pwyllgor Arfarnu a Chydnabyddiaeth Ariannol y Prif Weithredwr i ddarllen;

 

"Mae'r Pwyllgor hwn wedi'i eithrio o Reolau Cydbwysedd y Cyngor er mwyn caniatáu'r aelodaeth ganlynol:

 

·                Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Grŵp Llywodraethol;

·                Arweinydd a Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf;

·                Arweinydd y grwpiau gwleidyddol eraill;

·                3 chynghorydd arall o'r Grŵp Dyfarniad.

 

a)             Cyfrifoldeb dros yr Arfarniad Perfformiad a phennu amcanion y Prif Weithredwr.

 

b)        Cynorthwyo'r Prif Weithredwr wrth gwblhau arfarniad blynyddol y Dirprwy Brif Weithredwr a chefnogi'r amcanion a amlinellir ar gyfer y Dirprwy Brif Weithredwr a chytuno ar fand cyflog y Dirprwy Brif Weithredwr ar gyfer tâl sy'n gysylltiedig â pherfformiad.

 

Sylwer:

 

Lle mae'r Awdurdod yn cynnig penodi Prif Swyddog neu Ddirprwy Brif Swyddog, ac mae'r tâl y cynigir ei dalu i'r prif swyddog yn £100,000 neu'n uwch fesul blwyddyn, mae'n rhaid:

 

i)                            Llunio datganiad sy'n nodi:

·                         Dyletswyddau'r swyddog dan sylw, ac

·                Unrhyw gymwysterau neu rinweddau a geisir yn y person sydd i'w benodi.

 

ii)              Trefnu i hysbysebu'r swydd mewn modd a fydd yn debygol o dynnu sylw'r bobl sy'n gymwys i gyflwyno cais ar ei chyfer; a

 

iii)             Threfnu i anfon copi o'r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) at unrhyw berson ar gais.

 

Nid oes rhaid i'r Awdurdod hysbysebu'n gyhoeddus a yw'n bwriadu penodi Prif Swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis."

 

2)              Diwygio paragraffau 3 a 4 Atodiad 1 "Polisi Gosod Consesiynol" Rheolau Gweithdrefnau Prynu a Gwerthu Tir i ddarllen;

 

“3        Daeth Gorchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol  (Cymru) 2003 i rym ar 31 Rhagfyr 2003.  Roedd y Gorchymyn hwn yn dileu’r gofyniad blaenorol ar y cyngor i geisio caniatâd penodol ar gyfer tanbrisio lle mae'r cyngor o'r farn bod y gwarediad er budd lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol ei ardal gyfan neu ran ohoni, neu unrhyw un neu bob person sy'n preswylio neu'n bresennol yn ei ardal ac mae'r tanbrisio hyd at, ac yn cynnwys £2,000,000 neu lai.

 

4         Dan gyfansoddiad y cyngor, mae gan swyddog cyfrifol awdurdod dirprwyedig i gyflawni swyddogaethau y mae ganddo ef neu hi awdurdod cyllidebol, rheolaethol, gweithredol neu statudol ar eu cyfer, ar yr amod nad yw'r Cabinet yn gwneud ei benderfyniad ei hun ynghylch achos penodol.  Ar hyn o bryd, bydd cyflawni swyddogaethau gweithredol gan Swyddog mewn perthynas â rheoli ystadau wrth ddefnyddio buddiant rhydd-ddaliad neu brydles yn gyfyngedig i, ac yn cynnwys, £500,000."

103.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd yn ceisio diwygiad i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei symleiddio, ei wella a/neu ychwanegu ato mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

 

a)              Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau - Rheolau Gweithdrefnau Contract".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Disodli'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau gyda'r fersiwn a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

104.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2020/2021. pdf eicon PDF 280 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2020-2021.  Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021 erbyn 31 Rhagfyr 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021;

 

1)    Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 2, fel y'u diwygiwyd, mae Dinas a Sir Abertawe wedi cyfrifo'r canlynol:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

91,923

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd cynghorau cymuned tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,986

 

Clydach

2,661

 

Gorseinon

3,319

 

Tre-gŵyr

1,972

 

Pengelli

426

 

Llanilltud Gŵyr

327

 

Cilâ

2,148

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

508

 

Llangyfelach

947

 

Llanrhidian Uchaf

1,626

 

Llanrhidian Isaf

341

 

Casllwchwr

3,446

 

Mawr

762

 

Y Mwmbwls

9,822

 

Penllergaer

1,437

 

Pennard

1,482

 

Pen-rhys

426

 

Pontarddulais

2,340

 

Pontlliw a Thircoed

1,039

 

Porth Einon

433

 

Reynoldston

300

 

Rhosili

190

 

Y Crwys

715

 

Cilâ Uchaf

589

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe                        

63,778

 

105.

Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2019/20. pdf eicon PDF 713 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth i dderbyn a nodi Adroddiad Adolygu Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/2020.

106.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2020-2021 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 507 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2020-2021 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 6 Tachwedd 2019.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd hefyd at benderfyniad arfaethedig yr IPW mewn perthynas â chyhoeddi costau Ad-dalu Costau Gofal.  Nododd "y dylai'r awdurdodau perthnasol gyhoeddi cyfanswm y gwariant a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn yn unig."  Gan fod cyhoeddi Ad-dalu Costau Gofal yn erbyn yr unigolyn yn rhwystr ar gyfer y rheini â chyfrifoldebau gofalu wrth hawlio, cynigodd y gellir rhoi'r elfen hon o adroddiad yr IRPW ar waith ar unwaith.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW;

 

2)              Bydd yr awdurdod yn rhoi'r gorau i gyhoeddi'r symiau a hawlir gan Gynghorwyr unigol mewn perthynas ag Ad-dalu Costau Gofal ac y bydd swm blynyddol y cyfanswm a hawlir gan Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yn cael ei gyhoeddi.

107.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

108.

Ad-dalu Costau Gofal. pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn hyrwyddo defnyddio’r Ad-daliad Costau Gofal.

109.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)        ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd CA Holley i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"Oes modd i chi amlinellu'n union sut y gwariwyd arian dros ben y meysydd parcio?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Reoli'r Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd SM Jones i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"Oes modd i Aelod y Cabinet edrych ar y posibilrwydd o osod sgip amnest mewn Safleoedd Amwynderau Dinesig ar adegau penodol yn y flwyddyn?"

 

Nododd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n edrych ar y posibilrwydd o ddarparu sgip amnest yn achlysurol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.