Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

81.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd M C Child fudd personol a rhagfarnol â chofnod 91 "Premiymau Treth y Cyngor yng Nghymru" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd M Durke fudd personol yng nghofnod 92 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 3”.

82.

Cofnodion. pdf eicon PDF 461 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.

83.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

84.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

i)                Yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd

 

Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus, y cyn-Gynghorydd, y cyn-Arglwydd Faer a'r cyn-Faer, Alan Lloyd. Roedd Alan yn dad i'r Cynghorydd Clive Lloyd. Bu Alan yn gwasanaethu cymunedau'r Castell a Townhill am bron i 45 mlynedd. Bu'n gwasanaethu:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe 12 Mai 1967 tan 31 Mawrth 1974;

Ø    Cyngor Dinas Abertawe 1 Ebrill 1974 tan 23 Chwefror 1984;

Ø    Cyngor Dinas Abertawe 22 Mawrth 1984 tan 31 Mawrth 1996;

Ø    Dinas a Sir Abertawe 4 Mai 1995 tan 3 Mai 2012.

 

Bu'n gwasanaethu fel Maer Abertawe yn 1980-1981 ac fel Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe yn 2009-2010. Bu hefyd yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe.

 

Cynhelir angladd yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd yn Amlosgfa Abertawe am 12.30pm ar 1 Tachwedd 2019. Gwahoddir pawb i Stadiwm Liberty am luniaeth wedi'r angladd.

 

ii)              Cydymdeimladau - Debbie Hale, Gwraig y Cynghorydd Joe Hale 

 

Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Debbie Hale, sef gwraig y Cynghorydd Joe Hale.

 

Cynhelir angladd Debbie Hale yn Amlosgfa Abertawe am 10.00am ar 4 Tachwedd 2019. Gwahoddir pawb i Glwb y Docwyr Abertawe, St Thomas am luniaeth wedi'r angladd.

 

iii)             Stephen Richards, Mab y cyn-Gynghorydd Alan Richards

 

Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Stephen Richards, mab y cyn-Gynghorydd Alan Richards. Cynrychiolodd Alan Richards wardiau etholiadol St Thomas yn Ninas a Sir Abertawe a hen Gyngor Sir Abertawe.

 

iv)             Doreen Morris, Gwraig y cyn-Gynghorydd Arthur Morris

 

Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Doreen Morris, gwraig y cyn-Gynghorydd Arthur Morris. Cynrychiolodd Arthur Morris hen ward etholiadol St John’s ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg.

 

v)              Brian Walters, cyn-Ohebydd Gwleidyddol gyda South Wales Evening Post (SWEP)

 

Gyda thristwch, cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at farwolaeth ddiweddar Brian Walters, cyn-Ohebydd Gwleidyddol gyda'r South Wales Evening Post (SWEP).

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Rheoli Gwastraff - Enillydd Gwobr Cenedlaethol Y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE)

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff wedi ennill gwobr genedlaethol gan Y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Enillodd y gwasanaeth y wobr "Rhaglen Gweithlu Gorau". Mae hyn yn ymwneud â Phartneriaeth Hyfforddiant Rheoli Gwastraff y cyngor sydd yn ei hail flwyddyn. Llwyddodd pob un o'r deg o hyfforddeion Blwyddyn 1 i basio'r hyfforddeiaeth drwy ennill Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 a chawsant swyddi parhaol amser llawn. Ar hyn o bryd mae 13 o hyfforddeion Blwyddyn 2 bellach yn treulio amser yn gweithio mewn amrywiaeth o agweddau sy’n ymwneud â Rheoli Gwastraff i ddatblygu gwybodaeth eang o'r gwasanaeth er mwyn cynnig gweithlu â dealltwriaeth eang a manwl o'u rolau.

 

Roedd Fran Williams o Wasanaeth Rheoli Gwastraff yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

3)              Cyngor Hil Cymru - Gwobr 'Diversity Mover, Shaker & Legacy Maker' 2019

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Chris Mellor o’r Gwasanaethau Hamdden wedi derbyn Gwobr 'Diversity Mover, Shaker & Legacy Maker' 2019 - Cyngor Hil Cymru ar ddiwrnod dathlu Mis Hanes Pobl Dduon i'r teulu. Mae'r wobr ar gyfer pobl sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau amrywiol a derbyniodd Chris gydnabyddiaeth am ddatblygu Hwb Diwylliant a Digidol yn y theatr; gan ddod ag 17 partner at ei gilydd i gyflwyno ein Haddewid Amrywiaeth; sy'n caniatáu i gymunedau ddatblygu eu sgiliau creadigol a digidol, gan greu cyfleoedd a lle diogel i'w mynegi.

 

Roedd Chris Mellor yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

4)              Y Cynghorydd Will Thomas - Marathon Berlin 2019

 

Gwnaeth yr Aelod Llywyddol longyfarch y Cynghorydd Will Thomas am gwblhau Marathon Berlin yn ddiweddar mewn amser gwych o 3 awr, 41 munud a 54 eiliad.

85.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Cochwydden Enfawr wedi'i thorri i lawr gan Ddatblygwr ym Mhenllergaer

 

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor longyfarch y Prif Swyddog Cyfreithiol, ei Thîm Cyfreithiol a phawb oedd wedi bod yn rhan o'r erlyniad llwyddiannus yn erbyn y datblygwr a dorrodd y gochwydden enfawr 200 mlwydd oed i lawr ym Mhenllergaer.

 

2)              Ysgol Gynradd Parc y Werin

 

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor longyfarch y Prif Swyddog Cyfreithiol, ei Thîm Cyfreithiol a phawb a oedd wedi ymwneud â'r gwrthwynebiadau i Ysgol Gynradd Parc y Werin gael ei hadeiladu.

 

3)              Llifogydd Ledled Abertawe

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r holl swyddogion am eu gwaith rhagorol wrth fynd i'r afael â'r llifogydd a gafwyd yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd gwael.

 

4)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cylch Gorchwyl y Fargen Ddinesig wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar, ac y dylai arwain at ryddhau arian y Fargen Ddinesig maes o law.

86.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd:

 

Ø    Cofnod 91 " Premiymau Treth y Cyngor yng Nghymru";

Ø    Cofnod 92 Cwestiynau "Cynghorwyr" (Cwestiwn 1, Home Farm);

Ø    Cofnod 93 "Hysbysiad o Gynnig ar Fuddsoddiadau'n Seiliedig ar Garbon".

 

Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

87.

Cyflwyniad - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniad.

88.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018/19. pdf eicon PDF 606 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Paula O’Connor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2018-2019 er gwybodaeth. Amlinellodd yr adroddiad ar waith y Pwyllgor Archwilio yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Cyflwynodd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y Cynghorydd P R Hood-Williams, yr adroddiad.

89.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y Cynghorydd M H Jones, Adroddiad Blynyddol yr Adran Graffu 2018-2019 er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystod y cyfnod hwnnw.

90.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 810 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Refeniw Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ystyried a chymeradwyo'r argymhellion a wnaed o fewn Adrannau 3.11 a 3.12 yr adroddiad.

91.

Premiymau'r Treth Cyngor yng Nghymru pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn gofyn i aelodau ystyried a ddylid parhau i ganiatáu gostyngiadau Treth y Cyngor 50% ar eiddo gwag a heb eu dodrefnu ar ôl i unrhyw gyfnod eithrio statudol ddod i ben.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth ac yn ceisio ystyriaeth o'r pwerau disgresiynol i godi symiau premiymau Treth y Cyngor ar fathau penodol o eiddo y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y pwerau disgresiwn sy'n gysylltiedig â phremiymau Treth y Cyngor, gostyngiadau dewisol ar gyfer anheddau gwag a heb eu dodrefnu a'r materion cysylltiedig a amlinellir yn yr adroddiad hwn;

 

2)              Dylid nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Gorffennaf ac Awst 2019;

 

3)              Yn unol ag Adran 11 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 bydd y cyngor yn rhoi'r gorau i ganiatáu gostyngiad Treth y Cyngor o 50% ar anheddau sy'n aros yn wag a heb eu dodrefnu wedi i unrhyw gyfnod eithrio statudol ddod i ben ac o 1 Ebrill 2020 ni chaniateir gostyngiadau o'r fath;

 

4)              Yn unol â Deddf Tai S139 (Cymru) 2014 (a ddiwygiodd Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992) bod y cyngor yn ystyried arfer ei ddisgresiwn ynghylch a ddylid codi premiymau Treth y Cyngor o hyd at 100% o gyfradd safonol Treth y Cyngor ar anheddau gwag tymor hir ac ail gartrefi ac:

 

i)               O 1 Ebrill 2020 ar gyfer anheddau yn ei ardal sydd wedi bod yn wag ac heb eu dodrefnu am fwy na 12 mis (eiddo gwag tymor hir) o dan Adran 12A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, mae'n codi premiwm o 100% ar ben cyfradd safonol Treth y Cyngor;

 

ii)              O 1 Ebrill 2021 ar gyfer anheddau yn ei ardal y mae pobl yn byw ynddynt bob hyn a hyn (a gyfeirir atynt fel arfer fel "ail gartrefi") o dan Adran 12B Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, mae'n codi premiwm o 100% ar ben cyfradd safonol Treth y Cyngor.

 

5)              Pe bai'r Cyngor yn penderfynu codi premiymau Treth y Cyngor, dylid cyflogi Arolygydd Eiddo Treth y Cyngor llawn amser yn barhaol i gefnogi mesurau cydymffurfio a chreu swydd newydd sef Swyddog Premiymau Treth y Cyngor amser llawn am gyfnod dros dro (hyd at 2 flynedd) i reoli gweithredu'r premiymau. Y ddwy swydd i'w hariannu o'r refeniw ychwanegol a ddaw o godi premiymau Treth y Cyngor.

92.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 322 KB

Cofnodion:

1)        ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd CA Holley i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"A allwch chi rannu Cylch Gorchwyl y Grant ar gyfer Theatr y Palace ac a yw'r grant sy'n ymwneud â Theatr y Palace yn cynnwys y tir o gwmpas Theatr y Palace neu'r Theatr y Palace yn unig?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"Mae'r ymateb yn dangos bod 2 gyflenwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ers mis Ebrill 2018. Pa gost ariannol fu i'r awdurdod?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 2

Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott i Aelod perthnasol y Cabinet:

 

"Rwy’n pryderu am y gwaith diweddar yn Clyne Court . A all yr Aelod Cabinet perthnasol amlinellu'r camau gweithredu a gymerwyd i fynd i'r afael â'r problemau a'r gwersi a ddysgwyd o'r gwaith?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau y byddai'n trefnu cyfarfod gyda'r Cynghorydd C L Philpott i drafod y problemau.

 

2)        ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.

93.

Hysbysiad o Gynnig ar Fuddsoddiadau sy'n Seiliedig ar Garbon. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd C A Holley a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Rydym yn deall y camau mawr y mae ein cronfa bensiwn wedi'u cymryd i roi'r gorau i fuddsoddiadau sy'n seiliedig ar garbon.

 

Mae angen llongyfarch y swyddogion a'r aelodau am y gwaith a wnaed ar y gronfa gan ac am y wobr a enillwyd ganddynt ac a gyhoeddwyd yn yr Evening Post ddydd Llun 23 Medi 2019.

 

Felly gofynnwn i'r Aelod Cabinet adrodd ar ba gamau yr ydym yn eu cymryd i dynnu ein hunain o fuddsoddiadau sy'n seiliedig ar garbon yn ystod y 6 mis nesaf.”

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig.