Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

49.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i 157 (Cymraeg) Catrawd y Corfflu Logisteg Brenhinol.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Chatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB) i gyfarfod seremonïol y cyngor.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 lle penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB).

 

Mae gan Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB), a elwir ar lafar yn Gatrawd Trafnidiaeth Cymru, berthynas arbennig â phobl Dinas a Sir Abertawe. Dechreuodd Sgwadron y Gatrawd yn Abertawe ym Mhencadlys 53ain Cludfintai Adrannol (Cymru), Corfflu Gwasanaeth y Fyddin sy'n dyddio'n ôl i 1912.  Ym mis Awst 1915, cymerodd y 53ain Adran (Cymru) ran yn y glaniadau yn Gallipoli lle enillodd ganmoliaeth am ei rhan wrth gyflenwi bwledi a ffrwydron rhyfel i'r 160fed Frigâd, sef 160fed Brigâd Troedfilwyr a Phencadlys Cymru bellach.  Ar ôl ffurfio'r Corfflu Logisteg Brenhinol ar 1 Ebrill 1993, daeth Sgwadron 223 (Cymru), y Corfflu Trafnidiaeth Brenhinol yn Sgwadron Magnelwyr Cynorthwyol 223 y CLB.  Yn yr Adolygiad Amddiffyniad Strategol ym 1998, daeth Sgwadron Magnelwyr Cynorthwyol 223 y CLB yn Sgwadron Trafnidiaeth y CLB ac yn 2014, Sgwadron Trafnidiaeth (Gorllewin Morgannwg) 223 y CLB.

 

Nid y Sgwadron yn unig a aildrefnwyd dros y blynyddoedd, yn yr un modd yn 2007, cafodd Catrawd 157 (Cymru a Chanolbarth Lloegr) y CLB ei ailenwi'n Gatrawd Drafnidiaeth Cymru'r CLB ac yn 2014 daeth yn Gatrawd 157 (Cymru) y CLB fel yr adwaenwn ni hi heddiw.

 

Er bod teitlau wedi mynd a dod, mae'r bobl yn y Gatrawd wedi aros yn gadarn; mae cefnogaeth gan Ddinas a Sir Abertawe hefyd wedi parhau'n gyson, llysgenhadon ar gyfer cymuned ein lluoedd arfog yn ei chyfanrwydd.

 

Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf, arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill, Cynghorydd Hyrwyddo'r Lluoedd Arfog a'r Cynghorydd J E Burtonshaw o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoi rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB).

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB) gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddi.

 

Ymatebodd Is-gyrnol, Marcie Madams, Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB) drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.