Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau. |
|
Ffilmio Cyfarfod Seremonïol y Cyngor Cofnodion: Cynigiodd yr Arglwydd Faer y dylid caniatáu i'r rhai oedd yn bresennol
ffilmio cyfarfod seremonïol y cyngor a chytunwyd ar hyn. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd
Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor
ac Alun Wyn Jones i gyfarfod seremonïol y cyngor. Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at gyfarfod y
cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2019 (cyfeirir ato yng Nghofnod 177) lle
penderfynodd y cyngor roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn
Jones. Ganwyd Alun Wyn Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei
gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen a Chlwb Rygbi’r Mwmbwls. Ef yw capten
presennol tîm rygbi cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y
Gweilch. Ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros
Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod Prydeinig yn
olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall. Siaradodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac
arweinwyr y grwpiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig. Penderfynwyd rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn
Jones. Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl
Rhyddid er Anrhydedd i Alun Wyn Jones gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe
iddo. Ymatebodd Alun Wyn Jones drwy ddiolch i'r
cyngor am yr anrhydedd. |