Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

50.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorydd R V Smith, gysylltiad personol â Chofnod 60 “Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru - Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol Dinas a Sir Abertawe";

 

2)       Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, R D Lewis, P Lloyd, G J Tanner, R V Smith, T J Hennegan a T M White gysylltiad personol â Chofnod 1 "Datganiad o Gyfrifon 2018/2019."

51.

Cofnodion. pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)              Cyfarfod Seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2019;

 

2)              Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019;

 

3)              Cyfarfod seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2019 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd D G Sullivan at y rhestr o ymddiheuriadau.

52.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

53.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Eddie Ramsden - Cydymdeimladau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Eddie Ramsden, Cyn-cyfarwyddwr Iechyd yr Amgylchedd gyda hen Gyngor Dinas Abertawe. Dymuniad Eddie oedd i’w lwch gael ei gladdu ym Mynwent Ystumllwynarth, felly cynhelir Gwasanaeth Coffa yn y Mwmbwls, gyda'r dyddiad i'w gadarnhau.

 

Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)              Newyddion da ar gyfer ein pobl ifanc

 

Mae addysg yn brif flaenoriaeth i Gyngor Abertawe.  Mae canlyniadau TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol eleni yn dangos ein buddsoddiad sylweddol a pharhaus wrth gefnogi ein hysgolion i gynyddu cyrhaeddiad a rhoi'r cyfleoedd gorau i holl ddisgyblion Abertawe yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

 

Roedd canlyniadau TGAU ein hysgolion yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru.

Enillodd 21.2% o ddisgyblion y ddinas raddau A* neu A yn eu harholiadau CBAC.  Mae hyn cryn dipyn un uwch na ffigur Cymru gyfan, sef 18.4%.

 

Mae canlyniadau disgyblion Abertawe o ran Safon Uwch yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 97.9%. O'u cymharu â gweddill Cymru, mae ein graddau A* ac A yn llawer uwch yn Abertawe na gweddill y wlad.

 

Mae canlyniadau ein cyrsiau galwedigaethol Blwyddyn 13, gan gynnwys BTEC yn dda iawn, gyda 64.2% wedi cyflawni gradd Anrhydedd* ac Anrhydedd.

 

Roedd disgyblion Abertawe sy'n mynychu Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Gâr hefyd wedi cael canlyniadau arholiadau da iawn.

 

Llongyfarchiadau i'n holl ddisgyblion a'u hysgolion.

 

3)              Rheoli gwastraff - cyrraedd y rhestr fer am ddwy wobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus 

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Rheoli Gwastraff wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.  Cyhoeddir enwau'r enillwyr yn Newcastle ar 12 Medi 2019. Dyma’r gwobrau:

 

Menter Orau'r Gweithlu.  Mae'r wobr hon yn ymwneud â Phartneriaeth Hyfforddeion Rheoli Gwastraff y cyngor sydd yn ei hail flwyddyn.  Roedd pob un o hyfforddeion Blwyddyn 1 wedi pasio'r cyfnod hyfforddi gan ennill NVQ Lefel 2 a chawsant swyddi amser llawn. Ar hyn o bryd mae 13 o hyfforddeion Blwyddyn 2 yn treulio'u hamser yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau Rheoli Gwastraff er mwyn cael gwybodaeth eang am y gwasanaeth er mwyn creu gweithlu a chanddynt ddealltwriaeth ddofn ac eang o'u rolau.

 

Tîm Gwasanaeth Gorau'r flwyddyn - Gwasanaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu.  Mae hyn yn ymwneud â'r ymgyrch ‘Nid fan hyn’ sef peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du sy'n annog mwy o ailgylchu a’u dargyfeirio o safleoedd tirlenwi drwy wahardd rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du.  Mae'r fenter eisoes wedi lleihau swm y gwastraff sachau du 15% a rhagwelir y bydd yn cynyddu ein cyfradd ailgylchu gyffredinol 2%.  Soniodd hyfforddeion Blwyddyn 1 a 2 fod y wobr flaenorol wedi bod yn flaenllaw wrth hyrwyddo'r gwelliant hwn.

 

4)              Cyfeillion 'Washing Lake' Mayhill a Gardd Gymunedol Hillside

 

Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi bod Cyfeillion 'Llyn Golchi' Mayhill a Gardd Gymunedol Hillside wedi ennill dwy wobr eleni.  Ym mis Mawrth, derbyniwyd gwobr Mannau Gwyrdd a reolir CLAS (Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol) ganddynt ac ym mis Gorffennaf derbynion nhw Wobr Gymunedol y Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus.

 

5)              Cyfarfod y Cyngor, mis Tachwedd 2019 - wedi'i aildrefnu

 

Mae cyfarfod y cyngor a drefnwyd ar gyfer 5.00pm ddydd Iau 28 Tachwedd 2019 wedi'i aildrefnu ar gyfer 5.00pm ddydd Mercher 27 Tachwedd 2019.  Cynhelir cyfarfod y cyngor yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe.

 

6)              Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)                Eitem 11 - "Cais am Ddynodi Abertawe yn aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd - Cam VII"

 

Diwygio'r argymhelliad fel a ganlyn:

 

“1)        Cymeradwyo’r cais gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe i gael ei ddynodi’n aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Cam - VII".

 

ii)              Rhybudd o Gynnig Brys - Gohirio'r senedd

 

Yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1977, nododd yr Aelod Llywyddol ei fod wedi derbyn Rhybudd o Gynnig ar frys mewn perthynas â "Gohirio'r senedd" am y rheswm a amlinellwyd yn y rhybudd o gynnig.

 

iii)            Aildrefnu'r agenda

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod angen iddo aildrefnu'r agenda am fod rhaid i'r Arglwydd Faer fod mewn digwyddiad maerol - bydd angen aildrefnu er mwyn ystyried eitem 12 "Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Democrataidd 2018-2019" yn syth ar ôl eitem 8.  Dilynir hyn yn syth gan y "Rhybudd o Gynnig Brys" cyn dychwelyd i'r agenda fel y’i cyhoeddwyd.

54.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe.

55.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnodd John Childs y cwestiynau canlynol mewn perthynas â Chofnod 62 "Cais i Ddynodi Abertawe fel aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd - Cam VII":

 

1)              "Pa strategaeth ystyrlon sydd gennych er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon a achosir yn bennaf gan gerbydau modur?

 

2)              Oes strategaeth i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon iechyd ein dibyniaeth gyfredol ar gerbydau petrol/disel ar gyfer cludiant cyhoeddus, yn enwedig y niferoedd uchel o geir preifat sy'n arwain at lefelau uchel o dagfeydd?

 

3)              Ydych chi'n cysylltu â'r awdurdod iechyd drwy'r BGC a/neu mewn unrhyw ffordd arall er mwyn datblygu ymagwedd gyfannol at yr her o ansawdd aer gwael sy'n effeithio ar y tlawd a'r rheini sy'n dioddef o gyflyrau iechyd difrifol megis cyflyrau'r galon a'r ysgyfaint?"

 

Nododd Rheolwr yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

56.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

57.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2018-2019 (24 Mai 2018 - 8 Mai 2019). pdf eicon PDF 300 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 24 Mai 2018 i 8 Mai 2019.  Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

58.

Eitem Frys

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ei fod yn meddwl y dylid cynnal cyfarfod brys i ystyried y "Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, S Pritchard, M B Lewis, W G Lewis, L V Walton, M C Child, R Francis-Davies, E W Fitzgerald, M H Jones, P M Black, P N May a D G Sullivan mewn perthynas â gohirio’r senedd.

59.

Rhybudd o Gynnig - Gohirio'r senedd

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C E Lloyd, J P Burtonshaw, D W W Thomas, A S Lewis, S Pritchard, M B Lewis, W G Lewis, L V Walton, M C Child, R Francis-Davies, E W Fitzgerald, M H Jones, P M Black, P N May a D G Sullivan

 

Rheswm dros y Mater Brys: O ystyried y newyddion ar 28 Awst 2019 fod posibilrwydd o ohirio'r senedd ar 10 Medi 2019, dyma unig gyfle'r cyngor i ystyried y rhybudd o gynnig hwn a'i ystyried cyn y dyddiad hwnnw".

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley.

 

"Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan nodi ein bod ni i gyd yn anghytuno'n llwyr â'r ymgais i ohirio'r senedd er mwyn osgoi dadl ddemocrataidd am ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.

 

Mae pobl y DU dros gannoedd o flynyddoedd wedi ennill yr hawl i’n democratiaeth seneddol fod yn esiampl i weddill y byd.

 

Mae'n gwbl annemocrataidd i unrhyw Brif Weinidog, heb sôn am un nad yw wedi ennill etholiad cyffredinol nad oes ganddo fandad gan bobl Prydain i geisio rhwystro ein senedd sofran o aelodau etholedig.

 

Mae tystiolaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r DU wedi bod yn gyson wrth gadarnhau y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn achosi aflonyddwch a difrod mawr i economi Abertawe, Cymru a'r DU ac rydym yn galw ar y Prif Weinidog i sicrhau bod Aelodau Etholedig Senedd y DU yn gallu cyflawni eu dyletswyddau democrataidd."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig.  Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (45 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorydd

Y Cynghorwyr

C Anderson

D H Hopkins

C L Philpott

J E Burtonshaw

O G James

A Pugh

J P Curtice

L James

J A Raynor

N J Davies

Y V Jardine

K M Roberts

A M Day

J W Jones

M Sherwood

P Downing

M H Jones

R V Smith

C R Doyle

P K Jones

R C Stewart

M Durke

E J King

M Sykes

C R Evans

A S Lewis

G J Tanner

V M Evans

M B Lewis

D W W Thomas

F M Gordon

W G Lewis

L G Thomas

K M Griffiths

C E Lloyd

M Thomas

T J Hennegan

P Lloyd

G D Walker

C A Holley

I E Mann

L V Walton

B Hopkins

P M Matthews

T M White

 

Yn erbyn (1 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorydd

Y Cynghorydd

P R Hood-Williams

-

-

 

Ymatal (0 Cynghorwr)

Y Cynghorydd

Y Cynghorydd

Y Cynghorydd

-

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorwr)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

 

Sylwer: Dwedodd y Cynghorydd L R Jones (Arweinydd y Grŵp Ceidwadwyr) bod y "Rhybudd o Gynnig” yn wastraff amser ac nid oedd am fod yn rhan ohono.  Wedi’r datganiad gadawodd y Cynghorwyr S J Gallagher, D W Helliwell, L R Jones, M A Langstone, B J Rowlands ac W G Thomas y cyfarfod.

60.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Archwiliad Datganiadau Ariannol Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 299 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jason Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) "Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018-2019 Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Ymatebodd Jason Garcia (SAC) i gwestiynau technegol eu natur ac ymatebodd Ben Smith (Swyddog Adran 151) i gwestiynau'n ymwneud â sefyllfa Dinas a Sir Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol;

 

2)              Cymeradwyo'r datganiad.

61.

Datganiad o Gyfrifon 2018/19. pdf eicon PDF 5 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cyfrifon 2018-2019 ar 15 Medi 2019 neu cyn hynny.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2018-2019 fel y’u hamlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

62.

Cais am ddynodi Abertawe o fewn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Cyfnod VII Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd. pdf eicon PDF 371 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r cyngor am y cyfle i gyflwyno cais am ddynodiad o fewn Cam VII Rhwydwaith Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd, amcanion a buddion y rhaglen a'r gofynion ymgeisio.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais gan Gyngor Dinas Abertawe i’w ddynodi’n aelod o Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dan gam VII.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd rannu gwaith y cyngor â phob cynghorydd mewn perthynas â buddion diffodd motor cerbyd pan fo’r cerbyd wedi stopio mewn traffig am 10 eiliad neu fwy.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n rhannu'r gwaith.

63.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol

Dileu enwau'r Cynghorwyr J E Burtonshaw ac M B Lewis.

Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr P K Jones ac M Sherwood.

64.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 313 KB

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd Pedwar (4) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 3.  Gofynnodd y Cynghorydd A M Day:

"Sawl mynegiant o ddiddordeb a dderbyniwyd mewn perthynas â Home Farm?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.