Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion
eu cael ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog ddiddordeb
i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd
ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1) Datganodd y
Cynghorydd D W Helliwell gysylltiad personol â Chofnod 29 "Rhybudd o
Gynnig - Home Farm". 2) Datganodd y Cynghorwyr A M
Day, R Francis-Davies, L S Gibbard, P K Jones, E T Kirchner, A S Lewis, W G
Lewis, P Lloyd, C L Philpott, C Richards, D G Sullivan, M Sykes, G J Tanner, L
V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 30 "Oedran Pensiwn
Statudol". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod blynyddol y cyngor a
gynhaliwyd ar 9 Mai 2019; 2)
Cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd
ar 17 Mai 2019; 3)
Cyfarfod seremonïol y cyngor a
gynhelir ar 12 Mehefin 2019 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd A M Day at y
rhestr o ymddiheuriadau. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu'r Cyfarfod Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith
cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y
cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y
cyfarfod yn cael ei recordio. 2)
Y gorau yng Nghymru yng ngwobrau Prif Adeiladwr y
Flwyddyn Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol Lynsey Davies o'r Gwasanaethau Adeiladau am ennill gwobr 'y
gorau yng Nghymru' ar gyfer Gwobrau Prif Adeiladwr y Flwyddyn Ffederasiwn y
Meistr Adeiladwyr 2019. Bydd Lynsey'n cael ei chyflwyno ar gyfer gwobrau cenedlaethol
Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr ar 20 Medi 2019. Meddai Ifan Glyn,
Cyfarwyddwr FMB Cymru, "mae Lynsey'n enghraifft
wych o sut gall bod yn ymrwymedig, yn ymroddgar ac yn benderfynol gyflawni
canlyniadau ac rydym yn dymuno'n dda iddi yn y gwobrau cenedlaethol." Roedd Lynsey Davies yn
bresennol i dderbyn ei gwobr. 3)
Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2019 Dinasyddion Abertawe a/neu bobl â
chysylltiadau ag Abertawe a dderbyniodd gwobrau yn Rhestr Anrhydeddau
Pen-blwydd y Frenhines. a)
Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i)
Derek Vaughan, Aelod ASE
Senedd Ewrop dros Gymru. Am wasanaethau
gwleidyddol a chyhoeddus. b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i)
Gerallt Bowen Davies, Swyddog
Gweithrediadau Cenedlaethol Cymru, Ambiwlans Sant Ioan. Am wasanaethau i
ddarpariaeth Cymorth Cyntaf yng Nghymru. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg) ii)
Pamela Christine Evans, Sefydlydd
a Chyfarwyddwr Peace Mala. Am wasanaethau i hyrwyddo
heddwch a dealltwriaeth o ryng-grefyddau. (Treforys,
Abertawe) iii)
Karen Margaret MacKinnon am ei gwasanaethau i'r celfyddydau. (Curadur
Oriel Gelf Glynn Vivian
Cyngor Abertawe) (Brynmill, Abertawe) iv)
Michael Clive Norman. Gwirfoddolwr a
sefydlydd Coed Cwm Penllergaer. Am wasanaethau i dreftadaeth Gymreig. c)
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i)
Ian Kevin Jenkins. Gweithiwr
achos, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Am wasanaethau cyhoeddus a chymunedol
yn Abertawe. (Abertawe) ii)
Brian Thomas Sullivan. Adwaenir fel Brian Quinlan
ar y llwyfan. Am wasanaethau elusennol a'r Celfyddydau Perfformio. (Abertawe). 4)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor a)
Cofnod 27
"Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 7 Ychwanegu'r Cynghorydd
I E Mann at restr o enwau'r rhai sy'n cyflwyno'r cwestiwn. b)
Cofnod 29 "Rhybudd
o Gynnig - Home
Farm" Ychwanegu'r Cynghorydd I E Mann a P N May at restr o enwau'r rhai sy'n
cyflwyno'r cwestiwn. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Diwygiadau i bortffolios y
Cabinet Adroddodd
Dirprwy Arweinydd y Cyngor fod y diwygiadau canlynol wedi'u gwneud i
bortffolios y Cabinet: Trawsnewid Busnes a Pherfformiad Ychwanegu Cydraddoldeb
ac Amrywiaeth Dileu Gwasanaethau
masnachol Cymunedau Gwell (Pobl - Arweiniol) Ychwanegu Dysgu Gydol
Oes Abertawe -
Dinas Hawliau Dynol Dileu Cydraddoldeb
ac Amrywiaeth Cyflwyno Ychwanegu Gwasanaethau
masnachol Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol (Arweiniol) Deisebau Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Ychwanegu Llwybrau
beicio Adnewyddu a
Chynnal a Chadw Cerbydlu Parciau a
Glanhau Cludiant
Cyhoeddus Cartrefi ac Ynni Ychwanegu Trafnidiaeth
Cerbydlu Gwyrdd a Mabwysiadu Cerbydau Gwyrdd Nododd
hefyd y byddai pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn e-bostio'r rhestr o
bortffolios y Cabinet sydd wedi'u diweddaru at yr holl gynghorwyr a byddai'n
diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor. 2)
Croesawu Phil Roberts yn ôl
(Prif Weithredwr) Croesawodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor Phil Roberts (Prif Weithredwr) yn ôl yn dilyn cyfnod o
salwch. Diolchodd hefyd i Jack Straw am
weithredu fel y Prif Weithredwr dros dro yn ystod y cyfnod hwnnw. 3)
Y diweddaraf am ad-drefnu
llywodraeth leol Darparodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Ad-drefnu Llywodraeth Leol. Nododd y bydd Grŵp pellach yn cael ei
sefydlu i edrych ar y mater a bydd yr adborth yn barod ym mis Hydref 2019. 4)
Pwerdy Great
Western - Cydweithio Nododd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor y byddai Arweinydd y Cyngor yn bresennol mewn cyfarfod yn
Llundain ym mis Gorffennaf mewn perthynas â'r posibilrwydd o greu pwerdy Great Western. 5)
Cyfle datblygu posib ar hyd y
blaendraeth Nododd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor, yn dilyn Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â
chyfleoedd datblygu posib ar hyd y blaendraeth, fod Arweinydd y Cyngor wedi
penderfynu i beidio â pharhau ag unrhyw ddatblygiad yn ardal y West Cross Inn. 6)
Abertawe 50 Cyfeiriodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor at nifer o ddigwyddiadau presennol a'r dyfodol sy'n
gysylltiedig ag Abertawe'n dathlu hanner
canmlwyddiant fel dinas. Derbyniodd
Abertawe statws dinas ar 3 Gorffennaf 1969. Cyfeiriodd at y Parti
Stryd a gynhelir ar hyn o bryd ger cymuned Sandfields ar Heol San Helen;
ymweliad Tywysog Cymru a Duges Cernyw ym Mhafiliwn Patti,
Parc Victoria a Chapel y Tabernacl, Treforys ar 3 Gorffennaf 2019 a Sioe Awyr
Cymru - Bae Abertawe a gynhelir ar 6 a 7 Gorffennaf 2019. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â Chofnod
rhif 28 "Rhybudd o Gynnig - Argyfwng Hinsawdd". Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Nid oedd angen ymateb
ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta Jones PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn
ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones. Ganed Catherine
Zeta-Jones CBE yn Abertawe ac mae'n actores arobryn y mae ei doniau'n amrywio o
fyd y theatr i fyd y ffilmiau.
Dechreuodd ei gyrfa ar y llwyfan yn Llundain cyn dod yn seren deledu yn
yr addasiad poblogaidd o lyfr HE Bates, ’The Darling Buds of May”.
Enillodd Wobr yr Academi am ei phortread o Velma
Kelly yn yr addasiad sgrîn o un o sioeau cerdd Broadway,
Chicago”. Enwebwyd hefyd am
wobr Golden Globe ac enillodd wobr Dewis y Beirniaid,
Gwobr Urdd yr Actorion Sgrîn a gwobr BAFTA ar gyfer Actores Ategol Gorau am ei
pherfformiad. Mae Catherine hefyd wedi chwarae rhannau yn ffilmiau Ocean's 12, The Mask of Zorro, Entraptment a The
Terminal. Yn ystod ei gyrfa mae Catherine wedi bod yn
llysgennad dros Abertawe ac mae hi wedi gweithio gyda nifer o elusennau. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Catherine Zeta-Jones; 2)
Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2019
i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 94 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
y cyngor ar gyfer yr enwebiadau/diwygiadau i aelodaeth cyrff y cyngor. Ychwanegodd hefyd rai diwygiadau i'r
adroddiad. Cyfeiriodd at yr
adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud y newidiadau
canlynol i aelod hyrwyddo'r awdurdod: 1)
Hyrwyddwr Aelod o'r
Lluoedd Arfog Tynnu enw'r Cynghorydd
J E Burtonshaw. Ychwanegu'r Cynghorydd
W G Lewis. 2)
Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Tynnu enw'r Cynghorydd
W Evans. Ychwanegu lle Llafur
gwag. Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Pwyllgor Archwilio Tynnu enw'r Cynghorydd
W G Thomas. Ychwanegu'r Cynghorydd D W
Helliwell. 2)
Pwyllgor Datblygu Polisi
Lleihau Tlodi Tynnu enw'r Cynghorydd
G J Tanner. Ychwanegu enw'r
Cynghorydd K M Roberts. 3)
Pwyllgor y Rhaglen
Graffu Tynnu enw'r Cynghorydd J E Burtonshaw. Ychwanegu'r Cynghorydd J A Hale. 4)
Bwrdd Magu Plant
Corfforaethol Tynnu enw'r Cynghorydd W Evans. Ychwanegu enw'r Cynghorydd S Pritchard. 5)
Panel Llofnodwyr
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Tynnu enw'r Cynghorydd
J E Burtonshaw. Ychwanegu'r Cynghorydd W G
Lewis. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 109 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Dangosir
y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig
arno/arnynt isod: Cwestiwn 4 Gofynnodd y
Cynghorydd P M Black y canlynol: "A fydd aelod o'r Cabinet yn gallu sicrhau y byddai llinell amlwg yn y
gyllideb sy'n dangos y swm ar gyfer cynnal a chadw'n glir?" Nododd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y byddai'n trafod y mater
gyda'r Swyddog Adran 151 ac yn darparu ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B Cyflwynwyd
dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu
cyfer. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Argyfwng Hinsawdd. PDF 127 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd M Sherwood. Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn: "Mae'r cyngor hwn yn nodi casgliad adroddiad dros
dro diweddar gan wyddonwyr y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd
(IPCC) fod angen gwneud pob ymdrech i atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi
1.5°C yn uwch na lefelau cynddiwydiannol. Fodd bynnag, gellir cyrraedd cynnydd o'r
fath, gyda pholisïau llywodraethu presennol, mor gynnar â 2030, gyda chynnydd
pellach yn y degawdau sy'n dilyn. Mae'r fath raddau o dymheredd yn
bygwth bodau dynol a phob bod byw ar y blaned, gydag aflonyddwch i
amaethyddiaeth, a cholli cynefinoedd daearol a bywyd gwyllt morol. Rydym
eisoes wedi cydnabod, ar draws y byd, fod mwy o rywogaethau planhigion ac
anifeiliaid yn dod i ben nag erioed o'r blaen; mae riffiau cwrel, sy'n hanfodol
i fywyd môr, yn marw, mae cenedlaethau ynysoedd bach a dinasoedd arfordirol yn
cael eu bygwth gan gynnydd yn lefel y môr wrth i'r capiau iâ pegynol ddadmer;
mae cynnydd yn nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i achosion o dywydd gwael -
megis gormod o gyfnodau oer, gormod o gyfnodau poeth, corwyntoedd, llifogydd. Rydym wedi nodi gweithredaeth
pobl ifanc ar draws y byd sy'n mynegi eu teimladau ynghylch diffyg pŵer o
ran y sefyllfa ac yn gofyn i'r rheiny sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau
heddiw i gymryd camau brys i ddiogelu eu dyfodol. Rydym yn cydnabod, ar lefel fyd-eang, mai cyfrifoldeb y
llywodraethau cenedlaethol yw mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae
angen iddynt gydweithio'n rhyngwladol er mwyn gwneud hynny, ond mae gwaith
pwysig o hyd y gall cynghorau lleol ei wneud. Rydym yn cydnabod hanes diweddar y cyngor hwn wrth geisio
gwneud ei orau i leihau allyriadau carbon, gwella bioamrywiaeth, a cheisio
sicrhau economi ffyniannus, carbon isel ar gyfer ein rhanbarth. Rydym yn falch iawn o'r camau gweithredu a
gymerwyd gan Gyngor Abertawe hyd yn hyn, sy'n cynnwys y canlynol: ·
Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yw un o'r Cronfeydd Pensiwn cyntaf yn y DU i
fabwysiadu Polisi Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol sy'n ymrwymo'r gronfa
bensiwn i leihau ei gyswllt (sydd eisoes yn isel) â buddsoddiadau tanwydd
ffosil sy'n seiliedig ar garbon o hyd at 50% dros y pedair blynedd nesaf. Wrth wneud hynny, mae'n derbyn bod buddsoddi mewn
buddsoddiadau ynni gwyrdd, isadeiledd a chymdeithasol newydd yn cynnig yr
enillion ariannol cynaliadwy gorau ar gyfer aelodau'r Gronfa Bensiwn yn y tymor
hir. Rhoddir y diweddaraf am y cynnydd ar sail flynyddol. ·
Newid 21,053
o oleuadau stryd yn rhai LED, lleihau CO2 bob blwyddyn o 2,198,608.49kg. ·
Cyflwyno Sioe
Deithiol Aer Glân bob blwyddyn i ysgogi'r cyhoedd i brynu cerbydau trydan ac i
hyrwyddo gwella ansawdd aer. ·
Cyflwyno
mesurau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni er budd tenantiaid tai'r cyngor. ·
Hyrwyddo
ymgyrchoedd a rhaglenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynyddu
effeithlonrwydd ynni tenantiaid preifat a pherchnogion tai, lleihau tlodi
tanwydd a lleihau allyriadau. ·
Ymgyrchu dros
drydaneiddio'r rheilffordd o Abertawe i Lundain. ·
Cynyddu'r
gwaith tuag at gael Morlyn Llanw blaenllaw, cefnogi cynlluniau ynni
adnewyddadwy cymunedol megis SCEES, i gyflwyno ynni glân ac er budd ysgolion
lleol ac adeiladau cymunedol. ·
Gweithio
gydag eraill yn genedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu isadeiledd
gwefru ceir trydanol. ·
Bod yn
arweinwyr arfer da yng Nghymru drwy gael polisïau ac ymagweddau Datblygu
Cynaliadwy o'r cyfnod cyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. ·
Cynnwys
gofalu am yr amgylchedd naturiol yn ein Cynllun Corfforaethol yn ddiweddar fel
blaenoriaeth, cydnabod y cyfraniad hynod bwysig a gwaith ein Tîm Cadwraeth
Natur. ·
Adeiladu ein
tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth yma yn Abertawe at safon Passivhaus, a
dechrau adeiladu tai cyngor newydd at safon hynod ynni effeithlon, sef
"Safon Abertawe," a fydd yn galluogi i'r holl elfennau gael eu
sicrhau'n lleol a lleihau allyriadau gan ddefnyddio storio ynni mewn batris a
defnyddio pympiau o'r ddaear. ·
Bod yn
arloesol wrth adeiladu prosiectau blaenllaw megis Ysgol Pentrehafod, arddangos
lleihau gwastraff a chynaladwyedd. ·
Ennill
buddsoddiad ar gyfer technoleg werdd arloesol, megis "Cart" fel rhan
o Fargen Ddinesig y Dinas-ranbarth. ·
Parhau i
geisio cyfleoedd i ychwanegu at ein cerbydlu o
gerbydau trydan, sef yr un fwyaf yng Nghymru eisoes. ·
Parhau i
gyflwyno ein strategaeth Lleihau Carbon: Lleihad o 42% mewn allyriadau ers ein blwyddyn gwaelodlin. ·
Sicrhau
cyllideb ar gyfer cynnydd syfrdanol mewn llwybrau Teithio Llesol (cerdded a
beicio) drwy'r sir ac wedi cefnogi cynllun beicio cymunedol Prifysgol Abertawe. ·
Wedi dod yn
Awdurdod Lleol Gwrth-ffracio yn 2016, wedi iddo basio
deddf i "wrthwynebu unrhyw ddatblygiad nwy anghonfensiynol (ffracio)" sydd hefyd wedi ein hymrwymo i weithio tuag
at fod yn awdurdod lleol nad ydym yn defnyddio tanwydd ffosil erbyn 2025. ·
Gweithredu
gweithio ystwyth fel y gall ein gweithlu leihau orfod teithio'n ddiangen. ·
Datblygu
arferion caffael lleol i leihau ein hôl troed carbon. ·
O ran addysg,
rydym wedi ymuno â rhaglenni EcoYsgolion rhyngwladol
yn ddiweddar sy'n annog ysgolion i hyrwyddo ailgylchu a lleihau defnydd o ynni
a dŵr. ·
Annog ein
disgyblion Cyfnod Sylfaen i ddysgu yn yr awyr agored gan sicrhau parch at
natur, bioamrywiaeth ac ecosystemau. ·
Yng Nghyfnod
Allweddol 4, datblygu partneriaethau gyda'n prifysgolion i sefydlu gweithdai
STEM gan gynnwys effaith newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gydag
ymchwilwyr er mwyn cael yr wybodaeth
ddiweddaraf a'r ddealltwriaeth gliriaf am yr hyn y gallwn ni ei wneud i ymateb
i'r angen brys i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Felly, mae'r cyngor hwn yn datgan argyfwng hinsawdd, ac
mae'n galw ar lywodraeth y DU i wneud yr un peth. Rydym yn ymrwymo
i'r canlynol: 1.
Galw ar
lywodraethau'r DU a Chymru i ddarparu'r pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i ni
er mwyn sicrhau bod Abertawe'n dod yn garbon niwtral
erbyn 2030. 2.
Hyrwyddo'r
argyfwng hinsawdd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r gwir am newid yn yr hinsawdd i'r
cyhoedd lleol. 3.
Gweithio
gydag arbenigwyr ymchwilio a datblygu perthnasol i: a.
Adolygu ein
strategaethau a'n cynlluniau gweithredu presennol er mwyn mynd i'r afael â
newid yn yr hinsawdd. b.
Nodi
newidiadau pellach i'r polisi neu'r camau gweithredu y gallem eu cymryd, o fewn
cwmpas ein pwerau a'n hadnoddau, i ateb ger yr argyfwng hinsawdd. c.
Ceisio help
partneriaid lleol megis Prifysgol Abertawe a chyrff ymchwilio eraill i lunio
adroddiad o fewn blwyddyn i'w rannu â'r gymuned, a fydd yn esbonio'r gwaith
sydd ar waith ar hyn o bryd a'r cyflawniadau a gafwyd hyd yn hyn, yn ogystal
â'r targedau ar gyfer y dyfodol. 4.
Cael y
diweddaraf am waith pellach y cyngor yn y maes hwn yn flynyddol drwy adran
amcan corfforaethol Adroddiad o Adolygiad Blynyddol y cyngor - Cynnal a gwella
adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod. Sylwer: Gofynnodd i'r Cynghorydd W G Thomas: "Hoffwn nodi gwaith gwych y cyngor mewn perthynas ag
adeiladu tai ynni effeithlon a'r effaith ar leihau carbon. Beth yw'r
hyn a allwn ni ei wneud i wella'r agweddau hynny yn eiddo a swyddfeydd y
cyngor?" Nododd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai ymateb ysgrifenedig
yn cael ei ddarparu. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Fferm Gartref. PDF 91 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd A M Day a'i eilio gan y Cynghorydd C L Philpott. Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn: "Nodwn fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyhoeddi
Hysbysiadau o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â nifer o safleoedd y mae'r
cyngor yn berchen arnynt. Nodwn yr awgrym mai Home
Farm, sydd ym Mharc Singleton, yw un o'r safleoedd a
restrir ar wefannau GwerthwchiGymru. Nodwn hefyd fod y disgrifiad yn nodi bod y
cyngor yn ceisio partneriaid i "fwyafu gwerth y
safle a sicrhau enillion datblygwyr o gynigion preswyl, masnachol a defnydd
cymysg a arweinir gan y farchnad.' Mae'r Hysbysiad o Wybodaeth
Flaenorol hwnnw hefyd yn nodi: Home Farm, Parc
Singleton - cynllun 42 uned ar hyn o bryd a fydd, o
bosib, yn cynnwys 20% o dai fforddiadwy a gefnogir gan yr ymateb cyn cyflwyno
cais. Nodwn anawsterau ariannol y cyngor ond ni
ddylai Home Farm, sydd wedi'i leoli o fewn parc
arddangos Abertawe, gael ei ecsbloetio er mwyn gwneud elw. Nodwn fod pryder sylweddol ymhlith y cyhoedd
o ran y cynnig, yn enwedig llechfeddiant datblygiadau preswyl ym mharc mwyaf y
ddinas, colli mynediad posib at rai o adeiladau mwyaf hanesyddol y ddinas,
cynnydd mewn traffig o ddatblygiad o'r fath a diffyg gwahaniad rhwng cerddwyr a
thraffig cerbydau a phroblemau wrth gael mynediad i'r safle ar Lôn Sgeti ac
oddi yno. O ystyried hyn a sefydlu Grŵp Cyfeillion
Parc Singleton yn ddiweddar, rydym yn galw ar y
Cabinet i gynnal y trafodaethau ehangaf posib ynghylch defnyddiau addas a
phriodol eraill ar gyfer Home Farm sy'n cyd-fynd â'i
leoliad." Cynigodd y Cynghorydd C E Lloyd gynnig diwygiedig a eiliwyd gan y
Cynghorydd M Thomas. O ran pleidleisio,
derbyniwyd y cynnig diwygiedig a daeth yn gynnig annibynnol. Mae'r cynnig diwygiedig yn darllen fel a ganlyn: "Nodwn fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyhoeddi
Hysbysiadau o Wybodaeth Flaenorol mewn perthynas â nifer o safleoedd y mae'r
cyngor yn berchen arnynt. Nodwn yr awgrym mai Home
Farm yw un o'r safleoedd a restrir ar wefannau GwerthwchiGymru. Nodwn hefyd fod y disgrifiad yn nodi bod y cyngor yn
ceisio partneriaid i "fwyafu gwerth y safle a
sicrhau enillion datblygwyr o gynigion preswyl, masnachol a defnydd cymysg a
arweinir gan y farchnad..." ac mae'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol hefyd
yn nodi: Home Farm, Parc Singleton - cynllun 42 uned ar hyn o bryd a fydd, o bosib,
yn cynnwys 20% o dai fforddiadwy a gefnogir gan yr ymateb cyn cyflwyno cais. Mae'r cyngor yn nodi adborth cychwynnol gan breswylwyr yn
dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol a sefydlu Grŵp Cyfeillion
Parc Singleton yn ddiweddar. Mae felly yn galw ar y
Cabinet i gynnal y trafodaethau ehangaf posib ynghylch defnyddiau addas a
phriodol eraill ar gyfer safle Home Farm, sy'n
cyd-fynd â'i leoliad. Gofynnwn i'r Arweinydd sefydlu gweithgor trawsbleidiol i
ystyried opsiynau dichonadwy ar gyfer addasu Home
Farm a dylid adrodd i'r Cabinet o fewn y chwe mis nesaf." Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig a amlinellir uchod. |
|
Hysbysiad o Gynnig - Oedran Pensiwn Statudol. PDF 92 KB Cofnodion: Cynigiwyd gan y Cynghorydd L S Gibbard ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd C E
Lloyd. Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn: "Mae'r
cyngor yn nodi'r cynnig blaenorol a basiwyd ym mis Rhagfyr 2016 a oedd yn galw
ar y llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran pensiwn y wladwriaeth
i fenywod o'r 1950au sydd, yn annheg, wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn
oedran pensiwn statudol y wladwriaeth heb unrhyw rybudd o gwbl ac maent yn
credu ei fod yn annerbyniol nad yw'r llywodraeth wedi gweithredu ar ran y
15,000 o fenywod o Abertawe yr effeithir arnynt oherwydd ei weithrediadau. Nodwn hefyd
adolygiad barnwrol y gwrandawiad yn yr Uchel Lys a gynhaliwyd ar 5 a 6 Mehefin
2019 ac rydym yn aros yn amyneddgar i glywed canlyniad yr achos. Mae'r cyngor hwn yn gofyn bod yr Arweinydd yn ysgrifennu at
y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau i
amlinellu cefnogaeth barhaus Cyngor Abertawe i'r menywod sy'n brwydro yn erbyn
anghydraddoldeb o ran pensiwn y wladwriaeth. Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a
amlinellir uchod. |