Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch cysylltiadau personol a
rhagfarnol posib cynghorwyr a swyddogion ag eitemau
ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad
i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth
i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, na datganwyd unrhyw cysylltiadau. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith
cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y
cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y
cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu.
Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod
profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y
cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel podlediad. 2)
Phil Roberts, y Prif Weithredwr - Dymuniadau
Gorau a Brysiwch Wella Rhoddodd yr Aelod
Llywyddol ddymuniadau gorau’r cyngor i Phil Roberts, y Prif Weithredwr, yn
ystod ei gyfnod salwch annisgwyl ac anochel. Dymunodd y gorau i Phil Roberts
wrth iddo gael ei driniaeth ac iddo wella’n fuan ac yn llawn. Mae angen i Phil
dreulio cymaint o amser ag sydd ei angen arno ac edrychwn ymlaen at ei
ddychweliad. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Diwygiad i Ddatganiad Polisi Tâl 2018-2019. PDF 118 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a oedd yn
gofyn i'r cyngor ddiwygio Datganiad Polisi Tâl 2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Diwygio paragraff 11.1 o
Ddatganiad Polisi Tâl 2018-2019 i ddarllen fel a ganlyn: "11.1 Ni ellir ailgyflogi nac Prif Swyddog
a gollodd ei swydd neu a gafodd ganiatâd i ymddeol yn gynnar o'r cyngor fel
gweithiwr (Contract Gwasanaeth), fel ymgynghorydd (Contract ar gyfer
Gwasanaeth) neu drwy gontractwr allanol a gomisiynir i weithio ar ran y cyngor,
heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol pan all cyfarfod y cyngor hepgor y
gofyniad hwn." 2)
Mabwysiadu'r Datganiad Polisi
Tâl diwygiedig ar gyfer 2018-2019. |
|
Penodi Prif Weithredwr dros dro. PDF 111 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y cyngor adroddiad a oedd yn
gofyn i'r cyngor benodi Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig dros
dro. Penderfynwyd: 1)
Penodi Jack Straw fel Prif
Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig dros dro am gyfnod o 3 mis er mwyn
cyflawni'r holl swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr
presennol, gan gynnwys swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog
Cofrestru Etholiadol; 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymryd
unrhyw gamau gweithredu pellach er mwyn rhoi cynnwys yr adroddiad hwn ar waith; 3)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor mewn
ymgynghoriad ag arweinwyr grwpiau eraill a'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymestyn
yr apwyntiad i 6 mis. |