Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

129.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch cysylltiadau personol a rhagfarnol posib cynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, na datganwyd unrhyw cysylltiadau.

130.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel podlediad.

 

2)              Phil Roberts, y Prif Weithredwr - Dymuniadau Gorau a Brysiwch Wella

 

Rhoddodd yr Aelod Llywyddol ddymuniadau gorau’r cyngor i Phil Roberts, y Prif Weithredwr, yn ystod ei gyfnod salwch annisgwyl ac anochel. Dymunodd y gorau i Phil Roberts wrth iddo gael ei driniaeth ac iddo wella’n fuan ac yn llawn. Mae angen i Phil dreulio cymaint o amser ag sydd ei angen arno ac edrychwn ymlaen at ei ddychweliad.

131.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

132.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

133.

Diwygiad i Ddatganiad Polisi Tâl 2018-2019. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a oedd yn gofyn i'r cyngor ddiwygio Datganiad Polisi Tâl 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio paragraff 11.1 o Ddatganiad Polisi Tâl 2018-2019 i ddarllen fel a ganlyn:

 

"11.1 Ni ellir ailgyflogi nac Prif Swyddog a gollodd ei swydd neu a gafodd ganiatâd i ymddeol yn gynnar o'r cyngor fel gweithiwr (Contract Gwasanaeth), fel ymgynghorydd (Contract ar gyfer Gwasanaeth) neu drwy gontractwr allanol a gomisiynir i weithio ar ran y cyngor, heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol pan all cyfarfod y cyngor hepgor y gofyniad hwn."

 

2)              Mabwysiadu'r Datganiad Polisi Tâl diwygiedig ar gyfer 2018-2019.

134.

Penodi Prif Weithredwr dros dro. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y cyngor adroddiad a oedd yn gofyn i'r cyngor benodi Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig dros dro.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi Jack Straw fel Prif Weithredwr/Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig dros dro am gyfnod o 3 mis er mwyn cyflawni'r holl swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Prif Weithredwr presennol, gan gynnwys swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol;

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymryd unrhyw gamau gweithredu pellach er mwyn rhoi cynnwys yr adroddiad hwn ar waith;

 

3)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor mewn ymgynghoriad ag arweinwyr grwpiau eraill a'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymestyn yr apwyntiad i 6 mis.