Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

65.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

66.

Ffilmio Cyfarfod Seremonïol y Cyngor

Cofnodion:

Cynigiodd yr Arglwydd Faer y dylid rhoi caniatâd i’r rheiny a oedd yn bresennol ffilmio gweithgareddau Cyfarfod Seremonïol y Cyngor, a phenderfynwyd caniatáu hyn.

67.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM.

Cofnodion:

Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd Raglaw, yr Uchel Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor a Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM i Gyfarfod Seremonïol y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor at benderfyniad cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2018 (cyfeirir ato yng Nghofnod 39), lle penderfynodd y cyngor i roi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins, gan ei gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yn y byd heddiw.  Syr Karl Jenkins yw'r cyfansoddwr cyntaf a aned yng Nghymru i gael ei urddo'n farchog am wasanaethau i gyfansoddi a chroesi genres cerddorol.

 

Siaradodd y Cyng. M H Jones, a gynrychiolodd arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac arweinwyr y pleidiau gwleidyddol eraill o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd rhoi rhyddid er anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins, gan ei gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yn y byd heddiw.

 

Yna cyflwynodd yr Arglwydd Faer y Sgrôl Rhyddid er Anrhydedd i Syr Karl Jenkins gan roi Rhyddid Dinas a Sir Abertawe iddo.

 

Ymatebodd Syr Karl Jenkins drwy ddiolch i'r cyngor am yr anrhydedd.