Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

43.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

44.

Penodi Rolau Uwch-reolwyr (Cyfarwyddwr Addysg, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Cyllid)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cadarnhau penodiad i'r swyddi canlynol:

 

1)              Cyfarwyddwr Addysg;

2)              Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol;

3)              Prif Swyddog Cyllid.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod angen diwygio'r adroddiad gan ei fod yn nodi mai Ben Smith oedd y Prif Swyddog Cyllid a gymeradwyodd yr adroddiad. Roedd Ben Smith wedi datgan cysylltiad yn yr adroddiad a Paul Cridland oedd y Swyddog Cyllid a gymeradwyodd yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefn" ar waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad i ymgeiswyr roi cyflwyniad ac ymateb i gwestiynau gan mai un ymgeisydd yn unig a oedd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer pob swydd.  Awgrymodd hefyd y dylid cael gwared ar y gofyniad am bleidlais gudd a chynnal pleidlais syml drwy godi llaw yn lle hynny.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr yr adborth o'r broses benodi ar gyfer pob ymgeisydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi Rheol 44 Gweithdrefn y Cyngor "Atal Rheolau Gweithdrefn" ar waith er mwyn cael gwared ar y gofyniad ar gyfer y canlynol:

 

i)                 Ymgeiswyr i roi cyflwyniad ac ymateb i gwestiynau;

ii)       Pleidlais gudd. Dylid cynnal pleidlais syml drwy godi llaw yn lle hynny.

 

2)              Penodi Nick Williams yn Gyfarwyddwr Addysg;

 

3)              Penodi Dave Howes yn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

4)              Penodi Ben Smith yn Brif Swyddog Cyllid.

 

Sylwer: O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, gwahoddwyd pob ymgeisydd i Siambr y Cyngor a chynigiwyd y swyddi iddynt. Derbyniodd pob ymgeisydd y cynnig.