Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Demoratic Services - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y diddordebau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o ddiddordebau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog ddiddordeb i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

46.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r cyngor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y cyngor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeedig)

 

47.

Penodi Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau.

Cofnodion:

Cyfwelwyd ag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau.  Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad 10 munud ac atebodd nifer o gwestiynau a baratowyd ymlaen llaw.

 

Penderfynwyd penodi AH (ymgeisydd 3) ar gyfer y swydd Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Adnoddau.