Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffwyd cynghorwyr a swyddogion gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a
rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn
unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw gysylltiad
ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir
Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J E
Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 178 “Goddefeb ar gyfer absenoldeb
cynghorydd - y Cynghorydd S E Crouch” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried; 2)
Datganodd y Cynghorydd P Lloyd
gysylltiad personol â Chofnod 178 "Goddefeb ar gyfer absenoldeb cynghorydd
- y Cynghorydd S E Crouch". |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod Cyffredin y Cyngor a gynhaliwyd
ar 28 Mawrth 2019 fel cofnod cywir, yn amodol ar Gofnod 159 “Cyhoeddiadau'r
Aelod Llywyddol” a Chofnod 160 “Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor” yn cael eu
dileu a'u disodli gan y canlynol: “159
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. 1)
Gweddarlledu'r Cyfarfod Dywedodd
yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu
cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu, fod cyfarfod y cyngor yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni
fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi;
fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y
cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel gweddarllediad. 2)
Cydymdeimladau a)
Y
Cynghorydd William Frederick (Fred) Stuckey Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth
ddiweddar y Cynghorydd Fred Stuckey. Cynrychiolodd y Cynghorydd Stuckey Ward
Etholiadol Townhill o 1999 i 2004. b)
Y
Cynghorydd Des W Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth
ddiweddar y Cynghorydd Des W Davies o Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port
Talbot. Roedd y Cynghorydd Davies yn gyn-gynghorydd Sir Gorllewin Morgannwg a
etholwyd gyntaf ym 1981. Bydd llawer ohonoch yn ei gofio fel cyn Is-gadeirydd
Cyd-bwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg gynt. c) Cofio'r rhai a fu farw yn y
gyflafan mewn mosgiau yn Seland Newydd Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at y gyflafan
ddiweddar yn Seland Newydd. Bu farw hanner cant o bobl a chafodd dwsinau o bobl
eraill eu hanafu yn y saethiadau ym Mosg Al Noor a Chanolfan Islamaidd Linwood
yn Christchurch, Seland Newydd ar 15 Mawrth 2019. Rhaid i wleidyddion helpu i
chwarae rôl wrth fynd i'r afael ag anoddefgarwch mewn cymdeithas. Allwch
chi i gyd sefyll fel arwydd o barch a chydymdeimlad. 3)
Y Cynghorydd
M C Child – Swimathon 2019 Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai ei gydweithiwr ward etholiadol, y
Cynghorydd Mark Child, yn cymryd rhan yn Swimathon 2019. Nod y Cynghorydd Child
yw nofio 2.5km (sef 1.55 milltir) ddydd Gwener, 29 Mawrth 2019 fel rhan o
Swimathon 2019 er mwyn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser y DU a Marie Curie. Mae
croeso i chi noddi'r Cynghorydd Child. 4) Darran
Kiley - Gwobr Dewi Sant am Ddewrder Dywedodd
yr Aelod Llywyddol ei fod yn falch iawn o gyhoeddi bod Darran Kiley ar rhestr
fer rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am Ddewrder. Mae cynllun Gwobrau Dewi Sant
yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob cefndir yng
Nghymru. Roedd
Darran yn gweithio drwy asiantaeth i Is-adran Parciau a Glanhau'r awdurdod ac
ym mis Hydref 2017 yn ystod diwrnod o waith yng nghanol y ddinas, daeth wyneb
yn wyneb â dyn â chyllell. Cysylltodd Darran â'r heddlu ac yna dilynodd y dyn
â'r gyllell. Pan wnaeth y person hwn fygwth aelod arall o'r cyhoedd, ymyrrodd
Darran drwy atal y dyn â'r gyllell nes i'r heddlu gyrraedd i'w arestio. Ers
hynny mae Darran wedi cael ei gyflogi yn y gwasanaeth Rheoli Gwastraff trwy ei
Raglen Hyfforddi. Mae
Darran yma heddiw ac ar ran yr awdurdod a phobl Abertawe, hoffwn ddiolch iddo
am ei ddewrder a'i longyfarch am gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dewi Sant am
Ddewrder. 5) Gwobr
Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Roedd
yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a
Rheoli Argyfyngau Corfforaethol yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn
ddiweddar ar gyfer Gwobr Arloesi Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch ar ôl
cyflwyno ei waith ar Reoli Cwympiadau Pobl Hŷn i Fwrdd y Gymdeithas
Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) ym mis Rhagfyr 2018. Ym
mis Ionawr 2019, cyflwynodd Craig Gimblett a Tracy Dicataldo y gwaith yn
Nhŷ'r Arglwyddi a chawsant Darian Stevenson ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a
Diogelwch gan ddod yn y 3ydd safle yn y DU. Mae
hyn yn dyst i'r gwaith a gyflawnwyd gan Tracy mewn partneriaeth â Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru a Bae'r Gorllewin, a oedd wedi lleihau nifer y cwympiadau a
nifer y galwadau 999 o ddwy ran o dair. Mae
ROSPA bellach wedi cysylltu â'r awdurdod, gan bod am ddefnyddio'r gwaith
arloesol fel meincnod ledled y DU. Mae hon yn gydnabyddiaeth wych i Abertawe ar
lwyfan y DU. Mae
Craig Gimblett a Tracy Dicataldo yn bresennol i dderbyn y wobr. 6) Coleg
Gŵyr Abertawe - Gwobrau Prentisiaethau 2019 Roedd
yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi bod nifer o weithwyr y cyngor wedi
ennill gwobrau yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe 2019 yn
ddiweddar. Llongyfarchiadau i bawb. Mae'r coleg yn gweithio gyda 2,500 o
brentisiaid a bydd pob un ohonynt yn cyfrannu at ddyfodol yr economi. Mae'r
gweithwyr yn bresennol i dderbyn eu gwobrau: a)
Prentis Gosod Briciau y
Flwyddyn - Aaron Redden; b)
Prentis Gofal Plant y Flwyddyn
- Ingrid Parker (Ysgol Gymunedol St Thomas); c)
Prentis Gwybodaeth, Cyngor ac
Arweiniad y Flwyddyn - Iestyn Thomas (ddim ar gael oherwydd ymrwymiadau coleg); ch) Prentis TG y Flwyddyn - Cameron Lewis; d)
Prentis Arweinyddiaeth a
Rheolaeth y Flwyddyn - Elizabeth Jarvis; dd) Prentis y Flwyddyn - Luke Evans. Hefyd
enillodd yr awdurdod Gyflogwr Prentisiaethau'r Flwyddyn (250+ o gyflogwyr). Mae
Adrian Chard (Adnoddau Dynol), Helen Beddow a Lee Wyndham (Y Tu Hwnt i Frics a
Morter) yn bresennol i dderbyn y wobr ar ran yr awdurdod. 7)
Y Cynghorydd M H Jones Dywedodd
yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd M H Jones yn obeithiol y byddai'n dychwelyd
i gyfarfodydd yr wythnos nesaf yn dilyn ei llawdriniaeth a diolchodd i bawb a
anfonodd negeseuon o gefnogaeth a dymuniadau gorau ati. 8)
Diwygiadau/Cywiriadau i
Wŷs y Cyngor Amlinellodd
yr Aelod Llywyddol y diwygiadau/cywiriadau i Wŷs y Cyngor. a)
Eitem 12 "Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2019-2020”. Dileu cyfeiriad at
Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 21 Mai 2020. Ei aildrefnu ar gyfer 28
Mai 2020. b)
Eitem 13 "Datganiad Polisi Tâl 2019-2020" Mae
tudalen 123, "Atodiad B: Tâl Prif Swyddogion 2019-2020", wedi'i
diwygio a'i dosbarthu. Dylech anwybyddu'r fersiwn brintiedig yng Ngwŷs y
Cyngor. 160.
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor 1)
Dawnus Darparodd
Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ar waith canol y ddinas wedi i gwmni adeiladu
Dawnus fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Dywedodd fod yr awdurdod yn meddwl am yr
holl bobl yr effeithiwyd arnynt gan fethiant cwmni Dawnus. Diolchodd
hefyd i Martin Nicholls a'i dîm am y gwaith caled yr oeddent wedi'i wneud yn
dilyn y cyhoeddiad a dywedodd eu bod yn y broses o chwilio am gontractwr newydd
i ymgymryd â'r gwaith yng nghanol y ddinas. 2)
Cynhadledd MIPIM -
12-15 Mawrth 2019 Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor ddiweddariad yn dilyn ei bresenoldeb diweddar yng
nghynhadledd MIPIM, Cannes, Ffrainc. Dywedodd mai MIPIM oedd marchnad eiddo
fwyaf y byd ac yn gyfle delfrydol i gwrdd â'r bobl fwyaf dylanwadol o bob
sector o'r diwydiant gwerthu tai rhyngwladol. 3)
Bargen Ddinesig
Dinas-ranbarth Bae Abertawe Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. 4)
Morlyn Llanw Bae
Abertawe Rhoddodd
Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe. 5)
Pencampwyr Camp Lawn y
6 Gwlad ar gyfer 2019 - Cymru Llongyfarchodd
Arweinydd y Cyngor Gymru ar ddod yn bencampwyr camp lawn y 6 Gwlad ar gyfer
2019. Dywedodd y byddai'r cyngor, ar 25 Ebrill 2019, yn ystyried rhoi Rhyddid
er Anrhydedd y Ddinas i gapten Cymru, Alun Wyn Jones, a gafodd ei eni a'i fagu
yn Abertawe.” |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu'r Cyfarfod Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith
cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor
Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod hwn yn cael ei recordio. 2)
Cydymdeimladau a) Y
Cynghorydd Paul James (Cyngor Sir Ceredigion) Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Paul
James o Gyngor Sir Ceredigion. Bydd llawer ohonoch yn ei gofio fel aelod o
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ef oedd yr aelod a oedd
wedi gwasanaethu am y cyfnod hwyaf a hynny ers 2004. Lladdwyd y Cynghorydd
James wrth yrru ei feic yn ystod hyfforddiant ar gyfer taith codi arian o
Aberystwyth i Abertawe, a oedd i'w chynnal ym mis Mai 2019. b) Ymosodiadau
Sul y Pasg yn Sri Lanca Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol â thristwch at ymosodiadau Sul y Pasg yn Sri Lanca. Bu farw 321 o
bobl a chafodd cannoedd mwy eu hanafu yn dilyn llu o fomio yn targedu eglwysi a
gwestai moethus. Safodd pawb a oedd yn
bresennol fel arwydd o barch a chydymdeimlad. 3)
Clwb Rygbi Bôn-y-maen - Rownd
Derfynol Plât Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol Clwb Rygbi Bôn-y-maen am gyrraedd Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol
Undeb Rygbi Cymru (WRU). Tarodd Clwb Rygbi Bôn-y-maen yn ôl o 14 pwynt gan guro
Treorci 28-19 am le yn Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol URC. Bydd Clwb Rygbi
Bôn-y-maen yn wynebu Aberhonddu yn Rownd Derfynol Plât Cenedlaethol URC yn
Stadiwm y Principality am 15:15 ddydd Sul, 28 Ebrill 2019. Mae hon yn gamp
enfawr i'r clwb o Eastside. Ar ran y cyngor,
dymunodd bob lwc i Clwb Rygbi Bôn-y-maen yn y rownd derfynol. 4)
Undeb Rygbi Ysgolion Abertawe
(SSRU) (dan 15 oed) - Rownd Derfynol Tarian Dewar Llongyfarchodd yr Aelod
Llywyddol UR Ysgolion Abertawe (dan 15 oed) am gyrraedd Rownd Derfynol Tarian
Dewar. Dechreuodd Cystadleuaeth Tarian Dewar ym 1905 a dyma'r gystadleuaeth
hynaf ar gyfer ysgolion yn y byd rygbi. Mae fformat presennol Tarian Dewar yn
cynnwys 29 o dimau rhanbarthol sy'n cynrychioli pob rhan o Gymru. Mae Ysgolion Abertawe
yn wynebu Ysgolion Caerdydd yn Rownd Derfynol Tarian Dewar yn Stadiwm
Principality am 18:15 nos Iau, 2 Mai 2019. Ar ran y cyngor,
dymunodd bob lwc i Ysgolion Abertawe yn y rownd derfynol. 5)
Huw Evans, Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd - Antur Beicio Caderman yn Nwyrain Ewrop Hoffwn ddymuno'n dda i
Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer ei Antur Beicio yn
Nwyrain Ewrop sydd ar ddod. Bydd Huw a 9 o'i gydweithwyr yn hedfan i Vilnius,
Lithwania ar 17 Mai 2019 ac yn beicio oddi yno a drwy Lithwania, Latfia,
Estonia, Rwsia a'r Ffindir. Ar ddiwedd yr antur, byddant yn gorffwys yn St.
Petersburg, Rwsia am rai dyddiau. Byddant yn beicio ychydig llai nag 800 o
filltiroedd dros 6 diwrnod (mwy os ydynt yn mynd ar goll). Ni fydd unrhyw
gefnogaeth ganddynt a bydd angen iddynt gario'u holl gyfarpar am hyd y daith. Diben y daith yw codi
arian ar gyfer Bloodwise, elusen sy’n ymroddedig i drechu canser y gwaed.
Gallwch roi arian yn uniongyrchol i Huw neu drwy dudalen Just Giving Caderman https://www.justgiving.com/fundraising/caderman2019 6)
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor -
aildrefnwyd ar gyfer 16 Mai 2019 Trefnwyd Cyfarfod
Blynyddol y Cyngor ar gyfer 23 Mai 2019; fodd bynnag, mae gwrthdaro rhwng y
dyddiad hwn ag Etholiadau Senedd Ewrop bydd yn yr arfaeth. Felly mae'r cyfarfod
wedi'i aildrefnu ar gyfer 16:00 ddydd Iau, 16 Mai 2019. 7)
Cywiriadau/Diwygiadau i
Wŷs y Cyngor Cofnodion
159 a 160 o gyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019, fel yr
amlinellwyd yn gynharach. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth
Bae Abertawe Rhoddodd Arweinydd y
Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. 2)
Home Farm Rhoddodd Arweinydd y
Cyngor y diweddaraf ynglŷn â'r penderfyniad am Home Farm. Dywedodd fod
penderfyniad y Cabinet yn ceisio diddordeb ar gyfer defnyddio'r safle ac nad
oedd yn ymrwymo'r awdurdod i unrhyw beth. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Adolygiad Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio. PDF 176 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r newidiadau arfaethedig ac i gytuno
ar ymchwiliad pellach i symudiad posibl nifer o leoliadau gorsafoedd
pleidleisio. Cywirodd ychydig o wallau yn yr adroddiad a
gofynnodd am newid yr wybodaeth a argraffwyd mewn perthynas â'r Adrannau
Etholiadol i ddarllen fel a ganlyn: Adran Etholiadol Penllergaer Gorsaf Bleidleisio/Gorsafoedd Pleidleisio: Newid
arfaethedig i Neuadd Llewellyn o neuadd bentref yr Hen Ysgol. Adran Etholiadol Sgeti Sylwadau a dderbyniwyd: Does dim newid. Adran Etholiadol Uplands Sylwadau a dderbyniwyd: Gweler atodiad 2 yr
adroddiad. Dywedodd, ers ysgrifennu'r adroddiad, fod
Etholiadau Senedd Ewrop wedi cael eu galw ac arweiniodd hyn at farnu bod
Ystafell Ysgol Capel Hill, Heol North Hill o fewn adran etholiadol y Castell yn
anaddas. Felly, cysylltodd ag Aelodau Ward Etholiadol y Castell a chytunodd i
ddefnyddio Ystafell Ysgol Capel Elim yn lle hynny. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas â'r adolygiad o
Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio sy’n cael eu crynhoi yn atodiad
2 yr adroddiad; 2)
Nodi'r cynigion terfynol i'r
Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio fel y'u diwygiwyd ac a amlinellwyd
yn atodiad 1 yr adroddiad yn amodol ar gymeradwyo defnyddio Ystafell Ysgol
Capel Elim yn hytrach nag Ystafell Ysgol Capel Hill; 3)
Mae'r Swyddog Canlyniadau’n
parhau i fonitro Dosbarthau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd
Pleidleisio lle nad oes lleoliad amgen addas ar gael ar hyn o bryd. |
|
Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones PDF 101 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn
ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Alun Wyn Jones. Ganwyd Alun Wyn
Jones yn Abertawe a chwaraeodd ei gêm rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Bôn-y-maen. Ef
yw capten presennol tîm cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae'n chwarae dros y
Gweilch ac ef yw'r clo a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau
dros Gymru. Ef yw'r chwaraewr cyntaf i chwarae naw gêm brawf i'r Llewod
Prydeinig yn olynol yn y cyfnod proffesiynol ac mae wedi chwarae dros y Gweilch
yn amlach nag unrhyw chwaraewr arall. Penderfynwyd: 1)
Rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Alun Wyn Jones; 2)
Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 12 Mehefin 2019 i
gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd. |
|
Goddefeb ar gyfer absenoldeb cynghorydd - y Cynghorydd S E Crouch. PDF 97 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad a oedd yn ceisio goddefeb i'r Cynghorydd S
E Crouch gael caniatâd i fod yn absennol oherwydd salwch yn unol ag Adran 85
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfynwyd: 1)
Caniatáu goddefeb i'r Cynghorydd S E Crouch
beidio â mynychu cyfarfodydd am y cyfnod hyd at 31 Mai 2020 yn unol ag Adran 85
Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 137 KB Cofnodion: 1)
‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
pum (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au)
perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs
y Cyngor. Nid
oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol. 2) ‘Cwestiynau
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd
un (1) 'cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol'. |