Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

102.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa cynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol â Chofnod 109 "Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles".

103.

Cofnodion. pdf eicon PDF 183 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018.

104.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

105.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)       David Rowlands, Tad y Cynghorydd Brigitte Rowlands - Afiechyd

 

Trosglwyddodd yr Aelod Llywyddol ddymuniadau gorau'r cyngor i David Rowlands, tad y Cynghorydd Brigitte Rowlands, yn dilyn ei afiechyd.

 

2)              Gwobrau Cenedlaethol Cerbydluoedd

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi cael ei ddewis i fod ar restrau byr dwy wobr genedlaethol ar gyfer cerbydluoedd.

 

Y gyntaf oedd gwobrau Green Fleet a gynhaliwyd yn Leeds ar 22 Tachwedd 2018, lle'r enillodd yr awdurdod y categori Cerbydlu Sector Cyhoeddus y Flwyddyn (canolig i fawr).

 

Yr ail oedd gwobrau What Van a gynhaliwyd yn Llundain ar 13 Rhagfyr 2018, lle cyrhaedodd yr awdurdod restr fer y categori Cerbydlu Gwyrdd y Flwyddyn.

 

Mae'r enwebiadau hyn yn seiliedig ar gyflwyno 40 o faniau trydan, yr ymagwedd gyffredinol y mae'r awdurdod wedi'i mabwysiadu at leihau effaith amgylcheddol ein cerbydlu a'r bwriad i fabwysiadu Polisi Cerbydlu Gwyrdd.

 

3)              Pen-blwydd Priodas Diemwnt (60 o flynyddoedd) - Yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd a Lilian Lloyd

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-arglwydd Faer, y Cyn-faer a'r Cyn-gynghorydd Alan Lloyd a Lilian Lloyd ar eu pen-blwydd priodas diemwnt.

 

4)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

i)                Eitem 13 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB)”

 

Ychwanegu enw 'Syr Karl Jenkins’ at y rhestr o'r rhai sydd wedi derbyn Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe.

 

ii)               Eitem 14 "Aelodaeth Pwyllgorau”

 

Bwrdd Magu Plant Corfforaethol. Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

 

5)              Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

106.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Diwygiadau i Bortffolio'r Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi diwygio Portffolio'r Cabinet fel a ganlyn:

 

i)                Portffolio'r Cabinet Cyflwyno

a)               Ychwanegu "Tai Fforddiadwy (Cefnogaeth)";

b)               Ychwanegu "Trwyddedu".

 

ii)              Portffolio Cabinet yr Economi a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor)

a)              Ychwanegu "Strategaeth Cyllid a'r Gyllideb a Goruchwylio'r Gyllideb".

 

iii)            Portffolio'r Cabinet Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau

a)              Ychwanegu'r "Bwrdd Plant a Phobl Ifanc (PPI)”.

 

iv)            Portffolio Cabinet yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

a)              Ychwanegu "Llwybrau Beicio";

b)              Ychwanegu "Adnewyddu a Chynnal a Chadw'r Cerbydlu";

c)              Ychwanegu "Mabwysiadu Cerbydau Gwyrdd - (Cefnogaeth);

ch)     Ychwanegu "Parciau (Cynnal a Gweithrediadau) a Glanhau";

d)              Ychwanegu "Cludiant Cyhoeddus";

dd)     Dileu "Rheoli Cynnal a Chadw Stadau (nad ydynt yn ymwneud â'r Cyfrif Refeniw Tai)";

e)              Dileu "Trwyddedu".

 

Dywedodd ei fod wedi gofyn i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  ddiweddaru Cyfansoddiad a gwefan y cyngor i adlewyrchu'r diwygiadau hyn ac anfon rhestr wedi'i diweddaru at yr holl Gynghorwyr.

 

2)              Y Nadolig Gyda'n Gilydd 2018

 

Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor JR Events & Catering am weithio gyda Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno digwyddiad  Y Nadolig Gyda'n Gilydd 2018 ar 19 Rhagfyr 2018.

 

Yn y digwyddiad hwn, darparwyd cinio Nadolig dau gwrs am ddim i'r digartref, y diamddiffyn a'r rheiny mewn angen. Diolchodd i bawb am gynorthwyo yn ystod y digwyddiad.

 

3)              Y Gochwydden Enfawr ar hen Ystad Penllergaer, Penllergaer

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y digwyddiad diweddar pan dorrwyd cochwydden enfawr 176 blwydd oed ar hen Ystad Penllergaer, Penllergaer gan ddweud y byddai'r awdurdod yn defnyddio'i holl bwerau yn erbyn y rhai a fu'n gyfrifol am hyn.

 

4)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe gan ddweud y derbyniwyd 11 o ymatebion i'r Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol diweddar.

 

5)              Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

107.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

108.

Cyflwyniad Cyhoeddus -

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

109.

Dadansoddiad o effaith diwygio lles. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar gasgliadau'r "Asesiad Effaith Diwygio Lles - Diweddariad Medi 2018".

 

Rhoddwyd cyflwyniad gan Bennaeth Tlodi a'i Atal.

 

Sylwer: Dywedodd y Cynghorydd M Sherwood y byddai'n cylchredeg yr adroddiad llawn sy'n ymwneud â'r Dadansoddiad o Ddiwygio Lles i bob cynghorydd.

110.

Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) 2019/20 a Diwygiad i Bolisi MRP 2018/19. pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw ar gyfer 2019/2020 ac er mwyn diwygio polisi 2018 - 2019 a'i roi ar waith yn ystod y flwyddyn ar y sail yr amlygwyd bwriad clir i ddiwygio'r polisi yn flaenorol i'r Cabinet a'r cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo'r Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw (DLlR) fel y'i hamlinellwyd yn Adran 3.3 yr adroddiad.

111.

Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2018. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc ac ynghylch ei roi ar waith.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc.

112.

Adolygiad o'r Polisi Gamblo pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau ystyried y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig a atodwyd yn Atodiad A.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd A M Day i Aelod perthnasol y Cabinet roi sicrwydd na fyddai'r awdurdod yn hybu gamblo drwy ei ddulliau amrywiol.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno y byddai'n rhoi'r sicrwydd hwnnw ac y byddai hefyd yn darparu sicrwydd ysgrifenedig.

113.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB) pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau ystyried rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Gatrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Brenhinol (CLB);

 

2)              Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 27 Gorffennaf 2019 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

114.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/diwygiadau i gyrff y cyngor.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

Penderfynwyd y dylid diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

1)              Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

 

2)              Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

Ychwanegu lle Llafur gwag

 

3)              Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Tynnu enw'r Cynghorydd M H Jones.

Ychwanegu'r Cynghorydd J W Davies.

 

4)              Panel Ymddiriedolwyr

Tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

Ychwanegu lle Llafur gwag.

115.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd pump (5) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn/cwestiynau atodol hwnnw/hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno/arnynt isod:

 

Cwestiwn 2   Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones,

"Pam y mae hi'n briodol i'r awdurdod ddyfarnu contract drwy ildiad hawl i un cyflenwr er mwyn cyflwyno Gorymdaith y Nadolig?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B.