Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

68.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cynghorwyr:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr P M Black, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, M Durke, C R Evans, R Francis-Davies, C A Holley, B Hopkins, O G James, Y V Jardine, S M Jones, A S Lewis, M B Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, K Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, D W W Thomas, M Thomas, W G Thomas, G D Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod rhif 79, "Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018".

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr M A Langstone, P N May, B J Rowlands a W G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod rhif 80, "Canlyniad Archwiliad CDLl Abertawe a'r Gofynion ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun".

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr P M Black ac M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod rhif 81, "Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020” ei drafod a gadawsant y cyfarfod cyn eu trafod.

 

4)              Datganodd y Cynghorwyr A M Day, C R Evans, C A Holley, J W Jones, M H Jones, P Lloyd, P N May, J A Raynor, G J Tanner ac L G Thomas gysylltiad personol â Chofnod rhif 81, "Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020".

 

5)              Datganodd y Cynghorydd V M Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 84, "Rhybudd o Gynnig - Morlyn Llanw Abertawe" a gadawodd y cyfarfod cyn ei drafod.

 

Swyddogion:

 

6)              Datganodd Huw Evans, Allison Lowe, Martin Nicholls, Phil Roberts, Ben Smith a Deb Smith gysylltiad personol â Chofnod rhif 79, "Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018".

 

7)              Datganodd Huw Evans gysylltiad personol â Chofnod rhif 80, "Canlyniad Archwiliad CDLl Abertawe a'r Gofynion ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun".

69.

Cofnodion. pdf eicon PDF 158 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018.

70.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol  adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

71.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau - Y Cyn-gynghorydd Brian Ludlam

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Brian Ludlam. Bu'r cyn-gynghorydd Ludlam yn gwasanaethu Ward Etholiadol y Castell.  Roedd y cyn-gynghorydd Ludlam hefyd yn gyn-gadeirydd yng Nghyngor Sir Gorllewin Morgannwg 1991-1992.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Gwobr Cyfreithiwr/Tîm mewn perthynas â phobl y flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod Stephanie Williams a Stephen Holland o Dîm Addysg Gyfreithiol yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyfreithiwr/Tîm sy'n ymdrin â phobl y flwyddyn Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol.  Mae hyn yn cydnabod y gwasanaeth gwych y maent yn ei ddarparu i ysgolion.

 

3)              Gwobrau Arloesedd Lles Cenedlaethol Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod y Tîm Rheoli Straen a Chwnsela a gwirfoddolwyr Help Llaw wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru unwaith eto eleni.  Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 22 Tachwedd 2018 yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

 

4)              Gwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus Cymru  2018-2019 Cyfleoedd y Llywodraeth (GO)

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod y Tîm Cyfleusterau o fewn y Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol ynghyd â Ministry of Furniture wedi'u dewis ar gyfer y rhestr fer yng ngwobrau GO eleni ar gyfer y Prosiect Gweithio Ystwyth. Mae Gwobr Buddion Cymdeithasol a Chymunedol mewn Caffael yn amlygu'r gwaith da a wnaed wrth adnewyddu'r swyddfa ystwyth newydd.

 

Mae'r wobr yn cydnabod y rôl hanfodol y gall caffael cyhoeddus ei chwarae yng Nghymru wrth ddarparu cymdeithas fwy cynaliadwy a theg.  Mae'n amlygu'r sefydliadau sydd wedi cynnwys gofynion buddion cymdeithasol a chymunedol wrth wraidd eu gweithgareddau caffael a chyflenwi er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer dinasyddion Cymru.

 

Cyhoeddir yr enillydd yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd 2018.

 

5)              Newidiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

i)                Eitem 4 yr agenda, "Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y cyngor”

 

Tudalen 12.  Cwestiwn 2.  Y Cynghorydd A M Day a ofynnodd y cwestiwn, nid y Cynghorydd W G Thomas fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

ii)              Eitem 19 yr agenda, "Rhybudd o gynnig - Morlyn Llanw'r Bae"

 

Tynnu enw'r Cynghorydd R C Stewart oddi ar restr y sawl sy'n cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig.

72.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Grant y Gronfa Tai

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor wedi derbyn newyddion gwych am ei fod wedi ennill Grant y Gronfa Tai.

 

2)              Llongyfarchiadau i Is-adran Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr awdurdod

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr awdurdod wedi'u disgrifio fel gwasanaeth gwych.  Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor waith yr is-adran a'r Cynghorwyr W Evans ac E J King.

 

3)              Geiriau annoeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai'n codi mater y geiriau annoeth a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Nododd fod angen i Lywodraeth Leol gael cytundeb ariannu teg er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau sydd arni.

 

4)              Morlyn Llanw'r Bae

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw wedi'i gyhoeddi sy'n gwahodd pobl i weld sut y gallant gefnogi Cynllun 2.0 Morlyn Llanw'r Bae yn ariannol. 

73.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â Chofnod rhif 77, "Adolygu'r refeniw wrth gefn", Cofnod rhif 78, "Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2018-2019", Cofnod rhif 79, "Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018", a Chofnod rhif 80, "Canlyniad Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Abertawe a'r Gofynion ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun".

 

Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd unrhyw gwestiwn yr oedd angen ymateb ysgrifenedig ar ei gyfer.

74.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

75.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2017/18 pdf eicon PDF 561 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Paula O'Connor, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2017-2018 er gwybodaeth.  Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Archwilio yn ystod 2017-2018.

76.

Adolygiad Blynyddol o'r Amcanion Lles a Chynllun Corfforaethol 2018/22 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Corfforaethol newydd a oedd yn cynnwys amcanion lles y cyngor ar gyfer 2018-2022 yn unol â'r gofynion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r canllawiau statudol ynghylch cyrff cyhoeddus.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2018-2022.

77.

Adolygu'r refeniw wrth gefn. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cynnal adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r refeniw wrth gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad o'r cronfeydd wrth gefn a awgrymir yn seiliedig ar ofynion presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ystyried a chymeradwyo'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad yn Adrannau 3.11 i 3.13.

78.

Datganiad cyllideb ganol blwyddyn 2018/19.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyflwyniad ar Ddatganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2018-2019.  Amlinellodd berfformiad ariannol eleni ynghyd â gofynion asesiad o arbedion a ddiweddarwyd dros gyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddatganiad hefyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid cofnodi'r cyflwyniad.

79.

Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18. pdf eicon PDF 33 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017-2018 fel a atodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

2)              Nodi argymhellion a chanfyddiadau Adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio Rhif 260 Swyddfa Archwilio Cymru fel a atodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

80.

Canlyniad Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe a'r gofynion ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ddiwygiadau Arfaethedig i'r Cynllun. pdf eicon PDF 14 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y prif faterion a amlygwyd o Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl), yr angen i'r cyngor argymell 'Newidiadau Materion yn Codi' ar gyfer y Cynllun Adnau ac i gymeradwyo gweithgaredd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Newidiadau Materion yn Codi a'r dogfennau cysylltiedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Newidiadau Materion yn Codi o ran y CDLl Adnau fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad  ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus;

 

2)              Cymeradwyo'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r Arfarniad Cynaladwyedd diweddaredig fel y cyfeirir atynt yn Adran 5 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald:

 

i)                Beth yw costau gor-redeg CDLl?

 

ii)              Darparwch fanylion y costau trydydd parti sy'n gysylltiedig â'r CDLl (Ymgynghorwyr etc)?

 

iii)             Mae nifer y tai newydd a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ymddangos yn wahanol i'r niferoedd y cyfeirir atynt gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Faint o dai newydd a ragwelir yn y CDLl?

81.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020. pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2018-2019 er mwyn caniatáu i drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaen.

 

Nododd fod y Cynghorydd P Lloyd i'w ystyried ar gyfer rôl y Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020 yn unol â'r Rhestr Hynafedd; fodd bynnag, gofynnodd i'w gyfnod yn y swydd gael ei ohirio am hyd amser amhenodol.

 

Arweiniodd y gohiriad hyn at sefyllfa lle'r oedd pedwar cynghorydd wedi cyflawni'r un hyd o wasanaeth â'i gilydd.  Yn unol â phrotocol yr Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, dewisodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar hap ar 20 Medi 2018 er mwyn pennu trefn cyfnod yn y swydd y pedwar cynghorydd.  Dyma ganlyniad yr hapddewis:  y Cynghorwyr M C Child, M H Jones, A M Day ac L G Thomas.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Enwebu'r Cynghorydd Peter M Black yn Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020;

 

2)       Enwebu'r Cynghorydd Mark C Child yn Ddarpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2019-2020.

82.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2017-18 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y Cynghorydd M H Jones, Adroddiad Craffu Blynyddol 2017-2018 er gwybodaeth.  Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ystod 2017-2018.

83.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd dau (2) 'Gwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.

84.

Hysbysiad o gynnig - Councillors P K Jones, M Sherwood, R C Stewart, C E Lloyd, J P Curtice, D W W Thomas, A S Lewis, K M Roberts, M B Lewis, L V Walton, W G Lewis, M C Child, R Francis-Davies.

Dyfarnwyd statws Tref Masnach Deg i Abertawe gan y Sefydliad Masnach Deg ym mis Rhagfyr yn 2004. Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill statws Cenedl Masnach Deg.

 

Eleni, sef deng mlynedd ers i Gymru ennill statws Cenedl Masnach Deg, mae'r cyngor hwn wedi penderfynu atgyfnerthu'i ymroddiad i egwyddorion a chynnyrch Masnach Deg. Mae'r cyngor yn ymroddedig i roi datblygiad cynaliadwy ar waith fel y mynegwyd yn y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio, fel a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Mae'r nod llesiant ar gyfer 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang', sy'n ymroddedig i wneud 'cyfraniad cadarnhaol at les rhyngwladol' o berthnasedd arbennig. Mae statws Masnach Deg yn mynegi ymroddiad y cyngor at gefnogi ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr a'u teuluoedd, yn ariannol ac yn foesegol, mewn gwledydd incwm isel sy'n datblygu ac yn sicrhau dyfodol sy'n ddichonadwy, yn gynaliadwy sy'n rhydd o ecsbloetio.

 

Ar lefel ymarferol, mae'r cyngor yn ymroddedig i chwilio am gynnyrch Masnach Deg, eu defnyddio a'u darparu, lle bynnag y bo modd, yn ei ffreuturiau, ei gaffis a'i ysgolion. Rydym yn annog siopau manwerthu yn Abertawe i ddilyn esiampl y cyngor.

 

Bydd y cyngor hefyd yn sicrhau bod ganddo gynrychiolydd ar Fforwm Masnach Deg Abertawe, sef y grŵp cymunedol dynodedig sy'n rheoli statws Masnach Deg Abertawe.

 

Bydd y cyngor yn gwneud yr hyn y gall i wella bywydau a chyfleoedd pobl ar draws y blaned ac mae Masnach Deg yn gwneud cyfraniad pwysig at gyrraedd yr amcan hwn.

 

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd M Sherwood.

 

“Dyfarnwyd statws Tref Masnach Deg i Abertawe gan y Sefydliad Masnach Deg ym mis Rhagfyr yn 2004; yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill statws Cenedl Masnach Deg.

 

Eleni, sef deng mlynedd ers i Gymru ennill statws Cenedl Masnach Deg, mae'r cyngor hwn wedi penderfynu atgyfnerthu'i ymroddiad i egwyddorion a chynnyrch Masnach Deg. Mae'r cyngor yn ymroddedig i roi datblygu cynaliadwy ar waith fel a fynegir yn y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio, a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Mae'r nod llesiant ar gyfer 'Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang', sy'n ymroddedig i wneud 'cyfraniad cadarnhaol at les rhyngwladol' o berthnasedd arbennig. Mae statws Masnach Deg yn mynegi ymroddiad y cyngor i gefnogi ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr a'u teuluoedd, yn ariannol ac yn foesegol, mewn gwledydd incwm isel sy'n datblygu ac i sicrhau dyfodol sy'n ddichonadwy, yn gynaliadwy ac yn rhydd o ecsbloetio.

 

Ar lefel ymarferol, mae'r cyngor yn ymroddedig i chwilio am gynnyrch Masnach Deg, ei defnyddio a'i ddarparu, lle bynnag y bo modd, yn ei ffreuturiau, ei gaffis a'i ysgolion. Rydym yn annog siopau manwerthu yn Abertawe i ddilyn esiampl y cyngor.

 

Bydd y cyngor hefyd yn sicrhau bod ganddo gynrychiolydd ar Fforwm Masnach Deg Abertawe, sef y grŵp cymunedol dynodedig sy'n rheoli statws Sir Masnach Deg Abertawe.

 

Bydd y cyngor yn gwneud yr hyn y gall i wella bywydau a chyfleoedd pobl ar draws y blaned ac mae Masnach Deg yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni'r amcan hwn.”

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig.

85.

Hysbysiad o gynnig - Councillors M C Child, A S Lewis, J P Curtice, R Francis-Davies, M B Lewis, L V Walton, E J King, C E Lloyd & K M Roberts.

Morlyn Llanw Abertawe

 

Mae'r cyngor hwn wedi'i gythruddo gan benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi Morlyn Llanw Abertawe er gwaethaf cefnogaeth ysgubol yn Abertawe a Chymru ac argymhelliad clir adroddiad Hendry y llywodraeth ei hun. Mae'r cysyniad yn parhau i fod yn brosiect dibynadwy a dichonadwy ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd. Mae'r prosiect ynni hwn yn cynnig dros 125 o flynyddoedd o ynni dibynadwy glân, gan gychwyn diwydiant newydd i'r DU, a galluogi Cymru i gymryd cam sylweddol tuag at fod yn genedl sy'n cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy a dangos ein hymrwymiad i feddwl tymor hir ar ynni o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Mae'r penderfyniad enbyd hwn yn dilyn penderfyniad i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio'r rheilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd ac yn dangos diffyg tegwch i bobl ac economi de a gorllewin Cymru ac ystyriaeth ohonynt gan Lywodraeth y Ceidwadwyr yn Llundain. Yn anaml y mae prosiect isadeiledd mor greadigol a beiddgar wedi cael cymaint o gefnogaeth gan y cyhoedd ac mae gwrthod y cynnig o ganlyniad i ddadleuon gwerth am arian anghywir neu hynod gyfyng yn ergyd i economi Abertawe a'r rhanbarth. Dyma arwydd dybryd o ymagwedd Llywodraeth y Ceidwadwyr at fuddsoddi yng Nghymru a'i haddewidion i gyflwyno arian o Lywodraeth y DU yn lle arian Ewropeaidd pan fyddwn yn gadael yr UE yn 2019. 

  1. Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu cefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Llanwol ym Mae Abertawe.
  2. Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru ac yn benodol i Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer cynnig cefnogaeth mewn egwyddor i fodel ariannu newydd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd wedi cymeradwyo gweithgarwch i greu model busnes newydd, a phobl Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac ysgubol.
  3. Rydym yn cefnogi penderfyniad yr Arweinydd i gynnull grŵp llywio sy'n dod â phartïon ynghyd i archwilio modelau busnes amgen a allai alluogi Morlyn Llanw'r Bae i gael ei gyflwyno'n wahanol a heb gyfranogaeth Llywodraeth y DU o bosib. Rydym yn galw ar bawb sydd â diddordeb mewn buddsoddiad tymor hir mewn ynni heb garbon, technolegau newydd a ffyniant Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru yn y dyfodol i barhau i weithio i roi cynllun ar waith.

 

Mae'r cyngor hwn yn nodi bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi methu unwaith eto â gwasanaethu Abertawe a de-orllewin Cymru ac yn galw arno i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran decach o gyllid a buddsoddiad.

 

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd M C Child a'i eilio gan y Cynghorydd A S Lewis.

 

Morlyn Llanw Abertawe

 

Mae'r cyngor hwn wedi'i gythruddo gan benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi Morlyn Llanw Abertawe er gwaethaf cefnogaeth ysgubol yn Abertawe a Chymru ac argymhelliad clir adroddiad Hendry y llywodraeth ei hun.  Mae'r cysyniad yn parhau i fod yn brosiect dibynadwy a dichonadwy ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd.  Mae'r prosiect ynni hwn yn cynnig dros 125 o flynyddoedd o ynni dibynadwy glân, gan gychwyn diwydiant newydd i'r DU, a galluogi Cymru i gymryd cam sylweddol tuag at fod yn genedl sy'n cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy a dangos ein hymrwymiad i feddwl tymor hir ar ynni o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Mae'r penderfyniad enbyd hwn yn dilyn penderfyniad i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio'r rheilffordd i'r gorllewin o Gaerdydd ac yn dangos diffyg tegwch i bobl ac economi de a gorllewin Cymru ac ystyriaeth ohonynt gan Lywodraeth y Ceidwadwyr yn Llundain.  Yn anaml y mae prosiect isadeiledd mor greadigol a beiddgar wedi cael cymaint o gefnogaeth gan y cyhoedd ac mae gwrthod y cynnig o ganlyniad i ddadleuon gwerth am arian anghywir neu hynod gyfyng yn ergyd i economi Abertawe a'r rhanbarth.  Dyma arwydd dybryd o ymagwedd Llywodraeth y Ceidwadwyr at fuddsoddi yng Nghymru a'i haddewidion i gyflwyno arian o Lywodraeth y DU yn lle arian Ewropeaidd pan fyddwn yn gadael yr UE yn 2019. 

 

1.               Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu parhau i gefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Llanwol ym Mae Abertawe.

 

2.               Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru ac yn benodol i Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer cynnig cefnogaeth mewn egwyddor i fodel ariannu newydd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd wedi cymeradwyo gweithgarwch i greu model busnes newydd, a phobl Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac ysgubol.

 

3.               Rydym yn cefnogi penderfyniad yr Arweinydd i gynnull grŵp llywio sy'n dod â phartïon ynghyd i archwilio modelau busnes amgen a allai alluogi Morlyn Llanw'r Bae i gael ei gyflwyno'n wahanol a heb gyfranogaeth Llywodraeth y DU o bosib.  Rydym yn galw ar bawb sydd â diddordeb mewn buddsoddiad tymor hir mewn ynni heb garbon, technolegau newydd a ffyniant Abertawe a rhanbarth de-orllewin Cymru yn y dyfodol i barhau i weithio i roi cynllun ar waith.

 

Mae'r cyngor hwn yn nodi bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi methu unwaith eto â gwasanaethu Abertawe a de-orllewin Cymru ac yn galw arno i sicrhau bod Cymru'n cael cyfran decach o gyllid a buddsoddiad.”

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig fel y'i diwygiwyd.