Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M C Child, V M Evans, R Francis-Davies, J A Hale, M B Lewis, R D Lewis, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith ac A H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 36 "Adroddiad Blynyddol y Partneriaethau Hamdden”;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd R C Stewart gysylltiad personol â Chofnod 37 “Bargen Ddinesig Bae Abertawe”;

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, C R Doyle, P Downing, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, F M Gordon, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, E J King, E T Kirchner, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, D W W Thomas, M Thomas, G J Tanner, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker ac L V Walton gysylltiad personol â Chofnod 38 "Adolygiad o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru."

28.

Cofnodion. pdf eicon PDF 180 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018.

29.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

30.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

i)                Eitem 13 yr agenda “Adolygiad o Drefniadau Etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru”

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod taflen wedi cael ei dosbarthu gan ddiwygio ychydig fanylion yn yr adroddiad. Roedd y diwygiadau mewn perthynas â'r wardiau etholiadol canlynol - Fairwood, Gogledd Cilâ, De Cilâ, Penclawdd, Penderi, Penllergaer, Townhill ac Uplands.

 

ii)              Eitem 15 yr Agenda, “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor”

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y dylid diwygio'r argymhelliad fel ei fod yn dweud "Cymeradwyo'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel a amlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad ar y cyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol ychwanegol".

31.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)       Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch y gwaith parhaus i gyflwyno Morlyn Llanw Bae Abertawe.

32.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

1)       Gofynnodd Nortridge Perrott gwestiynau i Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â Chofnod 37 “Bargen Ddinesig Bae Abertawe”.

 

"Sut mae'r 11 o brosiectau ym Margen Ddinesig Bae Abertawe yn gweithio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

33.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Gofalwyr Ifanc yn Abertawe.

Cofnodion:

Rhoddodd Ifor Glyn (Cyfarwyddwr) ac Alexandra Atkins (Rheolwr Prosiect Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc) gyflwyniad ar waith y Gofalwyr Ifanc yn Abertawe.  Dywedon nhw mai sefydliad gwirfoddol arbenigol yw Canolfan Gofalwyr Abertawe ac mae'n darparu cefnogaeth i ofalwyr nad ydynt yn cael eu talu a chyn-ofalwyr yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Mae Canolfan Gofalwyr Abertawe'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am ddim i wneud bywyd yn haws i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal.  Maent yn ceisio darparu cyfleoedd i ofalwyr gwrdd â gofalwyr eraill, rhannu profiadau a gweithio gyda'i gilydd i newid pethau er lles pawb.

 

Diolchodd y Cynghorydd W Evans iddynt am eu cyflwyniad.

34.

Adolygu'r Polisi ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw. pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar adolygu'r polisi ar drwyddedu sefydliadau rhyw ac i gytuno ar y Polisi diwygiedig ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw i'w fabwysiadu a'i gyhoeddi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              cymeradwyo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw, sydd wedi'i atodi fel Atodiad A yr adroddiad;

 

2)              Cadw'r “ardaloedd perthnasol” cyfredol at ddibenion penderfynu ar geisiadau am sefydliadau rhyw a'r “nifer priodol” o sefydliadau rhyw ar gyfer pob ardal.

35.

Adolygiad o'r Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cyflwyno'r Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o'r ymateb i'r ymgynghoriad ar adolygiad Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu'r Cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i'r polisi;

 

2)              Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig;

 

3)              Mabwysiadu'r polisi diwygiedig fel yr atodir yn Atodiad A yr adroddiad.

36.

Adroddiad Blynyddol Partneriaethau Hamdden. pdf eicon PDF 153 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn dweud wrth y cyngor am weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas am ddadansoddiad o'r costau sy'n berthnasol i "Wariant Arall" gwerth £236,286 ar gyfer Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 y cyfeirir ato ar dudalen 113 Gwŷs y cyngor.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

37.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r trefniadau llywodraethu cysylltiedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)               Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r strwythur llywodraethu cysylltiedig fel a amlinellir yn yr adroddiad ac Arweinydd y Cyngor yw aelodaeth yr awdurdod hwn;

 

2)               Cymeradwyo cytundeb drafft y Cyd-bwyllgor a dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud y fath fân ddiwygiadau i'r cytundeb fel y mae eu hangen, a sicrhau bod yr awdurdodau partner a llywodraethau Cymru a'r DU yn cytuno ar y rhain, er mwyn cwblhau'r cytundeb;

 

3)               Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r Cynghorwyr J P Curtice, P Downing ac M H Jones yw aelodaeth yr awdurdod hwn;

 

4)               Cymeradwyo'r cynnig i'r cyngor gyfrannu £50 mil y flwyddyn dros 5 mlynedd i dalu ar y cyd am gostau gweithredu'r Cyd-bwyllgor, Bwrdd y Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen a'r Cyd-bwyllgor Craffu, a swyddogaethau'r Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol, a chytuno ar yr egwyddor y caiff mwy o gyllid ei ddarparu sydd gyfwerth â'r 1.5% o'r cyllid a neilltuir yn benodol ar gyfer y Fargen Ddinesig.  Dirprwyo'r cytundeb ar sail darparu'r cyllid hwn i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor.

 

5)               Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i archwilio'r benthyciad cymesur mwyaf priodol a'i roi ar waith i ariannu prosiectau rhanbarthol a gyflwynir yn ardaloedd gwahanol y cyngor.

 

6)               Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i gyd-drafod â Chyd-gyfarwyddwyr y sail ddyrannu fwyaf priodol ar gyfer cadw trethi annomestig rhanbarthol o ran yr 11 o brosiectau.

 

Sylwer: gofynnodd y Cynghorydd J W Jones beth oedd cyfran y gost ar gyfer Cyngor Abertawe yn seiliedig ar yr 11 o brosiectau y cyfeirir atynt ar dudalen 128 Gwŷs y Cyngor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd ef yn dosbarthu'r sleidiau sy'n cynnwys yr wybodaeth eto.

38.

Adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o Drefniadau Etholiadol Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 638 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddarparu arsylwadau cychwynnol yr awdurdod ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â'r adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Abertawe.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei ystyried gan Weithgor y Cyfansoddiad ar 11 Gorffennaf 2018.  Cynghorodd y grŵp hwnnw y dylai'r cyngor gymeradwyo'r adroddiad i'w gyflwyno fel rhan o'r cyfnod ymgynghori.

 

Dosbarthwyd taflen ddiwygio hefyd er mwyn diwygio rhai o'r elfennau yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r arsylwadau cychwynnol fel a amlinellir ym Mharagraff 6 yr adroddiad (fel y'u diwygiwyd) a'u hanfon i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

39.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o gyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Syr Karl Jenkins CBE B.Mus FRAM LRAM;

 

2)              Cynnal Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar 4 Hydref 2018 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

40.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor:

 

a)               Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefnau'r Cabinet - Gweithdrefn Herio.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r newidiadau i gyfansoddiad y cyngor fel y'u hamlinellir yn Atodiad A a B yr adroddiad ar y cyd ag unrhyw newidiadau canlyniadol ychwanegol.

41.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

1)              Rhan A ‘Cwestiynau Atodol’

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Rhan B nad oedd angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.