Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a
rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o
gysylltiadau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog
gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Cynghorwyr 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, S E Crouch, J P Curtice, N J
Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, E W
Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, D W Helliwell, T J
Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L
James, Y V Jardine, J W Jones, L R Jones, P K Jones, S M Jones, E T King, E T
Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd,
P Lloyd, I E Mann, P N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard,
A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, P B
Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, D W W
Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M
White gysylltiad personol â chofnod 20 "Lwfansau a Threuliau Cynghorwyr ac
Aelodau Cyfetholedig 2017-2018". Swyddogion 1)
Datganodd T Meredith
gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 22 "Y Strwythur Uwch-reoli
" a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1) Cyfarfod
seremonïol y cyngor a gynhaliwyd ar 18 Mai 2018; 2) Cyfarfod
Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018 yn amodol ar dynnu enw’r
Cynghorydd S M Jones o'r rhestr o ymddiheuriadau a'i nodi'n bresennol. |
|
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim. Cofnodion: Ni chafwyd ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredinol diwethaf y
cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Gwobrau Grŵp
Diogelwch Galwedigaethol De a Gorllewin Cymru (SWWOSG) Estynnodd yr Aelod
Llywyddol ei longyfarchiadau i'r Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch, Rheoli
Argyfyngau a Lles Corfforaethol wrth iddo ennill "y Darian Les" gan
Grŵp Diogelwch De a Gorllewin Cymru ar gyfer 2017, o ganlyniad i waith
arloesol rheoli straen a chwnsela, gwirfoddolwyr Help Llaw a'r Uned Iechyd
Galwedigaethol wrth wella lles gweithwyr. Gwobrwywyd yr Is-adran
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol hefyd am "Berfformiad Diogelwch
Eithriadol" yn 2017 unwaith eto. Derbyniodd Craig
Gimblett, Andy Langford, Tracy Dicataldo a Liz
Thomas-Evans y wobr. Derbyniodd Martin
Rogers o'r Is-adran Rheoli Gwastraff (hefyd yn bresennol) wobr am ddod yn ail
ar gyfer gweithiwr y flwyddyn gan y grŵp, am ei ymroddiad parhaus i wella
safonau iechyd a diogelwch yn y safle byrnu. 2)
Ysgol Gynradd Treforys -
Cystadleuaeth Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru 2018 Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod Ysgol Gynradd Treforys yn dathlu 150 o
flynyddoedd ar 15 Mehefin 2018. Yn
ogystal â'r cyflawniad hwn, cafodd yr ysgol ei chydnabod gan
Fenter Ysgolion Treftadaeth Cymru gyda gwobr am ei hymdrechion i ddod â'r
digwyddiad ynghyd, gyda llawer o fisoedd yn ymchwilio yn Archifau Abertawe i
ganfod gwybodaeth am y penaethiaid sy'n dyddio yn ôl i agoriad yr ysgol ym
1868. Dywedodd nad oedd hi'n hawdd gan
fod llawysgrifen y penaethiaid yn anodd iawn ei darllen yn y cofnodion cynnar. 3)
Pennaeth y Flwyddyn yng
Nghymru - Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru Estynnodd yr Aelod
Llywyddol ei longyfarchiadau i Janet Waldron (MBE),
Pennaeth Ysgol Gyfun Pontarddulais, am gael ei henwi'n Bennaeth y Flwyddyn yng
Nghymru yn seremoni Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. 4)
Gwobrau Myfyrwyr Coleg
Gŵyr 2018 Estynnodd yr Aelod
Llywyddol ei longyfarchiadau i'r awdurdod am ennill Gwobr 'Partner Cyflogwr' y
flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Coleg Gŵyr 2018. Derbyniodd y Cynghorydd Wil Evans Blac Gwydr
a siec sy'n daladwy i Gronfa'r Arglwydd Faer ar ran yr awdurdod. 5)
Gwobrau Blynyddol Cymuned
Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2018 Estynnodd yr Aelod
Llywyddol ei longyfarchiadau i Wasanaeth Tîm am y Teulu Abertawe am ennill ei
ail wobr mewn 6 mis. Yn ddiweddar,
enillodd y tîm Wobr Cyngor Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan/Academi Wales 2018 am
ei fodel TAT mewn Ysgolion yn y categori Gwerth Cyhoeddus. Mae'r tîm yn fenter
arloesol a chynaliadwy a ddatblygwyd i rymuso a datblygu sgiliau staff ysgolion
cynradd i gefnogi plant a'u teuluoedd i ymdrin â chamau cynnau heriau
cymdeithasol. Mae'r tîm wedi diweddaru
sgiliau gweithwyr mewn 73 o'r 79 o ysgolion cynradd yn y ddinas gan wella eu
hyder a'u gallu i gefnogi teuluoedd diamddiffyn, gan sicrhau bod eu hanghenion
yn cael eu diwallu cyn gynted â phosib gan bobl y maent yn eu hadnabod ac yn
ymddiried ynddynt. Mae hyn wedi arwain at
leihau'r galw am wasanaethau mwy dwys, cynnig mwy ymatebol i deuluoedd yn eu
cymunedau eu hunain ac adborth cadarnhaol gan ysgolion o ran gallu darparu
cefnogaeth yn hyderus ac yn uniongyrchol i gefnogi lles plant a'u teuluoedd. O ganlyniad i ennill
Gwobr Gwasanaetauh Cyhoeddus Cenedlaethol y Guardian, cafwyd diddordeb parhaus ym model y tîm ar draws
Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Ar ddechrau
mis Mehefin, bu Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Seland Newydd yn ymweld â'r
Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar yr oedd diddordeb mawr ganddo mewn dysgu mwy am
yr arfer a'r ymagweddau arloesol a ddatblygwyd yma yn Abertawe. Bydd yr Athro Karen Graham, cynrychiolydd
Cymru a’r DU ar Sefydliad Fforwm y Byd, yn cyflwyno gwaith y tîm yn Fforwm y
Byd 2019. 6)
Cymru - Cenedl Masnach Deg
Gyntaf y Byd Dywedodd yr Aelod
Llywyddol, ar 6 Mehefin 2008 Cymru oedd y Genedl Masnach Deg Gyntaf yn y Byd, a
bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers hynny.
Mae cefnogi a hyrwyddo Masnach Deg yn dal i fod yn ffordd bwysig i
gynghorau ddangos eu hymrwymiad i Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy'n
ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Penderfynodd y Cabinet
ym mis Awst 2004 gefnogi Masnach Deg, fel rhan o gais Abertawe i fod yn Ddinas
Masnach Deg, gan helpu Cymru i gyflawni ei statws fel Cenedl Masnach Deg. Dros y misoedd nesaf, gofynnir i'r awdurdod
hwn adnewyddu'r penderfyniad hwnnw a fydd yn fwy manwl na'r gwreiddiol. Gobeithio, gall Abertawe barhau i arwain y
ffordd wrth fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang. 7)
Rhestr Anrhydeddau
Pen-blwydd y Frenhines 2017 Llongyfarchodd
yr Aelod Llywyddol ddinasyddion Abertawe a/neu bobl â chysylltiadau ag Abertawe
a dderbyniodd wobrau yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. a)
Cadlywydd Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i)
Yr Athro Jill Hunter. Athro Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Am wasanaethau i Fydwreigiaeth ac Addysg Bydwreigiaeth yn y DU ac yn Ewrop.
(Sgeti, Abertawe). b)
Aelod Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig (MBE) i)
Janet Waldron.
Pennaeth Ysgol Gyfun Pontarddulais. Am wasanaethau i Addysg. (Castell-nedd Port
Talbot). c)
Medal yr Ymerodraeth
Brydeinig (BEM) i)
Joan E. Darbyshire. Am wasanaethau elusennol. (West
Cross, Abertawe); ii)
Wendy A Pressdee. Am wasanaethau i bêl-rwyd. (Pennard, Abertawe); iii)
Ruth Ridge. Am wasanaethau i Gymdeithas Gŵyr a
chymuned Gŵyr. (West Cross, Abertawe). 8)
Pen-blwydd hapus i Aneira
Thomas o Gasllwchwr, sy'n 70 oed, ac i'r Gwasanaeth
Iechyd Gwladol (GIG) Estynnodd yr Aelod Llywyddol longyfarchiadau ar ran y cyngor i Aneira
Thomas o Gasllwchwr ar ei phen-blwydd yn 70 oed. Ganed Aneira yn fuan ar ôl canol nos ar 5
Gorffennaf 1948 ar ôl i'r bydwragedd annog ei mam gyda'r geiriau "Hang on Edna...". Aneira oedd y baban cyntaf i gael ei geni dan
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bellach mae'n treulio'i hamser yn teithio'r wlad
fel cefnogwr ac eiriolwr grymus ein GIG. Estynnodd hefyd longyfarchiadau'r cyngor a oedd hefyd yn dathlu ei
ben-blwydd yn 70 oed. 9)
Newidiadau/cywiriadau i
wŷs y cyngor i)
Eitem Agenda 10
"Strategaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel” Nid oedd y siartiau cylch ar dudalennau 43-53 wedi'u hargraffu'n
gywir. Dosbarthwyd y tudalennau sydd
wedi'u diwygio. ii)
Eitem Agenda 11 “Lwfansau
a Threuliau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2017-2018 Mae angen i baragraffau 2.4 a 2.9 yr adroddiad gael eu diwygio er mwyn
egluro'r Lwfans TGCh a'r Lwfans Cynhaliaeth. Dylai'r paragraffau ddarllen fel a ganlyn: “2.4 Mae'r Lwfans
TGCh wedi'i bennu ar uchafswm o £1,808
dros gyfnod o 5 mlynedd (2017-2022). Mae
hyn yn golygu £1,008 yn y flwyddyn yn dilyn ethol cynghorydd a £200 am bob
blwyddyn wedi hynny. Nid oes angen i'r symiau gael eu
cymryd mewn blwyddyn benodol ond ni ellir mynd y tu hwnt i £1,808. 2.9 Lwfans
Cynhaliaeth - Mae'r costau hyn yn ymwneud ag unrhyw gostau cynhaliaeth a
geir gan gynnwys llety a chostau cynadleddau/seminarau.” iii)
14) Eitem 14 yr Agenda, “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor” Dylai paragraff 3.1 a) a b) gael eu diwygio i ddarllen fel a ganlyn: a)
Rhan 3 - Cylch Gorchwyl -
Gweithgor y Cyfansoddiad; b)
Rhan 4 - Rheolau
Gweithdrefnau'r Cyngor - Rheolau Dadlau. iv)
3) Eitem 17 yr Agenda, “Rhybudd o Gynnig” Tynnwyd yr eitem hon yn ôl. 10)
Atal Rheol Gweithdrefn
17.2 y Cyngor "Rheolau Dadlau - Sefyll wrth Siarad" Cytunodd y cyngor i atal Rheol Gweithdrefn 17.2 y Cyngor er mwyn caniatáu i
gynghorwyr aros yn eu seddi wrth siarad.
Diben hyn yw cynorthwyo'r rheiny â phroblemau clyw. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Y Penwythnos Mwyaf gan y BBC, Abertawe Estynnodd Arweinydd y cyngor ei longyfarchiadau i
bawb a oedd yn ymwneud â Phenwythnos Mwyaf y BBC, Abertawe, a gynhaliwyd ar 27
a 28 Mai 2018. Roedd y digwyddiad wedi
gwerthu pob tocyn ac roedd yn un o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw mwyaf
cyffrous yr haf, wrth i BBC Music a Radio 1 ddod
ynghyd i gyflwyno deuddydd o berfformiadau gwych ym Mharc Singleton. 2) Bargen Ddinesig Bae Abertawe Dywedodd Arweinydd y cyngor fod y Cabinet yn
gynharach y diwrnod hwnnw wedi cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig
Bae Abertawe a'r ffrydiau ariannu cysylltiedig.
Byddai adroddiad aM y Fargen Ddinesig yn cael
ei gyflwyno i'r cyngor ar 26 Gorffennaf 2018. 3) Morlyn Llanw Dywedodd Arweinydd y cyngor y byddai'n cwrdd ag
Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Llun 25 Mehefin 2018 lle byddai'n parhau i
bwyso am ymateb cadarnhaol i'r cynllun. 4) Deb
Yeates – Yn gadael yr awdurdod Estynnodd Arweinydd y cyngor ei longyfarchiadau i Deb Yates ar ei hymddeoliad a dymuno'r gorau iddi ar gyfer
y dyfodol yn dilyn 37 mlynedd yn gweithio i lywodraeth leol. Dechreuodd Deb ei
gyrfa fel Swyddog Personél i'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn hen Gyngor Sir
Gorllewin Morgannwg. Gwnaeth ddatblygu
ei gyrfa gyda'r awdurdod ac am beth amser roedd hi'n Bennaeth AD Gweithredol. Un o gyflawniadau arbennig Deb
yn ystod yr amser hwnnw oedd na wnaeth gymryd diwrnod o salwch. 5) Chris Sivers – Porfeydd
Newydd Estynnodd Arweinydd y cyngor ei longyfarchiadau i
Chris Sivers ar ei rôl newydd yn Swydd Gaerloyw. Cyfeiriodd at ei 5 mlynedd yn Abertawe gan
nodi ei chyflawniadau wrth gael gofal cymdeithasol ac addysg i gydweithio, gan
ganolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a chomisiynu gwell. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw
gwestiynau. |
|
Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet
dros Gartrefi ac Ynni a oedd yn amlinellu newidiadau arfaethedig i’r polisi
presennol Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i
Ddarparu Cymorth 2017-2022, yn dilyn newidiadau i gynllun Troi Tai'n Gartrefi a
Chynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a
chyhoeddi adendwm i'r polisi. Penderfynwyd ar y
canlynol: 1)
Dylai'r diwygiadau i gynllun Troi Tai'n Gartrefi
Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi Cenedlaethol fel a
nodwyd yn yr adroddiad gael eu cymeradwyo a'u cynnwys fel adendwm i Adnewyddu
Tai ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi Cymorth i Ddarparu 2017-2022. |
|
Strategaeth diogelwch cymunedol Abertawe mwy diogel. PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Gymunedau Gwell adroddiad, a oedd yn cyflwyno ymateb partneriaeth strategol ar
gyfer cyflwyno blaenoriaethau fel a nodwyd yn Strategaeth Diogelwch Cymunedol
Abertawe Mwy Diogel. Penderfynwyd ar y
canlynol: 1) Cymeradwyo Strategaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. |
|
Lwfansau a Gwariant Arian Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig 2017-2018. PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gwybodaeth gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn
cyflwyno swm y lwfansau a'r treuliau a dalwyd i bob Cynghorydd ac Aelod
Cyfetholedig yn ystod 2017-2018 dan y Cynllun Lwfansau Cynghorwyr. Yn dilyn cais gan
Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, cytunodd y cyngor y dylai paragraffau 2.4 a 2.9 yr adroddiad gael eu diwygio er mwyn egluro'r
Lwfans TGCh a’r Lwfans Cynhaliaeth. Diwygiwyd y paragraffau i ddarllen fel a
ganlyn: “2.4 Pennir y Lwfans
TGCh ar uchafswm o £1,808 dros gyfnod o 5 mlynedd
(2017-2022). Caiff hyn ei ddadansoddi
fel £1,008 yn y flwyddyn yn syth ar ôl ethol cynghorydd a £200 bob blwyddyn yn
dilyn hynny. Nid oes rhaid cymryd y symiau yn y
flwyddyn benodol ond ni ellir mynd y tu hwnt i £1,808. 2.9 Lwfans
Cynhaliaeth - Mae'r costau hyn yn ymwneud â chostau cynhaliaeth a geir gan gynnwys
costau llety a/neu gostau cynadleddau/seminarau.” |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr
Economi a Strategaeth adroddiad, a oedd yn cynnig ymateb i'r ymgynghoriad ar
Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Llywodraeth Leol: ‘Cryfhau
Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl’. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi ac ardystio'r ymateb i'r ymgynghoriad ar Bapur
Gwyrdd Llywodraeth Cymru ynghylch Diwygio Llywodraeth Leol: 'Cryfhau
Llywodraeth Leol - Cyflawni dros ein Pobl'. |
|
Uwch-strwythur Rheoli. PDF 605 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad,
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strwythur Uwch-reoli newydd. Penderfynwyd: 1)
Bod y swyddi Cyfarwyddwr
Adnoddau, Cyfarwyddwr Pobl, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif
Swyddog Addysg a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau yn
cael eu dileu o'r sefydliad; 2)
Bod swydd Dirprwy Brif
Weithredwr yn cael ei chreu a'i hysbysebu; 3)
Bod swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael
ei chreu a'i hysbysebu; 4)
Bod swydd Cyfarwyddwr Addysg yn cael ei chreu a'i
hysbysebu; 5)
Bod swydd Pennaeth y
Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau yn cael ei disodli gan y swydd
Prif Swyddog Ariannol a'i hysbysebu; 6)
Bod rheolaeth y Prif Swyddog
Gweithredu (sy'n wag ar hyn o bryd) yn cael ei diwygio ac y dylid ei benodi o'r
Penaethiaid Gwasanaeth presennol; 7)
Bod swydd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes yn cael ei disodli gan swydd y Prif Swyddog
Cyfreithiol a bod y deiliad presennol yn camu i'r swydd honno; 8) Bod swydd
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid yn cael ei chreu a'i hysbysebu; 9)
Bod swydd Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol yn cael ei
chreu a bod y deiliaid presennol yn camu i'r swydd honno; 10)
Bod y Gyfarwyddiaeth Lleoedd yn cael ei diwygio fel a
amlinellir ym mharagraff 6 yr adroddiad. |
|
Diwygiadau i gyfansoddiad y Cyngor. PDF 38 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol,
y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio
gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y
Cyngor. Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r
meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor: a)
Rhan 3 - Cylch Gorchwyl - Gweithgor y
Cyfansoddiad; b)
Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefnau'r Cyngor -
Rheolau Dadlau. Penderfynwyd: 1)
Bod cylch gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad yn cael ei
ddiwygio i gynnwys y llinell ganlynol: “3. Ystyried pob agwedd ar unrhyw
adolygiadau ffiniau a chyflwyno argymhellion i'r cyngor fel y bo'n
briodol." 2)
Diwygio Rheol Gweithdrefn 17 y cyngor "Rheolau
Dadlau" i ddarllen fel a ganlyn: 1
"Parch i'r Cadeirydd Pan fydd yr Aelod Llywyddol yn
sefyll yn ystod dadl, rhaid i bob cynghorydd stopio siarad ar unwaith a dylai'r
cyngor fod yn dawel. 2
Sefyll wrth Siarad Rhaid i gynghorydd, wrth
siarad yng nghyfarfod y cyngor, annerch yr Aelod Llywyddol; rhaid i bawb arall
aros yn dawel, oni bai am godi pwynt o drefn, esboniad personol neu bwynt
gwybodaeth. Nid yw'r Rheol Gweithdrefn hon yn
berthnasol i gyfarfodydd eraill y cyngor megis y Cabinet, pwyllgorau etc. Pan fydd cynghorydd yn codi
"pwynt o drefn", "esboniad personol" neu "pwynt
gwybodaeth", mae paragraff 17(12) "Esboniad Personol, Pwynt o Drefn a
Phwyntiau Gwybodaeth" yn berthnasol.
Os digwydd hyn, bydd y cynghorydd yn parhau i siarad. 3 Trefn Siarad Os bydd dau gynghorydd
neu fwy'n dymuno siarad, bydd yr Aelod Llywyddol yn galw ar un ohonynt a bydd
yn rhaid i'r lleill fod yn dawel. Gall
yr Aelod Llywyddol benderfynu a chyhoeddi y bydd cynghorwyr yn cael eu galw
mewn trefn benodol ar bwyntiau penodol yn ystod y ddadl. Neu, gall yr Aelod Llywyddol hefyd
benderfynu agor rhestr o gynghorwyr sy'n dymuno siarad ac i gyfyngu ar nifer y
siaradwyr i'r rhai a nododd fwriad i siarad cyn cau'r rhestr. Bydd yr Aelod Llywyddol yn cyhoeddi pan
fydd y rhestr yn cau." Noder: Erys gweddill Rheol Gweithdrefn
17 y Cyngor "Rheolau Dadlau" yn ddigyfnewid. |
|
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad, a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer enwebiadau/newidiadau i gyrff y cyngor. Dywedodd nad oedd
Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod. 1)
Panel yr Heddlu a Throseddu Tynnu
enw'r Cynghorydd K M Roberts. Ychwanegu
enw'r Cynghorydd E T Kirchner. Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: 1)
Bwrdd Magu Plant Corfforaethol Tynnu enw'r Cynghorydd M C
Child. Ychwanegu enw'r Cynghorydd E J
King. 2)
Pwyllgor Archwilio Dileu enw'r Cynghorydd
B Hopkins. Ychwanegu swydd Lafur
wag. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 142 KB Cofnodion: 1) ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A Cyflwynwyd
naw (9) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.
Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar
ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Roedd
ymateb ysgrifenedig yn ofynnol ar gyfer y cwestiwn/cwestiynau atodol canlynol. Cwestiwn 2 a)
Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley y canlynol: i)
"All Arweinydd y cyngor
ddarparu manylion i'r cynghorwyr am brydles newydd Stadiwm Liberty,
yn arbennig newidiadau i elfen drwsio/cynnal a chadw'r brydles?" Nododd
Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig. 2) ‘Cwestiynau
Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Cyflwynwyd
pum (5) 'cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer'. |
|
Hysbysiad o gynnig - Cynghorwyr P M Black, C A Holley, A M Day, L G Thomas, C L Philpott, J W Jones & M H Jones. Mae'r cyngor yn nodi'r refferendwm
ymgynghorol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 1975 lle cadarnhaodd 67% o'r rhai a
bleidleisiodd ein haelodaeth o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd ar sail telerau
aelodaeth a oedd wedi'u nodi'n glir. Mae'r cyngor yn nodi'r refferendwm ymgynghorol ychwanegol
a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 lle penderfynodd 52% o'r rhai a bleidleisiodd
na ddylai'r Deyrnas Unedig fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd mwyach. Yn ychwanegol, mae'r cyngor yn nodi na chyflwynwyd mater
ein haelodaeth barhaus o'r farchnad sengl na'r telerau ar gyfer gadael yr UE
i'r etholaeth i'w penderfynu fel rhan o'r refferendwm yn 2016. Mae'r cyngor hefyd yn nodi'r anawsterau dilynol wrth
drafod telerau ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd ynghylch y ffin Wyddelig a dyfodol Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, dyfodol Gibraltar,
rhagfynegiadau y bydd gwerth ychwanegol gros yng Nghymru'n
gostwng £1.1 filiwn oherwydd Brexit caled, effaith colli grantiau ar Addysg
Uwch ac ymchwil wyddonol, y posibilrwydd o golli swyddi gweithgynhyrchu ac yn y
sector ariannol i Ewrop gyfandirol a'r effaith ar awyrennau a meddyginiaeth
niwclear o ganlyniad i adael cytundebau rhyngwladol. Hefyd mae'r cyngor yn nodi effaith Brexit ar lafur wedi'i
fewnforio, sydd, ar y cyd â'r ffaith fod y llywodraeth gyfredol yn gwahardd fisâu, eisoes wedi cyfrannu at ddiffyg staff y GIG mewn
meysydd allweddol a thanseilio amaethyddiaeth a diwydiannau eraill sy'n cynnig
llawer o swyddi. Mae'r cyngor hefyd yn mynegi pryder am yr ansicrwydd sy'n
wynebu dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ynghyd â
dinasyddion y DU sy'n byw ac yn gweithio yn Ewrop. Mae'r cyngor yn nodi'r diffyg cynnydd sydd wedi'i wneud
gan Lywodraeth y DU o ran sicrhau cytundebau masnachol eraill y tu allan i'r
Gymuned Ewropeaidd ac mae'n bryderus, unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE, y
byddwn ni'n cael ein hynysu, mewn sefyllfa wan o ran trafod telerau ac yn
dibynnu'n llwyr ar bartneriaid masnachu mwy megis yr UDA a fydd yn awyddus i
osod telerau annerbyniol ar unrhyw fargeinion y byddwn yn eu taro â nhw. Mae'r cyngor yn nodi ei bod hi'n bosib cynyddu masnach
gyda gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE wrth barhau i fod yn aelod o'r farchnad
sengl ac mae cynnydd o 27% bob blwyddyn mewn allforion caws o'r DU i Asia yn
dystiolaeth o hyn. Mae'r cyngor yn credu, o ystyried yr ansicrwydd y sonnir
amdano uchod, canlyniadau Brexit caled fel y'i hyrwyddir gan Lywodraeth y DU ar
hyn o bryd ar gyfer ein heconomi a'n bywydau unigol a chanlyniadau Brexit sydd
wedi dod i'r amlwg ers mis Mehefin 2016, dylai fod gan bleidleiswyr y gair olaf
mewn refferendwm ar unrhyw delerau y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth y DU a'r
UE, gyda chyfle i aros yn yr UE os byddant yn ystyried mai dyna'r dewis gorau
i'r DU. Mae'r cyngor wedi penderfynu y dylai'r Arweinydd
ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Prif
Weinidog gan nodi'r achos hwn o blaid refferendwm terfynol ar y cytundeb
Brexit. Cofnodion: Cafodd yr
hysbysiad o gynnig ei dynnu yn ôl. |