Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

148.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gyswllt i'w ddatgan.  Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gyswllt ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)       Datganodd y Cynghorydd J P Curtice gyswllt personol â Chofnod 156 “Cynllunio Ariannol Tymor Canolig  2019/20 i 2021/22”;

 

2)       Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, C R Doyle, M Durke, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, L S Gibbard, K M Griffiths, P R Hood-Williams, C A Holley, B Hopkins, L James, O G James, J W Jones, M H Jones, P K Jones, E J King, E T Kirchner, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, A Pugh, S Pritchard, J A Raynor, K M Roberts, M Sherwood, P B Smith, R V Smith,  A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White gyswllt personol â Chofnod 157 “Cyllideb Refeniw 2018/19";

 

3)       Datganodd y Cynghorydd M C Child gyswllt personol â Chofnod 157 "Cyllideb Refeniw 2018/19". Rhoddwyd goddefeb i'r Cynghorydd Mark C Child gan y Pwyllgor Safonau i arfer pŵerau gweithredol, aros, siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

 

4)       Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, C R Doyle, M Durke, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, L S Gibbard, K M Griffiths, C A Holley, B Hopkins, O G James, M H Jones, P K Jones, E J King, E T Kirchner, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, A Pugh, S Pritchard, J A Raynor, K M Roberts, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, M Thomas, W G Thomas, L V Walton a T M White gyswllt personol â Chofnod 159 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18-2023/24”;

 

5)       Datganodd y Cynghorydd M C Child gyswllt personol â Chofnod 159 Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18-2023/24”; Rhoddwyd goddefeb i'r Cynghorydd Mark C Child gan y Pwyllgor Safonau i arfer pŵerau gweithredol, aros, siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

 

6)    Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice a T J Hennegan gyswllt personol â  Chofnod 160 "Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw 2018/19";

 

7)    Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gyswllt personol â Chofnod 161 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2018/19;

 

8)      Datganodd y Cynghorydd C Anderson gyswllt personol a rhagfarnol â Chofnod 161 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2018/19 a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried;

 

9)      Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gyswllt personol â Chofnod 162 "Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18-2020/21”;

 

10)     Datganodd y Cynghorwyr W Evans, E W Fitzgerald, K M Griffiths, L James,P R Hood-Williams, J W Jones, M H Jones, K M Roberts, R V Smith, A H Stevens, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, a G D Walker gyswllt personol â Chofnod 163 "Penderfyniad Statudol - Penderfyniadau i'w gwneud yn unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2018/19”;

 

11)    Datganodd y Cynghorydd L James gyswllt personol a rhagfarnol â Chofnod 165 "Penodi Aelod Lleyg o'r Pwyllgor Archwilio" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried;

 

12)   Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, E T Kirchner a P Lloyd gyswllt personol â Chofnod 166 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2018-2019”;

 

13)   Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley, J W Jones ac M H Jones gyswllt personol a rhagfarnol â Chofnod 166 "Enwebu Darpar Arglwydd Faer a Dirprwy Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2018-2019” a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried;

 

 

149.

Cofnodion.

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)   Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018.

 

150.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

 

151.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

 

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Y Cyn-Faeres, Averil Hare

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-Faeres Averil Hare. Roedd hi'n wraig i'r Cyn-Gynghorydd a Chyn-Faer Dinas Abertawe ym 1971 sef Ken Hare.

 

b)              Y Cyn-Gynghorydd Denzil Richard (Dick) Phillips

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-Gynghorydd a'r Cyn-Ddirprwy Arglwydd Faer, Dick Phillips.  Bu'r Cyn-Gynghorydd Phillips yn gwasanaethu wardiau San Helen ac Uplands ar hen Gyngor Sir Abertawe o 3 Mai 1979 i 31 Mawrth 1996.  Roedd yn Ddirprwy Arglwydd Faer yn 1995-1996.

 

c)              Cyn-Glerc Sirol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg - Michael Rush

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Cyn-Glerc Sirol Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg, Michael Rush. Bu'n gwasanaethu o 1974 tan 1990.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Diwrnod Rhyngwladol Menywod

 

Nododd yr Aelod Llywyddol fod Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth.  Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.  Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

 

Thema eleni yw "Pwyso am Gynnydd" ac i ni yng Nghyngor Abertawe mae hyn yn golygu dathlu pa mor bell rydym wedi dod gan gydnabod bod tipyn o ffordd i fynd o hyd nes cyflawni cydraddoldeb rhyw a mathau eraill o gydraddoldeb.

 

Mae gan Gyngor Abertawe gydbwysedd rhyw llawer gwell na bron pob un o'r cynghorau eraill yng Nghymru ar lefel uwch-reolwr, lle mae 50% o Dîm y Cyfarwyddwr a 44% o'r Tîm Arweinyddiaeth yn fenywod.  Mae hyn yn wir hefyd gyda'n cynghorwyr lle mae 42% ohonynt yn fenywod.

 

Gwahoddodd yr holl staff a chynghorwyr i ddigwyddiad arbennig am 1.00pm ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yn Siambr y Cyngor y Ganolfan Ddinesig lle bydd Dr Alys Einon o Brifysgol Abertawe yn siarad am stereoteipio rhywiau yn y gweithle.

 

3)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

a)              Diwygiadau i'r Gyllideb

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Grŵp Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol/Gwrthbleidiau Annibynnol wedi cyflwyno diwygiadau cyllidebol yn ymwneud ag Eitemau 10 ac 11.  Roedd copi o'r diwygiadau hyn wedi'u cylchredeg.

 

b)              Eitem 20 "Dyddiadur y Cynghorwyr 2018-2019”

 

Nododd yr Aelod Llywyddol y gwneir y diwygiadau canlynol i'r adroddiad.

 

i)                Dileu Trefnir i'r cyngor gwrdd am 17:00 ar 27 Medi 2018

Ychwanegu Bydd y cyngor yn cwrdd am 17:00 ar 20 Medi 2018.

 

ii)               Dileu Bydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cwrdd am 17:00 ar 16 Hydref 2018.

Ychwanegu Bydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cwrdd am 17:00 ar 9 Hydref 2018.

 

iii)             Dileu Bydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu yn cwrdd am 16:00 ar 14 Mehefin, 12 Gorffennaf, 9 Awst, 13 Medi, 11 Hydref, 8 Tachwedd, 13 Rhagfyr 2018 a 10 Ionawr, 14 Chwefror, 14 Mawrth, 11 Ebrill 2019.

Ychwanegu  Bydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu yn cwrdd am 16:00 ar 20 Mehefin, 18 Gorffennaf, 15 Awst, 19 Medi, 17 Hydref, 7 Tachwedd, 12 Rhagfyr 2018 ac 16 Ionawr, 20 Chwefror, 20 Mawrth, 17 Ebrill 2019.

 

iv)             Dileu Bydd Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr yn cwrdd am 19:00 ar 17 Rhagfyr 2018.

Ychwanegu Bydd Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr yn cwrdd am 19:00 ar 3 Rhagfyr 2018.

 

152.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

 

1)              Cynnig Stadiwm Liberty

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf ar gynnydd cynnig Stadiwm Liberty.  Dywedodd y byddai'r awdurdod yn derbyn:

 

1)              Rhent craidd o £300,000 y flwyddyn;

2)              Cyfran o'r nawdd a'r hawliau enwi;

3)              Cyfraniad at gyfleusterau chwarae ar draws y Ddinas a'r Sir

 

2)              Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf i'r cyngor am gynnydd y Fargen Ddinesig.

 

3)              Gweithredu yn sgîl y Tywydd Oer a Diolchiadau

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i'r holl staff a oedd wedi mynd gam ymhellach yn yr ychydig ddiwrnodau diwethaf i sicrhau bod y ddinas yn gweithredu yn ystod yr amodau rhewllyd.  Rhoddodd ddiolch arbennig i staff yr adran priffyrdd am gadw'r traffig i symud.  Gwerthfawrogwyd eu gwaith gan Swyddogion a Chynghorwyr ar draws y cyngor yn ogystal â phreswylwyr, ysbytai a busnesau.

 

Dywedodd ei fod yn ymwybodol bod y timau gofal cymdeithasol wedi wynebu heriau arbennig a bod yr awdurdod yn ddyledus iddynt am eu hymrwymiad a'u gofal.

 

Gorffennodd drwy ddiolch i'r ysgolion a arhosodd ar agor am gyhyd â phosib.

 

153.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

154.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus

155.

Cyflwyniad Technegol a Chyllidebol

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog Adran 151 gyflwyniad technegol am y 4 adroddiad cyllidebol canlynol:

 

i)        Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2019-2020 i 2021-2022;

ii)        Cyllideb Refeniw 2018-2019;

iii)       Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017-2018 i 2023-2024;

           Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2018/2019.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i Swyddog Adran 151. Ymatebodd Swyddog Adran 151.

 

Yn dilyn cwestiynau technegol, rhoddodd Arweinydd y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet drosolwg gwleidyddol cyffredinol o'r sefyllfa gyllidebol ac yna cafwyd cyflwyniad gwleidyddol am y 4 adroddiad cyllidebol y'u crybwyllwyd uchod.  Yn ogystal, rhoddodd Aelodau perthnasol y Cabinet gyflwyniadau'n ymwneud â'u portffolios.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau i Arweinydd y Cyngor. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelodau perthnasol y Cabinet.

 

 

156.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2019/20-2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)       Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2019-2020 a 2021-2022 fel sail i gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

 

157.

Cyllideb Refeniw 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig ardoll Cyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2018-2019.

 

Dywedodd Swyddog Adran 151 fod Grwpiau Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol/Gwrthbleidiau Annibynnol.

 

Diwygiad 1

 

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Peter Black.  Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd C A Holley. Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

"Cyllideb Refeniw'r Gronfa Gyffredinol

 

Dileu'n llawn gyflwyno taliadau ar gyfer canolfannau dydd i bobl hŷn ac oedolion ag anghenion arbennig (£250,000) ac ailgyflwyno'r £40,000 ar gyfer is-ddarpariaeth clybiau ieuenctid yn Gendros, Montana, Treforys, St Thomas a Friendship House.  Caiff y gost net, sef £290,000, ei hariannu drwy sicrhau £266,000 ychwanegol yn 2018-19 ar gyfer cyllidebau staffio'r ddarpariaeth swyddi gwag gyffredinol - 1.16% effeithiol (yr un lefel ag a gyflawnwyd ar gyfer 2017-18) - a defnyddio £24,000 ychwanegol o'r gronfa wrth gefn."

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd pleidleisio ar y mater.  Ni chefnogwyd y diwygiad ac felly datganwyd bod y bleidlais wedi'i cholli.  Ni ddaeth y diwygiad yn rhan o'r cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo Cyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019 fel a fanylwyd yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)       Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019 fel a nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

 

158.

Gohirio Cyfarfod

Cofnodion:

Gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud o egwyl.

 

159.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 i 2021-2022 (2023-2024 ar gyfer ysgolion Band B).

 

Dywedodd Swyddog Adran 151 fod Grwpiau Gwleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol/Gwrthbleidiau Annibynnol.

 

Diwygiad 1

 

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Peter Black.  Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd C A Holley.  Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

"Cyllideb Gyfalaf y Gronfa Gyffredinol

 

Yng nghyllideb gyfalaf y Gronfa Gyffredinol, gohirio'r £200,000 ar gyfer Adleoli'r Ganolfan Ddinesig a'r £250,000 ar gyfer Cronfa Wrth Gefn y Ganolfan Ddinesig tan 2019-20, ac adleoli'r £450,000 a ryddhawyd ar gyfer 2018/19 er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ychwanegol ar ffyrdd a phalmentydd.  Ystyried rhaglen gyfalaf gynyddol gyffredinol 2019-20 sef £450,000 a'r ariannu cyfalaf ar ei chyfer (drwy fenthyca cynyddol nas cefnogir) fel rhan o bennu cyllideb refeniw 2019-20".

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd pleidleisio ar y mater.  Ni chefnogwyd y diwygiad ac felly datganwyd bod y bleidlais wedi'i cholli.  Ni ddaeth y diwygiad yn rhan o'r cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig 2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf 2018-2019 i 2023-2024 fel a fanylwyd yn Atodiadau A, B, C, Ch a D yr adroddiad.

 

 

 

160.

Datganiad Polisi am Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Cynghorus, y Strategaeth Buddsoddi a'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ar Gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn argymell Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad);

 

2)       Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad);

 

3)       Cymeradwyo'r Datganiad Darparu Lleiafswm Refeniw (MRP) (Adran 9 yr adroddiad).

 

161.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cynyddu taliadau rhent yn unol â pholisi rhenti Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)       Cymeradwyo'r ffioedd, y taliadau a'r lwfansau fel yr amlinellwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

3)       Cymeradwyo'r cynigion cyllideb refeniw fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad.

 

162.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 a 2020-2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2017-2018;

 

2)       Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2018-2019 a 2020-2021;

 

3)       Lle caiff cynlluniau unigol Atodiad B yr adroddiad eu rhaglenni dros y cyfnod 3 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

 

163.

Penderfyniad Statudol - Dylid Gwneud Penderfyniadau yn unol â'r Rheoliadau wrth Bennu Treth y Cyngor ar Gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu nifer o ddatrysiadau statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Y bydd y cyngor yn cofnodi ac yn mabwysiadu'r datrysiadau statudol a amlinellir isod;

 

2)       Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2017, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2018-2019 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)       89,962 oedd y cyfanswm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn;

 

b)       Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,961

 

Clydach

2,622

 

Gorseinon

3,179

 

Tregŵyr

1,953

 

Pengelli

412

 

Llanilltud Gŵyr

323

 

Cilâ

2,113

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

494

 

Llangyfelach

947

 

Llanrhidian Uchaf

1,592

 

Llanrhidian Isaf

328

 

Llwchwr

3,400

 

Mawr

745

 

y Mwmbwls

9,694

 

Penllergaer

1,366

 

Pennard

1,459

 

Penrhys

419

 

Pontarddulais

2,281

 

Pontlliw a Thircoed

1,031

 

Porth Einon

435

 

Reynoldston

292

 

Rhosili

188

 

Y Crwys

711

 

Cilâ Uchaf

572

 

Dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

3)       Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo bellach gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2018-2019 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

a)       £704,151,216 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) y Ddeddf;

 

b)       £269,932,090 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) y Ddeddf;

 

c)       £434,219,126 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn;

 

ch)     £318,687,205 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol;

 

d)   £1,284.23 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn;

 

dd)  £1,402,726 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf;

 

e)   £1,268.64 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

 

f)         Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,291.59

 

Clydach

1,307.28

 

Gorseinon

1,298.64

 

Tre-gŵyr

1,286.00

 

Pengelli a Waungron

1,283.93

 

Llanilltud Gŵyr

1,280.64

 

Cilâ

1,278.11

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,283.32

 

Llangyfelach

1,293.98

 

Llanrhidian Uchaf

1,327.74

 

Llanrhidian Isaf

1,277.79

 

Llwchwr

1,293.14

 

Mawr

1,351.19

 

Y Mwmbwls

1,323.51

 

Penllergaer

1,279.62

 

Pennard

1,321.42

 

Penrhys

1,292.51

 

Pontarddulais

1,306.78

 

Pontlliw a Thircoed

1,303.64

 

Porth Einon

1,281.28

 

Reynoldston

1,302.89

 

Rhosili

1,286.19

 

Y Crwys

1,310.88

 

Cilâ Uchaf

1,300.11

Dyma'r symiau a roddwyd trwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a nodwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34 (3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt;

i)        Rhannau o ardal y cyngor:

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

861.06

1,004.57

1,148.08

1,291.59

1,578.61

1,865.63

2,152.65

2,583.18

3,013.71

Clydach

871.52

1,016.77

1,162.03

1,307.28

1,597.79

1,888.29

2,178.80

2,614.56

3,050.32

Gorseinon

865.76

1,010.05

1,154.35

1,298.64

1,587.23

1,875.81

2,164.40

2,597.28

3,030.16

Tre-gŵyr

857.33

1,000.22

1,143.11

1,286.00

1,571.78

1,857.56

2,143.33

2,572.00

3,000.67

Pengelli a Waungron

855.95

998.61

1,141.27

1,283.93

1,569.25

1.854.57

2,139.88

2,567.86

2,995.84

Llanilltud Gŵyr

853.76

996.05

1,138.35

1,280.64

1,565.23

1,849.81

2,134.40

2,561.28

2,988.16

Cilâ

852.07

994.09

1,136.10

1,278.11

1,562.13

1,846.16

2,130.18

2,556.22

2,982.26

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

855.55

998.14

1,140.73

1,283.32

1,568.50

1,853.68

2,138.87

2,566.64

2,994.41

Llangyfelach

862.65

1,006.43

1,150.20

1,293.98

1,581.53

1,869.08

2,156.63

2,587.96

3,019.29

Llanrhidian Uchaf

885.16

1,032.69

1,180.21

1,327.74

1,622.79

1,917.85

2,212.90

2,655.48

3,098.06

Llanrhidian Isaf

851.86

993.84

1,135.81

1,277.79

1,561.74

1,845.70

2,129.65

2,555.58

2,981.51

Llwchwr

862.09

1,005.78

1,149.46

1,293.14

1,580.50

1,867.87

2,155.23

2,586.28

3,017.33

Mawr

900.79

1,050.93

1,201.06

1,351.19

1,651.45

1,951.72

2,251.98

2,702.38

3,152.78

Y Mwmbwls

882.34

1,029.40

1,176.45

1,323.51

1,617.62

1,911.74

2,205.85

2,647.02

3,088.19

Penllergaer

853.08

995.26

1,137.44

1,279.62

1,563.98

1,848.34

2,132.70

2,559.24

2,985.78

Pennard

880.95

1,027.77

1,174.60

1,321.42

1,615.07

1,908.72

2,202.37

2,642.84

3,083.31

Penrhys

861.67

1,005.29

1,148.90

1,292.51

1,579.73

1,866.96

2,154.18

2,585.02

3,015.86

Pontarddulais

871.19

1,016.38

1,161.58

1,306.78

1,597.18

1,887.57

2,177.97

2,613.56

3,049.15

Pontlliw a Thircoed

869.09

1,013.94

1,158.79

1,303.64

1,593.34

1,883.04

2,172.73

2,607.28

3,041.83

Porth Einon

854.19

996.55

1,138.92

1,281.28

1,566.01

1,850.74

2,135.47

2,562.56

2,989.65

Reynoldston

868.59

1,013.36

1,158.12

1,302.89

1,592.42

1,881.95

2,171.48

2,605.78

3,040.08

Rhosili

857.46

1,000.37

1,143.28

1,286.19

1,572.01

1,857.83

2,143.65

2,572.38

3,001.11

Y Crwys

873.92

1,019.57

1,165.23

1,310.88

1,602.19

1,893.49

2,184.80

2,621.76

3,058.72

Cilâ Uchaf

866.74

1,011.20

1,155.65

1,300.11

1,589.02

1,877.94

2,166.85

2,600.22

3,033.59

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

845.76

986.72

1,127.68

1,268.64

1,550.56

1,832.48

2,114.40

2,537.28

2,960.16

 

Dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(e) a (3)(f) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand CH a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)       Dylid nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2018-2019 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

155.68

181.63

207.57

233.52

285.41

337.31

389.20

467.04

544.88

5)       Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(ff) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,016.74

1,186.20

1,355.65

1,525.11

1,864.02

2,202.94

2,541.85

3,050.22

3,558.59

Clydach

1,027.20

1,198.40

1,369.60

1,540.80

1,883.20

2,225.60

2,568.00

3,081.60

3,595.20

Gorseinon

1,021.44

1,191.68

1,361.92

1,532.16

1,872.64

2,213.12

2,553.60

3,064.32

3,575.04

Tre-gŵyr

1,013.01

1,181.85

1,350.68

1,519.52

1,857.19

2,194.87

2,523.53

3,039.04

3,545.55

Pengelli a Waungron

1,011.63

1,180.24

1,348.84

1,517.45

1,854.66

2,191.88

2,529.08

3,034.90

3,540.72

Llanilltud Gŵyr

1,009.44

1,177.68

1,345.92

1,514.16

1,850.64

2,187.12

2,523.60

3,028.32

3,533.04

Cilâ

1,007.75

1,175.72

1,343.67

1,511.63

1,847.54

2,183.47

2,519.38

3,023.26

3,527.14

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,011.23

1,179.77

1,348.30

1,516.84

1,853.91

2,190.99

2,528.07

3,033.68

3,539.29

Llangyfelach

1,018.33

1,188.06

1,357.77

1,527.50

1,866.94

2,206.39

2,545.83

3,055.00

3,546.17

Llanrhidian Uchaf

1,040.84

1,214.32

1,387.78

1,561.26

1,908.20

2,255.16

2,602.10

3,122.52

3,642.94

Llanrhidian Isaf

1,007.54

1,175.47

1,343.38

1,511.31

1,847.15

2,183.01

2,518.85

3,022.62

3,526.39

Llwchwr

1,017.77

1,187.41

1,357.03

1,526.66

1,865.91

2,205.18

2,544.43

3,053.32

3,562.21

Mawr

1,056.47

1,232.56

1,408.63

1,584.71

1,936.86

2,289.03

2,641.18

3,169.42

3,697.66

y Mwmbwls

1,038.02

1,211.03

1,384.02

1,557.03

1,903.03

2,249.05

2,595.05

3,114.06

3,633.07

Penllergaer

1,008.76

1,176.89

1,345.01

1,513.14

1,849.39

2,185.65

2,521.90

3,026.28

3,530.66

Pennard

1,036.63

1,209.40

1,382.17

1,554.94

1,900.48

2,246.03

2,591.57

3,109.88

3,628.19

Penrhys

1,017.35

1,186.92

1,356.47

1,526.03

1,865.14

2,204.27

2,543.38

3,052.06

3,560.74

Pontarddulais

1,026.87

1,198.01

1,369.15

1,540.30

1,882.59

2,224.88

2,567.17

3,080.60

3,594.03

Pontlliw

1,024.77

1,195.57

1,366.36

1,537.16

1,878.75

2,220.35

2,561.93

3,074.32

3,586.71

Porth Einon

1,009.87

1,178.18

1,346.49

1,514.80

1,851.42

2,188.05

2,524.67

3,029.60

3,534.53

Reynoldston

1,024.27

1,194.99

1,365.69

1,536.41

1,877.83

2,219.26

2,560.68

3,072.82

3,584.96

Rhosili

1,013.14

1,182.00

1,350.85

1,519.71

1,857.42

2,195.14

2,532.85

3,039.42

3,545.99

Y Crwys

1,029.60

1,201.20

1,372.80

1,544.40

1,887.60

2,230.80

2,574.00

3,088.80

3,603.60

Cilâ Uchaf

1,022.42

1,192.83

1,363.22

1,533.63

1,874.43

2,215.25

2,556.05

3,067.26

3,578.47

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,001.44

1,168.35

1,335.25

1,502.16

1,835.97

2,169.79

2,503.60

3,004.32

3,505.04

 

 

164.

Rheoli'r Trysorlys - flwyddyn Interim adolygiad adroddiad 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Drysorfa 2017-2018.

 

165.

Penodi Person Lleyg ar y Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2018. Yr argymhelliad oedd penodi Paula O’Connor yn Aelod Lleyg o'r Pwyllgor Archwilio er mwyn cydymffurfio â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

Cynigiodd Swyddog Adran 151 ddiwygio dyddiad dechau Paula O’Connor i 6 Mawrth 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi Paula O’Connor yn Aelod Lleyg o'r Pwyllgor Archwilio o 6 Mawrth 2018;

 

2)              Y bydd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben yn yr etholiadau llywodraeth leol, y disgwylir iddynt gael eu cynnal ym mis Mai 2022.

 

166.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2017-2018

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio enwebu Darpar Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2018-2019 er mwyn caniatáu i drefniadau digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaen.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Enwebu'r Cynghorydd David Phillips yn Ddarpar Arglwydd Faer ar gyfer 2018-2019;

 

2)       Enwebu'r Cynghorydd Peter M Black yn Ddarpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2018-2019;

 

 

167.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y newidiadau arfaethedig yn ymwneud â'r meysydd canlynol o Gyfansoddiad y Cyngor:

 

i)                Rhan 4 "Rheolau Gweithdrefnau", "Gweithdrefn Penodi Llywodraethwyr (ALl) yr Awdurdod Lleol"

 

Mabwysiadwyd Gweithdrefn Penodi Llywodraethwyr (ALl) yr Awdurdod Lleol gan y cyngor yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2017 a'i ychwanegu at Ran 4 "Rheolau Gweithdrefnau" cyfansoddiad y cyngor.  Mae paragraff 1 y weithdrefn yn hir, ac er mwyn osgoi dyblygu'r paragraff hwnnw ar bob achlysur, mae angen Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol; cynigir diwygio'r weithdrefn fel y cyfeirir at y rhai y mae gofyn iddynt fod yn rhan o'r broses yn "Grŵp Penodi Llywodraethwyr (ALl) yr Awdurdod Lleol".

 

Yn ogystal, i sicrhau nad yw'r broses yn cael ei hoedi os nad yw'r Prif Swyddog Addysg neu Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar gael.  Cynigir y diwygiad er mwyn caniatáu i gynrychiolydd gymryd rhan ar ran y naill neu'r llall.

 

Felly cynigir diwygio paragraff 1 y weithdrefn fel a ganlyn:  Ychwanegu'r geiriau mewn teip trwm:

 

“1.      Y Cabinet fydd yn gwneud holl benodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol yn dilyn argymhelliad gan Grŵp Penodiadau Llywodraethwyr (ALl) yr Awdurdod Lleol sy'n cynnwys y Prif Swyddog Addysg neu ei gynrychiolydd, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes neu ei gynrychiolydd a cheisir barn Cynghorydd(wyr) sy'n cynrychioli'r ward(iau) yn nalgylch yr ysgol i'w chynnwys yn y broses benderfynu (y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel Cynghorydd(wyr) Lleol)."

 

ii)               Rhan 5 "Codau a Phrotocolau".

 

Mae'r "Protocol Lletygarwch" i'w gael ar hyn o bryd yn y Llawlyfr i Gynghorwyr.  Gan fod y protocol yn ymwneud â chynghorwyr a swyddogion, cynigir ei ddileu o'r Llawlyfr i Gynghorwyr a'i ychwanegu at Ran 5 "Codau a Phrotocolau" yng nghyfansoddiad y cyngor.  Mae'r protocol wedi'i ddiwygio rhywfaint.  Atodir copi o'r Protocol Lletygarwch fel Atodiad A i'r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r newidiadau i gyfansoddiad y cyngor fel y'u hamlinellir ym mharagraffau 4.5, 5.1 ac Atodiad A yr adroddiad, ynghyd ag unrhyw newidiadau o ganlyniad i hyn.

 

168.

Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2018-2019

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu argymhellion Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018 a chyflwyno Dyddiadur Cyrff y Cyngor drafft ar gyfer 2018-2019.

 

Amlinellodd y diwygiadau canlynol i'r dyddiadur fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

i)                Dileu Trefnir i'r cyngor gwrdd am 17:00 ar 27 Medi 2018

Ychwanegu Bydd y cyngor yn cwrdd am 17:00 ar 20 Medi 2018.

 

ii)               Dileu Bydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cwrdd am 17:00 ar 16 Hydref 2018.

Ychwanegu Bydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cwrdd am 17:00 ar 9 Hydref 2018.

 

iii)             Dileu Bydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu yn cwrdd am 16:00 ar 14 Mehefin, 12 Gorffennaf, 9 Awst, 13 Medi, 11 Hydref, 8 Tachwedd, 13 Rhagfyr 2018 a 10 Ionawr, 14 Chwefror, 14 Mawrth, 11 Ebrill 2019.

Ychwanegu  Bydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu yn cwrdd am 16:00 ar 20 Mehefin, 18 Gorffennaf, 15 Awst, 19 Medi, 17 Hydref, 7 Tachwedd, 12 Rhagfyr 2018 ac 16 Ionawr, 20 Chwefror, 20 Mawrth, 17 Ebrill 2019.

 

iv)             Dileu Bydd Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr yn cwrdd am 19:00 ar 17 Rhagfyr 2018.

Ychwanegu Bydd Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr yn cwrdd am 19:00 ar 3 Rhagfyr 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canfyddiadau arolwg Amseru Cyfarfodydd y Cyngor;

 

2)              Mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor drafft ar gyfer 2018-19 yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol yng nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 24 Mai 2018.

 

 

169.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr.

Cofnodion:

 

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd tair ar ddeg o (1) 'Gwestiynau Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.