Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Derbyniwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd D W W Thomas. Cynigiwyd ac eiliwyd yr enwebiad.

 

Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd D W W Thomas yn Aelod Llywyddol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

Bu'r Cynghorydd D W W Thomas (Aelod Llywyddol) yn llywyddu

 

 

2.

Ethol Dirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Derbyniwyd enwebiad ar gyfer y Cynghorydd J P Curtice. Cynigiwyd ac eiliwyd yr enwebiad.

 

Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd J P Curtice yn Ddirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gyswllt i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

(1) Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, , J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, J W Jones, L R Jones, M H Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M G Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, P M Matthews, P N May, H M Morris, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, M Sykes, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White gyswllt personol â Chofnod 7 "Materion Cyfansoddiadol 2018-2019.”;

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 141 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018.

 

 

5.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Gwobrau

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol yn dilyn Seremoni Dyfarniadau Blynyddol Cymunedau Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC) a gynhaliwyd ar 22 Mai yn Orendy Margam, yr enillodd Rhaglen Gomisiynu Anghenion Cymhleth Bae'r Gorllewin y wobr am y categori 'Cyflawni Diben Cyffredin', a bod Rhaglen Bae'r Gorllewin yn gyffredinol wedi ennill y wobr am y 'Fenter Llywodraeth Leol Orau'.

 

Mae hyn yn gyflawniad gwych i'r bartneriaeth, ac yn brawf o waith caled ac ymroddiad cydweithwyr o'r holl sefydliadau partner.

Estynnodd ei longyfarchiadau i bawb.

 

2)              Diwygiadau/Cywiriad i Wŷs y Cyngor

 

a)              Eitem 8 "Materion Cyfansoddiadol 2018-2019”

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol y newidiadau canlynol i'r adroddiad:

 

1)    Angen newid y ffigurau y cyfeirir atynt ar dudalen 11, paragraff 4.2.  Mae pob un o'r ffigurau a welir yn y paragraff yn £200 islaw yr hyn y dylent fod.  Mae'r fersiynau diwygiedig eisoes wedi'u dosbarthu.

 

Taliadau Cydnabyddiaeth Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid Dinesig (gan gynnwys cyflogau sylfaenol)

 

Arweinwyr Dinesig

Dirprwy Arweinwyr Dinesig

Lefel 1

£24,300

£18,300

Lefel 2

£21,800

£16,300

Lefel 3

£19,300

£14,300

 

2)    Tudalen 19 - Newid PDP Diogelu i PDP Pobl a newid dyddiadur y cyngor yn unol â hynny.

 

3)    Tudalen 20 - Fforwm Cyswllt Myfyrwyr Abertawe - ychwanegu Ward Glandŵr.

 

4)    Dyddiadur y Cyngor - Tudalen 42 (Medi) - Symud y Pwyllgor Archwilio o ddydd Iau 13 i ddydd Mawrth 11.

 

5)    Mae newidiadau/diweddariadau i restr o aelodaeth pwyllgorau, cyrff allanol ac aelodau hyrwyddo wedi'u dosbarthu yn y siambr a byddant yn cael eu hatodi at y cofnodion.

 

Un newid arall i'r rhestr o bwyllgorau (tudalen 4) – Cydbwyllgor Ymgynghori –

dileu G J Tanner ac ychwanegu D H Hopkins.

 

6.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Amlinellodd Arweinydd y Cyngor enwau'r cynghorwyr sydd wedi'u dewis i fod yn Aelodau Cabinet y Cyngor. Amlinellodd hefyd bortffolios y Cabinet:

 

Portffolio'r Cabinet

Cynghorwyr

Economi a Strategaeth

Rob C Stewart

Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Clive E Lloyd

Gofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda

Mark C Child

Cartrefi ac Ynni

Andrea S Lewis

Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau

Jen A Raynor

Buddsoddiad, Adfywio a Thwristiaeth

Robert Francis-Davies

Cyflwyno

David H Hopkins

Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

Mark Thomas

Cymunedau Gwell

June E Burtonshaw (Lleoedd)

Mary Sherwood (Pobl)

Gwasanaethau Plant

Elliott J King (Blynyddoedd Cynnar)

Will Evans (Pobl Ifanc)

 

7.

Materion Cyfansoddiadol 2018-2019. pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro a oedd yn hysbysu'r cyngor o faterion cyfansoddiadol angenrheidiol y mae angen eu trafod yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Byddai materion o'r fath yn galluogi'r cyngor i weithredu'n effeithlon ac yn gyfreithlon.

 

Atgoffwyd y cynghorwyr gan y Swyddog Monitro o'r newidiadau a wnaed i'r adroddiad a amlinellwyd eisoes gan yr Aelod Llywyddol yn ei gyhoeddiadau.

 

Penderfynwyd:

 

1) Penodi Cyrff y Cyngor a nifer y seddi a ddyrannwyd iddynt fel a restrir isod ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019:

 

Corff y Cyngor (Pwyllgorau)

Seddi

Y Cyngor

72

Y Cabinet

10

Apeliadau a Dyfarniadau

7

Penodiadau

13

Archwilio

13

Arfarnu a Thaliadau Cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr

9

Disgyblu Prif Swyddogion

13

Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

13

Gwasanaethau Democrataidd

13

Cwynion Absenoldeb Teuluol

-

Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd

12

Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau

12

Datblygu Polisi Pobl

12

Datblygu Polisi Lleihau Tlodi

12

Polisi Datblygu - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

12

Cydbwyllgor Ymgynghori

7

Trwyddedu Cyffredinol

12

Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

3

Trwyddedu Statudol

12

Is-bwyllgor Trwyddedu Statudol

3

Cronfa Bensiwn

6

Cynllunio

12

Rhaglen Graffu

13

Safonau

9

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg,

5

Paneli, Fforymau, Grwpiau etc.

 

Panel Derbyniadau

6

Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

1

Panel Herio

13

Fforwm Cynghorau Cymuned/Tref

12

Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

9

Gweithgor y Cyfansoddiad

9

Grŵp Cynghori Datblygiad

3

Panel Ariannu Allanol

10

Grŵp Partneriaeth AoHNE Gŵyr

6

Panel Cronfa Datblygu Cynaliadwy

2

Panel Apêl Cronfa Datblygu Cynaliadwy

1

Bwrdd Pensiwn Lleol

1

Grŵp Ymweliadau Rota'r Gwasanaethau Cymdeithasol

14

Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau

3

Fforwm Cyswllt Myfyrwyr Abertawe (SSLF)

23

Panel Ymddiriedolwyr

17

 

2) Telir Cyflog Uwch i "Arweinydd y Cyngor a Dirprwy Arweinydd y Cyngor", Band 1, Grŵp A:

a) Arweinydd y Cyngor (£53,300);

b) Dirprwy Arweinydd y Cyngor (£37,300).

 

3) Telir Cyflog Uwch i "Aelodau’r Weithrediaeth", Band 2, Grŵp A, (£32,100):

a) Aelodau’r Cabinet x 8.

 

4) Telir Cyflog Uwch i "Gadeiryddion Pwyllgorau", Band 3, Grŵp A,(£22,300):

a)               Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol;

b)               Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio;

c)              Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd;

d)               Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau;

e)               Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl;

f)                 Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi;

g)               Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

h)               Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu.

 

5) Penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yw rhaid talu Cyflog Uwch, Band 4 (yn amodol ar y rheol 10%), (£22,300) i "Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf";

 

6) Telir Cyflog Dinesig, Lefel 1 i'r swyddi canlynol (yn amodol nad ydynt eisoes yn derbyn Cyflog Uwch):

a)               Yr Arglwydd Faer (£24,300);

b)               Dirprwy Arglwydd Faer (£18,300).

 

7) Ailbenodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol, a'u bod nhw'n cadeirio cyfarfodydd y cyngor. Ni fydd y swyddi hyn yn derbyn Cyflog Uwch;

 

8) Y cyngor i eithrio'r pwyllgorau a restrir yn Atodiad C yr adroddiad o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019 i ganiatáu mwy o gynrychiolaeth gan Grwpiau'r Wrthblaid;

 

9) Y cynghorwyr a glustnodwyd i wasanaethu ar Gyrff y Cyngor yn unol â'r enwebiadau a dderbynnir gan y Grwpiau Gwleidyddol fel y nodir yn Atodiad 1 y cofnodion hyn;

 

10) Penderfyniad Arweinydd y Cyngor i benodi cynghorwyr i wasanaethu ar Gyrff Allanol i gael ei nodi fel y nodir yn Atodiad 2 y cofnodion hyn;

 

11)     Ailgadarnhau mabwysiadu Cyfansoddiad y Cyngor y gellir ei weld yn www.abertawe.gov.uk/cyfansoddiad;

 

12) Ailethol y Cynghorydd Peter M Black yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd;

 

13) Talu'r Aelodau Cyfetholedig hynny sy'n gymwys am daliadau Aelod Cyfetholedig am gyfanswm o 20 niwrnod llawn y flwyddyn ddinesig;

 

14) Ailgadarnhau Llawlyfr y Cynghorwyr sydd i'w weld yn www.abertawe.gov.uk/llawlyfrcynghorwyr;

 

15)     Dylai Adrannau B ac C Llawlyfr y Cynghorwyr fel a argymhellwyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018 a amlinellir yn Atodiad F yr adroddiad gael eu mabwysiadu;

 

16)     Dylid nodi rhestr Meysydd yr Aelodau Hyrwyddo a'r cynghorwyr cyfrifol a amlinellir yn Atodiad 3 y cofnodion hyn:

 

17)     Dylid nodi Pellteroedd Milltiredd Cynghorwyr 2017-2022.

 

18) Cadarnhau a mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2018-2019 a restrir yn Atodiad F yr adroddiad;

 

19) Cynnal unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i Gyfansoddiad y Cyngor a/neu'r Cynghorwyr o ganlyniad i'r adroddiad hwn.

 

8.

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - Polisi Diogelu Data pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Polisi Diogelu Data diwygiedig y cyngor.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Polisi Diogelu Data diwygiedig.

 

9.

Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi Adroddiad Blynyddol 2017/2018. pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a chadeiryddion y pum PDChP adroddiad a oedd yn amlinellu eu gwaith yn ystod blwyddyn ddinesig 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Bydd cynlluniau gwaith PDP yn cael eu sefydlu ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig drwy gyfarfod rhwng cadeiryddion y Pwyllgorau Datblygu Polisi, Aelodau Cabinet a'r Cyfarwyddwyr;

 

2)       Bydd cynlluniau gwaith PDP yn gryno ac yn gyflawnadwy, yn cyd-fynd â chyllidebau'r cyngor a blaenoriaethau corfforaethol, ni fyddant yn dyblygu gwaith craffu a bydd ganddynt yr adnoddau cywir;

 

3)       Bydd gan eitemau yng nghynlluniau gwaith PDP gwmpas clir a graddfeydd amser clir a bydd canlyniadau'n cael eu pennu o'r dechrau;

 

4)       Sefydlu ymagwedd safonol (ond hyblyg) at weithio a datblygu polisi ar draws PDP, gan ystyried y pum ffordd o weithio a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

 

10.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr.

Cofnodion:

Penderfynwyd gosod y Sêl Gyffredin ar unrhyw ddogfen angenrheidiol i weithredu unrhyw benderfyniad a gymeradwywyd neu a gadarnhawyd mewn cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol.