Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

196.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

 

197.

Ethol Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Dinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd J E Burtonshow, wedi'i eilio gan y Cynghorydd M Gordon, y dylid ethol y Cynghorydd David Phillips yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd David Phillips â chadwyn swyddogol yr Arglwydd Faer.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Sybil Crouch â chadwyn swyddogol yr Arglwydd Faeres.

 

Yna llofnododd yr Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd.

 

Bu'r Cynghorydd D Phillips (yr Arglwydd Faer) yn llywyddu

 

</AI2>

 

198.

Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd C A Holley, wedi'i eilio gan y Cynghorydd L G Thomas, y dylid ethol y Cynghorydd Peter Black yn Ddirprwy Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Peter Black â chadwyn swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faer.

 

Arwisgwyd Angela Black â chadwyn swyddogol y Dirprwy Arglwydd Faeres.

 

Yna llofnododd y Dirprwy Arglwydd Faer ddatganiad yn derbyn y swydd.

 

199.

Anerchiad Agoriadol Yr Arglwydd Faer.

Cofnodion:

Diolchodd yr Arglwydd Faer i'r cyngor am ei ethol a llongyfarch y Cynghorydd Phil Downing a Lilian Downing ar eu cyfnod llwyddiannus yn swyddi'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres.

 

Yna anerchodd y cyngor a diolch iddynt am ei benodi, gan gloi drwy gyhoeddi mai elusennau'r Arglwydd Faer ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd fyddai Canolfan Ganser Maggie's Abertawe, Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg Abertawe, Banc Bwyd Eastside a Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc y YMCA.

 

200.

Arglwydd Faer Sy'n Ymddeol.

Cofnodion:

Penderfynwyd ar gynnig y Cynghorydd R C Stewart, wedi'i eilio gan y Cynghorydd R V Smith, y dylai'r cyngor ddiolch i'r Cynghorydd Phil Downing am ei gyfnod llwyddiannus fel Arglwydd Faer ac i Lilian Downing fel Arglwydd Faeres.

 

Cyflwynodd yr Arglwydd Faer fedaliynau ar ran y cyngor i'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres sy'n ymddeol.

 

Mewn ymateb i'r diolchiadau, diolchodd y Cynghorydd Downing i'r cyngor am ei gefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.  Myfyriodd hefyd ar ei ddyletswyddau niferus yn ystod ei gyfnod fel Arglwydd Faer.