Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Atgoffodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond
llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os
oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes
unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd
cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn
ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â
darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y
Cynghorydd M A Langstone gysylltiad personol â chofnod 171 "Rhoi Rhyddid
er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria". |
|
Rhoi rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria. Cofnodion: Croesawodd yr Arglwydd Faer yr Arglwydd
Raglaw, yr Uchel-Siryf, arweinwyr dinesig, gwesteion nodedig, aelodau'r cyngor
a cynrychiolwyr HMS Cambria i gyfarfod seremonïol y cyngor. Siaradodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor,
tri Arweinydd y Grwpiau Gwleidyddol eraill a'r Cynghorydd sy'n hyrwyddo'r
Lluoedd Arfog i gefnogi penderfyniad y cyngor ar 25 Ionawr 2018 lle roedd y
cyngor wedi penderfynu rhoi Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i HMS
Cambria. Penderfynwyd
cyflwyno'r Sgrôl Rhyddid i'r Cadlywydd Stephen Fry ar ran
HMS Cambria. Ymatebodd y Cadlywydd, Stephen Fry, ar
ran HMS Cambria. |