Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau
personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd
ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar
lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Hyfforddiant Recriwtio a Dethol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth
Adnoddau Dynol hyfforddiant Recriwtio a Dethol. PENDERFYNWYD y byddai'r hyfforddiant yn cael ei nodi. |
|
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Penodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Lleoedd. Cofnodion: Nododd Pennaeth
Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Penodiadau wedi cyfweld â 2 ymgeisydd ar gyfer
rôl Cyfarwyddwr Corfforaethol Lleoedd. Argymhellodd
y Pwyllgor Penodiadau mai dim ond un ymgeisydd y dylai'r cyngor gyfweld ag ef. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad 10 munud ac atebodd nifer o gwestiynau a
baratowyd ymlaen llaw. PENDERFYNWYD penodi
Martin Nicholls yn Gyfarwyddwr Corfforaethol Lleoedd. |