Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

182.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd gyngor ynghylch y diddordebau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o ddiddordebau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog ddiddordeb i'w ddatgan yn unig. Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y diddordebau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd M C Child ddiddordeb personol yng nghofnod 190, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - Adolygiad Ffiniau Lleol."

183.

Cofnodion. pdf eicon PDF 137 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2018.

184.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y Cyngor.

185.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Elsie May Thomas, Mam y Cynghorydd Mark Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Elsie May Thomas, mam y Cynghorydd Mark Thomas. Roedd Elsie yn 94 oed.

 

b)              Doreen Thomas, Gwraig Henadur Anrhydeddus Charles Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Cyn-Faeres Abertawe, Doreen Thomas, gwraig yr Henadur Anrhydeddus, y Cyn-Gynghorydd a'r Cyn-Faer Charles Thomas (St Thomas).

 

Sefwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)              Y Cynghorydd Sybil E Crouch

 

Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd S E Couch yn ôl ar ôl ei salwch.

 

3)              Traeth Aur, Gemau Gymanwlad Awstralia 2018

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y Traeth Aur, Awstralia am gynnal Gemau Gymanwlad 2018 llwyddiannus. Gwobrwywyd ymdrechion Traeth Aur Tîm Cymru ar gyfer ei Gemau Gymanwlad mwyaf llwyddiannus trwy wneud cyfanswm y medalau'n gyfwerth â chyfanswm y medalau a gafwyd yn Glasgow yn 2014.  Gorffennodd Tîm Cymru'r gemau yn y seithfed safle gyda 36 o fedalau (10 Aur, 12 Arian ac 14 Efydd).

 

4)              Cyngor Seremonïol - 18 Mai 2018

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorwyr fod gwahoddiadau i Gyfarfod Seremonïol y Cyngor ar gyfer Urddo'r Arglwydd Faer wedi cael eu hanfon. Trefnir Cyfarfod Seremonïol y Cyngor ar gyfer 14.00 ddydd Gwener 18 Mai 2018.  Bydd angen rhoi ateb i'r Swyddog Dinesig (Jo-anne Jones) cyn 4 Mai 2018.

 

5)              Gwobrau MJ 2018

 

Un o brif gynlluniau anrhydeddu llywodraeth leol y DU yw Gwobrau MJ.  Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol yr awdurdod am gael ei gydnabod dair gwaith yng Ngwobrau MJ 2018.

 

Y Tîm Rheoli Gwastraff oedd y gorau yn y categori Tîm Gwasanaethau Gorau'r Cyngor.  Bydd yn darganfod a yw wedi ennill y brif wobr ar 27 Mehefin 2018.

 

Canmolwyd y Prosiect Gweithio Ystwyth yn y categori Arloesedd mewn Rheoli Tlodi ac Asedau.

 

Canmolwyd Cynllun Peilot Passivhaus Ffordd Colliers yn y categori Menter Tai Cymdeithasol Gorau.

 

6)              Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd - Antur Beicio Caderman yn Nwyrain Ewrop

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol y gorau ar ran y cyngor i Huw Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar ei Antur Beicio yn Nwyrain Ewrop sydd ar ddod.  Bydd Huw a 10 o bobl eraill yn hedfan i Krakow, Gwlad Pwyl, ar 20 Mai 2018 ac yn beicio oddi yno a thrwy Wcráin, Belarus gan orffen y daith yn Vilnius, Lithwania.  Byddant yn beicio ychydig llai na 700 o filltiroedd dros 6 diwrnod (mwy os ydynt yn mynd ar goll). Ni fydd unrhyw gefnogaeth ganddynt a bydd angen iddynt gario'u holl gyfarpar am hyd y daith.

 

Diben y daith yw codi arian ar gyfer Bloodwise, Elusen Cancr Gwaed y DU. Gallwch gyfrannu'n uniongyrchol i Huw neu drwy dudalen Just Giving Caderman.

 

https://www.justgiving.com/fundraising/caderman2018

 

7)              Diwygiadau / Cywiriad i Wŷs y Cyngor

 

a)              Eitem 14 "Cwestiynau'r Cyngor" - Cwestiwn 9.

 

Nododd yr Aelod Llywyddol y cylchredwyd gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag Eitem 14 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 9. Nid oedd yr wybodaeth hon ar gael ar adeg argraffu Gwŷs y Cyngor.

186.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)               Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe - Y Diweddaraf

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe wedi bod yn llwyddiannus o ran trafod i gadw 50% o'r Trethi Annomestig Cenedlaethol (TAC) mewn perthynas â phrosiectau penodol.

 

Nododd fod y gyfarwyddiaeth gyfalafu hefyd wedi'i diogelu, gan ganiatáu symud peth arian i'r gyllideb refeniw.

 

Gorffennodd drwy gyhoeddi fod Ed Tomp wedi'i benodi'n Gadeirydd y Bwrdd Strategol.

187.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â Chofnod 191, "Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe – Gweithio gyda’n Gilydd ar gyfer Dyfodol Gwell".

 

Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

188.

Cyflwyniad Cyhoeddus -

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

189.

Côd Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. pdf eicon PDF 41 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gofrestru ar gyfer Côd Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y byddai'r awdurdod yn cofrestru ar gyfer Côd Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi;

 

2)              Nodi'r cynllun gweithredu a'i ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i'w weithredu.

190.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - Adolygu Ffiniau Lleol.

Cofnodion:

Rhoddodd Theo Joloza, Steve Halsall, Matt Redmond a Dan Mosely o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyflwyniad ar yr Adolygiad Ffiniau Lleol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. Gwnaethant amlinellu'r broses adolygu mewn perthynas â Dinas a Sir Abertawe.

 

Dywedon nhw y byddai'r comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau gan yr awdurdod.  Bydd y cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 4 Mai 2017 ac yn cau ar 26 Gorffennaf 2017.

 

Dilynwyd y cyflwyniad gan sesiwn holi ac ateb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid cofnodi'r cyflwyniad.

191.

Gynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe - Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol gwell. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a oedd yn cynnwys Amcanion Lles Lleol a'r camau y bydd y bartneriaeth yn eu cymryd er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, fel a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac arweiniad statudol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe.

192.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)                Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Economi ac Isadeiledd

Tynnu enw'r Cynghorydd L S Gibbard.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd P B Smith.

 

ii)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Lleihau Tlodi

Tynnu enw'r Cynghorydd P K Jones.

Ychwanegu enw'r Cynghorydd G J Tanner.

193.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

194.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.

195.

Rhybydd o Gynnig - Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies, W
Evans, C A Holley, D H Hopkins, P K Jones, A S Lewis, C E Lloyd,
J A Raynor, M Sherwood, R C Stewart & M Thomas

Mae'r cyngor hwn yn credu y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, heb gael trefniadau rhesymol ar waith, yn achosi difrod tymor hir i bobl Abertawe, Cymru a'r DU.

 

Rydym yn nodi bod adroddiadau effaith diweddar y Llywodraeth, sy'n cadarnhau y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn amharu ar dwf a ffyniant, ac yn lleihau'r Cynnyrch Domestig Gros rhwng 1.5% a 9.5%. Bydd yr effeithiau negyddol hyn yn amharu ar swyddi, incwm, pensiynau a chyfleoedd pobl. Yn ogystal, bydd gadael yr UE yn peryglu llawer o fesurau diogelu amgylcheddol, sy'n gofyn am gydweithrediad rhyngwladol er mwyn bod yn effeithiol.

 

Wrth gwrs, bydd lefel yr effaith gyffredinol yn dibynnu ar y trefniadau a roddir ar waith ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, ym mhob sefyllfa mae'n glir y bydd y DU, Cymru ac Abertawe'n dlotach y tu allan i'r UE.

 

Mae'r cyngor hwn, felly, yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y penderfyniad pwysicaf y mae'r wlad hon wedi'i wynebu ers cenedlaethau'n destun pleidlais ystyrlon.

 

Dylai'r bleidlais hon fod ar ffurf pleidlais rydd yn y Senedd ar y cytundeb wedi Brexit sydd wedi'i gyd-drafod.

 

Rydym yn galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu, ar ran y cyngor, i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyfleu ein barn am y mater hwn.

 

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

“Mae'r cyngor hwn yn credu y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd, heb gael trefniadau rhesymol ar waith, yn achosi difrod tymor hir difrifol i bobl Abertawe, Cymru a'r DU.

 

Rydym yn nodi bod adroddiadau effaith diweddar y Llywodraeth, sy'n cadarnhau y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn amharu ar dwf a ffyniant, ac yn lleihau'r Cynnyrch Domestig Gros rhwng 1.5% a 9.5%. Bydd yr effeithiau negyddol hyn yn amharu ar swyddi, incwm, pensiynau a chyfleoedd pobl.  Yn ogystal, bydd gadael yr UE yn peryglu llawer o fesurau diogelu amgylcheddol, sy'n gofyn am gydweithrediad rhyngwladol er mwyn bod yn effeithiol.

 

Wrth gwrs, bydd lefel yr effaith gyffredinol yn dibynnu ar y trefniadau a roddir ar waith ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, ym mhob sefyllfa mae'n glir y bydd y DU, Cymru ac Abertawe'n dlotach y tu allan i'r UE.

 

Mae'r cyngor hwn, felly, yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y penderfyniad pwysicaf y mae'r wlad hon wedi'i wynebu ers cenedlaethau'n destun pleidlais ystyrlon.

 

Dylai'r bleidlais hon fod ar ffurf pleidlais rydd yn y Senedd ar y cytundeb wedi Brexit sydd wedi'i gyd-drafod.

 

Rydym yn galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu, ar ran y cyngor, i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyfleu ein barn am y mater hwn.”

 

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig.