Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

172.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datganiadau o gysylltiadau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gyswllt i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

(1)  Datganodd y Cynghorwyr M Durke, R Francis-Davies, K M Griffiths, T J Hennegan, L James, J W Jones, M H Jones, W G Lewis, R D Lewis, D G Sullivan, W G Thomas a T M White gysylltiad personol â Chofnod 179 “trefniadau derbyn 2019/2020”;

 

(2)  Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, C R Doyle, M Durke, D H Helliwell, C A Holley,  S J Gallagher, J A Hale, R D Lewis, H M Morris, A Pugh a T M White gysylltiad personol â Chofnod 180, “Polisi Tâl 2018/2019”;

 

(3)  Datganodd S Caulkin, T Meredith, M Nichols, P Roberts ac S Woon gysylltiad personol a rhagfarnol yng Nghofnod 180, “Polisi Tâl 2018/2019”, gan adael cyn y drafodaeth.

 

(4)  Datganodd G Borsden a D Yeates gysylltiad personol a rhagfarnol yng Nghofnod 180, “Polisi Tâl 2018/2019” ond roeddent wedi aros i gofnodi'r penderfyniad/cyflwyno'r adroddiad.

 

173.

Cofnodion. pdf eicon PDF 93 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2018.

 

2)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2018.

 

174.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim.

Cofnodion:

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes nad oedd unrhyw gwestiynau a oedd yn gofyn am ymatebion o gyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

 

175.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Ieuan Jones, gŵr y Cynghorydd Susan M Jones

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Ieuan Jones, gŵr y Cynghorydd Susan M Jones.

 

Datganodd fod y Cynghorydd Susan Jones wedi diolch i'r holl gynghorwyr am eu cefnogaeth, eu cardiau a'u blodau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

b)              Y cyn-gynghorydd Nick J Tregoning

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Nick Tregoning. Bu'r cyn-gynghorydd Tregoning yn gwasanaethu Ward Etholiadol Dynfant o 6 Mai 1999 i 3 Mai 2012. Roedd y cyn-gynghorydd Tregoning yn gyn-aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn gyn-aelod llywyddol.

 

Talodd P M Black, C A Holly, M C Child a P R Hood-Williams i gyd deyrnged i waith Nick a'i ymrwymiad i'w rôl fel cynghorydd ac eiriolwr dros y cyhoedd.

 

c)              Cyn-brif weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw - George Sambrook

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar cyn-brif weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw, George Sambrook.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)              Gwobrau'r Frenhines

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch o gyhoeddi bod Dinas Noddfa Abertawe wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaethau Gwirfoddol. Cyflwynwyd y wobr gan Iarlles Wessex ar 19 Mawrth 2018.

 

3)              Gwobr yr Uchel-siryf, Matthew McLaughlin (Dinky) o Ward y Cocyd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Matthew McLaughlin (Dinky) o Ward y Cocyd wedi bod yn gwirfoddoli ers ei fod yn 9 oed ac mae'n dal i wneud hynny ac yntau'n 21 oed. Mae ef wedi gwirfoddoli yn y Fferm Gymunedol, Tŷ Cymunedol Fforest-fach a The Roots Foundation, lle mae'n gwneud cyfraniad anferth gyda'i ymagwedd anfarnol at y bobl ifanc.

 

Roedd y Cynghorydd Wendy Lewis wedi enwebu Matthew McLaughlin ar gyfer Gwobr yr Uchel-siryf ac roedd yn ddigon ffodus i'w hennill am ei waith gwirfoddoli. Ar ran y cyngor, diolchodd yr Aelod Llywyddol i Matthew am ei waith gwirfoddol a'i longyfarch am ennill Gwobr yr Uchel-siryf.

 

4)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

a)              Eitem 9: "trefniadau derbyn 2019/2020"

 

Diwygiad i'r frawddeg olaf ym Mharagraff 5 ar dudalen 23 i ddarllen,

"Roedd Fforwm Derbyniadau wedi'i drefnu ond nis cynhaliwyd gan nad oedd gan y cyfarfod gworwm, felly ni wnaed unrhyw argymhellion ar drefniadau derbyn 2019-2020."

 

b)              Eitem 10: "Polisi Tâl 2018/2019"

 

Roedd fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad a diweddariad o baragraff 4.6.3 wedi'u dosbarthu.

 

          Gyda golwg ar gyflwyno'r adroddiad a chofnodi'r penderfyniad, bydd Deb Yeates, Adnoddau Dynol, a Gareth Borsden, Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, yn aros yn ystod y drafodaeth.

 

176.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

 

1)  Gwe-ddarlledu ac e-bleidleisio

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynigion gan Lywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r uchod, gan nodi bod swyddogion eisoes yn ymdrin â'r mater yn fewnol gyda golwg ar dreialu'r system newydd mewn cyfarfodydd pwyllgorau a'r Cabinet yn y misoedd i dod cyn eu cyflwyno yng nghyfarfodydd y cyngor. 

 

2)  Y Fargen Ddinesig

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y ffaith bod blwyddyn wedi mynd heibio ers llofnodi'r Fargen Ddinesig.

 

177.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd. Ymatebodd yr arweinydd yn unol â hyn. Nid oedd y cwestiwn yn gofyn am ymateb ysgrifenedig.

 

 

178.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus.

 

179.

Trefniadau Derbyn 2019/2020. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a oedd yn ceisio penderfynu ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir yn ystod blwyddyn academaidd 2019-2020.

 

Amlinellwyd y diwygiad i baragraff 5, tudalen 23.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019-2020 ar gyfer disgyblion meithrin fel y'u nodwyd yn Atodiad A. 

2)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019-2020 ar gyfer disgyblion derbyn fel y'u nodwyd yn Atodiad B.

3)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019-2020 ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 fel y'u nodwyd yn Atodiad C. 

4)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2019-2020 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel y'u nodwyd yn Atodiad D.

5)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer mynediad i ddosbarthiadau'r chwech yn ystod 2019-2020 fel y'u pennwyd yn Atodiad E.

6)              Cymeradwyo'r Atodlen Digwyddiadau yn Atodiad F.

7)              Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel y'u pennwyd yn Atodiad G.

8)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog Addysg i wneud y newidiadau gofynnol yn ôl Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i'r trefniadau derbyn a restrwyd uchod pan roddir y Ddeddf ar waith.

 

180.

Polisi Tâl 2018/2019. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Tîm Gweithrediadau AD a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am Bolisi Tâl 2018-19.

 

Roedd fersiwn ddiwygiedig o'r polisi a diweddariad o baragraff 4.6.3, "Cyflog Byw", wedi'u dosbarthu.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)       Cymeradwyo a mabwysiadu Polisi Tâl 2018-2019.

 

181.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

 

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Rhestrir y cwestiynau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ysgrifenedig isod:

 

Cwestiwn 4 – gofynnodd y Cynghorydd C A Holley:

1.     Roedd yr eitemau canlynol yn yr adolygiad comisiynu a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 15 Chwefror 2018: Mangreoedd £1,090,718, cyflenwadau a gwasanaethau £1,042,846 a gorbenion gwerth £291,416 - a allech esbonio'r hyn roedd yr eitemau hyn yn ei gynnwys?

2.     Y gwarged ar gyfer blwyddyn 2014/2015 oedd £830,367 - a allech esbonio pam ail-fuddsoddwyd £68,000 yn unig yn y gwasanaeth a ble aeth y gweddill?

3.     Niferoedd y staff ar gyfer y gwasanaethau parcio a gorfodi oedd 51 ac mae hynny'n dal i fod yn wir;

4.     Yn y gyllideb bresennol, mae angen egluro dwy eitem. Nodwyd £100,000 ar gyfer cynnydd o ran parcio ceir, er bod ffigur o ychydig dan £700,000 ar gyfer gwarged y flwyddyn yng nghyllideb refeniw 2018/2019 y Gyfarwyddiaeth Lleoedd. A allech esbonio'r ffigur hwn?

5.     Mae'r gostyngiad o ran gwerthu tocynnau ar gyfer meysydd parcio'r blaendraeth ar gyfer y blynyddoedd canlynol: 2014/15 – 169,201; 2015/16 - 148,115; 2016/17 - 125,423 er bod yr incwm wedi cynyddu o £221,627 yn 2014/15; £222,546 yn 2015/16; £275,721 yn 2016/17.  Felly, dros y tair blynedd, mae'r incwm wedi cynyddu £54,094 ac mae'r tocynnau a werthir wedi gostwng 43,778 - a allech ddweud wrthyf pa gamau gweithredu y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y gwerthir mwy o docynnau er mwyn i ni allu profi gwerth am arian i breswylwyr ac ymwelwyr?

            (Sylwer: Rwy'n deall bod y ffigurau yng nghwestiynau 1, 2 a 3 ar gyfer           blwyddyn 2014/15)

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd y darperir ymateb ysgrifenedig.

 

Cwestiwn 5 – gofynnodd y Cynghorydd C A Holley:

A ellir rhoi gwybod i'r aelodau lle mae'r 41 o safleoedd a grybwyllwyd yn yr ymateb?

 

Datganodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Gweithrediadau Busnes y darperir ymateb ysgrifenedig, yn amodol ar ganiatâd cyfreithiol.

 

2)       Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.