Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

103.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oedd angen dychwelyd ffurflenni os nad oedd unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd fod yn rhaid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr M Durke, C A Holley ac A Pugh fudd personol yng Nghofnod 112 “Adroddiad Blynyddol 2016-2017 - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol";

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw, R Francis-Davies, K M Griffiths, J A Hale, T J Hennegan, P R Hood-Williams, E T Kirchner, R D Lewis, W G Lewis, P N May, R V Smith, M Sykes, M Thomas, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton fudd personol yng Nghofnod 113 “Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”;

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, W Evans, E W Fitzgerald, K M Griffiths, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, M A Langstone, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, R V Smith, A H Stevens, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker a T M White fudd personol yng Nghofnod 114 “Cyfrifiad Sylfaen Treth y Cyngor 2018/2019”;

 

4)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M Child, J P Curtice, N J Davies, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, O G James, L James, J W Jones, L R Jones, E J King, E T Kirchner, M A Langstone, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W S Lewis, C E Lloyd, I E Mann, P N May, H M Morris, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, M Sykes, G J Tanner, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 115 “Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2018-2019 - Ymgynghoriad”;

 

5)              Datganodd y Cynghorwyr V M Evans ac L S Gibbard fudd personol yng Nghofnod 118 "Cwestiynau Cynghorwyr".

104.

Cofnodion. pdf eicon PDF 190 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2017.

105.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor - Dim.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

106.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Y Cyn-gynghorydd Grenville Phillips

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Grenville Phillips.  Roedd yn Henadur Anrhydeddus ac yn  Burgermeister (Meistr Dinasyddion) Anrhydeddus Mannheim, ac yn sylfaenydd Canolfan Gymunedol Portmead a Blaenymaes. Bu hefyd yn Arglwydd Faer ym 1995-1996.

 

Bu'n gwasanaethu Ward Etholiadol Penderi ar hen Gyngor Dinas Abertawe o 3 Mai 1979 tan 31 Mawrth 1996 ac ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe o 1 Ebrill 1996 tan 3 Mai 2012.

 

Cynhelir dathliad o'i fywyd am 10.30am ddydd Llun, 27 Tachwedd 2017 yn Amlosgfa Treforys.

 

b)              Carl Sargeant Aelod y Cynulliad

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth drasig Carl Sargeant, Aelod y Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

2)              Adran Ieithoedd Modern a Chyfieithu

 

Croesawodd yr Aelod Llywyddol fyfyrwyr o Adran Ieithoedd Modern a Chyfieithu Prifysgol Abertawe a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fel arsylwyr.

 

3)              Gwobr Rhagoriaeth ACES 2017 - Strategaeth Llety/Rhaglen Hyblyg

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod yr awdurdod wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Cymdeithas Prif Syrfëwyr  Ystadau a Rheolwyr Eiddo yn y Sector Cyhoeddus (ACES) 2017 am ei Strategaeth Llety/Rhaglen Hyblyg.  Bob blwyddyn mae ACES yn cyflwyno gwobr am ragoriaeth ac eleni ar ôl iddynt dderbyn 40 o enwebiadau o bob rhan o'r DU, roedd yr awdurdod hwn yn llwyddiannus.  Dyma gyflawniad llwyddiannus gwaith a gafodd ei wneud yn dda, gan alluogi'r awdurdod i gyflawni un o'i amcanion allweddol ac i ddangos rhai o nodweddion y meini prawf allweddol neu bob un ohonynt.

 

Llongyfarchodd Becky Jones, y Tîm Cyfleusterau a phawb yn yr adran Eiddo Corfforaethol am eu cyfraniadau i'r fenter rheoli asedau rhagorol hon a oedd yn ymwneud â llety yn ogystal â phrydlesu a gwerthu.

 

Roedd Geoff Bacon, Becky Jones, Nerys Williams, Helen Davies, Paul Smith, Sian Davis, Tania Pugh, Chris Legg, Karen Samuel, Ben Thomas a Richard Rowlands yn bresennol i dderbyn y wobr.

4)              Siglen ar gyfer cadeiriau olwyn gyntaf Abertawe wedi'i gosod mewn parc cyhoeddus

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod siglen ar gyfer cadeiriau olwyn gyntaf Abertawe wedi'i gosod ym Mharc Victoria ar 2 Tachwedd 2017.  Agorwyd y siglen yn ffurfiol gan Quentin Hawkins, Cadeirydd Grŵp Mynediad i Chwarae Abertawe.   Dyma anterth blynyddoedd lawer o ymdrech i sicrhau hawl pob plentyn i chwarae.  Fe'i cychwynnwyd gan Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2016 a'i ariannu gan yr adran Chwarae Plant yn y Gwasanaeth Tlodi a'i Atal.

 

Dewiswyd Parc Victoria gan rieni/gofalwyr, defnyddwyr ifanc cadeiriau olwyn a grwpiau cynrychiolwyr i greu canolfan gynhwysol yn sgîl hygyrchedd darpariaeth leol arall gan gynnwys y toiledau Changing Places yng nghanolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360. Ar yr un pryd, bydd sedd â chefn uchel a chanddi strapiau i'w llogi i gynnal plant â chyfyngiadau corfforol yn cael ei gosod yn lle un o'r siglenni arferol presennol.

 

Mae'r awdurdod wedi gweithio gyda Neuadd y Ddinas, Ciosg Parc Victoria a Chwaraeon Traeth a Dŵr 360.

 

5)              Chwifio'r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol 2017 - Tystysgrif Goffa

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod yr awdurdod wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch Chwifio'r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol, gan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o ddibyniaeth y DU fel 'cenedl ynys' ar forwyr Llynges Fasnachol y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

 

Roedd yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi derbyn Tystysgrif Goffa i gydnabod ei gyfranogiad.  Gwellir gweld mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yn www.merchantnavyday.uk

 

6)              Dechrau'n Deg - Ardal Townhill

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at adroddiad arolygu gwych arall gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar gyfer Dechrau'n Deg, ond y tro yma ar gyfer ardal Townhill.  Bu'r arolygwyr yn edrych ar bedair ardal ym mhrosiect ardal Townhill, a rhoesant y graddfeydd canlynol:

 

·                 Rhagorol - Plant a lles;

·                 Rhagorol - Arweinyddiaeth a Rheolaeth

·                 Da - "Amgylchedd" (barnwyd bod hyn yn dda iawn - byddai wedi bod yn rhagorol pe bai'r adeilad yn caniatáu i blant fynd i chwarae yn yr awyr agored o'u gwirfodd);

·                 Da - "Gofal a Datblygiad".

 

Dyma gyflawniad gwych arall gan fod y ddwy ardal wedi derbyn arolygiadau di-rybudd gan AGGCC, a gynhaliwyd yn wahanol gan ddau arolygydd gwahanol.  Aeth ati i ddiolch i Tracy Harrison, Rheolwr Dechrau'n Deg, sydd wedi gweithio'n hynod galed yn Sea View a Townhill dros yr ychydig fisoedd diwethaf a hefyd i'r timau staff yn y ddau leoliad sy'n parhau â'u harferion gweithio arferol sydd bob amser yn rhagorol.

 

7)              Grŵp Cyfranogiad PDG - Cyflwyno gwobr Diana

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Gwobr Diana'n cael ei rhoi, yn enw Diana, Tywysoges Cymru, i bobl ifanc ddewr, gofalgar, a thosturiol, sydd wedi trawsnewid bywydau eraill.

 

Daw deiliaid Gwobr Diana o bob cefndir, ac mae gan lawer gefndiroedd heriol a difreintiedig, fodd bynnag maent yn rhannu ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb cymdeithasol.  Gallant fod yn rhoi o'u hamser i fentora myfyrwyr eraill neu ofalwr ifanc, yn cymryd rhan mewn mentrau gwrthfwlio, yn codi arian neu'n ymgyrchu dros achos da sy'n agos at eu calon.  Beth bynnag maen nhw'n ei wneud, mae un peth bob amser yn gyffredin iddynt, sef awydd i wneud gwahaniaeth a gwella bywydau eraill.

 

Mae #Iamme yn grŵp eithriadol o bobl ifanc sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i sicrhau bod cymuned eu Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei chynrychioli, ei chlywed a'i hystyried; maent yn ddi-ildio yn eu dyhead i fod y Llysgenhadon gorau ar gyfer PDG, gan gynrychioli'r boblogaeth sy'n derbyn gofal yn Abertawe a Chymru, a phlant a phobl ifanc ym mhobman, gyda balchder.

 

Mae'r grŵp, a sefydlwyd yn 2008, yn cynnwys plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal o 7 i 18 oed.  Mae ethos grŵp #iamme wedi'i wreiddio yn egwyddorion CCUHP, gyda phwyslais ar yr erthyglau sy'n berthnasol i blant sy'n derbyn gofal.

 

Roedd yr Aelod Llywyddol yn falch iawn o ddweud bod y grŵp wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr arobryn Diana, ac wedi'i hennill.

 

8)              Diwygiadau/Cywiriadau i Wŷs y Cyngor

 

a)              Eitem 16 yr Agenda "Aelodaeth Pwyllgorau".

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod yr adroddiad diwygiedig wedi cael ei ddosbarthu.

107.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Stadiwm Liberty

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am y trefniadau prydlesu yn Stadiwm Liberty.

 

2)              Morlyn Llanw Bae Abertawe

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Tîm Abertawe wedi ymweld â Llundain ar 20 Tachwedd 2017 er mwyn parhau â'r lobïo er mwyn cael cymeradwyaeth ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe.

 

3)              Dinas Diwylliant y DU

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Tîm Abertawe wedi ymweld â Llundain ar 20 Tachwedd 2017 er mwyn parhau â'r gwaith i hybu'r cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.

 

4)              Ymweliad Economaidd â Beijing a Wuhan, Tsieina

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at ei ymweliad economaidd diweddar â Beijing a Wuhan, Tsieina.

108.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd ynghylch yr eitemau canlynol ar yr agenda:

 

1)              Eitem 9 "Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2017";

 

2)              Eitem 12 "Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet perthnasol yn unol â hyn.

 

Rhestrir y cwestiynau y mae angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod:

 

1)              Gofynnodd David Davies gwestiwn i Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ynghylch Cofnod 113 "Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020”.

 

Tudalen 146.  “Cenedl Heb Iaith, Cenedl Heb Galon” .

 

Mae'r Gymraeg yn ei hanfod yn iaith lafar, yn iaith areithyddiaeth a barddoniaeth, ond mae'n ddatblygiad mawr fod gan Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg her o'i flaen i'n hysgolion gan lawer sy'n gwrthwynebu'r fath ganolbwyntio ar y Gymraeg.

 

A ydwyf yn iawn i ddweud bod canlyniadau arholiadau mewn Ysgolion Cymraeg a Saesneg yn well nag mewn sefydliadau uniaith Saesneg?  Oes gennych chi unrhyw ystadegau ar gyfer hyn?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

109.

Cyflwyniad Cyhoeddus - Dim.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.

110.

Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2017. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd o ran rhoi'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar waith yn Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc.

111.

Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru. 2016-17. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad a oedd yn manylu ar Adroddiad Gwella Blynyddol Dinas a Sir Abertawe 2016-2017 gan Sara-Jane Byrne a Samantha Clements, Swyddfa Archwilio Cymru.  Cywirwyd dau wall yn eu hadroddiad ganddynt ar lafar a dywedwyd bod y fersiwn ddiwygiedig wedi'i chyhoeddi ar eu gwefan.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor iddynt am ddod ac ateb cwestiynau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn a nodi Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2016-2017.

112.

Adroddiad Blynyddol 2016/17- Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol werthusiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o daith wella 2016-2017 a pha mor dda y mae'r cyngor yn bodloni gofynion statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Roedd yr adroddiad yn adolygu meysydd ar gyfer gwella'r llynedd, ac yn gosod blaenoriaethau newydd ar gyfer 2017-2018.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau lles cenedlaethol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/2017.

113.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cabinet fabwysiadu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020 a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020;

 

2)              Cyflwyno fersiwn ddiwygiedig Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020 i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cyng. P M Black y cwestiwn canlynol:

 

"Pa dystiolaeth sydd i ddangos bod Canlyniad 1 sef "Mae mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg'" yn cael ei gyflawni?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

114.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor 2018/19. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2018-2019.  Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019 erbyn 31 Rhagfyr 2017.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019;

 

2)    Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2018-2019:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

89,962

 

 

 

Ar gyfer Cynghorau Cymuned/Tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

1,961

 

Clydach

2,622

 

Gorseinon

3,179

 

Tregŵyr

1,953

 

Pengelli

412

 

Llanilltud Gŵyr

323

 

Cilâ

2,113

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

494

 

Llangyfelach

947

 

Llanrhidian Uchaf

1,592

 

Llanrhidian Isaf

328

 

Casllwchwr

3,400

 

Mawr

745

 

Y Mwmbwls

9,694

 

Penllergaer

1,366

 

Pennard

1,459

 

Penrhys

419

 

Pontarddulais

2,281

 

Pontlliw a Thircoed

1,031

 

Porth Einon

435

 

Reynoldston

292

 

Rhosili

188

 

Y Crwys

711

 

Cilâ Uchaf

572

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe

62,577

 

115.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2018-2019 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2017-2018 ac amlinellodd y penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a roddwyd ar 7 Tachwedd 2017.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r sylwadau a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb yr awdurdod i ymgynghoriad yr IRPW o ran ei Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2017-2018.

116.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad Cyngor. pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd adroddiad a oedd yn gofyn am ddiwygio gorchymyn er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor o ran y meysydd canlynol:

 

1)              Rhan 3 "Cyfrifoldeb ar gyfer swyddogaethau - Cylch Gorchwyl".

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylid diwygio'r adroddiad, gan ddileu Paragraff 3.6 ac Atodiad B, Aelodaeth ac Amlder cyfarfodydd (Brawddeg C) a'u hailysgrifennu fel a ganlyn:

 

"Mae amlder cyfarfodydd yn fater i'r cadeirydd, gan ddibynnu ar y llwyth gwaith; fodd bynnag, rhagwelir y caiff cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol eu cynnal yn fisol neu yn ôl y cynllun gwaith.  Yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgor ffurfiol, gellir cynnal gweithgorau anffurfiol, os yw'r cynllun gwaith yn gofyn am hynny."

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel y'u hamlinellir yn Atodiad B yr adroddiad ynghyd â diwygiad Arweinydd y Cyngor ac unrhyw newidiadau canlyniadol pellach:

 

2)              Lleihau aelodaeth pob Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi i 12 o gynghorwyr, ac y dylai'r aelodaeth gynnwys yr enwau a gyflwynwyd gan y Grwpiau Gwleidyddol.

 

Sylwer: Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'n cynnal cyfarfod o Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a'r Swyddog Monitro er mwyn trafod y Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi.

117.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i gyrff allanol yr awdurdod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)                Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Economaidd ac Isadeiledd

Tynnu enw'r Cynghorydd P Jones

 

ii)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau

Tynnu enwau'r Cynghorwyr B Hopkins, M H Jones ac S Pritchard.

Ychwanegu'r Cynghorydd M Durke a swydd wag ar gyfer aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Gwleidyddol Annibynnol.

 

iii)            Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi

Tynnu enwau'r Cynghorwyr R D Lewis, LG Thomas a T M White.

Ychwanegu'r Cynghorydd L R Jones a swydd wag ar gyfer aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Gwleidyddol Annibynnol.

 

iv)            Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu

Tynnu enw'r Cynghorydd M B Lewis.

 

v)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

Tynnu enw'r Cynghorydd M Durke.

 

vi)            Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd C Anderson

Ychwanegu enw'r Cynghorydd M Durke.

118.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd wyth (8) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(Aelodau) y Cabinet drwy atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiwn(cwestiynau) atodol hwnnw(hynny) yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arno(arnynt) isod:

 

Cwestiwn 2 Gofynnodd y Cynghorydd P M Black:

"Yn ystod cyfarfod o Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, datgelwyd bod nifer yr asesiadau gofal parhaus yn lleihau.  Mae hyn yn ymddangos yn wrthgynhyrchiol o gofio'r boblogaeth oedrannus gynyddol ag anghenion cymhleth.  A fyddai Aelod y Cabinet yn dweud pa sylwadau a gyflwynwyd i'r BILl am y duedd hon ac a yw'n credu ei bod yn ymwneud â goblygiadau ariannol barn y Goruchaf Lys?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Ni chyflwynwyd unrhyw 'Gwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.