Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a
rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr
agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o
fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w
ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.
Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac
yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr M B Lewis ac L G Thomas fudd
personol yng Nghofnod 94 "Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau
2016-2017". 2)
Datganodd y Cynghorwyr D W Helliwell, P R Hood-Williams,
O G James, J W Jones, M H Jones, L J Jones, M A Langstone, W G Thomas ac L V
Walton fudd personol yng Nghofnod 99 "Cynnig i gymeradwyo addewid newydd i
beidio â chyflwyno trwyddedau casino a diwygiadau arfaethedig i bolisi gamblo'r
cyngor". 3)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson ac M Duke fudd personol
a rhagfarnol yng Nghofnod 99 "Cynnig i gymeradwyo addewid newydd i beidio
â chyflwyno trwyddedau casino a diwygiadau arfaethedig i bolisi gamblo'r
cyngor". a gadawon nhw cyn y drafodaeth. 4)
Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J P Curtice, J W
Jones, M H Jones, W G Lewis, S M Pritchard, D G Sullivan a T M White fudd
personol yng Nghofnod 100 "Diwygiadau i'r Cyfansoddiad." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cofnodion
canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017; 2)
Cyfarfod
cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Deallusrwydd Busnes adroddiad gwybodaeth yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd
yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Cofnodion: 1)
Cydymdeimladau a)
Cyn-gynghorydd A C S
(Tony) Colburn Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd
Tony Colburn. Gwasanaethodd y Cyn-gynghorydd Colburn Ward Etholiadol
Ystumllwynarth rhwng 1 Mai 2017 a 4 Mai 2017. b)
Ruth Thomas, Mam-gu'r Cynghorydd
Clive E Lloyd Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at
farwolaeth ddiweddar Ruth Thomas, mam-gu'r Cyng. Clive Lloyd. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. 2)
Cydnabyddiaeth/Gwobrau a)
Gwasanaeth Tîm
am y Teulu (TAT) Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at Wasanaeth Tîm am y Teulu (TAT) a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer
anrhydeddau yng Ngwobrau Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian 2017. Mae'r fenter
hon yn cefnogi plant ac mae'n lleihau'r pwysau ar y cyngor yn sylweddol drwy
rymuso staff ysgolion cynradd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol cynnar a
wynebir gan deuluoedd. Llongyfarchodd bawb sydd ynghlwm â'r gwasanaeth a
ddymunodd bob lwc iddyn nhw ar gyfer y gwobrau ym mis Tachwedd. b)
Tîm Cyfreithiol Gofal
Plant Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at y Tîm Cyfreithiol Gofal Plant a gyrhaeddodd
y rhestr fer yn y Gwobrau Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol ar gyfer 2017.
Mae'r wobr ar gyfer Tîm sy'n Ymwneud â Phobl y Flwyddyn, sy'n cydnabod
cyflawniad rhagorol gan Dîm Awdurdod Lleol mewn unrhyw faes sy'n ymwneud â
phobl, gan gynnwys deddf plant, gofal cymdeithasol i oedolion, iechyd a
chyflogaeth. Llongyfarchodd y tîm am y gydnabyddiaeth wych hon gan gyfoedion. Mae hwn yn
gyflawniad gwych oherwydd ei bod yn wobr ledled y DU a bydd yr enillydd yn cael
ei gyhoeddi ar 24 Tachwedd 2017 yn Birmingham. c)
Gwobrau GO Cymru, Rhagoriaeth
mewn Caffael Cyhoeddus Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at ddwy o
fentrau Cyngor Abertawe sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO Cymru,
Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus. Mae Y Tu Hwnt i Frics a Morter wedi cyrraedd y rhestr yn y categori
Arloesedd Caffael mewn Llywodraeth a Thai. Mae cyflwyniad ar y cyd rhwng Gofal
Cymdeithasol i Oedolion, y Tîm Caffael a'r Tu Hwnt i Frics a Morter hefyd wedi
cyrraedd y rhestr fer yn y Categori Arloesedd Caffael mewn Gofal Cymdeithasol
ac Iechyd. d)
Ysgol Gynradd San Helen - Gwobrau Addysgu Pearson Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Mark Thompson, sy'n arwain
Ysgol Gynradd San Helen. Bydd Mr Thompson yn mynd i rownd derfynol arbennig
Gwobrau Addysgu Pearson yn Llundain yn fuan lle mae wedi cyrraedd rhestr fer y
Wobr Aur yng nghategori Pennaeth y Flwyddyn. Cafwyd trawsnewidiad anhygoel yn
San Helen, o ran ei ymddangosiad ffisegol a chyflawniad a phresenoldeb
disgyblion. Cydnabu Marc am ei arweinyddiaeth arbennig pan ddaeth yn fuddugol
yn y categori yng Nghymru yn gynharach eleni. e)
Dechrau'n Deg Cyfeiriodd yr Aelod
Llywyddol at un o brosiectau Dechrau'n Deg Cyngor Abertawe sydd wedi cael
adroddiad arolygu gwych gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC). Ystyriodd arolygwyr bedwar maes ym mhrosiect Seaview a rhoddwyd y dyfarniadau canlynol: Rhagorol - "Lles
Plant" ac "Amgylchedd"; Da - "Gofal a
Datblygiad" ac "Arweinyddiaeth a Rheolaeth". f)
Pencampwriaethau
Para-Tenis Bwrdd Ewrop Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Paul Karabardak o'r
Cocyd. Dechreuodd Mr Karabardak chwarae tenis bwrdd gydag elusen yn Abertawe,
"Ffrindiau'r Anabl Ifanc" lawer o flynyddoedd yn ôl. Enillodd fedal
aur i Dîm PF yn ddiweddar ym Pencampwriaethau Para-Tenis Bwrdd 2017 yn Slofenia.
g)
Gemau Invictus - Toronto
2017 Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Matthew Neve o'r Crwys. Roedd Mr Neve
yn Uwch-awyrluyddwr yn yr
Awyrlu Brenhinol cyn iddo gael ei ryddhau yn 2004. Mae ei broblemau iechyd
meddwl wedi arwain at nifer o heriau gan gynnwys iselder, diffyg hunanwerth a
phwrpas. Ers iddo gychwyn saethyddiaeth, mae Matt wedi defnyddio'r gamp i roi
ffocws i'w fywyd eto a'i helpu ar ei daith i wella. Nododd yr Aelod Llywyddol ei fod wrth ei fodd i gyhoeddi bod Matthew wedi ennill medal aur am saethyddiaeth yn y Gemau
Invictus - Toronto 2017. 3)
Diwygiadau/ychwanegiadau
at wŷs y cyngor Eitem 13 "Diwygiadau i'r Cyfansoddiad" Nododd yr Aelod
Llywyddol fod darn diwygiedig o Baragraff 3.5 yr adroddiad wedi'i rannu. Eitem 14, "Aelodaeth Pwyllgorau” Datganodd yr Aelod
Llywyddol fod adroddiad diwygiedig wedi'i rannu. Hysbysiad o Gynnig Brys Nododd yr
Aelod Llywyddol ei fod wedi derbyn Hysbysiad o Gynnig Brys mewn perthynas â
Chredyd Cynhwysol. Roedd yr Hysbysiad o Gynnig wedi'i rannu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: a)
Cynghorydd Hyrwyddwr dros Grefydd ac Etifeddiaeth Nododd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi penodi'r
Cynghorydd Sam Pritchard yn Gynghorydd Hyrwyddwr dros Grefydd ac Etifeddiaeth. b)
Y Diweddaraf am y Fargen Ddinesig Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am y
Fargen Ddinesig. c)
Ymweliad Dinas Diwylliant Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb a fu ynghlwm
wrth sicrhau bod ymweliad Pwyllgor y Cais ag Abertawe yn llwyddiannus. ch)
Ymweliad Skyline (Seland Newydd) Nododd Arweinydd y Cyngor fod Skyline (Seland Newydd)
wedi ymweld ag Abertawe yn ddiweddar fel rhan o geisio lleoliad yn Ewrop ar
gyfer chwaraeon eithafol a bwyty 5 seren ar Fynydd Cilfái. d)
Stadiwm Liberty Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y diweddaraf am y trafodaethau
parhaus â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe mewn perthynas â Stadiwm Liberty. e) E-bleidleisio Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai cyfarfodydd y
Cabinet yn defnyddio system e-bleidleisio Siambr y Cyngor yn hwyrach yn 2017 a
byddai'r system yn cael ei defnyddio yn ehangach wedi i'r profion gael eu
cynnal. f)
Gweddarlledu Nododd Arweinydd y Cyngor byddai'r tendr
gweddarlledu yn cael ei gyflwyno yn hwyrach yn 2017. Byddai hyn, mewn amser, yn
caniatáu i gyfarfodydd penodol gael eu gweddarlledu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r
cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â
hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd cwestiwn gan aelod
o'r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Nid oedd angen
ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad Cyhoeddus - dim. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cyflwyniadau cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2016-2017. PDF 151 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jill Burgess, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Safonau ar gyfer 2016/2017, er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno
gwaith y Pwyllgor Safonau rhwng 19 Mai 2016 a 24 Mai 2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Frys Cofnodion: Yn unol
â pharagraff 100B (4) (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd yr Aelod
Llywyddol y dylid ystyried yr "Hysbysiad o Gynnig Brys a gyflwynwyd gan y
Cynghorwyr R C Stewart, C E Lloyd, J A Raynor, D H Hopkins, R Francis-Davies, M
Thomas, J E Burtonshaw, M Sherwood, M C Child, A S Lewis, W Evans a C A Holley”
yn y cyfarfod mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybydd o Gynnig Brys - Cynghorwyr R C Stewart, C A Holley, C E Lloyd, J A Raynor, D H Hopkins, R Francis-Davies, M Thomas, J E Burtonshaw, M Sherwood, M C Child, A S Lewis, W Evans, M H Jones, E W Fitzgerald and D G Sullivan Cofnodion: Rheswm dros y Cynnig Brys: ar sail cyflwyno'r Credyd Cynhwysol yn fuan iawn. Cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C A Holley. "Mae'r
cyngor yn cytuno bod bwriad Credyd Cynhwysol (CC) i wneud budd-daliadau yn llai
cymhleth a chaniatáu i'r rhai mewn gwaith tâl isel gadw mwy o'u cyflog yn
syniad da, ond mae'n meddwl bod y dystiolaeth yn dangos bod proses Credyd
Cynhwysol yn ddiffygiol ac yn achosi caledi diangen i deuluoedd lleol. Mae'r Cyngor yn nodi y cafodd y CC ei
gyflwyno'n araf yn fwriadol fel y gellid gweld a chywiro unrhyw broblemau cyn
i'r budd-dal gael ei gyflwyno i'r holl hawlwyr. Mae'r cyngor yn
nodi bod tystiolaeth y cyngor hwn a chynghorau eraill ar draws y wlad yn dangos
bod CC yn achosi cynnydd enfawr mewn ôl-ddyledion rhent ac, yn gyffredinol,
lefelau dyled ymhlith pobl, nad yw llawer ohonynt wedi bod mewn dyled o'r
blaen. Yn ogystal â
hyn, mae tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o landlordiaid preifat a hyd yn
oed rhai cymdeithasau tai yn gwrthod derbyn tenantiaid sy'n derbyn CC, sy'n
arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy'n cofrestru'n ddi-gartref ac yn ceisio
llety dros dro. Mae'r cyngor
felly wedi penderfynu y dylai'r Arweinydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol
dros Waith a Phensiynau ar ran y cyngor, i wneud y pwyntiau hyn a gofyn bod y
Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau hyn, ac yn gohirio cyflwyno CC nes
bod y problemau'n cael eu datrys." Cynigiodd
y Cynghorydd R C Stewart ddiwygiad i'r paragraff olaf gan ofyn i Arweinwyr yr
holl Grwpiau Gwleidyddol ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a
Phensiynau. Nododd y Cynghorydd C A Holley ei fod
wedi derbyn y diwygiad. Felly,
roedd sylwedd yr Hysbysiad o Gynnig Brys fel a ganlyn: "Mae'r cyngor yn cytuno bod bwriad Credyd Cynhwysol
(CC) i wneud budd-daliadau yn llai cymhleth a chaniatáu i'r rhai mewn gwaith
tâl isel gadw mwy o'u cyflog yn syniad da, ond mae'n meddwl bod y dystiolaeth
yn dangos bod proses Credyd Cynhwysol yn ddiffygiol ac yn achosi caledi diangen
i deuluoedd lleol. Mae'r Cyngor yn nodi y cafodd y CC ei
gyflwyno'n araf yn fwriadol fel y gellid gweld a chywiro unrhyw broblemau cyn
i'r budd-dal gael ei gyflwyno i'r holl hawlwyr. Mae'r cyngor yn
nodi bod tystiolaeth y cyngor hwn a chynghorau eraill ar draws y wlad yn dangos
bod CC yn achosi cynnydd enfawr mewn ôl-ddyledion rhent ac, yn gyffredinol,
lefelau dyled ymhlith pobl, nad yw llawer ohonynt wedi bod mewn dyled o'r
blaen. Yn ogystal â
hyn, mae tystiolaeth yn dangos fod y rhan fwyaf o landlordiaid preifat a hyd yn
oed rhai cymdeithasau yn gwrthod derbyn tenantiaid sy'n derbyn CC, sy'n arwain
at gynnydd yn nifer y rhai sy'n cofrestru'n ddi-gartref ac yn ceisio llety dros
dro. Mae'r cyngor
felly wedi penderfynu y dylai'r Arweinydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol
dros Waith a Phensiynau ar ran y cyngor, i wneud y pwyntiau hyn a gofyn bod y
Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau hyn, ac yn gohirio cyflwyno CC nes
bod y problemau'n cael eu datrys." Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor, "Pleidleisio", gofynnwyd
am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y
bleidlais fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo'r Hysbysiad o Gynnig diwygiedig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad cyllideb ganol blwyddyn 2017/18. (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Adran 151 gyflwyniad
ar Ddatganiad Cyllidebol Canol Tymor 2017-2018. Nododd berfformiad ariannol y flwyddyn
bresennol yn ogystal ag asesiad wedi;i ddiweddaru o ofynion arbed dros gyfnod y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddatganiad
hefyd. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r cyflwyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygu'r refeniw wrth gefn. PDF 140 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a
oedd yn amlinellu'r adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Cronfeydd Refeniw
Wrth Gefn a chytuno ar unrhyw ailddosbarthiad awgrymedig o'r cronfeydd wrth
gefn yn seiliedig ar ofynion presennol. Penderfynwyd: 1)
Nodi a chadarnhau adrannau 3.13 a 3.16 yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros
Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd adroddiad a oedd yn
ystyried canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo
addewid newydd i beidio â chyflwyno trwyddedau mangre
casino; a chynigiodd
ddiwygiadau i Ddatganiad o Egwyddorion Dinas a Sir Abertawe (Polisi
Gamblo). Penderfynwyd: 1)
Ystyried
canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â chynnig i gymeradwyo addewid newydd
i beidio â chyflwyno trwyddedau mangre casino a diwygiadau arfaethedig i Ddatganiad o Egwyddorion
Dinas a Sir Abertawe (Polisi Gamblo); 2)
Ystyried y materion a nodir ym mharagraff 4 yr adroddiad
a chytuno ar addewid newydd i beidio â chyflwyno trwyddedau mangre
casino; 3)
Cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo ar
gyfer ei gyhoeddi ar ffaith ei fod yn pennu 6 Rhagfyr 2017 fel y dyddiad y bydd
yr addewid yn dod i rym. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 133 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan yr Aelod
Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i wneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu
ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Roedd y newidiadau arfaethedig mewn perthynas â'r
rhan ganlynol o Gyfansoddiad y Cyngor: i)
Rhan 3 "Cyfrifoldeb dros
Swyddogaethau", "Cylch Gorchwyl", "Panel Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol". Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod
adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu a gwnaeth ychydig o ddiwygiadau eraill
hefyd. Penderfynwyd: 1)
Mabwysiadu'r newidiadau i
Gyfansoddiad y Cyngor fel a amlinellir isod: “Rhan 3 – Cyfrifoldeb Dros Swyddogaethau – Cylch
Gorchwyl”. 2.4.4. Panel Llywodraethwyr
yr Awdurdod Lleol a)
Ei dynnu o Ran 3 "Cyfrifoldeb dros Swyddogaethau - Cylch Gorchwyl"; b)
Ei ailenwi fel "Gweithdrefn Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a'i
ychwanegu at Ran 4 "Rheolau Gweithdrefnol" Cyfansoddiad y Cyngor. c)
Er ailddrafftio fel a ganlyn: 1.
Caiff pob Penodiad
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ei wneud gan y Cabinet yn dilyn argymhelliad
gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a
Dysgu Gydol Oes a cheisir barn y Cynghorydd neu'r Cynghorwyr sy'n cynrychioli'r
ward neu'r wardiau yn nalgylch yr ysgolion am y broses gwneud penderfyniadau (y
cyfeirir ato/i neu atynt yn y ddogfen hon fel y Cynghorydd neu'r Cynghorwyr
Lleol). 2.
Bydd y Prif Swyddog Addysg, ar
y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a'r Cynghorydd
neu'r Cynghorwyr Lleol yn ystyried unrhyw geisiadau yn unol â matrics sgiliau
ar y cyd â chais pob llywodraethwr unigol a fydd yn cynnwys disgrifiad bras gan
yr ymgeisydd am y profiad a'r wybodaeth y gallai eu cynnig i'r Corff
Llywodraethu. 3. Caiff Ffurflen Gais
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ei diwygio i gynnwys cyfle i ymgeiswyr gynnwys
manylion (hyd at 300 o eiriau) am brofiad, gwybodaeth a sgiliau i ddangos sut
bydd eu penodi nhw yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau
o ran sgiliau a nodwyd ym matrics sgiliau corff llywodraethu'r ysgol. 4.
Bydd y Prif Swyddog Addysg,
Aelod y Cabinet a'r Cynghorydd neu'r Cynghorwyr Lleol yn gwneud argymhellion am
benodi'r llywodraethwr yr ystyrir bod ganddo'r
sgiliau oar arbenigedd mwyaf priodol i gefnogi a
herio'r corff llywodraethu, ac yn gwneud argymhellion i'r Cabinet o ran llenwi
swyddi gwag ar Gyrff Llywodraethu. 5.
Ceisir barn y Cynghorydd neu'r
Cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward neu'r wardiau yn y dalgylch am y broses
gwneud penderfyniadau. 6.
Defnyddir y meini prawf
canlynol wrth ystyried ceisiadau: a.
Yn gyntaf, y Cynghorydd neu'r
Cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward neu'r wardiau yn nalgylch yr ysgol
berthnasol os ydynt yn bodloni'r meini prawf sgiliau a ddarperir gan yr ysgol. Bydd yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr yn helpu Cynghorwyr i feddu ar y
sgiliau hynny (lle y bo'n bosib) drwy ddefnyddio'r cyrsiau hyfforddiant sydd ar
gael yn yr awdurdod. Mae cofnod hyfforddi pob cynghorydd ar gael yn www.abertawe.gov.uk/article/2617/Cynghorwyr; b. Yn ail, os nad yw'r Cynghorydd neu'r Cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward
neu'r wardiau yn nalgylch yr ysgol berthnasol yn mynegi diddordeb, caiff y
swydd ei chynnig i Gynghorwyr eraill yr awdurdod lleol os yn bodloni'r meini
prawf sgiliau a ddarperir gan yr ysgol; c. Ar ôl
dilyn y meini prawf uchod, cynigir swyddi gwag i bobl a fyddai, ym marn y Prif
Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol
Oes, yn addas ar gyfer rôl Llywodraethwr ac a fyddai'n cyfrannu'n effeithiol at
yr ysgol o ran sgiliau a phrofiad wrth fodloni'r meini prawf sgiliau a
ddarperir gan yr ysgol. 7. Ym
mhob un o'r categorïau uchod, pan fydd mwy o ymgeiswyr na swyddi gwag,
argymhellir cynrychiolwyr yr awdurdod lleol i'r Cabinet ar sail pwy, ym marn y Prif
Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
a'r Cynghorydd neu'r Cynghorwyr Lleol, fyddai'n cyfrannu'n fwyaf effeithiol at
reoli'r ysgol dan sylw o ran y meini prawf sgiliau a ddarperir gan yr ysgol. 8.
Bydd y Prif Swyddog Addysg, ar
y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a'r Cynghorydd
neu'r Cynghorwyr Lleol yn derbyn, yn trafod ac yn pennu unrhyw sylwadau a wneir
iddynt pan fyddant yn gwneud unrhyw newidiadau i gynrychiolaeth ar Gorff Llywodraethu
penodol. 9. Bydd
y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu
Gydol Oes a'r Cynghorydd neu'r Cynrychiolwyr Lleol yn clywed unrhyw gais a
wneir iddyn nhw i dynnu Llywodraethwr ALl yn unol â
Rheoliad 27 Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 ac yn
gwneud argymhelliad i'r Cabinet am gymeradwyaeth. 10.
Bydd y Prif Swyddog Addysg ar
y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a'r Cynghorydd
neu'r Cynghorwyr Lleol yn disgwyl i'r holl Lywodraethwr newydd eu penodi wneud
hyfforddiant llywodraethwyr hanfodol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru o
fewn blwyddyn wedi iddynt dderbyn y swydd er mwyn eu paratoi am eu rôl a gwella
eu dealltwriaeth o'u cyfrifoldeb i herio a chefnogi'r ysgol a'r Pennaeth. 11. Rhaid
cyflwyno ceisiadau ddim hwyrach na 7 niwrnod gwaith cyn dyddiad
cyfarfod/trafodaeth y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a'r Cynghorydd neu'r Cynghorwyr Lleol a chaiff
ceisiadau hwyr eu hystyried yn ôl eu disgresiwn yn unig." |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth Pwyllgorau. PDF 95 KB Cofnodion: Dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes fod adroddiad diwygiedig wedi'i ddosbarthu. Cyfeiriodd at yr adroddiad gan nodi bod Arweinydd y Cyngor hefyd wedi gwneud
y newidiadau canlynol i gyrff allanol yr awdurdod: 1)
Coleg Gŵyr Abertawe Tynnu enw'r Cynghorydd J A
Raynor. Ychwanegu enw'r Cynghorydd K M
Roberts. Penderfynwyd: 1)
Diwygio
aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn: i)
Panel Herio Tynnu enwau'r
Cynghorwyr J E Burtonshaw, N J Davies, H M Morris, M Sherwood ac M Sykes. Ychwanegu enwau'r
Cynghorwyr C Anderson, M B Lewis, P Lloyd, S Pritchard a T M White. ii)
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno
Polisi - Diogelu Tynnu
enw'r Cynghorydd K M Roberts. Ychwanegu
enw'r Cynghorydd C Anderson. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. PDF 122 KB Cofnodion: 1)
Rhan
A 'Cwestiynau Atodol’ Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd
Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion
ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor. Nid oedd
angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer unrhyw gwestiynau atodol. 2) Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu
cyfer' Cyflwynwyd tri (3) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau
atodol' Rhan B. |