Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

 

1)              Y Cynghorydd J P Curtice, A Davies, P Downing, R A Fogarty, D H Jenkins, S M Jones, S E Keeton, N L Matthews, F D O’Brien, R V Smith, A H Stevens, W G Thomas & R A Williams Datgan Diddordeb Personol mewn Cofnod  41 “Adolygiad o Gymunedau - Polisi Maint Cynghorau Tref a Chymuned.”

 

2)              Y Cynghorydd S M Jones Datgan Diddordeb Personol mewn Cofnod 36 “Cwestiynau gan y Cyhoedd.”

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, A Davies, P Downing, R A Fogarty, L James, D H Jenkins, S M Jones, S E Keeton, N L Matthews, F D O'Brien, K M Roberts, R V Smith, A H Stevens, W G Thomas ac R A Williams gysylltiad personol â Chofnod 41 "Adolygiad o Gymunedau - Polisi Maint Cynghorau Cymuned/Tref."

 

2)             Datganodd y Cynghorydd S M Jones gysylltiad personol â Chofnod 36 "Cwestiynau Cyhoeddus."  yn ymwneud â "Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cynllun Adolygu Deisebau".

 

Swyddogion:

 

3)             Datganodd Huw Evans gysylltiad personol â Chofnod 41 "Adolygiad o Gymunedau - Polisi Maint Cynghorau Cymuned/Tref."

 

 

32.

Cofnodion. pdf eicon PDF 348 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)         Cyfarfod Cyffredin o'r cyngor a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 6.

 

33.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

 

34.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Cyfeillion Llyn Golchi a Gardd Fwyd Gymunedol Mayhill wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd unwaith eto. Y bumed flwyddyn yn olynol iddynt ei hennill.

 

Talodd deyrnged hefyd i'r gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r parciau/gerddi cymunedol gwyrdd llai a mannau gwyrdd yn Abertawe. Mae eu gwaith yn amhrisiadwy i Abertawe a'i dinasyddion.

 

b)            Diwygiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

i)              Eitem 13 "Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cynllun Adolygu Deisebau"

Dileu paragraff 8.3 o'r Cynllun Deisebau. Rhoi'r canlynol yn ei le:

 

"8.3 Os yw'r cyngor yn gwrthod eich deiseb neu os ydych yn teimlo nad yw'r cyngor wedi delio â'ch deiseb yn iawn, cysylltwch â Thîm y Gwasanaethau Democrataidd (DS) democratiaeth@abertawe.gov.uk

Rhowch esboniad byr o'ch pryder a'r penderfyniad yr ydych yn ei geisio o fewn 10 niwrnod gwaith clir i'r penderfyniad. Bydd Tîm y GD yn anfon eich pryder ymlaen at yr Aelod Llywyddol a fydd yn ei ystyried mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151. Bydd eu penderfyniad yn derfynol.

 

ii)             Eitem 14 "Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 7"

Dileu paragraff 2 o ymateb Arweinydd y Cyngor. Rhoi'r canlynol yn ei le:

 

"Mae cyfleoedd ariannu'n cael eu harchwilio ar y cyd â Chyfeillion Pont y Slip mewn ymgais i adfer y darn pwysig hwn o dreftadaeth Abertawe."

 

iii)           Eitem "14 Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 9"

Dileu'r frawddeg sy'n nodi:

 

"Mae'r amserlen atodedig yn dangos cyfraddau a benthyciadau'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB)."

 

35.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)             RAAC (Concrit awyredig awtoclafiedig cydnerth)

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd unrhyw RAAC wedi'i ganfod yn unrhyw un o adeiladau cyhoeddus Cyngor Abertawe. Cadarnhawyd hyn yn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru.

 

Bob blwyddyn mae Tîm Gwasanaethau Adeiladu'r cyngor yn cynnal arolygon cyflwr o'n sefydliadau addysg, ac mae hyn yn cynnwys ymweliad safle gan ein syrfewyr prosiectau a pheirianwyr mecanyddol a thrydanol. Mae'r arolwg yn cynnwys archwiliad i gyflwr adeiladwaith yr adeilad lle mae'r waliau, y toeon, y ffenestri a'r lloriau'n cael eu harchwilio ynghyd â'r gosodiadau mecanyddol a thrydanol.

 

Mae'r syrfewyr yn chwilio am arwyddion o ddirywio, dŵr yn dod i mewn, holltau yn sgîl pwysau, symudiad, lleithder/llwydni, ac unrhyw arwyddion o bydredd gwlyb neu sych. Nid yw'r cyngor erioed wedi dod ar draws unrhyw achos o osod Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) yn unrhyw un o'n hadeiladau addysg.

 

Ar gyfer adeiladau cyhoeddus eraill, cynhaliwyd arolygon cyflwr dros y blynyddoedd, a dyma sy'n llywio'r Gyllideb Cynnal a Chadw Gyfalaf wrth i ni geisio bod yn rhagweithiol a nodi diffygion adeileddol cyn iddynt ddod yn broblem.

 

b)            Llwgu yn ystod y Gwyliau

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i dimau'r cyngor a Chynghorwyr a oedd wedi cefnogi plant a theuluoedd drwy gydol yr haf trwy gynnal digwyddiadau am ddim a darparu bwyd am ddim i lawer mewn angen. Darparwyd dros 66,000 o brydau bwyd am ddim i blant yn Abertawe dros yr haf.  Cafwyd 230,000 o deithiau ar fysus yn sgîl y cynllun bysus am ddim

 

Dyma ddwy yn unig o'r mentrau a gynhelir gan Gyngor Abertawe i gynorthwyo gyda llwgu yn ystod y gwyliau yn ystod yr argyfwng Costau Byw. Mae'r cyngor yn gobeithio cynnal y ddwy fenter eto yn ystod cyfnod y Nadolig os yw cyllid yn caniatáu.

 

c)             Cwmni Adeiladu Grŵp Buckingham

 

Dywedodd Arweinydd y cyngor fod Buckingham Group wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar 4 Medi 2023. Mae'r cyngor wedi meddiannu'r safle a'i ddiogelu. Bydd y cyngor mewn cysylltiad â'r gweinyddwr yr wythnos hon. Mae trafodaethau â phrif gontractwyr posib yn parhau gyda'r nod o sicrhau bod contractwr newydd yn ei le cyn gynted â phosib fel y gall y gwaith ailddechrau.

 

ch)      Diwygiadau i Bortffolio'r Cabinet

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi gwneud sawl mân ddiwygiad i Bortffolios y Cabinet fel a ganlyn:

 

i)               Portffolio Trawsnewid Gwasanaethau y Cabinet (y Cynghorydd Andrea Lewis)

Ychwanegwyd "Arweinydd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid".

 

ii)              Portffolio Lles y Cabinet (Y Cynghorydd Alyson Pugh)

Newidiwyd "Cynrychiolydd Arweinwyr Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel " i ddarllen "Arweinydd Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel."

Dilëwyd "Ffoaduriaid a Lloches."

 

d)            Cyllid Ysgol Pensaernïaeth Cymru

 

Dywedodd Ddirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor mai Cyngor Abertawe yw'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru a lwyddodd i gael cyllid ar gyfer prosiect ymchwil i gyd-ddylunio tai ynni effeithlon, carbon isel, wedi'u hôl-osod. Mae pedwar tŷ yn Townhill wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y prosiect.

 

dd)          Ymweliad â Chlwb Cinio Mosg Sgeti

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ei bod hi a'r Cynghorydd Alyson Pugh wedi ymweld â Chlwb Cinio Mosg Sgeti yn ddiweddar.

 

 

 

 

e)             Rali Congolaidd a Liberaidd yn Sgwâr y Castell

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ei bod wedi siarad yn ddiweddar yn y Rali Congoliaidd a Liberaidd a gynhaliwyd yn Sgwâr y Castell. Dywedodd ei bod yn wych gweld cynifer o Gynghorwyr yn cefnogi'r rali.

 

f)              Diwrnod y Llynges Fasnachol - 3 Medi 2023

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ei bod hi, ynghyd â'r Arglwydd Faer a'r Aelod Hyrwyddo Cyn-filwyr, wedi mynd i Ddiwrnod y Llynges Fasnachol ar 3 Medi 2023.

 

 

 

 

 

36.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)             Gofynnodd Jules Wagstaff gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 42 "Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cynllun Adolygu Deisebau".

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad.

 

2)             Gofynnodd Ben Houghton gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 43 "Cwestiynau Cynghorwyr" - Cwestiwn 6.

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth.

 

3)             Gofynnodd John Childs gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 42 "Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cynllun Adolygu Deisebau".

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

 

37.

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe 2023-2026. pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn amlinellu Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe (VAWDASV) 2023-2026. Mae'r Strategaeth yn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd statudol fel y nodir yn Neddf VAWDASV (Cymru) 2015 a'r blaenoriaethau i'w datblygu, i ysgogi newid.

Mae'n ddogfen bartneriaeth strategol ar gyfer cyflawni blaenoriaethau ar gyfer dod â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i ben yn Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe (VAWDASV) 2023-2026.

 

 

38.

Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2022-2023. pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2022-2023. Roedd y rhan 'er gwybodaeth' yn disgrifio gwaith y Pwyllgor dros y cyfnod.

 

39.

Aelodaeth ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 252 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am roi ystyriaeth i leihau aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o 15 i 12 aelod (8 Cynghorydd a 4 Aelod Lleyg Cyfetholedig Statudol).

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r gostyngiad yn aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o 15 i 12 Aelod (8 Cynghorydd a 4 Aelod Lleyg Cyfetholedig Statudol).

 

2)             Y bydd y Grŵp Llafur a Grŵp Uplands yn nodi enw un Cynghorydd yr un y ceir gwared ohonynt o'r Pwyllgor. Mai'r Cynghorwyr hynny y tynnir eu henwau oddi ar y rhestr aelodaeth yw A J Jeffery a K M Roberts.

 

40.

Estyn cyfnod swydd ar gyfer Aelod(au) Annibynnol (Cyfetholedig) y Pwyllgor Safonau. pdf eicon PDF 229 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am ailbenodi Michela Jones a Mike Lewis am gyfnod pellach o 4 blynedd fel Aelodau Lleyg Cyfetholedig Statudol o'r Pwyllgor Safonau.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Ailbenodi Michaela Jones yn Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am un cyfnod olynol arall yn y swydd a ddaw i ben ar 30 Medi 2027.

 

2)             Ailbenodi Mike Lewis yn Aelod Annibynnol (Cyfetholedig) o'r Pwyllgor Safonau am un cyfnod olynol arall yn y swydd a ddaw i ben ar 30 Medi 2027.

 

41.

Adolygiad o Gymunedau - Polisi Maint Cynghorau Tref a Chymuned. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth o Bolisi Maint Cynghorau Cymuned/Tref i gynorthwyo gyda'r adolygiad o'r broses Cymunedau sy'n cael ei chynnal gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Polisi Maint Cynghorau Cymuned/Tref.

 

42.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Adolygiad o'r Cynllun Deisebau. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn hysbysu'r cyngor o ddiwygiadau i symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar gynghorau i wneud a chyhoeddi Cynllun Deisebau. Mabwysiadwyd y Cynllun Deisebau gan y cyngor ar 24 Mai 2022. Dywedodd fod adolygiad o'r Cynllun Deisebau wedi'i gynnal a bod yr adroddiad yn ceisio diwygio'r Cynllun.

 

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i'r Cynllun Deisebau gael ei fabwysiadu ymhellach drwy ddileu paragraff 8.3 y Cynllun Deisebau a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

          "8.3  Os yw'r cyngor yn gwrthod eich deiseb neu os ydych yn teimlo nad yw'r cyngor wedi ymdrin â'ch deiseb yn iawn, cysylltwch â Thîm y Gwasanaethau Democrataidd (GD) democratiaeth@abertawe.gov.uk

 

Darparwch esboniad byr o'ch pryder a'r penderfyniad yr ydych yn ei geisio o fewn 10 niwrnod gwaith clir i'r penderfyniad. Bydd Tîm y GD yn anfon eich pryder ymlaen at yr Aelod Llywyddol a fydd yn ei ystyried mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151. Bydd eu penderfyniad hwy yn derfynol."

 

Penderfynwyd:

 

1)             Mabwysiadu'r Cynllun Deisebau fel y'i hamlinellir yn Atodiad A yr adroddiad yn amodol ar:

i)               Ychwanegu'r diwygiad i Baragraff 8.3 yr adroddiad fel y'i nodir uchod.

ii)             Gwneud diwygiad pellach gan ychwanegu disgresiwn i Gadeirydd y Cynllun Deisebau hepgor y gofynion i gyrraedd targedau'r trothwy os effeithir ar nifer llai.

 

2)                  Y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y cyngor yn y dyfodol yn nodi maint a chylch gorchwyl y Pwyllgor Deisebau.

 

43.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

For information

 

Cofnodion:

 

Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd pedwar (4) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Cwestiwn 3

Gofynnodd y Cynghorydd F D O'Brien a allai'r Tîm Glanhau ddadlwytho gwastraff yn Safle Amwynder Dinesig Clun gan arbed teithiau gwastraff i Safle Byrnu Llansamlet.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gymuned y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol' ar eu cyfer Rhan B.