Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

161.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr

 

1)       Y Cynghorwyr F D O’Brien gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 168 Cwestiynau Cyhoeddus a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

2)       Y Cynghorwyr J P Curtice, M Durke, C A Holley, E J King, M Jones, T M White & A Williams gysylltiad persono a Chofnod 168 – Datganiad Polisi Tâl 2023/24.

 

3)       Y Cynghorwyr F O’Brien  gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 168 Datganiad Polisi Tâl 2023/24 a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

4)       Y Cynghorwyr S J Rice  gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 171 – Cwestiynau gan y Cynghorwyr a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

Swyddog

 

5)       T Meredith and B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 167 – Cynllun Gwerthuso Swyddi Prif Swyddogion a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

6)       G Borsden, A Chard, C Davies, H Evans, T Meredith, M Nicholls, and B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 168 - Datganiad Polisi Tâl 2023/24 a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

          Sylwer: Ni adawodd A Chard a H G Evans gan fod angen iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r penderfyniad.

 

7)       T Meredith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 169 – Opsiynau ar gyfer y penodiad ar gyfer Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cynghorwyr

 

1)              Datganodd y Cynghorydd F D O'Brien gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 166 “Cwestiynau gan y Cyhoedd a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod.

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr J P Curtice, M Durke, C A Holley, E J King, M Jones, F D O’Brien, M S Tribe, T M White ac A Williams gysylltiad personol â chofnod rhif 168 “Datganiad Polisi Tâl 2023/24”.

 

3)              Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 171 “Cwestiynau'r Cynghorwyr” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei thrafod.

 

Swyddogion

 

4)              Datganodd T Meredith a B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 167 “Cynllun Gwerthuso'r Prif Swyddog” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

5)              Datganodd G Borsden, A Chard, C Davies, H Evans, T Meredith, M Nicholls, a B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 168 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

Nodyn: Ni adawodd A Chard a H Evans gan fod angen iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r penderfyniad.

 

6)              Datganodd T Meredith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif 169 “Opsiynau ar gyfer Penodi Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

162.

Cofnodion. pdf eicon PDF 208 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)       Cyfarfod arbennig o'r cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.

2)       Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.

163.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

164.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)              Y Cynghorydd Mair Baker

 

Croesawodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Mair Baker i'w chyfarfod cyntaf o'r cyngor. Etholwyd y Cynghorydd Baker yn dilyn Is-etholiad Penderi a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.

 

b)              Tarian Dewar

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol mai Cystadleuaeth Tarian Dewar Ysgolion Cymru yw'r Gystadleuaeth Ysgolion hynaf yn y byd Rygbi. Roedd hi'n falch iawn o longyfarch Ysgolion Abertawe am ennill Tarian fawreddog Dewar yn ddiweddar am y nawfed tro, gyda buddugoliaeth o 24-22 yn erbyn Ysgolion Pontypridd yn y rownd derfynol yn Stadiwm Principality.

 

c)              Darllediad byw

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd fod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i osgoi unrhyw sylwadau sarhaus neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu aelodau eraill o'r cyhoedd.

 

d)              Aros yn eistedd wrth siarad

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bawb a oedd yn bresennol i barhau i eistedd wrth siarad yn Siambr y Cyngor, gan fod hynny'n ei gwneud yn haws i bobl eich clywed a'ch gweld.

 

e)              Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

Amlinellodd yr Aelod Llywyddol y byddai Eitem 9 "Cynllun Gwerthuso Swyddi'r Prif Swyddog" yn cael ei ystyried cyn Eitem 8 "Datganiad Polisi Tâl 2023-2024".

165.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)              Y Cynghorydd Mair Baker

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mair Baker i'w chyfarfod cyntaf o'r cyngor yn dilyn ei hetholiad diweddar yn Ward Penderi.

166.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

Gofynnodd dri aelod o’r cyhoedd gwestiynau a oedd yn ymwneud â chofnod 158 “Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 9.” 

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad ac ymrwymodd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr Bettany.

167.

Cynllun Gwerthuso Swyddi Prif Swyddogion. pdf eicon PDF 439 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion Cynllun Gwerthuso Swyddi newydd i Brif Swyddogion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo argymhellion yr ymgynghorwyr annibynnol fel y manylir yn Adrannau 2 i 10 yr adroddiad.

 

2)              Cytuno ar yr argymhellion y manylir arnynt yn Adran 11 yr adroddiad i fabwysiadu cynllun gwerthuso swyddi'r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL) ar gyfer Prif Swyddogion i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

 

3)              Gwneud y newidiadau priodol i'r Polisi Tâl o ganlyniad i benderfyniad 2.

 

4)              Nodi'r crynodeb o'r bandiau cyflog presennol a amlinellir ym mharagraff 11.6 ac Atodiad D o'r adroddiad.

168.

Datganiad Polisi Tâl 2023/24. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad y Datganiad Polisi Tâl diweddaraf ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2023/24 i'w gymeradwyo.

 

Penderfynwyd cymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Polisi Tâl 2023-2024 diweddaraf fel a amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

169.

Opsiynau ar gyfer y penodiad ar gyfer Swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad ynghylch yr opsiynau ar gyfer rôl Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r opsiynau a nodir yn yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo Opsiwn 2 - Hysbysebu'r Rôl ar sail Ran-amser barhaol.

 

3)              Recriwtio'r swydd yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Penodi Swyddog y Cyd-gyngor Cenedlaethol.

170.

Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu. pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu'r Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu.

 

Penderfynwyd mabwysiadu Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu a atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Nodyn: Dywedodd y Cynghorydd E W Fitzgerald na chynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch Llwybr Beicio Penlle'r-gaer. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y caiff ymateb ysgrifenedig ei ddarparu a fydd yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan y cyngor.

171.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 261 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 1

Gofynnodd y Cynghorydd P N May gwestiwn technegol ynglŷn â dyfnder yr arwyneb newydd y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio a'r dulliau o atgyweirio tyllau yn y ffordd a ddefnyddir ar gyfer cywasgu etc.

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd.

 

Cwestiwn 6

i)                 Dywedodd y Cynghorydd S Bennett ei fod yn "pryderu am faint o ollyngiadau carthion sy'n mynd i mewn i'r Afon Tawe. Mae ewyn parhaol, sef blŵm algâu yn ôl yr hyn dwi wedi'i glywed, ar y Tawe. Gollyngwyd carthion i'r Tawe gyfanswm o 1,818 o weithiau yn 2022 - gan bara 13,981 o oriau.

 

Mae'r ymateb yn cyfeirio at ollyngiadau'n digwydd yn ystod stormydd a glaw trwm yn unig. Rwy'n gwerthfawrogi ein bod yn cael llawer o law ond nid cymaint â hyn. Gwelaf nad oes llawer o fanylion yn yr ymateb ynghylch sut mae'r cyngor yn gweithio gyda Dŵr Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn ag atal ollyngiadau parhaus i'r Tawe.

 

Sut fydd y cyngor yn mynd i'r afael â hyn?"

 

ii)               Gofynnodd y Cynghorydd P M Black "Pa drafodaethau ydy'r cyngor wedi'u cael gyda Dŵr Cymru ynglŷn â gwella'u safle trin carthion ar Fabian Way?"

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai ymatebion ysgrifenedig i'r uchod yn cael eu darparu gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad.

 

Amlinellodd y byddai hefyd yn codi'r materion a godwyd gyda Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd naw (9) cwestiwn Rhan B 'Cwestiynau nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’.