Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

142.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

 

1)       Datganodd y Cynghorwyr R D Lewis, F D O’Brien & A H Stevens Gysylltiad Personol a Rhagfarnol â Chofnod Rhif 148 “Cwestiynau gan y Cyhoedd” & 159 “Cwestiynau gan y Cynghorwyr.” a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

2)       Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, T J   Hennegan, R Francis-Davies, A S Lewis, M B Lewis, P Lloyd, N L Matthews, S Pritchard, SJ Rice, R V Smith, G  D Walker & T M White           gysylltiad personol â Chofnod Rhif 151 “Datganiad o Gyfrifon 2021/22.”

 

3)       Datganodd y Cynghorwyr P Downing, R A Fogarty, J W Jones, M H Jones, W G Lewis, N L Matthews, C L Philpott & S J Rice gysylltiad personol â Chofnod Rhif 152 “Trefniadau Derbyn Ysgolion 2024-2025.”;

 

4)       Datganodd y Cynghorwyr S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod Rhif 153 “Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe”;

 

5)       Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley, P Lloyd & C L Philpott gysylltiad personol â Chofnod Rhif 155 “Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2023-2024”;

 

6)       Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams & L G Thomas gysylltiad personol â rhagfarnol a Chofnod  155 Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2023-2024 gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

         

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen

"Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)               Datganodd y Cynghorwyr R D Lewis, F D O'Brien ac A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 147 "Cwestiynau Cyhoeddus" a 158 "Cwestiynau Cynghorwyr" a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth".

 

2)       Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, J A Hale, T J Hennegan, R Francis-Davies, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, P Lloyd, N L Matthews, S Pritchard, S J Rice, R V Smith, M S Tribe, G D Walker a T M White gysylltiad personol â Chofnod 150 "Datganiad o Gyfrifon 2021/22".

 

3)       Datganodd y Cynghorwyr P Downing, E W Fitzgerald, R A Fogarty, J W Jones, M H Jones, W G Lewis, N L Matthews, C L Philpott ac S J Rice gysylltiad personol â Chofnod 151 "Trefniadau Derbyn Ysgolion 2024-2025".

 

4)       Datganodd y Cynghorydd S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 152 "Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe".

 

5)       Datganodd y Cynghorwyr P M Black, C A Holley, P Lloyd ac C L Philpott gysylltiad personol â Chofnod 154 "Enwebu Arglwydd Faer a Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer 2023-2024".

 

6)       Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams ac L G Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154 "Enwebu Arglwydd Faer a Darpar Arglwydd Faer 2023-2024" a gadawsant y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

7)       Datganodd y Cynghorydd E W Fitzgerald gysylltiad personol â Chofnod 156 “Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad ac Aelodaeth a Rheolau Gweithdrefnau Ariannol”.

143.

Cofnodion. pdf eicon PDF 198 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023.

144.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

145.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

a)              Cydymdeimladau

 

i)                Y Cynghorydd Hazel Morris

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Hazel Morris. Cynrychiolodd Hazel Ward Penderi am tua 15 mlynedd:

 

Dinas a Sir Abertawe

1 Mai 2008 - 2 Mawrth 2023

 

Arweiniodd Arweinydd y Grŵp Llafur deyrnged i’r Cynghorydd Hazel Morris.

 

ii)              Y Cyngynghorydd June Evans

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd June Evans. Cynrychiolodd June Ward Llansamlet rhwng y cyfnodau isod:

 

Cyngor Dinas Abertawe

21 Hydref 1993 - 31 Mawrth 1996

Dinas a Sir Abertawe

4 Mai 1995 - 3 Mai 2012

 

Cafwyd munud o ddistawrwydd gan bawb a oedd yn bresennol i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

b)              Ymddeoliad Karen Thomas, Gwasanaethau Democrataidd

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol y byddai Karen Thomas, neu Zippy, yn ymddeol ar 31 Mawrth 2023, ar ôl gwasanaethu am 40 mlynedd gyda’r cyngor. Roedd Karen wedi ymroi ei gyrfa i gefnogi Cynghorwyr. Ar ran y cyngor, diolchodd i Karen.

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol hefyd i'r holl Swyddogion eraill a oedd i fod i ymddeol yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf am eu gwasanaeth a'u hymroddiad i'r cyngor.

 

c)              Diolch i'r Timau Profi, Olrhain, Diogelu

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Llywodraeth Cymru wedi diolch yn ddiweddar i bawb a fu’n rhan o’r Timau Profi, Olrhain, Diogelu am eu gwaith caled eithriadol a’u hymrwymiad drwy gydol pandemig COVID-19. Ar ran y cyngor, ychwanegodd ei diolch i'r Timau Profi, Olrhain, Diogelu am eu proffesiynoldeb a'u gwaith yn ystod cyfnod mor anodd.

 

d)              Darllediad byw

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol bob aelod o'r cyhoedd fod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw. Nododd fod yn rhaid bod yn ofalus i osgoi unrhyw sylwadau sarhaus neu ddifrïol yn erbyn Swyddogion, Cynghorwyr neu aelodau eraill o'r cyhoedd.

 

e)              Aros yn eistedd wrth siarad

 

Atgoffodd yr Aelod Llywyddol y Cynghorwyr i aros ar eu heistedd wrth siarad yn Siambr y Cyngor, gan ei wneud yn haws i bobl glywed a gweld.

 

f)                Newidiadau/cywiriadau i wŷs y cyngor

 

i)                Eitemau 19 a 20 "Hysbysiad o Gynnig"

 

Dylid dileu enw'r Cynghorydd Jan Curtis o'r ddau Hysbysiad o Gynnig.

146.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)              Ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at farwolaeth drasig ddiweddar Brian Davies yn dilyn ffrwydrad yn Clydach Road, Treforys. Mynegodd gydymdeimladau'r cyngor i'r teulu ar ran y dioddefwr.

 

Diolchodd hefyd i Swyddog Cyngor Abertawe, y Tîm Tai a'r Gwasanaethau Brys am gefnogi'r gymuned.

 

2)              Porthladd Rhydd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor y cyhoeddiad bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, fel rhan o ddinas-ranbarth Bae Abertawe, wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i gael porthladdoedd rhydd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot.

 

3)              Canmlwyddiant Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi bod i ymweld ag Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw yn ddiweddar fel rhan o'u dathliadau canmlwyddiant.

 

4)              Gwobrau MJ 2023 - enwebiad ar gyfer gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Cyngor Abertawe wedi'i enwebu ar gyfer Awdurdod Lleol y Flwyddyn yng Ngwobrau MJ 2023. Dywedodd fod Cyngor Abertawe wedi dod yn ail yn yr un categori yn 2022.

147.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Gofynnodd chwe aelod o’r cyhoedd gwestiynau a oedd yn ymwneud â Chofnod 158 “Cwestiynau Cynghorwyr - Cwestiwn 1.”

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol ac ymrwymodd i ddarparu ymatebion ysgrifenedig.

148.

Cynllun Corfforaethol 2023/28. pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Approved

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyhoeddi Cynllun Corfforaethol 2023/28 yn dilyn adolygiad fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r canllawiau statudol yn ymwneud â chyrff cyhoeddus.

 

Penderfynwyd mabwysiadu Cynllun Corfforaethol 2023/28.

 

Sylwer: Dywedodd y Cynghorydd S Bennett fod "Paragraffau 3.84 a 3.94 yn cyfeirio at "fwy nag 1 o bob 5 ymatebydd..." a "Mwy nag 1 o bob 4 ymatebydd..." yn y drefn honno. Beth oedd y mwyafrif yn ei ddweud h.y., y 4 mewn 5 a'r 3 mewn 4? Beth mae'r paragraffau hyn yn ei olygu?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

149.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 355 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Derwyn Owen, Archwilio Cymru "Adroddiad Archwilio Cymru, Archwilio Cyfrifon 2021-2022 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a llofnodi'r Llythyr Sylwadau Terfynol.

 

Sylwer: Cyfeiriodd y Cynghorydd C A Holley at dudalen 171, Atodiad 3 a gofynnodd am beth oedd y cyngor yn ei brydlesu am £284,851,000.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig.

150.

Datganiad o Gyfrifon 2021/22. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad o Gyfrifon 2021-22 ar 31 Gorffennaf 2022 neu cyn hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon 2021/22 fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

151.

Trefniadau Derbyn Ysgolion 2024-2025. pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am benderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion a gynhelir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn Atodiad B yr adroddiad.

 

3)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

4)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel a nodir yn Atodiad Ch yr adroddiad.

 

5)              Cymeradwyo'r trefniadau derbyn/meini prawf derbyn arfaethedig ar gyfer 2024-2025 ar gyfer dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D yr adroddiad.

 

6)              Cymeradwyo'r Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd fel a nodir yn Atodiad Dd yr adroddiad.

 

7)              Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, fel a nodir yn Atodiad E yr adroddiad.

152.

Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

153.

Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023 ac i benodi Aelod Lleyg ychwanegol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Penodi David Roberts yn Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

2)              Pum mlynedd yw cyfnod y swydd, rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2028.

154.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2023-2024. pdf eicon PDF 408 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer yr Arglwydd Faer Etholedig a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig er mwyn caniatáu i drefniadau ar gyfer digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaenau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Enwebu'r Cynghorydd Graham Thomas yn Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2023-2024.

 

2)              Enwebu'r Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn Ddirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2023-2024.

155.

Arolwg o Amserau Cyfarfodydd y Cyngor a Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2023-2024. pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, a gyflwynodd Ddyddiadur Cyrff y Cyngor drafft 2023-2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi canlyniadau Arolwg Amseru Cyfarfodydd y Cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Mabwysiadu Dyddiadur Cyrff y Cyngor 2023-2024 drafft yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 18 Mai 2023.

156.

Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor - Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad ac Aelodaeth a Rheolau Gweithdrefn Ariannol. pdf eicon PDF 322 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor. Mae angen penderfyniad gan y cyngor i newid Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y diwygiadau’n ymwneud â Chylch Gorchwyl y Gweithgor Cyfansoddiad ac i'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio paragraff 3.2 Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad fel a ganlyn:

 

"3.2 Mae'r Grŵp hwn wedi'i eithrio o Reolau Cydbwysedd y Pwyllgor er mwyn caniatáu'r aelodaeth a'r gynrychiolaeth ganlynol gan bob Grŵp Gwleidyddol: Aelod Llywyddol, Dirprwy Aelod Llywyddol, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Grŵp Llywodraethu a'r Wrthblaid Fwyaf, Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol eraill a’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am faterion cyfansoddiadol. Sylwer: Gall arweinydd pob Grŵp Gwleidyddol amnewid eu Dirprwy Arweinydd Grŵp Gwleidyddol gydag un o'u Haelodau Grŵp os oes angen ond rhaid i'r aelodaeth gael ei chymeradwyo gan y cyngor."

 

2)              Y bydd y Cynghorydd M H Jones yn cymryd lle'r Cynghorydd E W Fitzgerald fel cynrychiolydd yr Wrthblaid Fwyaf ar Weithgor y Cyfansoddiad.

 

3)              Diwygio paragraff 11.6 o'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol i ddarllen:

 

"11.6 Rhaid dileu dyledion nad ydynt yn adenilladwy. Rhaid i'r Prif Swyddog Cyllid gymeradwyo dileu’r holl ddyledion hyd at £10,000. Rhaid dileu dyledion dros £10,000 gyda chymeradwyaeth y Prif Swyddog Cyllid a’r Prif Swyddog Cyfreithiol”.

157.

Adolygiad o Gymunedau. pdf eicon PDF 233 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Canlyniadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) i gynnal yr Adolygiad Cymunedol ar ran y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              y bydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal Adolygiad Adran 26 o gymunedau ar ran y cyngor.

 

2)              Diwygio Cylch Gorchwyl Gweithgor y Cyfansoddiad i gynnwys:

 

"Goruchwylio’r Adolygiad o Gymunedau a bod yn gyfrifol am weithio gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i sicrhau bod unrhyw argymhellion yn adlewyrchu cymunedau Abertawe a Chylch Gorchwyl yr Adolygiad o Gymunedau yn gywir.”

 

3)              Y bydd Gweithgor y Cyfansoddiad yn ystyried "Polisi Maint y Cyngor" ac yn argymell Polisi o'r fath i'r cyngor maes o law.

158.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 431 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd deg (10) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 9

Gofynnodd y Cynghorydd E W Fitzgerald am ddiffiniad cliriach o'r hyn y mae "ffyrdd yn cael eu glanhau'n rheolaidd" yn ei olygu. Holodd beth oedd yr union amserlen?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

2)       Rhan B ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.

159.

Hysbysiad o Gynnig - Perygl Brexit i'n Hawliau - Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir pdf eicon PDF 269 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd R A Fogarty a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Hyd yma, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi niweidio ein statws cenedlaethol yn y byd, wedi costio biliynau i'n heconomi o ran colli masnach ac wedi creu ansicrwydd a gwaith papur i ddinasyddion a busnesau ledled y DU. Mae 65% o'r cyhoedd ym Mhrydain o'r farn bod Llywodraeth y Ceidwadwyr yn ymdrin â Brexit yn wael.

 

Bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn rhoi’r gallu i Weinidogion y Llywodraeth ddewis a dethol pa reolau'r UE y byddant yn eu cadw a pha rai i gael gwared arnynt. Mae hyn yn cynnwys amddiffyniadau sylfaenol, y brwydrwyd yn galed drostynt, fel iechyd a diogelwch yn y gwaith, amddiffyniadau anabledd a hawliau mamolaeth. Mae perygl y bydd hyn yn achosi niwed pellach ar adeg o anhawster economaidd i lawer drwy rwygo 4,000 o hawliau ac amddiffyniadau sylfaenol gydag ychydig iawn o graffu seneddol ac ymrwymo obsesiwn y Ceidwadwyr â dadreoleiddio ar bob cyfrif i lyfrau statud y DU. Mae’n peri pryder arbennig i weld ymdrechion i roi sofraniaeth y Senedd i’r cyrion ar adeg pan fo’n ymddangos bod sgandal newydd yn ymwneud â Gweinidogion Llywodraeth y DU bob wythnos, gan danseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein harweinwyr i wneud yr hyn sydd er eu lles pennaf.

 

Fel cymunedau ledled y DU, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio'n fawr ar Abertawe, gyda phobl yn byw drwy gyfnod mwyfwy ansicr. Rhaid i flaenoriaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd fod i sicrhau ffyniant economaidd, ac atal unrhyw niwed pellach rhag cael ei wneud gan y rheini sy'n dymuno defnyddio Brexit fel cyfle i wanhau hawliau ac amddiffyniadau y brwydrwyd yn galed drostynt.

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn:

 

-                  Annog y Llywodraeth i ailystyried cyfreithiau'r UE drwy Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir.

 

-                  Galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad i gynnal yr holl hawliau ac amddiffyniadau presennol a roddir i ni yn neddfwriaeth yr UE.

 

-                  Gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at y Prif Weinidog yn amlinellu gwrthwynebiad cadarn y cyngor hwn i ymosodiadau rheolaidd ei Lywodraeth ar hawliau dynol sylfaenol.

 

-                  Gofyn i'r Arweinydd hefyd ysgrifennu at Arweinydd yr Wrthblaid yn San Steffan, i geisio sicrwydd, wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy'r Senedd, y bydd pob cam yn cael ei gymryd i frwydro yn erbyn yr ymosodiad llwyr hwn ar ddemocratiaeth Seneddol, gan gynnwys drwy ffocysu craffu cyhoeddus ar yr hawliau a'r amddiffyniadau rydym ar fin eu colli."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

O blaid (50 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

V A Holland

M W Locke

S Bennett

C A Holley

N L Matthews

P N Bentu

D H Hopkins

P M Matthews

P M Black

O G James

P N May

J P Curtice

Y V Jardine

J D McGettrick

A Davis

D H Jenkins

C L Philpott

P Downing

J W Jones

J E Pritchard

C R Doyle

M H Jones

S Pritchard

M Durke

M Jones

A Pugh

C M J Evans

S A Joy

S J Rice

V M Evans

S E Keeton

R V Smith

R A Fogarty

E J King

A H Stevens

N Furlong

H Lawson

R C Stewart

L S Gibbard

A S Lewis

L V Walton

F M Gordon

M B Lewis

T M White

H J Gwilliam

W G Lewis

R A Williams

T J Hennegan

P Lloyd

-

 

Yn erbyn (3 chynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

L R Jones

F D O’Brien

B J Rowlands

 

Ymwrthod (2 gynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

A J O’Connor

M S Tribe

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

160.

Hysbysiad o Gynnig - Bil Mewnfudo Anghyfreithlon. pdf eicon PDF 205 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S Pritchard a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae'r cyngor hwn wedi'i frawychu gan fil mewnfudo anghyfreithlon llywodraeth y DU sy'n cynnig cadw ac yna symud unrhyw un sy'n cyrraedd y DU yn ddiweddarach ar gwch bach sy'n golygu na fydd y Swyddfa Gartref yn ystyried unrhyw un o'u ceisiadau am loches, p'un a ydynt wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth am fod yn lleiafrif.

 

Bydd y bobl hyn sy’n ceisio noddfa wedyn yn cael eu hallgludo yn ôl i’r wlad y maent wedi ffoi ohoni neu drydedd wlad ‘ddiogel’.Gallai'r drydedd wlad hon fod yn Rwanda neu'n wlad arall y mae Llywodraeth y DU yn ei hystyried yn ddiogel ond sydd â hanes amheus o ran hawliau dynol.

 

Bydd y ddeddfwriaeth wael ac annynol hon yn cosbi'r bobl fwyaf bregus o bob cwr o'r byd. Mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch cyfreithlondeb y Bil ac a yw’n cydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) ac yn gyson â Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi datgan yn ysgrifenedig os byddwch yn dod i’r DU yn anghyfreithlon “Ni allwch elwa o’n hamddiffyniadau caethwasiaeth fodern”.

 

Mae’r cyngor hwn hefyd yn nodi ac yn condemnio’r iaith beryglus ac annynol a ddefnyddiwyd i gefnogi’r Bil hwn. Mae'r rhethreg hon yn meithrin diwylliant o gam-drin, hiliaeth a hyd yn oed trais yn erbyn ffoaduriaid a lleiafrifoedd ac yn rhoi llwyfan iddo.

 

Fel Dinas Noddfa, mae'r cyngor hwn a phobl Abertawe wedi croesawu a derbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae hyn wedi gwneud y ddinas yn ddinas fwy diddorol, amrywiol a goddefgar.

 

Mae'r cyngor hwn yn condemnio camau Llywodraeth y DU wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon ac yn galw ar y prif weinidog a'i weinidogion i dynnu'r cynigion dybryd hyn yn ôl.  

 

Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y prif weinidog yn y telerau cryfaf posib i amlinellu ein pryderon.

 

Byddem hefyd yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ddinas Noddfa Abertawe i ailddatgan cefnogaeth y cyngor i'r gwaith y maent yn ei wneud."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y pleidleisio fel a ganlyn:

 

O blaid (48 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

V A Holland

M W Locke

S Bennett

C A Holley

N L Matthews

P N Bentu

D H Hopkins

P M Matthews

P M Black

Y V Jardine

P N May

J P Curtice

D H Jenkins

J D McGettrick

A Davis

J W Jones

C L Philpott

P Downing

M H Jones

J E Pritchard

C R Doyle

M Jones

S Pritchard

M Durke

S A Joy

A Pugh

C M J Evans

S E Keeton

S J Rice

V M Evans

E J King

R V Smith

R A Fogarty

H Lawson

A H Stevens

N Furlong

A S Lewis

R C Stewart

L S Gibbard

M B Lewis

L V Walton

F M Gordon

W G Lewis

T M White

H J Gwilliam

P Lloyd

R A Williams

 

Yn erbyn (5 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

L R Jones

A J O’Connor

M S Tribe

F D O’Brien

B J Rowlands

-

 

Ymwrthod (0 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.