Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Down To Earth, Little Bryngwyn, Cefn Bryn, SA3 1ED. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir

Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 244 KB

Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

16.

Materion yn codi o'r cofnodion.

Cofnodion:

·         Cofnod Rhif 7 - Cyflwyniadau

 

Croesawodd y Cynghorydd M C Child yr arwyddion 'arafwch' a osodwyd mewn lleoliadau amrywiol ar y tir comin fel rhan o'r Ymgyrch Diogelwch ar y Tir Comin.

 

17.

Adroddiad ar Gynhadledd Tirweddau am Oes. pdf eicon PDF 391 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Gynhadledd Cymdeithas Genedlaethol AoHNE 2019. Esboniwyd y cynhaliwyd cynhadledd eleni, a oedd yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad yn 70 oed a baratôdd y ffordd ar gyfer tirweddau dynodedig, ym Mhrifysgol Essex, Colchester. Y thema oedd "Tirweddau Eithriadol, Harddwch Eithriadol" ac ymysg y themâu a archwiliwyd yr oedd rôl tirweddau wrth liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, pwysigrwydd harddwch yn ystod cyfnodau o newid ac effaith natur ar iechyd a lles.

 

Ychwanegwyd gan fod yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yn mynd rhagddo yn Lloegr, mesurau'r Amgylchedd ac Amaethyddiaeth yn ddisgwyliedig yn fuan, Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei phapur polisi Gwerthfawr a Chydnerth a Chynllun Amgylchedd 25 Mlynedd Llywodraeth y DU, ei bod hi'n bwysicach nag erioed o'r blaen i arddangos gwerth tirweddau dynodedig heddiw.

 

Cyfeiriodd at Adolygiad Glover o'r AoHNE/Parciau Cenedlaethol yn Lloegr a darparwyd y casgliadau dros dro.

 

Cyfeiriodd y Grŵp Llywio at y sylw diweddar yn y wasg at yr Adolygiad a gyd-darodd ag Wythnos Tirweddau am Oes. Roedd y grŵp hefyd wedi cydnabod y tebygrwydd rhwng Lloegr a Chymru, gan dynnu sylw at y ffaith bod cyrraedd targed o sero o ran allyriadau carbon erbyn 2050 yn rhy bell yn y dyfodol. Trafodwyd diffyg adnoddau, mynediad grwpiau dan anfantais at gefn gwlad a materion argyfwng yn yr hinsawdd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

18.

Cyflwyniad - Datganiad dros Natur AoHNE. pdf eicon PDF 489 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad i'r Grŵp Llywio ar Ddatganiad dros Natur AoHNE. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Cyd-destun - Datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd, Adolygiad Glover yn Lloegr ac Adolygiad Marsden yng Nghymru (2015);

·         Amserlen - Ymateb i adroddiad Glover, Cynhadledd Cadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol AoHNE i gymeradwyo'r datganiad a'r datganiad terfynol ym mis Rhagfyr 2019;

·         Cyfleoedd i Gymru ac AoHNE Gŵyr;

·         Cynllun 10 pwynt Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: -

 

·         Mae'r Cynllun Adfer Natur yn allweddol;

·         Yr effaith ar Gymru cyhyd ag y bydd yn derbyn cefnogaeth;

·         Adrodd am yr hyn mae'r awdurdod yn ei wneud a'r cysylltiad bioamrywiaeth â chenedlaethau'r dyfodol;

·         Gwrthdroi colli fflora a ffawna;

·         Y prif bwyslais yw'r datganiad;

·         Y cysylltiad â'r gwaith blaenorol a wnaed gan Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr;

·         Y gwrthddywediad o ran yr awydd i gael mwy o bobl i ymweld â chefn gwlad a'r angen i ddiogelu'r amgylchedd;

·         Y ffaith bod angen dychymyg i roi mynediad i bobl gan ddiogelu'r amgylchedd ar yr un pryd;

·         Yr angen am gyfathrebu ehangach;

·         Cadarnhau'n union pa gyflwr naturiol o'r gorffennol a nodwyd fel y nod oherwydd bod y dirwedd wedi newid yn sylweddol dros nifer o flynyddoedd;

·         Cyflawni nodau'r AoHNE a diffinio'r ffin naturiol;

·         Deall effaith rheolaeth ar gefn gwlad;

·         Sefydlu fframwaith â thystiolaeth.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad.

19.

Wythnos Tirweddau am Oes 21-29 Medi 2019. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, ddiweddariad llafar i'r Grŵp Llywio ynghylch Wythnos Tirweddau am Oes 21-29 Medi 2019. Soniodd fod yr wythnos yn tynnu sylw at y canlynol: -

 

·         Pen-blwydd y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad yn 70 oed;

·         Casgliad Adolygiad Glover;

·         Defnyddio brandio cyffredin i gynyddu ymwybyddiaeth trwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a thraddodiadol;

·         Facebook - postio ddwywaith y dydd gan gynnwys ein hoff adolygiadau neu ddarnau o destun gan unigolion am eu hoff bethau am benrhyn Gŵyr;

·         Twitter - brandio cyffredin.

 

Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: -

 

·         Tynnodd sylw at ddiffyg adnoddau yn y Tîm AoHNE er mwyn gallu ymgymryd â'r gwaith:

·         Roedd yr wythnos yn ddigwyddiad cenedlaethol a drefnwyd yn genedlaethol;

·         Natur yr ymagwedd sy'n canolbwyntio ar Loegr yn Adolygiad Glover;

·         Roedd diffyg ymwybyddiaeth, diffyg cyfathrebu a diffyg cyfranogiad ysgolion i hyrwyddo'r wythnos yn amlwg.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad.

20.

Cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll. pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar y diweddaraf am y Cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll.

 

Amlinellwyd bod y pwyllgor wedi ystyried y cais i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) yn ystod eu cyfarfod diwethaf ar ddiwedd mis Gorffennaf. Yn gyffredinol, roedd yr adborth o'r cyfarfod hwn yn gadarnhaol iawn, ond maent wedi gofyn am ragor o wybodaeth/dystiolaeth ynghylch yr enghreifftiau o brosiectau lle gosodwyd dulliau rheoli goleuadau ar waith, ein cynigion ar gyfer monitro'r awyr dywyll ar ôl y dyfarniad ac eglurhad ynghylch yr amserlen a'r cynnwys technegol ar gyfer newid Arweiniad Goleuo diwygiedig AoHNE Gŵyr yn Ganllawiau Cynllunio Atodol i'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Ychwanegwyd bod Cyngor Abertawe ac Awyr Dywyll Cymru wedi bod yn gweithio er mwyn mynd i'r afael â'r pwyntiau uchod ac roedd yr awdurdod yn disgwyl i'r IDA gymeradwyo'r cais am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll yn ystod cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 30 Medi 2019.

 

Rhoddodd y Grŵp Llywio esiamplau o oleuadau gwell ar benrhyn Gŵyr a'r mater o landlordiaid absennol.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

21.

Crynodeb Ariannol. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad cyllidebol cryno o Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC).

 

Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb gwerth £55,000 i'r CDC ar gyfer 2019/20, gyda chytundeb ar lafar i gael yr un peth ar gyfer 2020/21.

 

Roedd y rhan helaeth o'r gronfa bellach wedi ei neilltuo ar gyfer 2019/20 a 2020/21.

 

·         2019/20

 

Cyfanswm yr arian sydd ar gael

£ 55,000.00

Cronfeydd sydd wedi eu neilltuo

£ 47,000

Cronfeydd heb eu neilltuo

£ 8,000

 

Ar gyfer y flwyddyn bresennol, cymeradwywyd 10 prosiect gydag arian y CDC ar gyfer 2019/20, a rhagwelwyd cais ychwanegol a fyddai'n neilltuo cyllideb y CDC yn llawn. Cafwyd dau fynegiant o ddiddordeb pellach, nad oedd cyllid ar gael ar eu cyfer ar hyn o bryd. Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli DASA sef £5,500 (10%).

 

·         2020/21

 

Neilltuwyd £36,030, rhagwelwyd 2 gais sy'n werth £19,00 a fyddai'n neilltuo'r gronfa yn llawn.

 

·         2021/22

 

£13,500 wedi'i neilltuo, a rhagwelir 1 cais sy'n werth £10,000.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

22.

Adroddiad Blynyddol. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog AoHNE Gŵyr Adroddiad Blynyddol Cronfa Datblygu Cynaliadwy AoHNE Gŵyr, 1 Ebrill 2018 - 31 Mawrth 2019 'er gwybodaeth'.

23.

Penodi Panel Apeliadau CDC.

Cofnodion:

Adroddodd Swyddog AoHNE Gŵyr fod angen cadarnhau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF).

 

Penderfynwyd penodi Panel Apeliadau'r CDC fel a ganlyn: -

 

S Heard (Cadeirydd), B Parry, H Osborn, P Thornton, S Hill, G Howe, y Cynghorydd P R Hood-Williams a P Tucker.

24.

Trafodaeth - Parcio ar Gefn Bryn.

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaethau yn ystod y Cyfarfod Blynyddol, cynigiwyd sefydlu gweithgor i drafod y mater ymhellach.

 

Trafododd y Grŵp y problemau ar Gefn Bryn gan gynnwys erydiad, marwolaethau anifeiliaid, traffig sy'n gyrru'n rhy gyflym, effaith diffyg pori ar y tir comin ac opsiynau ataliaeth.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Sefydlu gweithgor;

2)    Y bydd yr aelodaeth yn cynnwys S Heard (Cadeirydd), S Hill, P Tucker, y Cynghorydd L James, y Cynghorydd P R Hood-Williams, J Chambers a P Lanfear;

3)    Y bydd Tîm AoHNE Gŵyr yn cefnogi'r gweithgor;

4)    Y bydd y gweithgor yn cwrdd cyn gynted â phosib.

25.

Diweddariad - Adolygiad o Gynllun Rheoli AoHNE Gwyr. pdf eicon PDF 480 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad am y diweddaraf ynghylch Adolygiad o Gynllun Rheoli AoHNE Gŵyr.

 

Dywedodd y cafodd y cynllun presennol ei fabwysiadu fel polisi'r cyngor ym mis Mawrth 2017. Adolygwyd y Cynllun Gweithredu yn ystod cyfarfod diwethaf y Grŵp Llywio (Mawrth 2019) ac mae bellach yn cynnwys y cyfnod hyd at 2022.

 

Mae angen i'r awdurdod adolygu'r Cynllun Rheoli bob pum mlynedd ac mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl statudol yn y broses honno. Darparwyd camau'r adolygiad ac er mwyn cydymffurfio â'r amserlen honno, dylai adolygiad y cynllun ddechrau yn y flwyddyn bresennol. Canolbwyntiodd yr adolygiad diwethaf ar ddiweddaru tystiolaeth, amcanion a chamau gweithredu'r cynllun.

 

Ychwanegwyd y gwnaed newidiadau a diweddariadau sylweddol i gyd-destun y polisi yr oedd angen i'r Cynllun AoHNE newydd eu hystyried ac ymateb iddynt, gan gynnwys:

·         Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a sut gall y cynllun gyfrannu at Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn yr AoHNE

·         Datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd gan Lywodraethau'r DU a Chymru a Chyngor Abertawe.

Argymhellwyd y dylai Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE ffurfio is-grŵp gyda Thîm AoHNE Gŵyr i ddechrau ar gamau cyntaf y broses adolygu yn ffurfiol. Bydd yr is-grŵp yn adrodd yn ôl i'r Grŵp Llywio maes o law.

Penderfynwyd: -

 

1)    Sefydlu'r is-grŵp fel yr amlinellir uchod;

2)    Y bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolydd o Gymdeithas Gŵyr, cynrychiolydd o CNC, P Thornton ac unrhyw 2 barti arall â diddordeb.