Lleoliad: Reynoldston Village Hall - Church Meadow, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyflwyniadau. Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i Neuadd Bentref Reynoldston a dechrau'r
cyfarfod. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol
â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd
derbyn
cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Materion yn codi o'r cofnodion. Cofnodion: Dim. |
|
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) PDF 72 KB Cofnodion: Adroddwyd am y Cylch Gorchwyl 'er gwybodaeth'. |
|
Cyflwyniad - Gwaith a Rolau Partneriaeth AoHNE Gwyr a Thîm AoHNE Gwyr. Cofnodion: Rhoddodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, gyflwyniad ar waith Partneriaeth AoHNE Gŵyr. Amlinellodd ddynodiad AoHNE Gŵyr, rôl Partneriaeth AoHNE Gŵyr a gwaith Tîm AoHNE yn Ninas a Sir Abertawe. |
|
Cyflwyniadau gan y canlynol: - ·
Cyfoeth Naturiol Cymru; ·
Gwerinwyr Gŵyr; ·
Cymdeithas Gŵyr; · Tîm Cynllunio Strategol, Cyngor Abertawe. Cofnodion: ·
Gwerinwyr
Gŵyr Rhoddodd Peter Lanfear o Werinwyr Gŵyr gyflwyniad ar waith Gwerinwyr
Gŵyr. Tynnodd sylw at y traffig sy'n gyrru'n rhy gyflym ar y tir comin,
colli da byw o ganlyniad i ddamweiniau traffig a cholli cynefin ar y tir comin
o ganlyniad i'r lleihad sylweddol yn nifer y da byw sy'n pori ar y tir comin. ·
Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) Rhoddodd
Hamish Osborn o CNC gyflwyniad
ar rôl
a gwaith CNC. Amlygodd rôl y sefydliad o fewn AoHNE Gŵyr, gan gynnwys enghreifftiau o waith ar Benrhyn Gŵyr; gwaith CNC o ran rheoli coedwigaeth ac ansawdd dŵr;
safleoedd dynodedig; gwaith rheoli tirwedd a warchodir; prosiectau llygod y dŵr a llyswennod; a rownd arian grant nesaf CNC yn hydref 2019. ·
Cymdeithas
Gŵyr Rhoddodd Guto Ap Gwent,
cadeirydd Cymdeithas Gŵyr gyflwyniad ar waith y gymdeithas. Siaradodd am
hanes y gymdeithas a'r rôl arwyddocaol sydd gan y gymdeithas ar Benrhyn
Gŵyr, gan gynnwys ei amcanion. Cyfeiriodd at y gwaith cynllunio a wnaethpwyd
gan y gymdeithas, ei rôl o ran twristiaeth a'r grantiau a'r cymorth ariannol a
roddwyd gan y gymdeithas yn ystod y flwyddyn flaenorol. ·
Cyngor
Abertawe, Y Tîm Cynllunio Strategol Rhoddodd Tom Evans, Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol, gyflwyniad ar sut mae'r Cynllun Datblygu Lleol, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe, wedi effeithio ar AoHNE Gŵyr a'i chymunedau. |
|
Adolygiad blynyddol o Gynllun Gweithredu AoHNE Gwyr. Cofnodion: Rhoddodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, gyflwyniad a roddodd adolygiad blynyddol o Gynllun Gweithredu AoHNE Gŵyr. Dywedodd fod disgwyl i'r Cynllun ddod i ben yn 2021-22, ac mae'n amlinellu'r fframwaith ar gyfer y Cynllun Gweithredu. Rhoddodd y diweddaraf ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol, Partneriaeth Tirwedd Gŵyr, cais Awyr Dywyll Gŵyr, prosiect wal Mewslade a Hwb Gwrychoedd Gŵyr ac amlinellodd y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-20. |
|
Ethol deg aelod ar gyfer Grwp Llywio AoHNE Gwyr o'r enwebiadau a dderbyniwyd: Cofnodion: Esboniodd y
Cadeirydd fod 12 o enwebiadau wedi'u derbyn am 10 o swyddi gwag fel aelodau o
Grŵp Llywio'r Bartneriaeth. Felly,
roedd angen etholiad. Dosbarthwyd papurau
pleidleisio i bawb a oedd yn bresennol.
Derbyniwyd 42 o bapurau pleidleisio. Penderfynwyd ethol y canlynol i Grŵp Llywio
Partneriaeth AoHNE Gŵyr am gyfnod o ddwy flynedd, yn unol â'r cylch
gorchwyl: - Roger Button James Chambers John France Steve Heard Sue Hill Gordon Howe Philip Jenkins Barbara Parry Paul Thornton Paul Tucker Hoffai'r aelodau
etholedig ymuno â'r canlynol ar y Grŵp Llywio: - Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd) Y Cynghorydd Jan Curtice Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams Y Cynghorydd Lynda James Y Cynghorydd Andrew Stevens Hamish Osborn - Cyfoeth Naturiol Cymru |
|
Ethol Is-Gadeirydd y Grwp Llywio ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019/2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Stephen Heard fel Is-gadeirydd y Grŵp Llywio ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20. |
|
Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (sy'n cynnwys Cadeirydd y Grwp Llywio, 3 Chynghorydd a 4 aelod arall). Cofnodion: Penderfynwyd penodi'r canlynol i Banel Grantiau'r
Gronfa Datblygu Cynaliadwy: - Y Cynghorydd Paul
Lloyd (Cadeirydd) Y Cynghorydd Mark
Child Y Cynghorydd Lynda
James Y Cynghorydd
Andrew Stevens David Cole Keith Marsh James Chambers John France |
|
Panel Apeliadau Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (sy'n cynnwys Is-Gadeirydd y Grwp Llywio, 1 Cynghorydd a 6 aelod arall nad ydynt eisoes yn aelodau o Banel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Cofnodion: Penderfynwyd: - 1)
ethol
y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: Stephen Heard (Cadeirydd) Barbara Parry 2) cadarnhau gweddill yr aelodau yng nghyfarfod trefnedig nesaf y Grŵp Llywio. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 20 munud. Cofnodion: Gofynnodd Rob Vine,
Neuadd Bentref Reynoldston, gwestiwn ynghylch y problemau parcio parhaus a
gwersylla/parcio dros nos ar ben Cefn Bryn. Trafodwyd y mater
yn ddwys yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys effaith y parcio/gwersylla dros nos a
pharcio cyffredinol ar y dirwedd, pentref Reynoldston a'r opsiynau posib sydd
ar gael. Ychwanegwyd mai gweithio mewn partneriaeth oedd yr opsiwn gorau er
mwyn lliniaru problemau gan fod y tir dan berchnogaeth breifat. Nodwyd bod yr ardal
dan reolaeth Cyngor Cymuned Llanrhidian Isaf.
Er hynny, byddai llythyr ar y cyd gan Gynghorau Cymunedol Llanrhidian
Isaf a Reynoldston yn amlygu'r materion ymhellach. Hefyd, cafodd y
bobl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod eu hannog i adrodd am unrhyw faterion
sy'n peri pryder i Heddlu De Cymru ar eu rhif 101. Penderfynwyd trafod y pwnc yn ystod cyfarfod trefnedig
nesaf y Grŵp Llywio. |