Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion
Cyfarfod y Grŵp Llywio a Gynhaliwydar 5 Gorffennaf 2021 fel
cofnod cywir. |
|||||||||
Crynodeb Ariannol. (Er Gwybodaeth) (Mike Scott) PDF 105 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike Scott,
Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlygwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai cyllideb y CDC ar gyfer 2021/22 fyddai
£100,000. Ychwanegwyd bod 15 o brosiectau wedi'u cymeradwyo, gyda £100,000
wedi'i neilltuo, gan ymrwymo'r arian yn llawn ar gyfer 2020/21 fel yr
amlinellir isod. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef
£7,500.55.
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Rhoddodd Swyddog AoHNE
Gŵyr yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Llywio ynghylch diwygiadau
drafft i'r broses o benodi i Banel Grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am newidiadau i'r ffordd y
penodwyd paneli grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, a'i nod oedd sicrhau bod
y paneli'n cynnwys demograffeg amrywiol o aelodau, gyda chynrychiolaeth o
Bartneriaeth AoHNE. Darparwyd y Cylch
Gorchwyl Gweithdrefnol/Nodiadau Canllaw Arfaethedig yn Atodiad A. Cynigiwyd y dylid diwygio'r broses bresennol i benodi aelodau Panel Grant y
CDC a Phanel Apeliadau'r CDC. Ar hyn o
bryd, enwebwyd 4 aelod o bob panel gan aelodau'r Grŵp Llywio bob dwy
flynedd, am gyfnod o ddwy flynedd. Er mwyn bodloni canllawiau Llywodraeth
Cymru, cynigiwyd bod y grŵp llywio’n penodi dau aelod o bob panel bob
blwyddyn, am gyfnod o ddwy flynedd. Byddai diwygio'r weithdrefn yn galluogi proses benodi dreigl, gan gadw'r
sgiliau a adeiladwyd gan aelodaeth y panel, wrth hefyd gyflwyno aelodau newydd
o'r panel. Byddai cyflwyniadau blynyddol
i waith panel grantiau'r CDC yn cael eu darparu, fel rhan o'r rhaglen
sefydledig o gyfarfodydd. Dywedodd y Cadeirydd fod y diwygiad yn gynnig synhwyrol. Penderfynwyd cymeradwyo'r diwygiad i'r weithdrefn a'i
drosglwyddo i gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y cyngor. |
|||||||||
Cynllun Grant Tirwedd a Bioamrywiaeth. (Llafar) (Mike Scott) Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Rhoddodd Swyddog
AoHNE Gŵyr adroddiad ar lafar ar y Cynllun Grant Tirwedd a Bioamrywiaeth. Ychwanegodd y
byddai'n rhan o'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a byddai'n cael ei anelu at
grwpiau cymunedol ar gyfer cynlluniau fel codi waliau cerrig sych, plygu
perthi, coedlannu, ffensio, creu perllan, rheoli
llifogydd naturiol a chreu dolydd blodau gwyllt. Byddai cynlluniau'n cael eu
cyfyngu i gyllid o 50% hyd at £3,000. Byddai nodiadau a'r ffurflen gais arfaethedig
yn cael eu dosbarthu cyn y cyfarfod nesaf. Trafododd y
Grŵp Llywio gynnwys nodweddion pensaernïol bach/adeiladau bach yn y
cynllun a chlustnodi cyllideb y cynllun. Penderfynwyd cymeradwyo'r cynllun a bydd swyddogion yn bwrw ymlaen â'i weinyddiaeth. |
|||||||||
Cyflwyniad - Cymunedau a Swyddog Prosiectau Natur AoHNE Gwyr. (Ursula Jones) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Ursula Jones, Swyddog Prosiect Cymunedau a Natur,
gyflwyniad byr i'r Grŵp Llywio ar ei rôl bresennol o fewn Tîm AoHNE
Gŵyr. Rhoddodd fanylion
am y prosiectau yr oedd wedi gweithio arnynt ers dechrau'r rôl ym mis
Gorffennaf 2021, gan gynnwys rhaglen parhad Canclwm Japan yn
Parkmill/Llanilltud, gwaith gwella llwybrau troed, pori ar Dir Comin Fairwood a
datblygu cynllun rheoli ar gyfer Dyffryn Clun. Diolchodd y Cadeirydd iddi am ei chyflwyniad a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl. |
|||||||||
Pwysau Twristiaeth ar AoHNE Gwyr 2021. (Gordon Howe, Cymdeithas Gwyr) PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Gordon
Howe, Cymdeithas Gŵyr, adroddiad ar bwysau twristiaeth AoHNE Gŵyr yn
2021 a dynnodd sylw at ddau fater gwahanol ond cysylltiedig: Effaith niferoedd
y twristiaid a rheoli ymwelwyr. Cyfeiriodd yr
adroddiad at y pwysau sy'n cael eu rhoi ar Gyngor Abertawe a'r Senedd i lacio'r
rheolau a'r rheoliadau presennol sy'n ymwneud â gwersylla h.y. pebyll, pebyll crwn
a gwersylla moethus ar Benrhyn Gŵyr.
Ymdriniwyd â hyn yn lleol gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac fe'i
diffiniwyd yn Adrannau TR6-TR9. Esboniwyd bod hawliau datblygu a ganiateir yn
cael eu hymestyn o 28 niwrnod i 56 diwrnod gan y Llywodraeth oherwydd pandemig COVID-19, er mwyn caniatáu rhagor o dwristiaeth o
fewn y DU. Er bod gwersylla ar Benrhyn Gŵyr wedi'i eithrio o hyn
oherwydd y newidiadau a achoswyd gan Erthygl 4 yn ystod y 1970au, nid oedd wedi
atal caffis symudol a lleoedd parcio ceir ychwanegol. Amlinellwyd y diffyg plismona/gwirio
swyddogol ar wersylla gwyllt/faniau gwersylla, ynghyd
â'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at feysydd nad oeddent wedi'u
gwirio neu leoliadau dros dro. Pwysleisiwyd y pwysau cynyddol ar AoHNE yn
ystod 2020-2021, gyda'r rhan fwyaf o safleoedd gwersylla presennol yn llawn a
gweithgareddau anghyfreithlon yn cael eu hadrodd ond heb weithredu arnynt.
Roedd safleoedd swyddogol llai hefyd wedi derbyn llif o geisiadau ac roedd
tystiolaeth bod safleoedd mwy wedi manteisio ar lawer o'r galw ar draul pleser
cwsmeriaid arferol a phreswylwyr Gŵyr. Cyfeiriwyd at drafodaethau parhaus o fewn y
cyngor, gan dderbyn y gallai rhai lleoliadau sydd wedi'u cuddio'n dda fod yn
addas ar gyfer safleoedd bach ychwanegol, heb ganiatáu lleoliadau amhriodol a
niweidiol yn weledol, plismona safleoedd trwyddedig yn gadarn, diffyg arolwg
carafanau ffurfiol gan y cyngor ers 2009 a diffyg arolwg traffig ar Benrhyn
Gŵyr i bennu niferoedd cynyddol o dwristiaeth. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at gynnydd o ran
twristiaeth a'r arian sy'n cael ei wneud o frand Gŵyr, y diffyg
buddsoddiad i ddiogelu'r AoHNE. Mae Gŵyr yn prysur golli ei gymeriad ac
mae mewn perygl o fod yn barc thema gogoneddus. Tynnodd sylw ymhellach at newid demograffig ymwelwyr â
Gŵyr, y cynnydd mewn gwersylla gwyllt, diffyg adnoddau i fynd i'r afael ag
ef, diffyg mannau gwaredu cyhoeddus ar gyfer faniau
gwersylla, yr angen am staff rheng flaen ym Mhenrhyn Gŵyr, sefydliadau'n
ail-fuddsoddi eu hincwm yn ôl i'r AoHNE ac yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol
i addysgu a hysbysu ymwelwyr â Gŵyr. Trafododd y
Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Materion
tebyg sy'n effeithio ar ardaloedd eraill yng Nghymru/y DU; ·
Y
negeseuon gan y Llywodraeth/Llywodraeth Cymru oedd i'r cyhoedd aros yn lleol a
mwynhau'r amgylchedd/cyfleusterau lleol a’i fod yn bwysig deall effaith
gweithgareddau ar ardaloedd; ·
Y
negeseuon cadarnhaol y gellir eu hanfon drwy gyfryngau cymdeithasol; ·
Pwysigrwydd
ymgysylltu cadarnhaol â'r cyhoedd; ·
Rhagor
o arian yn cael ei ddarparu i Barciau Cenedlaethol i'w cynorthwyo i reoli'r
materion a amlygwyd; ·
Yr
elw a wnaed gan unigolion/gwmnïau ym Mhenrhyn Gŵyr/brand Gŵyr; ·
Yr
angen am arolwg carafanau blynyddol ar Benrhyn Gŵyr; ·
Yr angen
am arolwg traffig ar Benrhyn Gŵyr, yn enwedig mewn ardaloedd fel Rhosili
lle'r oedd 1,000 o geir yr awr yn ymweld â'r pentref; ·
Sefydlu
gweithgor i drafod y mater wrth symud ymlaen. Penderfynwyd: -
1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Ffurfio
gweithgor a'i hwyluso gan Arweinydd Tîm AHNE Gŵyr; 3)
Caiff
y Cynghorydd L James, Gordon Howe, Barbara Parry a Hamish Osbor
eu hychwanegu at aelodaeth y gweithgor; 4)
Gofynnir
i gynrychiolwyr Twristiaeth a Phriffyrdd fod yn bresennol yn y gweithgor. |
|||||||||
Partneriaeth Tirweddau Dynodedig Genedlaethol - Seminar yr hydref. (Chris Lindley) PDF 197 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn llywio'r Grŵp
Llywio ar Seminar yr Hydref y Bartneriaeth Tirweddau Dynodedig Genedlaethol. Roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir Tirweddau Cymru ac amlinellwyd bod gan
dirweddau dynodedig rôl hollbwysig wrth weithredu ar argyfyngau hinsawdd a
natur. Ychwanegwyd, yn dilyn y Senedd yn datgan argyfwng natur, fod tirweddau
dynodedig wedi ymrwymo i chwarae eu rhan wrth gyflawni'r datganiad hwn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod aelodau Partneriaeth AoHNE Gŵyr wedi cael
eu gwahodd i ymuno â Tirweddau Cymru ar-lein ar 19 Hydref 2021 i glywed am
waith sy'n digwydd ar draws tirweddau dynodedig yng Nghymru ar y themâu
canlynol: ·
Newid
yn yr hinsawdd a datgarboneiddio; ·
Atebion
sy'n seiliedig ar natur ac adfer natur; ·
Twristiaeth
Gynaliadwy; a ·
Chefnogi
cymunedau i ymateb i COVID-19 a hyrwyddo adferiad gwyrdd. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn manylu ar
Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Gryfhau Gorfodi o ran y Defnydd Peryglus o
Gychod Hamdden a Phersonol Amlinellwyd bod Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i
ddeddfwriaeth a fyddai'n dod â chychod hamdden a phersonol o fewn cwmpas
darpariaethau Deddf Llongau Masnach 1995. Yn ôl y newid hwn: · bydd defnyddwyr cychod personol a chychod hamdden eraill yn destun yr un
rhwymedigaethau diogelwch, lle y bo'n briodol, sy'n bodoli ar gyfer
gweithredwyr llongau. · Bydd gan awdurdodau gorfodi bŵer erlyn ychwanegol i'w ddefnyddio mewn
achosion o gamddefnyddio bwriadol neu esgeulus. Ychwanegwyd mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am ddiogelwch morol; pe
bai'r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith, byddent yn gymwys i
Gymru fel rhan gyfansoddol o'r DU. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - · natur/sŵn eithaf aflonyddgar sgidiau jet a sut maent yn effeithio'n
sylweddol ar nifer fawr o bobl/bywyd gwyllt; · Yr angen i unigolion sy'n defnyddio cychod fod yn barchus o bobl
eraill/bywyd gwyllt; · Cysylltu â gweithgynhyrchwyr i wneud rhai cychod yn llai swnllyd. Anogodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i roi sylwadau ar yr
ymgynghoriad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |