Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd L James yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd L James yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. |
|||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: - Cyhoeddodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams, P Lloyd a M Thomas fuddiannau personol yng Nghofnod Rhif 8 - Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy - Dyfarnu Grant a Phrosiectau Dynodedig. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr
P R Hood-Williams, P Lloyd ac M Thomas gysylltiad personol â Chofnod Rhif 8 -
Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy - Dyfarnu Grant a Phrosiectau a Nodwyd. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion
Cyfarfod y Grŵp Llywio a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021 fel cofnod
cywir. |
|||||||||
Crynodeb Ariannol. (Mike Scott) PDF 106 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlygwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai cyllideb y CDC ar gyfer 2021/22 fyddai
£100,000. Roedd 14 o brosiectau wedi'u
cymeradwyo hyd yn hyn, gydag £88,000 wedi'i neilltuo, ac un cais pellach yn
cael ei ystyried ar hyn o bryd am £12,000. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef
£7,500.55.
Ychwanegwyd bod cais wedi'i gymeradwyo yng nghyfarfod y Panel Grantiau ar 28
Mehefin 2021, a oedd yn neilltuo cyllideb cynllun grant y CDC yn llawn ar gyfer
2021/22. |
|||||||||
Diwygiadau Awgrymedig i'r Cylch Gorchwyl. (Mike Scott) PDF 201 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn amlinellu bod yr awdurdod, ar ôl
cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru, yn ystyried rhai newidiadau i'r Cylch Gorchwyl sy'n
llywodraethu Panel Grantiau'r CDC. Nod
y newidiadau hyn oedd sicrhau bod aelodaeth y panel mewn sefyllfa amrywiol a da
i weithredu'r Cynllun Grant Cynaliadwy yn lleol. Llywodraeth
Cymru - Darparwyd Argymhellion Allweddol ar gyfer Paneli CDC fel a ganlyn: - 1)
Dylai Panel y CDC
gynnwys demograffeg amrywiol o aelodau, gyda chynrychiolaeth o Bartneriaeth yr
AoHNE lle bo angen. 2)
Ni ddylai unrhyw
drefniadau aelodaeth sy'n bodoli eisoes lle, er enghraifft, y mae'n ofynnol
hefyd i aelod o banel CDC eistedd ar banel Partneriaeth AoHNE, gael eu diddymu.
Gall y gofyniad hwn oruwchreoli pwynt 3 sy'n cwmpasu'r tymor hwyaf os oes
angen. 3)
Dylai aelodau'r panel
wasanaethu am o leiaf 2 flynedd a heb fod yn fwy na 3 blynedd, gydag unrhyw
aelodau newydd o'r panel yn cysgodi'r aelod sy'n ymadael am flwyddyn. 4)
Dylai penodiad y panel
fod drwy raglen dreigl a gynhelir gan staff yr AoHNE gyda dim mwy na thraean
o'r panel yn cael ei ddisodli mewn unrhyw flwyddyn. 5)
Gofynnir i aelodau'r
panel ymgymryd â hyfforddiant sylfaenol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am
nodau a dibenion y CDC a'r AoHNE. Ychwanegwyd y byddai Grŵp
Llywio AoHNE Gŵyr yn parhau i fod yn ganolog i lywodraethu Partneriaeth
AoHNE, a oedd yn penodi i Grantiau'r CDC a Phaneli Apeliadau'r CDC. Byddai'r diwygiadau
arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl yn cael eu hadrodd i gyfarfod nesaf trefnedig y
Grŵp Llywio, cyn eu cyflwyno i'w cymeradwyo i'r Gweithgor Cyfansoddiad a'r
cyngor. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Chris Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr, adroddiad a oedd
yn nodi, mewn perthynas â'r trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod y Grŵp
Llywio ym mis Mawrth 2021, fod Tîm AoHNE Gŵyr wedi datblygu cynigion
prosiect gyda phartneriaid i'w hystyried/cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a'r
Bartneriaeth Tirweddau Dynodedig Genedlaethol (NDLP). Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad i Gabinet Cyngor Abertawe ar 17
Mehefin 2021 a amlinellodd fanylion pellach ynghylch y grant a'r prosiectau
arfaethedig. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Cynigion a amlinellwyd ar gyfer Comin Fairwood, yn
enwedig rheoli yn y dyfodol, datblygu prysgwydd o ganlyniad i danbori, annog y
rheini sydd â hawliau pori i'w defnyddio a rhoi stoc ar y Comin; ·
Gweithio mewn partneriaeth â Chominwyr
Gŵyr i wella'r sefyllfa; ·
Y posibilrwydd o gyflwyno systemau heb ffensys/coleri da
byw i reoli symudiadau; ·
Gwella mynediad y cyhoedd i Gomin Fairwood; ·
Datblygu ardal ddiogel ar dir sy'n eiddo i Gyngor
Abertawe ychydig oddi ar Gomin Fairwood i baratoi da byw cyn iddynt gael eu
rhyddhau i'r Comin; ·
Pryder ynghylch a fyddai'r cyllid ar gyfer Castell
Pennard yn cael ei ddefnyddio i wella'r mynediad i'r traeth. Penderfynwyd: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Y bydd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn trafod y mynediad i'r traeth wrth Gastell
Pennard â Chlwb Golff Pennard. |
|||||||||
Cymdeithas Gwyr - Cynnig Prosiect Coetir. (Gordon Howe) PDF 127 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Gordon
Howe, Cymdeithas Gŵyr adroddiad a oedd yn gofyn am farn y Grŵp Llywio
ar gynnig prosiect coetir. Amlinellwyd y byddai Cymdeithas Gŵyr yn dathlu'r
75ain flwyddyn ers ei chyfarfod cyntaf, a'i chyfarfod ffurfio, yn 2023.
Cynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu yn y Sefydliad Brenhinol ym mis Ionawr 1948. Roedd y Gymdeithas yn bwriadu ystyried prosiect mewn
partneriaeth ag eraill a fyddai'n arwain at effaith gadarnhaol a pharhaol ar yr
AoHNE. Roedd un prosiect i'w ystyried yn cynnwys plannu ardal sylweddol o
goetir cymysg naill ai ar dir sydd wedi'i ddynodi neu ei brynu'n benodol at y
diben hwnnw. Byddai cynllun, megis
coetir newydd, yn annog bywyd gwyllt, yn lle coed a gollir drwy glefyd yn yr
AoHNE, gan gysylltu â choetiroedd a gwarchodfeydd eraill yn ogystal â bod yn
addysgol ac yn hygyrch i bawb drwy feicio a chludiant cyhoeddus. Hoffai'r Gymdeithas ddenu, gydag eraill, symiau sylweddol
o arian o ffynonellau'r Llywodraeth a ffynonellau preifat a fyddai'n gwneud hyn
yn brosiect gwirioneddol werth chweil ac yn brosiect Cymreig Cenedlaethol. Roedd y Grŵp Llywio'n gefnogol iawn o'r cynnig a
chyfeiriodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr at fenter Llywodraeth Cymru i
gyflwyno Coedwig Genedlaethol i Gymru na fyddai'n benodol i un ardal o dir. Ychwanegodd Swyddog AoHNE Gŵyr y byddai Tîm
Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe yn hapus i gynorthwyo gyda'r cynnig.
Ychwanegodd Paul Thornton, yr Ymddiriedolaeth Natur, fod ei sefydliad hefyd yn
cefnogi'r cynnig. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
Mae'r Grŵp Llywio yn cefnogi'r cynnig ar
gyfer prosiect coetir; 2)
Bydd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr yn hwyluso
trafodaethau pellach ac yn cael rhagor o wybodaeth am y fenter Coedwig
Genedlaethol Cymru. |
|||||||||
Rheoli Ymylon Ffyrdd. (Chris Lindley/Priffyrdd) PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ynghylch Rheoli Ymylon Ffyrdd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod aelodau'r Grŵp Llywio wedi codi mater
rheoli ymylon priffyrdd o fewn yr AoHNE o'r blaen a'u bod wedi gofyn i hyn gael
ei drafod mewn cyfarfod o'r Grŵp Llywio. Darparodd Atodiad 1 bapur a ystyriwyd gan Bwyllgor Datblygu Polisi'r
Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd Cyngor Abertawe ar 22 Ebrill 2021 yn
ystyried y materion hyn. Cyfeiriodd hefyd at adroddiad a ddarparwyd gan Philip Sterling, Cyngor Sir Dorset ynghylch effaith gadarnhaol cyfundrefnau torri
newidiol. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Effaith gadarnhaol mwy o blanhigion a blodau heb effeithio
ar faterion mynediad/diogelwch ar y briffordd; ·
Cyflwyno unrhyw newid mewn ffordd bwyllog gan gynnwys
torri llai a chael gwared ar y deunyddiau gwastraff er mwyn lleihau
ffrwythlondeb y pridd a lleihau twf yn y dyfodol; ·
Cyfathrebu'n effeithiol â'r cyhoedd wrth gyflwyno newid,
gan egluro'n glir pam yr oedd newid yn cael ei gyflwyno a mynd i'r afael â
newidiadau fesul cymuned; ·
Sut mae'n rhaid torri rhai ymylon oherwydd diogelwch ar y
ffyrdd; ·
Y cynnydd a wnaed gan yr awdurdod, gan gynnwys arian
grant a gafwyd ar gyfer prynu cyfarpar; ·
Sut roedd delio â'r materion fesul cymuned yn cael
effaith gadarnhaol, er enghraifft, peidio â thorri'r gwrychoedd/ymylon i'r
gorllewin o Old Walls, a oedd wedi cynyddu'r amrywiaeth ac wedi arwain at
flodau/planhigion Prydeinig yn ailymddangos; ·
Y gostyngiad cyffredinol mewn plannu blodau gwyllt gan yr
awdurdod, gan gydnabod eu heffaith gadarnhaol ar gymunedau a'r angen hirdymor i
gyflwyno dulliau amgen; ·
Y cwynion a dderbyniwyd gan y cyhoedd ynghylch sut roedd
gwrychoedd/ymylon heb eu torri'n gwthio traffig i ganol ffyrdd/yn effeithio ar
lif traffig; ·
Sut gall atebion naturiol ddarparu tawelu traffig
seicolegol; ·
Cydnabod nad yw un ateb yn addas i bawb a darparu
cydbwysedd. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r trafodaethau. |
|||||||||
Gwersylla Anffurfiol/Parcio Dros Nos. (Mike Scott) PDF 217 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn tynnu sylw at y
problemau a achoswyd gan wersylla anffurfiol a pharcio dros nos. Amlinellwyd bod Gŵyr, fel sawl rhan o'r DU, wedi gweld twf parhaus yn
nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf a oedd wedi'i gynyddu gan
effeithiau cyfyngiadau COVID-19 ar deithio tramor yn ystod 2020 a 2021. Roedd gan lawer o leoedd ar Benrhyn Gŵyr
broblemau gyda dau fath penodol – gwersylla a chartrefi modur neu faniau gwersylla'n parcio dros nos. Ychwanegwyd, yn y rhan fwyaf o achosion, nad presenoldeb y rheini dan sylw
oedd y broblem fel arfer, ond yr ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
(sŵn, difrod amgylcheddol, sbwriel, etc.).
Weithiau roedd yn digwydd oherwydd na allai ymwelwyr ddod o hyd i
safleoedd gwersylla swyddogol, fodd bynnag, yn amlach
na pheidio roedd yn ddewis bwriadol. Dywedwyd ymhellach fod y sefyllfa gyfreithiol yn gymhleth, ac yn
gwahaniaethu rhwng lleoliad a math.
Roedd y derminoleg a ddefnyddiwyd yn aml yn cynnwys: - ·
Gwersylla Gwyllt – yn
draddodiadol ysgafn, gan niferoedd bach a dim ond am ddwy neu dair noson mewn
unrhyw un lle, fel arfer fel rhan o daith gerdded neu feicio. Yn dechnegol, fel
trosedd sifil yn hytrach nag un gyfreithiol, roedd weithiau wedi cael ei oddef
gan dirfeddianwyr, gan ei fod fel arfer yn ddi-sylw
ac nid oedd yn gadael olion. ·
Gwersylla Anffurfiol neu
Ryddid – roedd yn derm a fabwysiadwyd yn eang ar gyfer parcio neu wersylla dros
nos ar ochr y ffordd, naill ai mewn cerbydau neu bebyll. Mae'n gyfreithlon ar y briffordd ond gall fod
yn drosedd sifil ar dir preifat. ·
Gwersylla Brwnt - lle'r
oedd pobl yn cyflawni troseddau eraill fel taflu sbwriel, peri niwed
amgylcheddol (e.e. gyrru ar lystyfiant sensitif neu dorri coed ar gyfer tanau)
neu achosi aflonyddwch neu niwsans i eraill. Gall hyn fod yn drosedd sifil, ond
roedd yn fwy tebygol o fod yn un droseddol. Prif fater pryderon oedd sut yr ymdriniwyd â'r sefyllfaoedd gwahanol hyn
oherwydd mewn perthynas â throseddau sifil, y tirfeddiannwr sy'n gyfrifol. Byddai ychwanegu ymddygiad gwrthgymdeithasol
yn denu cyfranogiad posib yr Heddlu, ond roedd yn aml yn flaenoriaeth isel ac
yn aml yn cymryd llawer iawn o amser i'w ddatrys, gan ei fod fel arfer yn
digwydd ar benwythnosau neu gyda'r nos. Yn flaenorol, roedd Ceidwad yr AoHNE a'r Heddlu lleol yn cynnal patrolau
rheolaidd ar y cyd mewn mannau problemus.
Fodd bynnag, nid oedd gan y naill sefydliad na'r llall yr adnoddau i
ymgymryd â'r gwaith ar hyn o bryd. Yn
ddiweddar, roedd Tîm yr AoHNE, gan weithio gyda phartneriaid, wedi delio â
gwersylla anffurfiol ar Gefn Bryn drwy gyfyngu ar fynediad i gerbydau ac
efallai y bydd rhaid cymryd yr ymagwedd hon mewn mannau eraill. Anaml iawn y
byddai'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r problemau yn syml, yn gyflym
neu'n rhad, ac yn aml byddai'r broblem yn symud i safle arall, gan effeithio ar
ddefnyddwyr eraill. Gallai effaith gronnol gwersylla anffurfiol, yn enwedig gwersylla brwnt,
fod yn enfawr ar gymunedau lleol, a fyddai'n aml yn profi ymddygiad
gwrthgymdeithasol mynych a difrod/taflu sbwriel. Roedd yn aml y tu hwnt i allu
tirfeddianwyr unigol i fynd i'r afael â'r problemau a'r ffordd orau o fynd i'r
afael â hyn oedd drwy ddull partneriaeth.
Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Cyfryngau cymdeithasol yn
amlygu safleoedd ar gyfer faniau gwersylla; ·
Yr anawsterau wrth ddelio
â'r problemau i dirfeddianwyr a diffyg cyfranogiad gan yr Heddlu oni bai fod
tirfeddianwyr dan fygythiad; ·
Y galw enfawr am y
gweithgareddau hyn a'r math o berson a ddenwyd ganddynt, a oedd am osgoi talu
am lety dros nos; ·
Deuir ar draws problemau
tebyg, ond ar raddfa lawer mwy, yn Ucheldiroedd yr Alban; ·
Y problemau a gafwyd yn Southgate megis sbwriel a gwastraff dynol gan nad oes
cyfleusterau toiled ar gael; ·
Y diffyg parch a ddangosir
i gefn gwlad gan y rheini sy'n ymgymryd â gweithgareddau o'r fath/mynd i rêfs bach a diffyg niferoedd yr Heddlu ar gyfer gorfodi; ·
Newidiadau deddfwriaethol
arfaethedig a allai newid y fath weithredoedd yn droseddau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r trafodaethau. |