Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd R
Button, J France, S Heard, G Howe, P Jenkins, B Parry a P Thornton fuddiannau personol
a rhagfarnol yng Nghofnod Rhif 20 – Ethol Aelodau Grŵp Llywio nad ydynt yn
Gynghorwyr a gadawsant y cyfarfod cyn unrhyw drafodaethau ar yr eitem hon. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion
cyfarfod y Grŵp Llywio a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2020 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Cyflwyniad - Gwella Adnoddau Cymunedol ac Ymwelwyr ym Mhorth Eynon. (Rural Office for Architecture Ltd) Cofnodion: Rhoddodd Niall
Maxwell a Will Judge o 'Rural Office for Architecture Ltd' gyflwyniad
manwl a llawn gwybodaeth ynghylch Gwella Adnoddau Cymunedol ac Ymwelwyr ym
Mhorth Eynon. Trafodwyd y materion
canlynol: - ·
Cynllun
o'r ardal dan sylw ym Mhorth Einon; ·
Brîff
Datblygu; ·
Atodlen
Llety; ·
Rhaglen; ·
Symudiad
ardal allweddol; ·
Ailgyfeirio
traffig; Teithio a chludiant; ·
Mannau
cyhoeddus; ·
Cysylltiad
â'r traeth; ·
Rhodfa
- Cymunedol a Masnachol; ·
Chwarae
a Gweithgarwch Tymhorol; ·
Themâu
adborth; ·
Cydbwysedd
y brîff - Cymuned; ·
Trosolwg
– Opsiynau 1 i 5; ·
Cynigion
Neuadd y Pentref; ·
Gweledigaeth. Trafododd y Grŵp Llywio'r canlynol: - ·
Y
broses ymgynghori, gan gynnwys grwpiau/unigolion yr ymgynghorwyd â hwy, yr ymgynghoriad
parhaus â grwpiau/busnesau lleol, yr angen i ymgynghori â'r gymuned ehangach
sy'n gysylltiedig â'r ardal, ymgynghori â'r rheini sydd ar eu gwyliau/ymwelwyr,
effaith COVID-19 ar y gallu i ymgynghori mewn digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn
wyneb a digwyddiadau ymgysylltu arfaethedig; ·
Darpariaeth
drafnidiaeth, yn enwedig mannau parcio, mynediad i'r anabl, mynediad i geffylau
i'r traeth, cynnig i symud parcio o'r ardal gyhoeddus sy'n arwain at y traeth,
posibiliadau parcio a theithio tebyg i'r rheini a ddefnyddir mewn ardaloedd
eraill e.e. Cernyw, materion mynediad cul yn enwedig ar y gornel ger yr eglwys,
problemau traffig enfawr a wynebwyd gan Rhosili yn ystod y blynyddoedd diwethaf
ac osgoi problemau tebyg ym Mhorth Einon; ·
Pryder
ynghylch lefel arfaethedig masnacheiddio'r prosiect, gwella'r cyfleusterau
presennol, opsiynau 1 i 5, sut mae angen refeniw i ariannu agweddau ar y
datblygiad, safon wael y cyfleusterau presennol, y cyfle i gyflwyno
cyfleusterau newydd a fyddai'n gwella'r ardal ac yn ymestyn oriau'r
dydd/ymestyn y tymor twristiaeth ac ymwelwyr. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr Rural Office for Architecture Ltd am eu
cyflwyniad a mynegodd ei fod yn edrych ymlaen at gael ei ddiweddaru ymhellach. |
|||||||||
Diweddariad - Parcio yng Nghefn Bryn. PDF 482 KB Cofnodion: Rhoddodd Chris
Lindley, Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru ynghylch parcio yng
Nghefn Bryn. Amlinellwyd bod cwmpas y gwaith y cytunwyd arno gyda'r tirfeddiannwr, Cominwyr Cefn Bryn, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a
Phriffyrdd Cyngor Abertawe yn cynnwys: ·
Byndio ar ochr y ffordd ·
Ardal lle gall cerbyd
dynnu i mewn; trefniant siâp cilgant o
glogfeini ar y comin, wedi'i ganolbwyntio o amgylch y ddau bwynt lle mae
cerbydau fel arfer wedi gadael/mynd ar y briffordd; bydd hyn yn caniatáu i
gerbydau barcio hyd at 15 llath oddi ar y briffordd; a ·
Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig (TRO) sy'n creu clirffordd ar hyd y ffordd o Gilybion
i Reynoldston. Derbyniodd y cyngor asesiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ffurfiol ar gyfer y gwaith gan CNC ar 29 Ionawr
2021. Dechreuodd y gwaith corfforol ar 3 Chwefror ac fe'i cwblhawyd cyn diwedd
mis Chwefror. Ychwanegwyd bod y broses o
weithredu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith, ac os nad oedd unrhyw
wrthwynebiadau, dylai fod ar waith yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Adroddiad Cynnydd - Rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy. PDF 214 KB Cofnodion: Darparodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad cynnydd ar Dirweddau
Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy. Eglurwyd,
yn ychwanegol at y gwaith yng Nghefn Bryn, fod rhaglen cyllid cyfalaf Tirweddau
Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer AoHNE a Pharciau
Cenedlaethol wedi galluogi'r prosiectau canlynol ym mhenrhyn Gŵyr ar gyfer
2021/22: - ·
Prynu llifiau cadwyn sy'n
cael eu pweru gan fatris ac offer rheoli cefn gwlad eraill i'w defnyddio yn AoHNE
Gŵyr; ·
Mynediad, gwelliannau i
dreftadaeth a dehongliadau ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun; ·
Gwella mynediad yng
Ngwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob gan gynnwys system ddraenio gynaliadwy i
osgoi llifogydd ac erydiad i'r rhwydwaith llwybrau. Ychwanegwyd
bod yr holl brosiectau hyn naill ai wedi'u cwblhau neu fod disgwyl iddynt gael
eu cwblhau yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2021/22. Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi bod rhagor
o arian ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 sydd i ddod ac roedd Tîm
AoHNE Gŵyr yn datblygu cynigion prosiect gyda phartneriaid i'w
hystyried/cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a'r Bartneriaeth Tirweddau Dynodedig
Genedlaethol (NDLP). Bydd y prosiectau
hyn yn cynnwys: ·
Gwelliannau pellach i
fynediad i'r cyhoedd a threftadaeth ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun; ·
Adfer natur a rheoli pori
yng Nghomin Fairwood; ·
Gwelliannau i'r
cyfleuster ymwelwyr a threftadaeth ym Mhort Einon a Horton. Byddai manylion am y prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r
NDLP yn cael eu hadrodd yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd. Trafododd y Grŵp Llywio'r gwaith o adfer natur a
rheoli pori ar brosiect Comin Fairwood a dywedwyd bod ychwanegu arwyddion
diogelwch ar y ffyrdd yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Penderfynwyd nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Diweddariad - Cynllun Rheoli AoHNE Gwyr. PDF 230 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru am Gynllun
Rheoli AoHNE Gŵyr. Adroddwyd bod Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr wedi'i fabwysiadu gan Gyngor
Abertawe ym mis Mawrth 2017 a bod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ei
gwneud yn ofynnol i'r cynllun gael ei adolygu bob pum mlynedd. Er mwyn
goruchwylio'r gwaith o baratoi'r Cynllun Rheoli diwygiedig, sefydlodd Grŵp
Llywio Partneriaeth AoHNE is-grŵp Cynllun Rheoli yn 2019. Cyfarfu'r is-grŵp ddiwethaf ym mis
Ionawr 2020 a sefydlodd broses adolygu ac amserlen. Roedd yr is-grŵp i fod i adrodd yn ôl
i'r prif grŵp yng nghyfarfod mis Mawrth 2020; fodd bynnag, canslwyd y
cyfarfod hwnnw oherwydd COVID-19 a chafodd gwaith ar y cynllun rheoli ei atal
oherwydd pwysau eraill ar aelodau a swyddogion yr is-grŵp. Darparwyd
aelodaeth yr is-grŵp ac ychwanegwyd bod y Tîm AoHNE bellach mewn sefyllfa
i ailddechrau gweithio ar y Cynllun Rheoli diwygiedig. Amlinellodd Tabl 1 yr adroddiad y broses
a'r allbynnau y mae eu hangen i gael Cynllun Rheoli wedi'i fabwysiadu a'i adolygu. Trafododd
y Grŵp Llywio ailddechrau'r gwaith hwn ac adolygu aelodaeth yr
is-grŵp. Penderfynwyd y byddai’r yr is-grŵp yn bwrw ymlaen
ag adolygu'r Cynllun Rheoli a chadw'r aelodaeth gyfredol. |
|||||||||
Adroddiad Monitro Awyr Dywyll. PDF 207 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr ei bod yn ofynnol iddo, fel rhan o
gais AoHNE Gŵyr am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll gyda'r Gymdeithas Awyr
Dywyll Ryngwladol (IDA), fonitro ansawdd yr awyr yn flynyddol o fewn yr AoHNE. Cafodd y
diweddaraf o'r rhain ei gynnal gyda'r hwyr ar Ionawr 2021. Roedd cyfnod yr arolwg yn ddi-leuad
ac roedd yn oer ac yn glir yn bennaf, gyda gwelededd rhagorol, gyda dim ond
cymylau ysgafn yn gynnar yn ystod rhan gyntaf yr arolwg. Defnyddiwyd Mesuryddion Ansawdd yr Awyr (SQMs) i gasglu darlleniadau mewn 42 o leoliadau ledled
Gŵyr. Trawsnewidiwyd darlleniadau
Mesuryddion Ansawdd yr Awyr yn NELM (gweld y sêr ȃ’ch
llygaid eich hun hyd at derfyn maint penodol) er hwylustod. Darparodd Atodiad 1 dabl cryno o
ganlyniadau o 2019-2021 i'w cymharu. Esboniwyd
bod canlyniadau 2021 ar gyfer Gŵyr yn ymddangos yn gymharol gymaradwy â
chanlyniadau blynyddoedd blaenorol.
Roedd lleoliadau sydd bellaf i'r gorllewin, ymhellach o Abertawe ac yn llai
poblog, yn gyson wrth gynhyrchu'r darlleniadau gorau. Roedd darlleniadau mewn
mannau monitro o Fae Bracelet tua'r gorllewin ar hyd
de Gŵyr, i gyd yn fwy gwael nag mewn blynyddoedd blaenorol, ond heb unrhyw
achos amlwg. Byddai monitro yn 2022 yn
ystyried hyn ymhellach. Ychwanegwyd
y byddai'r adroddiadau monitro hyn yn rhan o gais ffurfiol AoHNE Gŵyr i'r
Gymdeithas Awyr Dywyll gyfer Dyfarniad Cymuned Awyr Dywyll, a oedd yn yr
arfaeth wrth i'r adolygiad o Ganllaw Dylunio AoHNE Gŵyr gael ei gwblhau
a'i fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Holodd y
Grŵp Llywio am y cynnydd araf ac esboniwyd bod yn rhaid i'r cyngor ddilyn
y gweithdrefnau cywir, gan gynnwys ymgynghori.
Ychwanegwyd bod gwaith gwella yn mynd rhagddo, yn enwedig mewn perthynas
â goleuadau stryd a bod cynllun gwella ar waith. Penderfynwyd y dylid nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 91 KB Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad cyllidebol cryno o Banel y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy (CDC), er gwybodaeth. Cadarnhawyd mai'r
gyllideb ar gyfer CDC 2020/21 yw £100,000.
Ar hyn o bryd, cymeradwywyd 19 o brosiectau gyda chyllid CDC ar gyfer
2020/21, a oedd wedi ymrwymo'r cyllid llawn a oedd ar gael ar gyfer y flwyddyn
ariannol hon. Roedd cyfanswm o
8 prosiect posib wedi'u tynnu'n ôl eleni, gyda dau brosiect arall yn cael eu hailamserlennu o ganlyniad i effaith COVID-19. Roedd ffigur y cronfeydd sydd wedi'u
neilltuo'n cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000 (10%).
Cynllun Grant
2021/22 Nid oedd y
gyllideb ar gyfer 2021/22 wedi'i chadarnhau, ond roedd Llywodraeth Cymru wedi
nodi ei bod yn debygol o fod yn £100,000.
Roedd 8 prosiect wedi'u cymeradwyo, gyda £46,781 wedi'i neilltuo a
£53,219 heb ei neilltuo ar hyn o bryd. |
|||||||||
Ethol Aelodau'r Grwp Llywio nad ydynt yn Gynghorwyr. PDF 132 KB Cofnodion: Sylwer: -
Gadawodd pob aelod nad oedd yn Gynghorydd/gynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru
y cyfarfod cyn trafodaethau ar yr eitem hon. Darparodd Jeremy Parkhouse, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, adroddiad
a oedd yn cyflwyno'r opsiynau sydd ar gael i'r Grŵp Llywio mewn perthynas
â'r etholiad arfaethedig ar gyfer Aelodau'r Grŵp Llywio nad ydynt yn
Gynghorwyr. Amlinellwyd bod Cyfarfod Blynyddol Partneriaeth AoHNE Gŵyr wedi'i
ganslo ym mis Mehefin 2020 o ganlyniad i bandemig
COVID-19. Roedd cyfarfodydd y Grŵp Llywio wedi parhau i gael eu cynnal
ar-lein a'r cyfarfod ar 15 Mawrth 2021 oedd y pedwerydd cyfarfod a gynhaliwyd
drwy Microsoft Teams.
Ychwanegwyd bod y Cyfarfod Blynyddol ar gyfer 2021-2022 wedi'i drefnu ar
gyfer 5 Gorffennaf 2021 ac roedd i fod i gynnwys ethol Aelodau Grŵp Llywio
nad ydynt yn Gynghorwyr. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 parhaus,
byddai'n anodd penodi drwy gyfarfod o bell ac roedd yn parhau'n ansicr a fyddai
cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailddechrau erbyn y dyddiad hwnnw. Cynigiwyd y dylid ymestyn cyfnod swydd Aelodau'r Grŵp Llywio nad
ydynt yn Gynghorwyr am flwyddyn a gohirio eu hetholiad tan 2022. Byddai hyn hefyd yn gweld yr etholiad yn cael
ei gynnal yn unol â'r Etholiadau Llywodraeth Leol. Cynigiwyd hefyd y dylid ymestyn aelodaeth
Aelodau nad ydynt yn Gynghorwyr i Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a Phanel
Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy am flwyddyn a gohirio eu hetholiad tan
2022. Penderfynwyd ar y canlynol: - 1)
bod cyfnod swydd Aelodau'r Grŵp Llywio nad
ydynt yn Gynghorwyr yn cael ei ymestyn am flwyddyn a dylid gohirio eu hetholiad
tan flwyddyn Ddinesig 2022-23; 2)
ymestyn aelodaeth Aelodau nad ydynt yn Gynghorwyr i
Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a Phanel Apeliadau'r Gronfa Datblygu
Cynaliadwy am flwyddyn a gohirio eu hetholiad tan 2022. |